Crannog vs Y Tir Mawr.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyn derfynol o gyfres y Talwrn.
Crannog.

Y Tir Mawr.

Cwpled caeth ar yr odl 'os':
'Rwyf fi yn ofni'r cyfnos,
Ofni'r niwl yn fwy na'r nos.
Idris Reynolds
9 pwynt
Cwpled caeth ar yr odl 'os':
I'r un a ?yr wayw'r nos,
Hira'r wawr, mwya'r aros
Gareth Williams
8 ½ pwynt
Limrig yn ymwneud â gwersylla:
Cododd Urddwr o Gwmrhydyceirw
Ei babell mwn cae llond o deirw;
Gan mae coch oedd ei lliw
Mae e nawr gyda Duw.
Yn gwersylla yng Nglanllynymeirw.
Dewi Pws
9 pwynt
Limrig yn ymwneud â gwersylla:
Roedd rhybudd yn Camping du Rotz
Rhag chwiws, ond medd Deio: 'Diom ots';
Aeth teulu'r mosgito
 pheintiau o'i waed o -
Mae'i din o fel llyfr Join the Dots.
Gareth Jones
9 pwynt
Englyn yn dechrau â'r geiriau: 'Er nad':
Er nad yw'r hen aderyn - yn rhegi
O'r graig, mae'n ei nodyn
Hawl ein hil i'r glannau hyn,
Hawl i'r awel a'r ewyn.
Idris Reynolds
9 pwynt
Englyn yn dechrau â'r geiriau: 'Er nad'
Er nad af i ambell hafod - nad oes
un dim rwy'n ei nabod
yno'n byw; y maen nhw'n bod,
yn law Awst o ddiflastod.
Myrddin ap Dafydd
9 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Anhwylder(au)
Ma'bod yn heipocondriac a llawer o fanteision,
Yn gynta'i gyd - sai'n gw'itho lot a wy'n alergic iawn i Saeson,
Ma' uchder wedyn yn broblem fawr, 'ddar 'r cw'mpo o ysgol rywdro,
( Os gwisgai sane tew hyn yn o'd 'rwy'n dechre diodde pendro.)
Arogl paent - 'na beth arall - mae fel anadl diafol o Annwn,
Ac felly oherwydd y gwendid bach hwn, ma' addurno'r t? mas o'r cwestiwn.
Ma' nghefen i'n dost, ma'r discs wedi mynd, ma' nhw'n h?n na rhai Hogia'r Wyddfa,
Ac ma' meddwl am blygu a phalu'r ardd yn feddyliol lot gormod o laddfa.
Ma' nghlustie'n sensitif iawn i s?n ac am hynny rwy'n hynod edifar,
Allai ddim hyd yn oed wrando ar y wraig, na hefyd ddefnyddio yr hwfyr.
Amhosib yw golchi y llestri a'r car oherwydd 'acute acwaffobia'
Ac am bo fi'n ofni budreddi a germs b'ase glanhau y bath yn llewygfa.
Ma' pilo tato, berwi ?y a symud celfi trymion
Yn dasge mas o 'nghyrraedd i oherwydd y gwynegon.
A dyna i chi fy mywyd i - b'ase rhai 'n fy ngalw'n ddiogyn,
Ond wrth feddwl am faint mwy i chi'n neud na fi, ai fi ne' chi yw y twpsyn.
Dewi Pws
9 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Anwylder(au)
Daliodd Owain Feri Beri a'r Ticiau cyn cael ei enni'n
unig fab i Wil a Meri 'Bron y Waen'
A phan ddeuodd o'r tywllwch, fei anweswyd gan
afiadwch nad oedd neb 'di cl'wed ei enw 'rioed o'r blaen.
Deufis wedyn, Clwy y Penna', rhyw Benstandod a
Rhiwbela, gyda'r Pâs a Sceptisimia yn eu sgil
Roedd pen dim yn enwog sobor ac yn denu heintiau
Llannor,brechoedd Fflint a chlwyon Namor wrth y fil
Nid oedd jyrm yn myned heibio heb, yn gynta', basio
trwyddo ar eu ffordd i geisio heintio llwythau'r byd
Gan fod ynddo le mor hyfryd roedd eu hanner nhw'n
dychwelyd i genhedlu ar ei aelwyd afiach glyd
Roedd Brech Ieir a Brech y Mochyn, brechion coch a
gwyn a melyn, Y Gwahanglwyf a phob Twymyn oedd i'w gael
wrthi'n magu dan ei senna' efo Clwyf y Traed a'r
Genna'.Fe fu bron iawn-iawn i'r rheina'i wneud o'n wael
Galwyd Doctor Huws Caeathro, rhoddodd hwnnw
rywbeth iddo ond er hynny ni ddaeth arno raen na lliw
R'hyn a ddaeth oedd clwyon ffiaidd o fangreoedd
Ewropiaidd : Brech y Ffrancod (neu V.D.) a Jyrman Ffliw.
Cyn bo hir daeth anhwyldera o cyn belled ag
Awstralia, Gogledd Ddwyrain Patagonia a Sê-ôl
O dan bwysa'r fath fewnlifiad, Llyngair Now, mewn
un symudiad a gyflawnodd hunan laddiad drwy'i ben ol.
Am yn hir bu arbennigwyr, milfeddygon a chlerigwyr
yn byseddu claf digysur Meri'r Fron
A bu raid i'r gw?r bonheddig losgi 'Beibl y
Llawfeddyg' ac ail-gychwyn efo comic newydd sbon.
Rhoddwyd arno ryw Elenod ddaeth i ffwrdd 'di llwyr
ymwrthod gan fod blas Dail C?n a Wermod ar ei waed.
Od o beth oedd gweld y tacla 'nol mewn pot yn
tynnu gwneba' tra bo Gangrin wrthi'n gwledda' ar ei draed
Ar ei flwydd yn bedwar ugian fe'i felltithwyd gan yr
Higian ac fe ildiodd Now i'r Felan dan y straen
Buan wedyn daeth Y Parlys, ambell Lîd a phob un
Eitys wrth i'w fywyd hercio'n fregus yn ei flaen
Ddoe fe disiodd gwnidog Ganllwyd i gyfeiriad Now o'r
pwlpud hwnnw newydd gael yr anwyd a'r Disdempar
Fel yr oedd o'n dechrau gwella sugnodd greadur
bach un gell a fe fu farw Now ymhell ar ol ei amsar.
Gareth Jones
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Uchelgais
Yn haenau dyfnaf enaid
Dynolryw mae rhyw hen raid
A'n harwain i ragori,
A'n gwybod anorfod ni'n
Anturio'n nes at ryw nod
Na wyddom ei ryfeddod.
Ac oherwydd mai gorwel
Teyrnas goeth y tir nas gwêl
Yn ddi-saib ar ei ffordd sy'
Yn ei arwain a'i yrru
Heddiw i'w daith, ni ddaw dyn
Fyth a'i yrfa i'w therfyn.
Dic Jones
10 pwynt
Cywydd heb fod dros 12 llinell): Uchelgais
Un Llun, aeth ei ddyddiau'n llwch,
yn dwll i'w hir dywyllwch;
drwy'i galon aeth pibonwy:
'Naw mis, deuddeg mis, dim mwy.'
Ffoniodd rai o'i orffennol
efo rhestr ei fyw ar ôl.
Fe'i clywaf yn ailafael
yn trio gweld, er tro gwael
bywyd, fod i ennyd werth,
yn rhoi i adfyd groen prydferth;
dymuno - heb hawlio hyn -
funudau, cyn trefn wedyn.
Myrddin ap Dafydd
10 pwynt
Pennill Ymson mewn cerbyd:
Mae hyn bob tro'n ddirgelwch
Imi ar heol dar:
Y fi yw'r un tu ôl i'r llyw
Ond hi sy'n gyrru'r car.
Dai Jones
8 ½ pwynt
Pennill Ymson mewn cerbyd:
Fe fuo nhw'n hefru fy mod i yn gyrru
Ond wnes i ddim gwrando yntol.
Mewn coban sachlludw tu mewn i focs derw
Rwyf heddiw'n eu dal nw yn ôl.
Gareth Jones
9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Un glas yw pyjamas Jo,
A gwyn yw jamas Gwenno.
Ateb llinell ar y pryd:
Un glas yw pyjamas Jo,
Sidan - fel glas ei waed o.
1 pwynt
Englyn Cywaith: Ymddeoliad
Dim cynhaeaf, dim dafad, - dim gofid
Am gyfeb na marchnad,
Dim aerwy a dim arad,
Dim i'w wneud - a dim mwynhâd.
Dic Jones
10 pwynt
Englyn Cywaith: Ymddeoliad
Bwrw angor, culhau'r gorwel - fu raid,
ond mae'n frawd i'r awel
a phrudd ei lygaid ffarwel
yn y drws ar drai isel.
Gareth Williams
10 pwynt
Telyneg: Teulu
Mewn llawysgrifen gopor
Tair canrif y mae nod
Yn Llyfr Mawr y teulu
Sy'n dyst o'n mynd a'n dod.
Ond bellach nid oes cyfri
O'u hepil rhwng dau glawr
A thair cenhedlaeth gyfan
Heb roi eu henwau lawr.
Hywel Rees
9 pwynt
Telyneg: Teulu
"One man from each family is enough on a night like this."-Harry Trevelyan Richards, cocsyn bad achub Penlee, wrth iddo atal un o ddau frawd oedd yn aelodau o'r criw rhag mynd ar y cwch, cyn ei lansio ar noson y drychineb.
Dibetrus yn y pryder,
Bu'r hogia i gyd yn driw,
Os storm a alwai frodyr,
Nid hi ddewisiai'r criw.
Yn hunllef yr argyfwng,
Fel un ar fwrdd y bad,
Pob enaid ynddi'n perthyn,
Yn daid, yn frawd, yn dad.
Ac er nad oedd'na raffau
A'u clymai drwy y gwaed,
Deil cwlwm hyd y glannau
O hyd drwy'r aberth wnaed.
Huw Erith
9 ½ pwynt
Englyn ar y pryd: Gair
Cyn i'w gerdded droi'n redeg - heb wybod
i'r baban mai coleg
ryw hen gof yn rhoi'n ei geg
yn sydyn wreiddyn brawddeg.
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 82 ½
Englyn ar y pryd: Gair
Aeth cri o groth y cread - i galon
gwyliwr yr hir gariad,
a chroyw o'r dechreuad
oedd y dweud: y gair oedd 'Dad'.
Myrddin ap Dafydd
9 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 84 ½
Cynigion ychwanegol:
Limrig yn ymwneud â gwersylla:
Ma' menyw yn trigo'n Nhresaith
Yn byw mewn tipi ar y traeth,
Ei enw yw Sue
Mae'n hoff iawn o ryw,
'Wy'n gw'bod - 'wy 'di bod 'na sawl gwaith.
Roedd menyw yn byw yng Nghwmscwt
Gyda'i g?r hi mewn pabell fach dwt
A cheffyl a chi,
Dwy wha'r a thad-cu,
Ond wir ichi, sai'n gw'bod shwt.
A'th bachan o ardal y Gwent
I gynhadledd y scowts lawr yn Kent,
Bwciodd bobi mawr cas
E am b'ido mynd mas
'And for loitering there within tent.'
Fe ddechreuodd boi bach o Lansawel
Gymdeithas wersylla ffroenuchel,
I ymuno â'r clwb
Ro'dd rhaid dweud 'DIB DAB DWB'
A'i enw o'dd Dai Baden Powell.
Englyn yn dechrau â'r geiriau: 'Er nad':
Er nad yw ef ond prin dair, - y mae'r fam
 rhyw fwg yn cellwair,
A bydd wedi bod drwy bair
Y byd cyn dod yn bedair.
Cân (heb fod dros 20 llinell): Anhwylder(au)
Mae clefyd y Talwrn fel y dwymyn wair,
Un ras rhwng cawodydd i gywain gair;
Mewn byd o gytseiniaid rwy'n drwm fy nghlyw
Ac aeth cyfrif sillafau yn ffordd o fyw.
Gyrraf lawr yn lle lan hyd stryd unffordd y dre,
Rhof siwgwr mewn cwrw a halen mewn te,
A mynnodd y wraig 'mod i'n mynd am X-ray
Pan anghofiais i wylio 'Match of the Day'.
Mae cyflwr fel hyn i feddyg na ?yr
Am Geralltitis yn ddirgelwch llwyr.
Bu sôn am ysbyty, ond nid oedd gwely ar gael
I wella llinellau hen brydydd gwael
Ac mi fyddai raid imi aros am oes
Tawn i wedi mynnu cael prawf ar y proest.
Felly dywedodd y Doctor i arbed ffwdan a chost
Taw feirws ddiacen a'm gwnaeth i yn dost
A datganodd y meddyg mewn cerdd o'r wers rydd
Y ciliai y salwch, o'i hunan, rhyw ddydd.
Ond pan fydd y Talwrn ond atgof pell,
Rwy'n gwybod yn iawn, fyddai i ddim gwell.
Gan 'mod i yn anhwylus,
Yn methu cysgu'r nos,
Rwyf yn rhy wan i weithio cân
Hir, hir fel Gareth Jôs.
Pennill Ymson mewn cerbyd:
Mi fase prynu Sat Nav
I mi yn weithred ffol
Cans mae gennyf un yn barod
Yn gweiddi o'r sêt ôl.
Pe byddai'r bws Arrava
Rwyf ynddo'n mynd yn gynt,
Fe roddai ras i'r asyn
Fu'n cario glo i Fflint.
Un cam wrth gam ni'n mynd ers awr
A'r mwg yn llanw'r lonydd
Mae'r pleidiau gwyrdd yn beio pawb
A neb yn beio-tanwydd.
Os yw'r hin yn cynhesu
A'r tanwydd yn ddrud
Mi yrraf fy ngherbyd
Hyd ddiwedd y byd.
Englyn Cywaith: Ymddeoliad
Fan hyn, a'n safonau'n is, - a Seilo
'For Sale' mewn oes ddibris,
Pwy yw'r Un i dalu'r pris
Wedi i Dduw fynd o'i ddewis.
Telyneg: Teulu
Does neb a ?yr yn union erbyn heddiw
O ble y daeth yr had i impio'n bren,
Nac o ba dir y tarddodd d?r y bywyd
I'w dyfu'n wraidd islaw a brig uwchben.
Hwyrach y crinodd stormydd rai canghennau
A'r hen foncyff weithiau'n sigo i'w sail,
Ond eto fe ddôi adar y gwanwynau
I alw ar ei gilydd rhwng y dail
Ac er bod bys allweddell ein hathrylith
Yn turio 'mhell tu hwnt i'r arch a'r crud,
Mae rhyw ddarfelydd nad oes mo'i amgyffred
Yn tynnu dolen perthyn eto 'nghyd.
Cynigion ychwanegol:
Un joch o be gymrodd Jôs
yn gwic wna finnau'n gocos.
Heibio traeth aiff albatros,
deryn y dwr diaros.
E.U.C., bwli fel boss,
ond tirion ei grant iwros.
Ola'r haul ar war y rhos
heb ei egni ar bignos.
Er gwarion'n gawr, nawr y nos
Reibia'i egni ar bignos.
Yn llwyd yn y marwydos
Oes yn ol yw gwres y nos.
Yr adar sydd yn aros
Ar y nyth yw adar nos.
Limrig yn ymwneud â gwersylla:
A'i phen drwy y nenfwd roedd Hanna'n
Mwynhau per ogleuon y bloda'
Mewn llecyn anghysbell
O dani'n y babell
Roedd Ifan John 'Castell' a'i sanna'
Y fan ddaeth dan wegian i Gent
ag ynddi bob dim ond bag sment
Rol gwagio drwy'r diwrnod
Fe sylwais mewn syndod
Fod neb wedi dyfod â thent
Gall tent newydd sbon teulu'r Felin
Wrthsefyll pob corwynt a drycin
Sy'n rho tu allan
Nid rhain ydy'r broblam
Y gwynt o du mewn Ambrose Hefin
Gwyfynod cwt isa 'Gwern Lwyd'
Gymerodd y babell yn fwyd
Y llynnedd oedd hynny
Yr haf 'ma mae'r teulu
Yn Rhiwlas yn cysgu mewn rhwyd
Fe binsiodd ei hun yn fileinig
Ond na, nid breuddwydio oedd Meurig
Roedd cynnwys ei hampar
Yn mynd ar gyflymdar
O'r dent, drwy'r lle chwech i dwll morgrug
Fe aeth gyda'i phabell i L?n
Fe'i prynwyd ym mil naw saith un
Roedd stad ar y rhaffa'
Wrth ddatod y clyma'
Fe grogodd Jemeima ei hun
Fe ddeffrodd yn hwyr yn y bora
A gwelodd wrth lyfu ei glwyfa'
Bob Chwiw a Mosgito
Fu arno fo'n sugno
Yn gorwedd ar wastad eu cefna'
Cymerodd criw'r babell dair awr
I'w phegio dros gangen go fawr,
Roedd y 'strycshyns mewn rholyn
'Di'i stwffio i bolyn -
Fe'i ffeindiwyd wrth 'thynnu hi 'lawr.
Englyn yn dechrau â'r geiriau: 'Er nad'
Er nad yw'r hen eneidiau - yn gwenu
ar graig wen ein tadau,
y maent drwy Mai yn trymhau
ei chroth er gwaetha'i chreithiau.
Er nad yw ei chroen neidar - yn ffitio
Pam Ffat y pôl-dansar,
mae'n Rôls-rois, medd bois y bar,
wrth hen dyrcen noeth sdarcar.
Er nad oedd taflu grenêdau - ar restr
risg y dosbarthiadau,
wedi dal criw Blwyddyn Dau
newidwyd asesiadau.
Er nad yw'r wên a dorrai yn nh? nain,
Gwn yn iawn y rhoddai
Ei holl werth i mi yn llai,
A dwy em yn ei dimai.
Er nad hanner ein tynnu mae henaint,
Mi wn wrth ei wadu
Mai ysgafnhau'r dyddiau du
Y mae hydref, tra'n medru.
Cywydd heb fod dros 12 llinell): Uchelgais(yr agwedd aghynnes ohono)
Yn lordio was, ble'r ei di?
Aderyn rhwydd ei stori;
Un si?r o'i holl gysuron,
Ac un si?r, am logau'n sôn.
Un o hyd fuddsodda'n well,
Un yn gyw mwy na'i gawell.
Ei ddoler grea ddilyw
Aur ei wawr, ar draul y dryw.
Un fynn o'i siec fwy na'i siâr,
Rhydd yw i hawlio'r ddaear.
Ei aur sy'n bwydo'r Tori,
Y gneuen wag yw i ni.
Pennill Ymson mewn cerbyd:
Cant a deg drwy Gwm y Glo!
Mae o'n mynd fel dyn o'i go
Wele gombein lond y tro
Ara' deg was, ara...."WO!"
Ho ho ho a hi hi hi
Blwyddyn gron o Em Ô Ti
Fan am hannar cant o bunna'
O fy Nuw be' ddiawl oedd hynna
Y mae pob un dim yn deilchion
Rhwng Tremadog a Thremeirchion
Pawb a'i nain sydd ar fy sodla'
Sut ma' sdopio'r blydi tanc 'ma
O'm blaen fydd Rhys ar lawr y llys
mewn ugian munud union
Rwy'n refio ond, rwy'n llonnydd stond
Mae'r diawl 'di dwyn f'olwynion!
(Gyrrwr Bws Ysgol)
Cambihafio mae nhw 'nawr
Malu, rhegi, chwythu m?g
Dyma ramp! Wel troed i lawr!
Cymwch hon y diawlad drwg
( Gyrrwr Lorri Clutton's)
Lle gwag ger siop gigydd y pentra!
'na ni, fe gaf fwyta ' mechdana'
'Wel, son am wyneba!
'On'd oes yna dacla'
'Anhoffol yn byw yn Llanddona!
Soniodd neb pan es iddo
Basai'n lwyb ofnadwy yno
Rown i am gael gyrru Sherman
Mynd ar ol rhyw Panser Jerman,
ond welai neb na dim o fama
A tydwi ddim yn saethu fflama',
Dwi'n ama nad oedd o yn syniad doeth
Mynd mewn i'r tanc yn y cwpwrdd dwr poeth.
Englyn Cywaith: Ymddeoliad
Wedi'rafu dy rwyfau ni elli
Lwyr ollwng y rhaffau;
Ym min hwyr a thi'n mwynhau
Y daw hoen y mân donnau.
I aros hyd flinderau yn haid dont,
Ond diawl, os yw'n olau'n
Y Foelas fras, mae'r daith frau
O L?n yn dal o'u blaenau!
Er rhy hen i'r anghenion - o yrru
Fan fara, a nghalon
Fawr ei loes, dal rwyf ar lon
Yn gwla ar fws ysgolion.
Telyneg: Teulu
'Tynnwch eich cotiau.' meddai, gan eu rhoi
ar stand - cael modd i fyw mewn prinder lle
i dair cenhedlaeth. Ond doedd chwaith osgoi'r
gôt wag a oedd yn gysgod dros fwrdd te.
Âi'r galw heibio'n amlach dros ei sbel
mewn cartref - meddwl 'bod ni'n cadw'r ty
yn llawn. Caem weld, wrth droi i fynd a hel
y dillad, honno gyda'i gobaith du.
Wedi'r angladd, dal safnau bagiau bun
a chladdu trugareddau'r byd sydd raid,
a'r plentyn ie'ngaf gododd gwestiwn gwyn
pam nad yn fa'ma rwan gôt ei thaid?
Cysgodion yn y cyntedd, 'mhlentyn tlws,
bob tro ti'n oedi ym mynd a dod y drws.
Telyneg: Teulu
Yn gynnes solet yn eu bodlondeb
Cyn crafu'r grachen a gwaedu'r wyneb,
Ac er fod croen yn tyfu dros greithiau
Y gwir a ddaw gan hogi ei lafnau
Uned a glymwyd yn waed a chelwydd,
Hen hanesion, mabinogi newydd
A'r oerni lle roedd unwaith frawdgarwch
Yn dweud cyfrolau yn ei dawlewch.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

