Y Sgwod vs Y Tir Mawr.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd derfynol o gyfres y Talwrn.
Y Sgwod.

Y Tir Mawr.

Cwpled caeth yn cynnwys enw aderyn
Mae eryr yr Amerig
yn dwyn y byd yn ei big.
Karen Owen
9 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys enw aderyn
Eneidiau y golau gwan
yw llewyrch pob Tylluan.
Huw Erith Williams
8 pwynt
Limrig yn ymwneud ag anlwc
Hen ddamwain ofnadwy ga'dd Gruff,
angeuol - dim but a dim if,
a nawr mae y bachan
mewn bocs wrth ei hunan
ym mynwent Llansteffan yn stiff.
Roy Davies
8 ½ pwynt
Limrig yn ymwneud ag 'anlwc'
Roedd ganddo fo awr i fynd fyny
I'r gogledd i agor ysbyty
Ond yna'n Y Trallwng
Fe'i rwystrwyd gan gnebrwng
A Mansel bob cam ar ol hyny
Gareth Jones
9 pwynt
Englyn yn cynnwys enw afon
Colli brawd
roedd fy mam yn 9 oed pan welodd ei brawd 2½ oed yn llithro o'i gafael ac yn boddi
Gweld ei ddwyn gan y Grwyne - o'i gafael
i gof y blynydde
ac ail-fyw ei gilio fe
oedd ei hing ddydd ei hange.
Dafydd Williams
10 pwynt
Englyn yn cynnwys enw Afon
Doc Fictoria
Mae'r dre a'i bwrlwm ar drai - a llanw
allanol a wela'i;
i'r doc, daeth leinar o dai:
Caer Watkin ym min Menai.
Myrddin ap Dafydd
9 ½ pwynt
Cân (Heb fod dros 20 llinell) - Profiadau Eisteddfodol
(stori wir)
Rhof hanes 'Steddfod Horeb pan aeth y gole ma's
ar hanner cystadleuaeth i'r tenor ac i'r bas:
yn sydyn, fe ddiffoddodd y fflam acetylene
tra'r oedd y tenor swynol yn canu wrth ei hun.
Er ymdrech deg y baswr i ganu'n glir a phlaen,
"And soon shall the darkness flee", ni ddaeth y gole mlaen;
er rhoddi'r pwyslais nerthol, "bright shall its glories be"
dim ond tywyllwch dudew a gafwyd ar bob tu.
Er gofyn am y "border of light in the orient sky"
nid oedd y gole carbide o gwbwl yn nesau;
ac yna, er gobeithio "the night's fast waning on high"
ni ddaeth y wawr o gwbwl, mewn duwch oedd y ddau.
Ond wir, ymhen ychydig, daeth golau fel o'r Ne'
tra'r baswr ar ei orau'n diddori pawb drwy'r lle;
ei lais oedd nawr i'w glywed yn gryf fel tonnau'r môr
yn canu'r llinell olaf: "And night shall be no more".
Ac er i'r gole fethu yn Horeb wedi hyn,
nac wyled neb, oherwydd mae'r lamp yn dal ynghyn;
pob clod fo i'r ffyddloniaid a'r pianydd, Wili Siôr,
a thra deil rhai i ganu, "the night shall be no more".
Roy Davies
9 pwynt
Cân (hen fod dros 20 llinell): Profiadau Eisteddfodol
R'ol 'Y Gath a'r ddwy Lygodan' fe lewygais ar y llwyfan
Bum am flwyddyn draw o'r ysgol yn cael triniaeth seiciatryddol.
"Dydio'm ots", me' Mam a Beti "Mae'n rhaid iti afael ynddi
Rwan hyn! a dysgu 'Cwningod' erbyn steddfod Capel Herod"
Ni dywyllais gapel eto, nac, ychwaith, r'un neuadd bingo
Rwyf ,hyd heddiw yn pi-pi pan ofynir am "I.D."
Bellach mae y ddwy 'di marw ond gadawsant greithiau garw
Rhaid, wrth glywed cân 'Y Gwcw' alw'r heli-copdar acw
Ar ol diolch i Dduw mewn gweddi tyngais lw uwchben eu beddi
Na awn eto fyth ar lwyfan...Sbïwch ble yr ydwi rwan!
Wele'n eistedd draw yn fanna'r tri gwr doeth a'm hudodd yma
Gareth, Myrddin ap a Huw : Mam a Beti nol yn fyw
Gareth Jones
9 ½ pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) - Gwefr
ymweld â safle brwydr Bryn Glas, a gweld tad-cu a'i wyres yno
Mi wn, wrth gamu yno,
hen frwydr sydd ar lethrau'r fro,
fan hyn y clywn lafnau cledd
hil h?n na chwe chan mlynedd;
coed y co' wedi eu cau
yn bedair i'r sgerbydau.
Hen ?r ddaw gyda'i wyres,
dod yn h?n a'i ddweud yn nes,
a'i cherdded diniwed hi
yn aros gyda'i stori;
ac wrth adel, fe welwn
ei pharhad trwy'r cyffro hwn.
Geraint Roberts
9 pwynt
Cywydd( heb fod dros 12 llinell): Gwefr
(wrth gofio llyfr cyntaf y wasg)
Roedd ei deip braidd-gyffwrdd du
ar oleddf mewn sgwâr wely;
bwriwyd toi bach â beiro
a stomp wnaed o'i osod o
yng nghanrif y gwas ifanc;
methwn (boddwn, meddai'r banc)
dorri hwn â llai o strach
tan lafn gilotin lyfnach.
Eto, a phethau'n rheitiach
yn ôl y byd, yn swil bach
byw yw'r ias pan oedd mor braf
rhoi cownter i'r llyfr cyntaf.
Myrddin ap Dafydd
9 pwynt
Pennill Ymson wrth ddilyn cerbyd
Aeth pethau yn grêt rownd Enlli
wrth sgïo rhwng starbwrd a phort,
ond wps, mae'r rhaff wedi torri
a nawr dydi hyn ddim yn sbort;
mae'r cwch yn mynd am Y Bermo
a fi am wal harbwr Y Port.
Geraint Roberts
8 pwynt
Pennill Ymson wrth ddilyn cerbyd.
Rydwyf, diolch iti'r Combein
Wedi smocio paced Woodbine
Erbyn imi gyrraedd Meifod
Bydd fy M.O.T.'di darfod
Gareth Jones
9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Rhyw ddydd Sul rhoddodd Sali
O'm mewn y Rhodd Mam i mi.
1 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Rhyw Sul rhoddodd Sali
Bwdin llwy, a mwy, i mi.
Pennill Mawl/Dychan - S4C
O, Iona drugarog,
dwed, pwy sydd ar fai?
Oes talent yn rhywle
gan rywun ond Dai?
Harri Williams
9 pwynt
Pennill Mawl/ Dychan: S4C
Does dim i'w weld am oria'
Rhwng un a saith y bora
A dyna'r pryd
Mae'r sianel ddrud
Sydd gennym ar ei gora
Huw Erith Williams
9 pwynt
Englyn Cywaith - Cysgod
Ei hun, syllodd i fyny - ar y wal
a'r sgrîn yn lledaenu
yr anochel fu'n celu'n
ei gnawd oer, mewn gwyn a du.
8 ½ pwynt
Englyn Cywaith: Cysgod
(ymwelydd yn codi 'windbreak' ar draeth)
Curodd i draeth Porth Ceiriad - ei bolion,
yn belydr gwrthdrawiad,
a gwenwyn hen ddatganiad
yn ei glec meddiannu gwlad.
9 pwynt
Telyneg - Urddas
Daeth heulwen buddugoliaeth
i awyr tymer gwir
o'i gweld, trwy wydr cweryl,
yn croesi'r mymryn tir;
yn dod trwy'r glaw
i ysgwyd llaw
ac ymddiheuro'n hir.
Daeth cwmwl o euogrwydd
i awyr tymer well
o'i gweld yn crymu'n eiddil
wrth groesi i'r tiroedd pell;
'r ôl dod trwy'r glaw
i ysgwyd llaw
a maddeuant ymhell.
Karen Owen
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 81
Telyneg: Urddas
Yng nglofa'r Maerdy 'mhen draw'r cwm
Mae'r streic a'r ben a'r shifft yn dechrau
Ac mae baneri'r bore llwm
Yng nglofa'r Maerdy 'mhen draw'r cwm
Yn llafar uwch y corn a'r drwm,
Er bod y cau yn eu hwynebau;
Yng nglofa'r Maerdy 'mhen draw'r cwm
Mae'r streic a'r ben a'r shifft yn dechrau.
Mae band yn taro 'Mhwll y Twr
Y siafft yn wag a'r bois yn canu;
Mae'r stori'n dew, mae'r elw'n siwr,
Mae band yn taro 'Mhwll y Twr;
Fel un wythïen daw pob gwr
Yn wyneb-ddu o'r gwaith dan wenu;
Mae band yn taro 'Mhwll y Twr
Y siafft yn wag a'r bois yn canu.
Myrddin ap Dafydd
9 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 81 ½
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys enw aderyn
Rhyngom, ni ddaeth colomen
â'r ffraeo a'r beio i ben.
Mae tylluan wahanol
ar y pren yn Nantlle'n ôl.
Llai o unawd yw'r llinos
a gana'n wag yn y nos.
Gwastraff yw magu ostrij
yn free range, i'w roi mewn ffrij.
Ar yr hewl, mae'r ?yl ar waith
a'r wennol ydyw'r heniaith.
Ceidwad y Cledd
I dir oer Awst, wedi'r drin
a'r aberth, fe ddaw Robin.
Dyfalbarhad fel y brain
gawn i'n hannog ein hunain.
Anelu at orwelion
yw anian yr wylan wen.
o gofio nad yw Karen Owen erioed wedi clywed y gog
Aeth awen rhegen yr ?d
o'n cof, a'r gwcw hefyd.
Fy mhleser yw dechre'r dydd
i nwydus gân ehedydd.
Dan gar Nel, heb ei weled,
i'w dranc aeth Rhode Island Red.
Some deem the wren's tweet sweeter,
but I think ji-binc's the best.
Limrig yn ymwneud ag anlwc
Rwy'n briod â blonden peroxide;
fy ngwaith ydyw gwerthu red oxide;
rwyf beunydd yn dost
gan fod fy egsost
yn chwythu'r fath garbon monoxide.
Os deil pris y petrol i godi,
y bara, y baco a'r wisgi,
a chost y tocynne
i ffair a steddfode,
man a man i mi beidio â chodi.
'Rôl hau hade glân yn y gwanwn,
eu medi yr hydref a wnaethwn,
ond sut aeth yr efre
yn gymysg â'r hade?
Mae'n anodd iawn ateb y cwestiwn.
Rwy'n briod â blonden peroxide;
fy ngwaith ydyw gwerthu red oxide;
rwyf beunydd yn dost
gan fod fy egsost
yn chwythu'r fath garbon monoxide.
Os deil pris y petrol i godi,
y bara, y baco a'r wisgi,
a chost y tocynne
i ffair a steddfode,
man a man i mi beidio â chodi.
'Rôl hau hade glân yn y gwanwn,
eu medi yr hydref a wnaethwn,
ond sut aeth yr efre
yn gymysg â'r hade?
Mae'n anodd iawn ateb y cwestiwn.
Roedd Gweinidog gerllaw yn reit gob,
ac eto, doedd e chwaith ddim yn iob,
aeth mewn i ryw far
yn smocio sigâr,
a daeth ma's wedi colli ei job.
Welodd tarw T? Mawr ddim mo'r weiar
pan neidiodd e'r clawdd ar ôl heffar;
'rôl tro mor ofnadw
doedd dim pwrpas ei gadw,
a nawr mae ar fachyn y bwtsiar.
Pesychodd y wraig 'cw rhyw ddiwrnod
yn galed, a llyncodd ei thafod;
ond tisian wnaeth wedyn
yn hynod o sydyn
a'r tafod ddaeth 'nôl. Dyna bechod.
Meddyliais fod arian yn domen
a thiroedd gan deulu Ceridwen;
ond swm eu holl olud
oedd pum cerdyn credyd
a hanner allotment yn Sgiwen.
Yn Crufts, daeth yr ast yn fuddugol
gan ennill edmygwyr rhyngwladol,
ond ei chariad cynta'
oedd mwngrel drws nesa',
dim ots am y golled ariannol.
Fe gafwyd mawr drafferth rhyw ddiwrnod
pan lyncodd Wil Jôs ddannedd gosod
ei wraig tra'n rhoi cusan;
ond wiw iddo rechan
wrth ddisgwyl eu derbyn o'r gwaelod.
Englyn yn cynnwys enw afon
Llanelli
yn anarferol yn achos tref ddiwydiannol fawr, fe ddatblygodd Llanelli ar lannau nant fechan sy'n dal i lifo dan ganol y dref
Ni welech ond nant fechan, - hi unwaith
oedd ynni tre'r Sosban,
roedd curiad gwlad ar ei glan
a Lliedi'n dd?r llydan.
Cwestiwn
plentyn yn siarad wrth chwarae mewn pwll d?r ar y traeth
Dad, ti'n si?r bod y d?r a'r don - yn mynd
nôl i'r môr bob noson?
hi'r fwyaf o bob afon,
mwy o seis na'r Amazon.
Afon
I amser a'i gymerau - rhua'r d?r
ar ei daith yn donnau;
d?r a fu sydd â'i drofâu'n
afonydd ynof innau.
Cân (Heb fod dros 20 llinell) - Profiadau Eisteddfodol
Bu chwilen y cystadlu ers 1933
pan ddaeth, am lunio limrig, yn gydradd ail o dri,
a phob mis Awst er hynny bu'n cyrchu at y nod
o'r Gadair Genedlaethol, a phob dyledus glod;
un llinell o feirniadaeth a gafodd ef bob tro
gan Parry Bach a T Llew Jones, "wel, diawl, mae yma 'to".
Gwnaeth gywydd digynghanedd un tro i Steddfod Môn,
beth fu canlyniad hynny, hyd hyn ni chlywyd sôn;
cadeiriau gwag a brofodd Caerdydd flynyddau fu
ac mewn hen sêl fe welodd ddwy, sydd bellach yn ei dy;
rhoes gynnig yn Y Gaiman i englyn ar 'Y Paith',
mi sgwennodd hi yn Ffrangeg, ond Sbaeneg oedd yr iaith.
Bu hefyd yn beirniadu ym mhrifwyl Tir-y-dail,
ei frawd a ddaeth yn gyntaf, a Gerallt ddaeth yn ail;
does neb yn gwybod pam yn iawn, pam fo, fel amal un,
gaiff orymdeithio yn ei las bnawn Gwener a dydd Llun;
gwnaeth gais i gael ymuno â hogia y Tir Mawr,
ond siom, yn wir, a gafodd o gael ei droi i lawr.
Chwi drefnwyd Steddfod Bala, rhyw gyngor bach i chi -
os na fydd beirniad gennych, mae rhif ffôn
hwn gen i.
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) - Gwefr
ar ôl gweld darlun Turner, 'The Fighting Temeraire'
Noson o haf ar Dafwys
a gwin y machlud yn gwys
tua'r gorwel, lle gwelir
rhamant aur ar rimyn tir.
O'i chynefin, brenhines
cefnfor maith ar daith drwy des
heb hwyliau, heb awelon
i'w dwyn o bell gyffro'r don.
Trwy'r cyfnos a'i ros, lle rhed
i'w angof dydd a'i dynged,
mae rhith rial yn llithro
o'r cynt i gilfachau'r co'.
Pennill Ymson wrth ddilyn cerbyd
Pam fod rhaid 'ni deithio'n araf
i bob angladd yn y wlad?
Pam na allan nhw gyflymu
i gael cyrraedd T? ein Tad?
Os y nefoedd sy'n rhagori
ar "holl bethau gwael y llawr",
pan nad ânt fel cath i gythraul
er mwyn mynd i'r Gwynfyd Mawr?
O'n i eisiau byw fel sipsi 'r ôl darllen Eifion Wyn,
a dyna pam fy mod i mewn carafan fel hyn;
mi wn yn iawn eich bod chi yn rhegi dan eich gwynt,
yn chwysu a bytheirio am imi fynd yn gynt;
ond ers rhyw ugain milltir, bu'r mul a fi'n ein tro
tu ôl i Mans Llanfyrnach, yn daer i'w basio fo.
Mae rhai yn dweud mai rownd a rownd
y gyrra geriatrics,
ond liciwn i ddim gweld y rhain
yn mentro ar drac Scalectrics.
Un Grand Prix ar ôl y llall,
ar fonet hanner porcyn,
fe rown bob dim i ennill hwn
yng ngwely'r llinell derfyn.
Pennill Mawl/Dychan - S4C
A'r lolfa yn Bafiliwn,
mor llydan ydi'r llun,
caf weld yr ?yl a'i seddau gwag
o'm cadair i fy hun.
Yr un yw'r hen wynebauar y sgrîn;
yr un yw'r tro'n y sgriptiauar y sgrîn;
ac er mor hen wyf innau,
er im gymysgu weithiau,
wy'n diolch am isdeitlauar y sgrîn.
Pwy fydd yma 'mhen can mlynedd?
Dai Llanilar, Hywel G
a rhyw ddau neu dri o'u tebyg
yno i'ch byddaru chi;
mab i hwn a merch i arall,
(dwed eu henwau pwy-di-pwy),
pan fydd Sianel Pedwar Cymru'n
ailddarlledu hen fwyd llwy.
Caf weld o gadair esmwyth
pob diffyg a phob nam,
pwy oedd yn haeddu gwobr
a phwy a gafodd gam;
fy niolch i i'r Sianel
am wythnos yn yr ha'
a sedd sydd yn rhagori
ar bob un ym Mloc A.
Englyn Cywaith - Cysgod
Yn unig, tu ôl i'w llenni - hi a wêl
yr hewl yn eto'n nosi,
y duwch yn distewi
a llafn hyll ei hofnau hi.
Gwelodd ei hawch i'r gwaelod - yn y gwyll
a'r gyllell yn barod,
yr un dwrn dur yna'n dod
heibio i'w hisymwybod.
Telyneg - Urddas
Fo fu'n cadw'r llwybrau'n lân
tra yn ei gwman gyda'i raw,
cyfarchai bawb â gair a gwên
heb ofni maeddu yn y baw.
Ei dyner law anwesai'r llyg,
fo oedd yn nabod blodau'r ffos,
fe glywai'r newid yn y gwynt
a chri'r gylfinir ar y rhos.
Roedd plyg wahanol yn ei gefn
mewn c'farfod gweddi ar nos Sul,
a geiriau gwladwr ar ei fin
wrth gadw'n lân y llwybr cul.
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys enw aderyn
Am mai hi yw'r oriau mân,
daw Lleu i hela'r dylluan.
Na thynner nyth y wennol -
Ni ddaw chwerthin iti'n ôl.
Mannau teg ym mhen y tir
a fynn fod lle i gylfinir.
Mae rhai yn y Gymru rydd
a gred nad cryg yr hedydd.
Wynebau'r wasg: maen nhw'n brin
o air am frân Aneirin.
Yr haf sydd dros flwyddyn gron
i wenoliaid y galon.
Rhywle draw mae'r alaw rydd
ar nodau Y'r Ehedydd.
Bydded sglein ar dy geiniog
liw arian pan gan y gog.
Ni yw'r nos sy'n duo'r nen,
Mab y Saer yw pob seren.
Limrig yn ymwneud ag 'anlwc'
"Dwy Biodan!" medd Alan a phoeri
Gerllaw yr oedd Gerwyn 'Calzaghe'
Aeth Al n'ol i'r t?
Efo dwy lygad ddu
Heb ei ddannedd a'i fraich wedi torri
Mae fampir yn Rhyl, ar fy llw
Sy'n gyn-alcoholic me' nhw
Roedd 'Vlad yr Ymsugnwr'
Yn llwyr ymwrthodwr
Tan frathodd o Steve Nymbyr T?
Fe laddais gath ddu ger Llanarmon
Es wedyn dan bymtheg o 'stolion
Ar b'nhawn Gwener têg
Y trydydd ar ddeg
Ac wedyn fe briodais Rhiannon
Gwenwynnodd ei g?r, Ifan Hafod
A'i wartheg, y c?n a'r dofednod
Ond chafodd hi'm sentan
Oherwydd roedd Ifan
'Di gadael y cyfan i'r cathod
Fe gredodd y Barnwr ei stori hi
Ysgaru Huw Annwyl wnaeth Valerie
Ond drannoeth darllenodd
Y'Sun' Ac fe sobrodd
Huw Annwyl ennillodd y Loteri
O Dduw! S'dim Archdderwydd i'w gâl
Oes beryg ei fod o yn sâl?
Roedd hi'n chwarter i dri
yn Llanarmon D.C.
A Dic yn Llanarmon yn Iâl
Gan fod ei ben-ol bron a darfod
Roedd angen trawsblaniad ar Nimrod
Yr oedd yn hyderus
Am driniaeth lwyddianus
Ond dyma'r twll-din yn ei wrthod
Ar jaen am ei wddw roedd pawan
Fu unwaith yn ran o Gwningan
Pwy'n sydyn ddaeth heibio'n
Gynddeiriog wyllt wirion
Ond Helfa Llangaffo.....Hwyl Alan
Ond yna, be welsai'n y pelltar
Yn llusgo'n arafach nag arfar
O'i flaen i rhyw dwnnel
Rhwng Plwmp a Llansawel
Nid un Lorri Mansel ond pedar
Anffawd
Mi wn fod dy fywyd dan straen
Ond rhaid imi siarad yn blaen:
Ni chei, Rhodri Glyn,
Ddim loetran fan hyn
'Fo stwmpyn a choch ar ei blaen.
(wrth groesawu'r Gweinidog Diwylliant newydd)
Cei ganfod holl gynnwys dy winllan
Ar wyneb dy ddesg yn yr amlan,
Cei ddechrau ddydd Llun
Â'th drefn di dy hun,
A'r wers gyntaf un... dysgu darllan.
Englyn yn cynnwys enw Afon
(Huw Evans, coryglwr olaf afon Taf)
Er mor hyblyg helyg haf, - eiddo ddoe
medd y ddeddf styfnicaf
ac ym machlud tawchlyd Taf
ceir gwely'r corwg olaf.
Y Fenai
Drwyddi, ac am y derwyddon - aeth lleng
noeth ei llafn a'i gwaywffon;
llifai'r Fenai'n goch o Fôn:
nofiai'r Cof yn froc afon.
Agor wna llyfr yr eigion - yn heli
a'i ddilyw hanesion,
storiwr y dwr yw'r don
a dyr yn Aberdaron.
Yno ar lannau'r Llinnon doi hanfod
Hen dynfa'mreuddwydion;
Ond Rhyd Hir i wayw ton
Fy hwyrddydd yw fy werddon.
Cân (hen fod dros 20 llinell): Profiadau Eisteddfodol
Gwagio'r t? a bwydo'r ci,d?r i'r ieir a ffwrdd a ni.
Fyny'r gogledd , lawr i'r de, galw'n Somerfield hâff-wê.
Mynd ar goll a phrynu map, dod ar draws yr wyl drwy hap.
Mynd i'n lle wrth ochor ffrindia' er mwyn smalio bo' ni adra.
Parcio'r cwt a chodi'r adlan, codi tent i guddio'r elsan.
Teimlo'n barod i fynd adra wrth fynd mewn drwy'r giat i'r fangra.
Cael f'ymwared o fy walat gan ryw Sais a'i fyrgyr solat.
Cerdded rownd a rownd am oes, cerdded rownd a rownd ffordd groes.
Gwrthod Western Mail a Barddas tra'n osgoi rhyw ddiawled diflas
Cofio'n sydyn! Nol i'r elsan! Deffro taid i gael ei bilsan.
Yno'n barod mae f'annwyliaid draw o'r gwersyll ffoaduriaid
(Bwyta, molchi eu pen-ola',menthyg pres ac yn eu hola')
Sach i'r adfail, wedyn fferu gwneud r'un peth yn union 'fory
Galw'r plant ar fobeil ffôn, gwthio'r ceir drwy'r mwd i'r lôn
Nol i'r gogledd neu i'r de, galw'n Somerfield hâff-wê.
Cyrraedd adra, gwagio'r ceir, bwydo'r ci a chladdu'r ieir.
Cywydd( heb fod dros 12 llinell): Gwefr
Ennyd oedd ei laniad o
Ac R.S. yn Garuso,
O'i ffoli hir ar un fflach
O'r hynt trwy'r foment grintach.
Rhin'deryn wedi oriau
O aros dyn hyd dristau
I'w weld o, a'r eiliad wen
Yn dal byd rhwng dail bedwen.
Ac angerdd y gerdd ar goedd,
Ail heneiddia'r blynyddoedd,
A chaf wawl o'r fflach a fu,
Suon creu'n llais yn crynu.
Pennill Ymson wrth ddilyn cerbyd.
Nid oes gennyf M.O.T.
Ar fy ol mae dau B.C.
O fy mlaen bydd Huws Q.C.
Diolch i Mansel H.G.V.
Rwy'n dilyn dy gar ers peth amsar
O Lannerchymedd i Lanilar
Mewn andros o boen
Heb din-drowsus na chroen
A fy nhroed wedi bachu'n dy fympar
Carafan a Ffôr Bei Ffôr
Eisteddfodwyr Sê Nô Môr
Gyrru tryc Mansel fu Huw
Mae 'nawr yn yr hers, diolch i Dduw
A'n gyrru trwy Glydach
Yn ddipyn cyflymach
Nag oedd o pan oedd o yn fyw
O weled y llwyth mae'n ei dynnu
Ni fedraf yn wir ond rhyfeddu
A chanu ei glodydd
Yr Asyn..."O'r Arglwydd!
Cau'r ffenast! Mae'r diawl wedi rhechu!"
Ama' rydwyf eich bod chi
Wedi taro Cath neu Gi
Yn dod allan o'ch egsost
Y mae blew ac ogla rhost
Oenig bychan i ble'r eidi
Am filltiroedd di-rifedi
Falle rhywbryd ddoi di'n ol
Mewn cibab neu Sosij Rôl
Bu lladron yn nepo'r hen Fansyl
Yn dwyn pob diferyn o ddisyl
Go drapia'r dihirod
Mae'n gythrael o bechod
Na ddwyno nhw'r loris a'r cwbwl
Pennill Mawl/ Dychan: S4C
S4C (Es-Ffor-Si)
Oes 'na Syniad4Cyfres?
Oes 'na Sêr4Cymru?
Oes 'na Symudiad4Caerdydd?
Oes 'na Symthing4Crymych?
Oes 'na Solution4Canrannau?
Oes 'na Soffa4Comisiynydd?
Oes 'na Saesneg4Cymraeg?
Oes 'na Storm4Casted?
Ei gwylwyr yw 'Tair Chwaer' a'u tad
'Rhwng 04 Wal' yng 'Nghefn Gwlad'
Does dim 'Byd ar bedwar'
Ond 'Hafoc' aflafar
Mae'r sianel mewn 'Tipyn o stad'
Wylwyr triw, rhag ofn na wyddoch
Ail-ddarlledu rydym atoch
Neges fer i'r ddau ohonoch ar yr awr
Mae'r Pen Dyn a'i deulu 'gosa'n
Mynd i Ffrainc am fis o wylia
A bydd rhaid i'r sianel gyfa' gau i lawr
Y llong ddaeth a chyfoeth a bri
I blant a pherthnasau di ri
Sydd yn suddo i lawr
I'n holl wylwyr yn awr
Hoffwn ddiolch yn fawr i chi'ch tri
Er pum mlynedd ar hugain
Y mae 'di rhygnu byw,
A rwan Duw a'n helpo
Y mae hi 'di cael Cyw.
"Taro naw" nid taro deuddeg
"Bandit" iaith a llwyth o saesneg,
hysbysebion, logo lliwgar,
Diawl, does na ddim "Byd ar bedwar".
Nid oes na fawr o ddewis
Echdoe, heddiw na ddoe,
Yr unig raglen welai
Di sioe a sioe a sioe.
Ond wir ma petha'n gwella,
mi ddaw, mae gwell i ddod
a mhen pythefnos bydd na
Steddfod, steddfod, steddfod.
Englyn Cywaith: Cysgod
(Bae Porth Dinllaen)
Daw gallt o flodau gwylltion - yn gesail
a hi'n gesyg gwynion,
braich o dir rhag broch y don
wna'n dawel ofnau duon.
Er ei dyrnu'n ddu mae'n ddall ; - fo a'i fyd
Mae hi'n fudur ddeall
Ac mae hi'n ofni na all
Fin hwyr weld hafan arall.
Codwn pan faglwn yn fach yn ysu
O'm cleisiau'n ddyn lletach;
Ond â rhoi un cam yn strach,
Hawdd ofni'u bod nhw'n ddyfnach.
Telyneg: Urddas
wedi clywed stori am ddigwyddiad tebyg yn un o ysgolion y gogledd)
"Nei di lun fel hwn eto fory?
Holai'r g?r wrth y bychan saith oed,
Wrth sylwi fod yna gryn allu
Yng nghywreinrwydd y dail ar ei goed.
"O na, dim ond paentio am heddiw
Da ni'n gael meddai Miss, achos bod
Na ddyn sy'n ofnadwy o bwysig
Wythnos yma i'r ysgol ma'n dod".
"Yn wir", meddai'r hen Arolygydd,
"Mawr obeithiwn mai heddiw y daw,
Er mwyn iddo fo weld dy dalent,
Ac i minnau gael ysgwyd ei law".
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

