Y Tywysogion vs Y Sgwod.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyn derfynol o gyfres y Talwrn.
Cwpled caeth ar yr odl 'wn':
Daw adeg y mynegwn
Ein barn am brynu bab?n.
Twm Morys
8 pwynt
Cwpled caeth ar yr odl 'wn':
Gwyddom mai'r deg a haeddwn
yw'r nod yn y talwrn hwn.
Dafydd Williams
9 pwynt
Limrig yn ymwneud ag aros mewn gwesty:
Aeth Wil o waith caled i ffermo
i westy glan môr yn Palarmo.
Er nad oedd yn ddrud,
'roedd o'n frymis i gyd,
yn debyg i stryd fawr y Bermo.
Sian Northey
9 pwynt
Limrig yn ymwneud ag aros mewn gwesty:
Gofynnwyd i Westy yr Emlyn
roi lojin am noson i'r Meuryn,
a dyna i chi pam
ein bod ni'n cael cam
a Chrannog yn ennill bob blwyddyn.
Harri Williams
9 pwynt
Englyn yn dechrau â'r gair 'Gwelais':
Englyn i'r Chwaer Rosalyn, Caplan Ysbyty Plant Lerpwl.
Gwelais hon yn gwylio - gwylio o hyd
uwch gwlâu y bach tawedog;
Rhag i ?r gor-drugarog
yrru neb i dir-na-nog.
Twm Morys
9 ½ pwynt
Englyn yn dechrau â'r gair 'Gwelais':
Putain yn gaeth i gyffuriau
Gwelais ei cheiniog olaf - yn nodwydd
ei gofidiau eithaf,
ac i'w lôn a hithau'n glaf
daw y nos a'i dyn nesaf.
Geraint Roberts
9 ½ pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Argyfwng
Ger Llyn y Parc yr oeddwn yn mestyn coesau'r ci,
Pan glywais eiriau diarth yn rowlio dros y lli.
'Roedd yno ddyn yn boddi a'i wraig yn mynd o'i cho'
Ac acen Shapten Mallet yn byblo o'i ennau o.
"Ni all o modfedd" meddai'r ddynes hylla' 'rioed,
"O'r nefoedd wen" sibrydais, cyflymais fy nwy droed.
"Ni all o nofio ylwch", taranodd hi drachefn,
"Ni all y cradur nofio, ma'r dyn yn neinti sefyn".
"Dio ddim yn gallu nofio?" gofynnais iddi hi,
"Alla i ddim chwarae'r piano, ond dwi'm yn gweiddi na dwi!"
Mei Mac
8 ½ pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Argyfwng
Trin Cwrci
Rhowch un bys a'ch bawd bob ochor i'w geg
a gwasgwch yn dynn er cael chware teg,
ac wrth i'r anifail i agor ei enau
gosodwch y bilsen i mewn i'w geg yntau.
Casglwch y bilsen y tu cefen i'r soffa
ac ailddechrau y broses, a hynny o'r dechra.
Daliwch y cwrci yn sownd dan eich braich
(er bod y gwaith hwnnw yn dipyn o faich).
Rhedwch i'r llofft ar ôl yr hen gwrci
a thaflwch y bilsen drwy ffenest y pantri,
cymerwch un arall o'r botel tabledi
a daliwch yn dynnach wrth wddwg y cwrci.
Gwasgwch ei fochau nes bo'i donsils yn golwg
a gwthiwch y bilsen i gefen ei wddwg,
daliwch yn dynn wrth ei goesau ôl
a rhegwch y diawl am iddo'i phoeri hi'n ôl.
Ewch i mofyn y bilsen a'i chyrchu o fasin
y gold fish, mae hwnnw ym mhen draw y gegin;
yna, a'r cwrci ar ben y teledu,
eisteddwch i lawr gyda'r bilsen, a'i llyncu.
Roy Davies
9 ½ pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Marchnad
'Sgidiau neu feic neu sgodyn,
beiros, eirch, dau am bris un.
Fe'u cei yn rhes, fe'u cei yn rhad
yn y lle, haul a lleuad.
Yma o hyd, sôn am hwch
ac arian, a theyrngarwch.
Gwgu dros y silffoedd gweigion
nid fel y fawr, lawr y lôn.
Ewch i hel ei sothach hi
yn gowdel i'ch basgedi.
Rif y gwlith, tra bo hithau'n
aros dydd un am bris dau.
Mei Mac
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Marchnad
Fan gludo nwyddau archfarchnad - "You shop, we drop"
Diwyneb yw'r archebion
ddaw o'r siop trwy ddrysau hon,
anhysbys yw'r bocsys bwyd
ar olwyn at ryw aelwyd.
Ei murmur sy'n prysuro
tua'r hwyr a rownd bob tro,
a'i nwyddau hi, yn ddi-os,
yw'r logo ar hewl agos.
Ar y we, mae gwario is
a deial sy'n rhoi dewis;
eto, mae'r silff yn dlotach
i gwsmer y fenter fach.
Geraint Roberts
9 pwynt
Pennill Mawl/Dychan: Rhagolygon y Tywydd
Haul ym Môn, haul ym Mrynaman,
haul mawr poeth am flwyddyn gyfan.
Nawr am fwy o glwyddau noeth
nôl i'r ddesg newyddion.
Sian Northey
9 pwynt
Pennill mawl/dychan : Rhagolygon y Tywydd
I'r cyflwynydd, Derek Brockway, sy'n dysgu'r iaith Gymraeg
Bu storom gref yn curo'r tir
a'i gwyntoedd yn malurio'n hir,
disgynnodd llawer derwen braff
pan gredem fod ei gwreiddiau'n saff;
ond gwybod rydwyf, wedi'r drin,
yn rhagolygon tyner hin
fod un "Shwma'i" ar orwel gwell
a thoriad gwawr heb fod ymhell.
Harri Williams
9 ½ pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Y mae nefoedd ym Min Afon
A môr rhyngom ni â Môn.
1 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Y mae nefoedd ym Min Afon
Ond mae her yn nyfnder hon.
Englyn Cywaith: Taid/Tadcu
Dy bres ni ches, na'th d? chwaith - ond elwach
ar dy ôl wyf ganwaith.
Gennyt ces fwy nag unwaith
hyder fy nhaid ar fy nhaith.
Guto Dafydd
8 ½ pwynt
Englyn cywaith : Taid/Tad-cu
Cydia'n fy llaw yn dawel - a rhanna
rhyw ennyd fach ddirgel,
un ysbaid â'th daid cyn dêl
inni awch yr anochel.
Dafydd Williams
9 pwynt
Telyneg: Dosbarth
(Sbio ar lun)
...A hwnna yn f'ymyl, mab cipar y Llan:
Efo'n gilydd y byddem ni'n dau ym mhob man.
Mi wyddai o enw pob llyn, mawr a mân,
Nes bod yr afon i ni yn un gân.
Ac wedi'r ysgol, mi redem ar ras
Ar hyd glan yr afon i olwg y Plas,
Ac wrth y llidiart, cymryd ein gwynt,
A mynd rhwng dau olau, bob un i'w hynt.
Yn fy mlaen yr awn i tua'r plasty mawr gwyn,
I'r opêr o Ffrainc gael fy ngwasgu yn dynn.
Yn ei ôl yr âi yntau drwy'r t'w'llwch, ei hun;
Pwy fasain meddwl wrth sbïo ar lun?
Twm Morys
9 ½ pwynt
Telyneg : Dosbarth
Hen lun ysgol
Miss Huws i'r chwith a Syr y Sg?l i'r dde,
a ninnau'n deires dwt o wyn a du,
heb un ar goll, a phawb yn hawlio'i le
gan ddangos mor gyfartal oedd a fu.
Ond wn i ddim paham mai Sian Y Ddôl
(na fedrai gyfri' deg na darllen chwaith)
a gafodd ddal y sgrifen galch 'n ei chôl ...
rhyw bethau fel'na sydd yn gadael craith.
Mae bylchau amlwg lle bu'r miri gynt
o gwrdda heddiw am yr olaf dro,
ac amal un heb gofnod am eu hynt
a'u henwau'n dechrau pylu yn y co'.
Yn ail o'r chwith y byddaf yn y cefn,
a neb ond fi ar ôl i gadw trefn.
Harri Williams
9 ½ pwynt
Englyn ar y pryd: Trafferthion Mr Brown
Fe all nad yw enw felly - yn help
i hwn arglwyddiaethu,
na rhoi taw ar dwrw'r t?
achos mae'n enw cachu!
Mei Mac
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 81
Englyn ar y pryd: Trafferthion Mr Brown
Cawsom ei economeg - yn ddi-wên
ond yn ddoeth, bob brawddeg;
nes i symiau'i resymeg
orfodi hwn o Rif Deg.
Geraint Roberts
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 83
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth ar yr odl 'wn':
Ymroi i fyw mae rhai, fe wn,
yn unswydd am eu pensiwn.
Ei racsio fesul ffracsiwn
yw ein greddf, o'i gael yn grwn.
Mewn ffydd garddiwn y gwndwn
a rhoi had yn naear hwn.
Byw ei awch wna dyn dan bwn
oes o eisiau'i obsesiwn.
Heb boeni am bôl piniwn,
dweud ei ddweud wna'r gwleidydd hwn.
Pan fydd gwarth fel cyfarth c?n
ynof, mi gofiaf Annwn.
I un sy'n was i ffasiwn,
Chanel yw'r label i hwn.
Limrig yn ymwneud ag aros mewn gwesty:
Welodd Mari Trelech ddim bidê
nes bu hi mewn gwesty'n y dre'
a dweud wrth ei gwr:
"Dyma'r ffynnon, mae'n siwr,
a dwr i wneud paned o de."
"B an' B yn yr Emlyn fydd ora,"
awgrymais i Meri drws nesa';
a noson i'w chofio
yn wir ydoedd honno.
A'r brecwast? Cawn hwnnw'r tro nesa'.
Y plans oedd cael mynd gyda'i gily'
am wythnos o wyliau eleni,
ond medd Martha: "Sai'n dod."
Medd Wil: "Beth sy'n bod?"
"Does 'da nhw'm comôd wrth y gwely."
Aeth ffermwr o'r ffordd hyn i'r Belle Vue
a chael bwydlen yn Saesneg, men-u,
roedd hi at ei ddant,
yn ateb pob chwant,
a daeth ato i'r Oernant i fyw.
Englyn yn dechrau â'r gair 'Gwelais':
Gwelais ddiffodd y golau - un nos Sul
ar ras wyllt i'r siopau;
daw rhyw ias o gloi'r drysau
ddoe'n y cwm, a'n ffydd yn cau.
Wedi'r daeargryn yn China
Gwelais y ddau 'da'i gilydd, - yr ysgol
a'r ysgwyd yn llonydd,
eu llyfrau'n un â'r llofrudd,
y wal rad a'r wylo rhydd.
Wrth ddarllen Llyfr Mawr Y Plant i fy nai
Gwelais hen lwynog eilwaith - ar ei duth
yn nhir doe fy afiaith,
a chenau bach ei heniaith,
liw nos, wêl flewyn o'i iaith.
Gwelais y brad a'r gwadu - a gwyliais
y gelyn yn ffynnu;
ond, er hyn, y rhod a dry
a'r heniaith fydd, er hynny.
Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Argyfwng
Ym mis Mai 2008 fe fethodd y sustem garthffosiaeth yn yr orsaf ofod, a bu'n rhaid gyrru cyfarpar gyda roced yno er mwyn ei gywiro.
Ochor yma i'r sêr, ond tu draw i'r cymylau,
mae Meccano anferth i astudio'r planedau,
ond, yn yr ehangder ar ddiwedd mis Mai
yng nghanol y geriach, datblygodd rhyw fai.
Beth a alwyd yn doilet, wel, wnai o ddim gweithio -
rhyw washera spli-pin bach oedd wedi nogio;
meddyliwch, mewn difri', am hogiau y roced
hanner ffordd lan i'r nefoedd yn gweddïo am bwced.
Roedd Lyca, y ci, a sawl hen fwnci
wedi teithio'r ffordd honno heb orfod pipi;
ac os byddwch yn cerdded hen lwybrau'r wlad
mae llwyni a pherthi er mwyn cael rhyddhad;
ond, i fyny yn fanna, wedi'ch selio mewn swigen,
dyna pryd y gwyddoch beth yn wir ydi 'angen'.
Heb agor un ffenest, gollyngwyd i'r gwagle
ychydig o'r gwynt - fe aeth allan i rywle;
doedd y dynion bach gwyrdd sy'n byw yn y gofod
ddim yn gyfarwydd â'r math yma o ddrewdod.
A'r tro nesa', pan fydd yr Andrex 'di gorffen,
cofiwch gofio, yn siwr, am y bois yn y lloeren.
Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Argyfwng-it is
Ar ymddeoliad Dr Elwyn Parry, fy meddyg teulu, Mehefin 27
Dweud wyf, heb fod hanner da,
(adref â hypochondria),
fod Pen'groes fy oes fy hun
yn waelach, Doctor Elwyn;
a'r nerf oedd yn Corwen House
yn cwyno am feddyg hynaws.
Ces oes â lot, lot o tonsilitis
a range i'w hatal - o pharyngitis
ac achos, nid sleit, o laryngitis
i nosau o swatio â sinusitis;
hitia atynt bwl cas o otitis
a wedyn, i weitiad, tendonitis;
mwy, i ti etyb fy dermatitis,
deuaf atat â'm conjunctivitis
a f'aciwtiaf bronchitis, (bûm glaf, do),
a disîs eto - appendicitis.
Mae meddyg i mi heddiw?
Mae yr un i wella 'mriw?
a Phen'groes fy oes fy hun
yn waelach, Doctor Elwyn.
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Marchnad
Y têc awê
O Hong Kong daeth i bob cwm,
gwertha reis, ac wrth reswm,
aml i saig, melys a sur,
os yn fas iawn ei fesur;
chow mein mor ffein ma's o'r ffwrn
yn sydyn ar nos Sadwrn,
cyri oen neu borc ar wib,
a'i sbarion yn gwneud sbarib;
chop suey, chips a soia,
bambw a kung fu a ffa
mewn tin ffoil a'i oil yn lân,
i'm ffido heb ddim ffwdan.
Pennill mawl/dychan : Rhagolygon y Tywydd
'Rôl gwrando'r holl broffwydo sych gan aml un hyd syrffed,
rhyw daro wnaf yn ysgafn iawn ar wydyr ar y pared;
mae'n iawn bob tro, pa un ai storm neu hindda fydd hi fory,
heb angen gwrando'r sêr sy'n cwympo'n gelwydd ar deledu.
Rhyw damaid o wymon a mochyn coed
roi'r tywydd i Taid, a fethon nhw erioed;
aeth rheiny i'r bin pan ddaeth y TV
a Michael a Sian, ond, coeliwch chi fi,
rwyf heddiw'n difaru yn ddi-baid
na etifeddais ffydd fy nhaid.
Cynhesu byd-eang
Un tymor, fe ddaw'r twymo - a'r nwyon
i grynhoi fel amdo
a throi'r cyfan otano
yn dir wast mewn fawr o dro.
Englyn cywaith : Taid/Tad-cu
Llun o'm taid wrth glirio'r hen gartref i'w werthu
Ai gweddi neu gyhuddiad - a welaf
yng ngolau ei lygad, vneu ai drych yw'r edrychiad
a fi'r un synhwyra frad?
Gweld hen lun o'm tad-cu, ac yntau wedi bod yn arddwr, fel ei dad yntau
Un garw, ond gweld blaguryn - a wnaf
yn y wên ddiderfyn
ac ar ei wedd mae gwreiddyn;
gardd ei oes yw'r gruddiau hyn.
Telyneg: Dosbarth
Y dosbarth canol Cymraeg
Weithiau, pan fydda' i'n cofio'r gwir,
mi gofia' i genedlaethau'r tir;
a weithiau, pan fydd ddoe yn ffaith,
mi wela' i'r aberth yn eich gwaith;
rhyw ambell ddiwrnod, ambell dro,
mi ddaw eich llafur eto i go';
ond pan ga' i ras uniaethu'n llwyr
mi wn ei bod hi'n rhy, rhy hwyr
i ddiolch am yr hyn a wnaed
a sylweddoli'r hyn a gaed
oherwydd, os maddeuwch chi,
eich bod o ddosbarth is na mi.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

