Y Tir Mawr vs Bro Alaw.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gor-gyn derfynol o gyfres y Talwrn.
Y Tir Mawr.

Bro Alaw.

Cwpled caeth ar yr odl 'oc':
Mae Wiliam yn ei hamoc;
Nid yw Jên yn gweld y jôc.
Myrddin ap Dafydd
8 ½ pwynt
Cwpled caeth ar yr odl 'oc':
O bost yn Fladifostoc
Cawn ninnau'n tasgau toc!
Arwyn Roberts
8 ½ pwynt
Limrig yn ymwneud â chyfarfod rhywun:
Roedd mor falch o'm gweld unwaith eto
A buom am hydoedd yn sgwrsio
Ar ôl iddo adal
Rwy'n meddwl "Pwy gythral
ar wyneb y ddaear 'ma oedd o?"
Gareth Jones
9 pwynt
Limrig yn ymwneud â chyfarfod rhywun:
Cynghorydd Llanengan yn Ll?n
Sy'n bwysig a bachog, myn dyn,
Ymysg ei syniadau
i chwyddo ei dreuliau
Apwyntiadau i gyfarfod â'i hun.
Ioan Roberts
9 pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau 'ddoe' ac 'yfory':
Bu ar yr egin a'r brigau farrug,
Ond 'fory dwyn blodau
Wna draenen wen, ysgafnhau
Gwayw ddoe ein gweddiau.
Gareth Williams
8 ½ pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau 'ddoe' ac 'yfory':
Fe wariwn waddol 'fory - a dyled
Ddoe'n dal heb ei thalu,
Awn â siâr pob truan sy'
Dan ein llygaid ni'n llwgu.
Richard Parry Jones
9 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell):
Uchafbwyntiau fy Mywyd
Noswaith dda i chi gyfeillion
F'enw i yw Albert Aeron
Dwi'm yn ddyn sydd ar i fyny
ond mi dria i serch hynny
Adrodd ichi'r uchafbwyntia'
sydd yn britho fy holl ddyddia.
Towch mi feddwl... ces fy ngeni
Fy mhenblwydd ddaeth eto 'leni
Raffl 'Dolig naintin thyrti
Fe fu bron 'mi ennill twrci
Naintin ffiffdi, hyd'noed gwell
Gwelais Alwyn Sion o bell
Llynnedd es i mewn am ddim
I jymbl sêl ym Mhont y Cim
Wedyn prynais gandylabra
A chael tships cyn dwad adra
Nôl yn Ebrill, saith deg un
Fu'r uchafbwynt gora un
Mewn sioe adar yn Senghenydd
Cafodd Ned, fy mwji, drydydd
Cael teledu, cael tat?
Peidio cael y Jyrman ffl?
Bod yn fa'ma efo chi
Dyna'r cwbwl am wn i
Gareth Jones
10 pwynt
Cân [heb fod dros 20 llinell]:
Uchafbwyntiau fy Mywyd
Prin iawn yw'r uchelbwyntiau yn fy mywyd,
Rwyf yn cynhyrfu'n lân wrth weld fan bost,
Rwy'n gwrando ar raglenni Radio Cymru
Ac edrych trwy y "Deaths" 'n y Daily Post.
Mi fûm i yn mynychu'r capel, unwaith,
Er mwyn cael mynd ar drip yr Ysgol Sul,
Ac yno ar ehangder traeth Llandudno
Yn teimlo fel John Wayne - ar gefn y mul.
Rwy'n cofio'n iawn cael pres a sws 'run diwrnod
Gan fodryb oedd yn hael iawn gyda'r cash,
Ag ogla asiffeta ar ei hana'l
A honno'n pigo 'ngwyneb â'i mwstash.
'Rôl tyfu, bûm yn gweithio mewn amlosgfa
Ar gyrion Llundain am flynyddoedd maith.
Yr oeddwn i yn llosgi y brodorion
Am gyflog a boddhad wrth wneud fy ngwaith.
Trwy f'oes rwyf wedi cadw y Frenhines
A 'rioed 'di derbyn ceiniog gan y dôl;
Braf eistedd nawr a derbyn pres y pensiwn,
Mae'n iawn i'r gnawes dalu peth yn ôl.
Geraint Jones
9 ½ pwynt
Cywydd heb fod dros 12 llinell):
Galar
(John Ellis, Penbont, Seithbont Botwnog)
Haf yn swrth hyd afon Sôch
Yn naddu'r lle na wyddoch.
Mawrth aeth heb awgrym wrth hau
Ddod eryrod i'w erwau.
Er ei wên pan ddeiliai'r ynn,
Am haf ni feiddiem ofyn.
Doi'i wên yn ymestyn dydd,
Hen wae ddoi'r lleuad newydd
I ladd ei sêl a'i ddwysáu,
Löyn o gymysg liwiau,
Wrth i'r afon ohono
Waedu ei chnwd gyda'i chno.
Gareth Williams
10 pwynt
Cywydd [heb fod dros 12 llinell]:
Galar
(Ar ôl hen goeden dorrwyd ar faes Caernarfon gan y Cyngor Sir).
Mae'n hardal oll mewn galar,
Dagrau'n bro sy'n sgubo'n Sgwâr,
Sgwâr gwerin lle bu sinach
Diwyneb, un bore bach,
Yn halogi'n y plygain,
Yno'n gudd, ein coeden gain;
Yn ei dail 'roedd siffrwd iaith
Hynod hen Gofis uniaith,
Cyrchfan i'w hymddiddan oedd,
Eden eu chwedlau ydoedd,
Ond man nawr eu damnio yw
A cheudwll tristwch ydyw.
Richard Parry Jones
9 pwynt
Pennill Mawl/Dychan yn ymwneud ag Iawndal:
Wedi torri i mewn i drws nesa
Mi frifais wrth falu y grisia,
Mi dwin gwbod mod in fandal
Ond o leiaf mi gaf iawndal.
Gareth Jones
9 pwynt
Pennill Mawl/Dychan yn ymwneud ag Iawndal
Un da 'di Huws y twrna,
Mi mladdith hyd yr eitha
Dros iawndal teilwng am bob gwarth -
Am ddeuparth y taliada'.
Ioan Roberts
9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Gwraig solet, ond het yw hon
Esme sy'n wraig i blismon.
1 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Esme sy'n wraig i blismon
Yr un fath â Mam Bryn Fôn.
Englyn Cywaith:Pris
Er cof am Maldwyn Jones pysgotwr o L?n a gollwyd ar y môr yn ddiwethar.
Am fod bogal yn galw, - yn y gwyll
mae na gwch yn weddw,
môr a dyn un ydyn nhw
yn llunio'r cylch drwy'r llanw.
Huw Erith
9 ½ pwynt
Englyn Cywaith: Pris
Annog creu newyn drennydd - yw prynu
Grawn prin i wneud tanwydd.
Rhoi ceiniog at lifogydd
Ydyw rhoi cydwybod rhydd.
Geraint Jones
8 ½ pwynt
Telyneg: Carreg Filltir
Wrth styried lled echelydd
A'i gwneud hi'n gornel haws,
A chwalu'r tyrpeg i'r artícs
Y daethant ar ei thraws.
Roedd arni enwau trefi
Nad awn ni iddynt mwy:
Carreg fedd i oes fu'n byw
Ar farchnad plwy i blwy.
Beth yw milltir heddiw
A blodau'n para mis?
A beth yw taith o ben draw'r byd
Ond ceiniog ar y pris?
Myrddin ap Dafydd
9 ½ pwynt
Telyneg: Carreg Filltir
"The 100th British forces death in Afghanistan has been described as an "unwanted milestone" by the troops' leader." Telegraph 9 Mehefin 2008
Canu'r oedd pawb pan ganodd cloch y drws
i'w thynnu 'rwth y dathlu; canu bach
am nad oedd mab ei dad â'r llygaid tlws
'di arfer, hyd yn hyn, â s?n na strach;
er, chwythodd, nes bod llwch Afghanistan
yn llygaid taid, a nain yn cydio'n dynn
'n y camera rhag ofn colli dim. A than
godi, rhoes gyllell yn yr eisin gwyn.
"Ddoi'n ôl."
Mae'n croesi'r cyntedd mewn dau gam,
gweld cwmwl lliw ei lifrai'r ochr draw
a fferru. Dros y cyfan, llais ei Mam
yn dal ar Ben Blwydd Hapus. Wnaiff ei llaw
ddim codi at y glicied; dal ei gwynt
rhag iddo ddiffodd fflam. 'Dio adra'n gynt?
Sian Owen
10 pwynt
Englyn ar y pryd: Colli
Mae'r clai trwm yn troi'n gwmwl - yn y môr
A mynd wnaiff y cwbwl.
O dir y pentir, pob pwl
Yn ei wagio i Borth Neigwl.
Huw Erith
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 84
Englyn ar y pryd: Colli
Un gic ar wîb anniben - yn hedfan
Un fodfedd dros drawsbren.
Yna rheg a'r ddaear hen
Yn sigo dan bwys swigen.
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 81 ½
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth ar yr odl 'oc':
Dal y bras tra'n didol broc
a mordan yw dawn Murdoc.
Byr ei swyn yw Abersok
a hernia yn Kilmarnock.
Mae ar ben; Ken o Cannock
Biau'r 'Ship' yn Abersock.
Os sleifiais o sawl hafoc,
Drwy rhyw wyrth gwnes ambell strôc.
Limrig yn ymwneud â chyfarfod rhywun:
Pwy gwrddais ar draeth yn Sir Fôn
Ond Hywel a Ieuan Wyn Jones
"Mae'n ddrwg gennyf H?al
Rhaid imi eich gadal
Does gen i ddim t?al na throns"
"Dow Annwl! Jimmy Edgar!
Ni'th welais ers peth amsar
Nid wyt, r'hen Jim
'di newid dim"
"Ei chwaer o dwi, Gwenhwyfar!"
Ar gowt cyfyngedig Bryn Bellan
Rwy'n gwnebu 'Goliath Faharan'
Mae wedi fy ngweld i
A'n gwybod fy mod i
Ei ofn o drwy 'mhen ôl ac allan
O'r nefoedd! Wil Pen Dafad!
Fe'n gwelith ni mewn eiliad
Dewch Gwen a Gwyn
A Gwilym Wyn
i mewn i'r byn 'ma i guddiad!
Yn dyfod amdanaf roedd Garmon
Pen-fwydryn tref sirol Caernarfon
Yn ysgafn fy nhroed
Es i ardd Doris Lloyd
A diflanu i'w choed Rhododendron
Nid oeddwn yn falch o'i gyfarfod
Mewn ogof a'r golau 'di diffod
Nabodwn i Ben
Efo sach dros fy mhen
Mae'n drewi o gen a baw cathod
Englyn yn cynnwys y geiriau 'ddoe' ac 'yfory':
Awn i agor yfory - a thanio
doethineb a thyfu
cyn i'r brad mewn dillad du
gloddio a ddoe ei gladdu.
Diawlio hyll am dail a hwch - oedd hi ddoe,
yn ddi-Dduw a surbwch;
ond stori'r ci yn troi'r cwch
yfory fydd ddifyrrwch.
O ryfyg dyddiau'mhrifiant i'r ffiniau
?yr ffon, rhyw aflwyddiant
Fu'r hen sêl bod'fory'n sant;
Da mai ddoe rhoed maddeuant!
Cywydd heb fod dros 12 llinell):
Galar
Down i de yn ein duon,
yr hen bry'n brathu pob bron
a rhoi llaw i'r naill a'r llall,
llaw ddu na all hi ddeall.
Cawn blât ac estyn ati,
ildio i groeso'r gacen gri;
fan hyn, mae 'na ysgafnhad
mae hi'n siwr mewn mân siarad.
Down 'nôl at ein bywyd ni
y gallem eto'i golli;
anwesu byd - ac mewn sbel
yn ein du, bydd gwên dawel.
Pennill Mawl/Dychan yn ymwneud ag Iawndal:
Mwyaf i gyd gorau'n y byd
Gwiriona'n y byd gorau i gyd
Mi gesi gryn boen yn fy mola
Ar ol bwyta y stampiau sy ar fala
Gesi uffarn o gramp
Ar ol llyncu un stamp
Mi gaiff Granny Smith dalu mi ofala
At yr ysbyty:
Ar ran Nel Huws yr ydym ni yn gyrru llythyr atoch chi
i fynnu ugain mil chwe swllt a naw
Fe lifiodd Doctor Wyn M.D. drwy ddwy ben-glin ein cleiant ni
a hithau ond 'di mochel rhag y glaw
At reolwr yr amlosgfa:
Ffortiwn fawr sydd arna chi i Lydia Huws ein cleiant ni
Dros ugain mil o bunna' Oes wir Dduw
Roedd wedi gwario pres y t? ac wedi priodi Now Cefn Du
Pan glywodd fod ei gwr hi dal yn fyw
Fe'i codwyd o'r môr ger Saiam
Yn hefru ei fod 'di cael cam
Ar ol mynd i forio
Mewn be?..Padell ffrio!
A nawr mae o'n siwio ei fam
At bluwr adar:
Roedd tân yn dod o'r olwyn
Fe gynnodd un aderyn
Gan droi fy nh?
yn sgerbwd du
A nawr dwi'n pluo Alwyn
Twrna wrth blastic surgeon...
Eich pluo a wnaf o bob magan
Os na rowch chi fil i Wayne Logan
Os dalwch chi'n glên
Rwy'n siwr yr aiff Wayne
tuag adref a gwên ar ei dalcan
Mynnu iawndal mae Nel Wyn
am anafiadau Walter
Toedd o'n dweud ar gefn y tyn
"..then stand in boiling water?"
Englyn Cywaith 'Pris':
Hudo'r môr nad yw'n marw - a'i tynnodd
I'r tonnau'r tro hwnnw,
Hen elfen oedd rhyngddyn nhw:
Llinyn bogel y llanw.
Cedwir, a'r ceirch yn codi, hualau
Ar draul datganoli
I dynháu ein huniad ni
 hen felin y Fali.
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth ar yr odl 'oc':
Ar lan môr yn joio'r jôc
Mewn siwt caniwt roedd Kinnock.
Meddai llais rhyw Sais mewn sioc,
"Aw God! We're in Langadock..."
Isda yn Fladifosdoc
Yn y jêl sy' fawr o jôc.
Clod i'r Cwîn a'r ddau Kinnock,
Heb y rhain 'sa'r iaith yn 'broke'.
Does neb am roi i Peboc
Yr un rhaff â'r Northern Rock.
Limrig yn ymwneud â chyfarfod rhywun:
Fore ddoe, cwmpeini John Eilian
Bnawn heddiw, cael cinio 'fo Cynan
Wna 'im diodda dim rhagor
Dwi am ddengyd dramor
Cyn c'warfod â Gerallt Lloyd Wan
Daeth person ar draws dwy o'r pentra
Ar noson ystormus un gaea',
"Noson fudur eich dwy,"
Meddai Ficer y plwy',
Meddent hwy, "Noson fudur i chitha!"
Ar y bws yn nhref Alabama
A finna 'di gorffen fy siopa
"Symuda!" medda fi
Wrth rhyw ddynes fach ddu,
"I mi gael eistedd yn fanna."
Cysylltais â merch ar y we
A'i chwarfod am lymed o de
Toedd neb ar y blaned
 wyneb cyn hylled
Fe surodd y baned Earl Grey.
Ar rowndabowt mawr yn Llanengan
Ar ras i gwarfod â'i fodan
A brêc ôl y beic
'Di hen fynd ar streic
Ddaeth Meic i gwarfod â'i hunan.
'Tai Wil heb gyfarfod â Megan
Ryw noson yn Steddfod Llandegfan
A fonta 'di meddwi -
Ni fydda fo 'leni
Yn dal i fyw tali'n Llanengan.
"Miss Morris?" meddai'r plentyn,
Tu ôl i'r rhesi nionyn,
'n cau ffrynt ei chrys,
a hynny ar frys:
Tu ôl i'r pys - y Meuryn!
Englyn yn cynnwys y geiriau 'ddoe' ac 'yfory':
Yn oes y gorgynhesu - a dyled
Ddoe'n dal heb ei thalu,
Onid hurt yw 'mestyn t?
Drwy fegian arian 'fory?
Pennill Mawl/Dychan: Iawndal
Fy mhrynu â'th filiynau -
Do, cefais iawndal llawn,
Ond ni all punnoedd crintach
Fyth bythoedd dalu iawn.
Os cei di ddamwain gyfaill, gwna swn fel Sais neu Ianc,
Mae angen act Osgaraidd i besgi'th gyfri banc,
A phan gei gynnig iawndal, paid derbyn yn rhy chwim,
Rhaid trafod swm i'th osod tu draw i angen dim.
Os amau wnant dy gyflwr, a'th ddilyn - gwylio o hyd
Dwed wrthynt mai dy fwriad yw mynd i deithio'r byd
Gan alw yn Lourdes ar ddechrau'r daith
Er mwyn i'r dyfroedd wneud eu gwaith
Englyn Cywaith: Pris
[Debbie Purdy, 45, sy'n dioddef o barlys ymledol eisiau i'w g?r allu ei helpu i roi diwedd ar ei bywyd pan fydd pethau'n rhy anodd iddi, trwy fynd i'r Swistir i glinic. Mae hi'n poeni y caiff o ei erlyn ar ôl dod nôl i'r DU. 11 Mehefin 2008 Wedi cael caniatâd dau farnwr uchel lys i herio'r gyfraith a chael egluro dan ba amgylchiadau y byddai ei g?r a phobl o'r fath yn cael eu herlyn.]
O'i gofid, pwyso'n gyfan - ei chariad,
A'i chur, wna'r wraig druan,
A rhoi rhagor i'r glorian
Na'i heinioes hi ei hunan.
Rhoddwn fwyd, bwyd sydd dros ben - yn y bin,
Talu'r bil yn llawen;
Er hyn cawn yr ieuanc hen
Heb aelwyd efo'i bowlen.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

