Y Sgwod vs Y Glêr.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gor-gyn derfynol o gyfres y Talwrn.

Y Sgwod.

Y Sgwod.

Y Glêr.

Y Glêr.

Cwpled caeth yn cynnwys enw lle yn Iwerddon:

Hen yw'r gwaed, ond ni cheir gwên
nes ceulo Inniskillen.

Geraint Roberts
8 ½ pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys enw lle yn Iwerddon

Yn y lluniau a'r llanast
Mae ôl y ffydd ym Melffast.

Hywel Griffiths
8 ½ pwynt

Limrig yn ymwneud â ffonio:

Mi roeddwn yn gwybod ble'r oedd hi
o dan yr hen drefn 'da Marconi,
ond gyda ei Nokia
gall fod yn Alaska
neu Frechfa, neu sybyrbs Llanllwni.

Harri Williams
8 pwynt

Limrig yn ymwneud â ffonio:

Pwyswch un i fynd nôl i'r rhan ddwetha',
Pwyswch dau i fynd 'mlaen i'r rhan nesa',
Neu pwyswch rif tri
I gael siarad 'da fi,
Mi 'dwi'n andros o unig pen yma!

Hywel Griffiths
8 pwynt

Englyn yn cychwyn â'r geiriau "Rwyf heno..."

pedoffeil ar y we

Rwyf heno'n ei howndio hi - ar y lein
mewn rhyw le'n cysgodi,
a'i hofon sy'n digoni'r
oriau mân, yw'r wefr i mi.

Geraint Roberts
8 pwynt

Englyn yn dechrau 'Rwyf heno...'

Rwyf heno'n gweddio ar Dduw'n ei d?
Er yn dyst i'w ddistryw.
A dynion gwlad yn ei glyw'n
Dweud mai labordy ydyw.

Hywel Griffiths
8 ½ pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell): Problem(au)

Yn Raffl Nadolig, enillodd hi, Meri,
yn wir wobr gyntaf, sef clobyn o dwrci;
a'r dydd cyn yr ?yl, cyrhaeddodd y deryn
cyn iached â'r gneuen heb golli'r un cwilsyn.
Roedd dwy gath a thri chi gan Meri yn barod,
a chael twrci at rhain, yn wir, oedd yn ormod;
ni allai ei ladd, a phwy allai ei bluo,
heb feddwl am llnau y tu mewn cyn ei stwffio?

Ond y broblem fwyaf oedd pwy fyddai yn carthu -
nid rhyw docyn bach bach sydd yn hawdd ei sychu.
(Mae'n si?r ichi rywdro weld tomen rhyw fuwch,
Wel, coeliwch chi fi, roedd hon lawer uwch.)
Ac, fel tyfodd y twrci, fe dyfodd y domen,
ond nid oedd ar neb yn y Sir ei angen;
cymerwyd tudalen yn y Western Mail
i ddweud fod na 'Twrci compost ffôr sêl'.

Aeth i Fae Caerdydd i gael ei ailgylchu
(at y cymaint sbwriel sydd yn y fan hynny);
felly, os cewch chi ffurflen o'r Welsh Assembly
ar recycled paper - cofiwch y twrci.

Harri Williams
8 pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell): Problem(au)

Mae gennyf i wahadden
Yn byw yn fy ngardd gefn,
Ac mae hi'n dipyn o boendod
I ?r sy'n credu mewn trefn.

Bu'r lawnt yn enwog drwy'r holl sir
(Bu ar raglen Gardener's Heaven)
Am fod y sgwâr gwyrdd yn ddigon da
I sgorio one-four-seven.

Ond beunos yn ddweddar bûm wrthi'n
Sicrhau bod fy lawnt yn un lefn
Ac erbyn bore wedyn
Roedd y pridd yn ei ôl drachefn.

Rown innau'n dechrau blino
Ar broblem yr ardd gefn
Ac felly penderfynais
Fynd mas i ddweud y drefn.

"Ond dim ond helpu rydw i,"
Ebe'r wadden fach drachefn,
"Sdim pwynt cael gardd heb lysie
Ac, rwy'n palu i arbed dy gefn!"

Eurig Salisbury
8 pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell) yn dechrau â "Do, bu..."

Strôc

Do, bu'n haf, nes daeth afon
a'i d?r chwerw i drochi hon;
afon h?n na'r fenyw iach,
afon oer a'i hofn oerach;
daeth a llepian hyd lannau
ag ewyn aig, i wanhau.

Ac yn nyfnder lleferydd
yn trio rhwyfo gair rhydd,
un rhy chwil ei thrychiolaeth,
un i donnau ei geiriau'n gaeth.
D?r coch yn rhyd ei strôc oedd,
d?r o waed di-air ydoedd.

Karen Owen
8 ½ pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell) yn dechrau 'Do, bu...'

(Yng Nghastell Harlech)

Do, bu'n nes y dibyn hwn
A'r tyrau un tro, taerwn,
At y lan, a'u telynau
Hwythau'r beirdd at wythi'r bae,

A nes fu Owain ei hun
A'i obaith ar y dibyn
At ryddid, at wireddu'r
Freuddwyd fawr, ddiwyd a fu.

Haws llusgo'r castell bellach
At donnau'r bae'n ara' bach
Na choelio bod ei obaith
Wedi'n gwneud yn gân un waith.

Eurig Salisbury
8 pwynt

Pennill ymson wrth unrhyw fynedfa:

Tu allan i faes Llanelwedd

Rhaid talu arian mawr, yn wir,
i weld pa fodd mae trin y tir,
ond anodd iawn yw rhoddi gwerth
ar grefft y g?r sy'n plygu perth
i gadw'r glendid yn ei le
rhag mynd yn barc i w?r y dre'.

Harri Williams
8 ½ pwynt

Pennill ymson wrth unrhyw fynedfa

Annwyl Pedr, mi geisiais fy ngora'
Ond mai'n anodd dan ddylanwad yr hogia'
Ac yn wir os gweli ychydig ddaioni
Mi wna i'n well ohoni tro nesa'.

Osian Rhys Jones>br>8 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Un â'r meic a'r Romeo hen
Dynes dda iawn yw Dwynwen.

Ateb llinell ar y pryd:

Am ddallt Gerallt - am roi gwên
Dynes dda iawn yw Dwynwen.

1 pwynt

Englyn cywaith - Niwl

Y gwleidydd

Ei iaith sy'n celu'r ffeithiau, - rhy inni
yr hen ystrydebau
yn y tir rhwng gwir a gau,
ac ail-addo'i gelwyddau.

Dafydd Williams
9 pwynt

Englyn cywaith - Niwl

'Ryn ni flwyddyn yn h?n heno - gyfaill,
A'r hen gof sy'n greithiog,
Ond daw'r niwl o Dir na nÓg
Yn groen dros draeth Llangrannog.

Iwan Rhys
8 ½ pwynt

Telyneg: Bwrdd

Bwrdd smwddio

Y mae, yn nefnydd dyn, rhyw hetar cudd
sy'n crasu pob un graith ar ddiwedd dydd;
mae'n llosgi o fodolaeth grychau'r daith,
nes troi y lliain blêr i'r llyfnder maith.

Ond gwaeth na gorfod gorwedd ar y bwrdd
cyn i fy esgusodion stemio i ffwrdd
a smwddio'r siwt ar ddiwedd gyrfa wych,
fydd gweld fy hun yn ddim ond gwisg ddi-grych.

Karen Owen
9 pwynt

Telyneg: Bwrdd

Mae ambell Arthur sy'n dal i alw'r wledd,
Ac yng Nghaer Llion ar y Sul daw pawb i gadw'i sedd.

O'r tywysogion a'r brenhinoedd a gow-towiodd wneud y daith
Honnir fod rhai sydd yno o bob cenedl, pob hil a phob iaith,

Sy'n sibrwd 'mysg ei gilydd mai dim ond urddas y brenin
A geidw'i wraig Wenhwyfar rhag llafur yn y gegin.

Ac hawdd yw anwybyddu y rhai wrth borth y gaer
Gan adael i furiau'r castell ateb eu hymbil taer,

Gan fod y cefnau pob un wedi'u troi wrth fwrdd y wledd
I yfed er cynnal y drefn a bwyta er cadw'r hedd;

Ac i ddathlu'r rhyddid, ac ail-fyw'r cysur
Mai'r Gorllewin, o'r cychwyn, fu berchen Arthur.

A rhain sy'n dal i goelio yn chwedlau'r ddaear hon -
Yn y ddesgl nad yw'n wastad, a'r Ford fu 'rioed yn gron.

Osian Rhys Jones
9 pwynt

Englyn ar y pryd: Cywilydd

tores o Wlad yr Iâ yn canu'r Anthem Genedlaethol yn ddigyfeiliant ac yn gywir - ond bron pob un o'r chwaraewyr yn fud.

gêm daeth ei hanthem hi - i roi taw
tîm, wrth iddi
balchder y baneri'n
warth ar gae i ni.

Dafydd Williams
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 77 ½

Englyn ar y pryd: Cywilydd

Ar ddiwrnod pryd y mae arweinwyr byd yn cyfarfod i drafod yr Argyfwng Bwyd Bydol.

I elynion, rhown filiynau yn had
Er mwyn medi bomiau,
Heb weld rhesi'r cwysi cau
Yn agor â cheiniogau.

Hywel Griffiths
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU 76 ½

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys enw lle yn Iwerddon:

Dyhead i siarad sydd
yn Stormont wedi'r stormydd.

Dewch i weld un wlad a cham
ei hanes yng Nghilmainham.

Yn naear Connemara
Waldo ei hun fu'n gweld ei ha'.

Loes i rai yn y Falls Road
yw i derfysg gael darfod.

Rhyw hedd sy'n gyfareddol,
dyna gawn yn Donegal.

Mae inni mwy'n Omaha
naws y nos a'n hynysa.

Daw dy air i dre' Derry,
daw'n dy iaith dy Lundain di.

Limrig yn ymwneud â ffonio:

Rhoed arno yr enw 'ffôn mudol'
sy'n gelwydd a gwir gamarweiniol.
Er dweud fod o'n fud,
mae o'n canu o hyd
fel tasa y byd yn y diafol.

Englyn yn cychwyn â'r geiriau "Rwyf heno..."

Miles, hysbyseb NSPCC

Rwyf heno'n dy wylio di - yn nesàu
wrth i'r sain ddistewi;
daw'r glatsien rhwng rhaglenni
i wylo'r nos ein parlwr ni.

Cân(heb fod dros 20 llinell): Problem(au)

"Mae hwn yn edrych yn rhywbeth rhwydd iawn,"
meddai Mari'r wraig 'cw un prynhawn.
"Dim ond gosod y rhifau o un i naw
yn groes ac i lawr - mae'n hawdd fel baw."
A dyna fu cychwyn yr helynt mawr -
roedd hi'n iawn ar draws, ond nid ar i lawr.
Ymhen ychydig, fel arall, a'i thymer yn codi,
yn wir, ymhen tipyn, roedd hi'n difaru fy mhriodi.

Mae hi'n stwbwrn fel mul - mae hi yna o hyd
dair wythnos ymlaen, a daeth newid byd.
Rwy' nawr yn siopa a glanhau a chwcio,
bwydo'r gath a'r ci a gwneud y smwddio.
Rwy'n deall yr Hoover a'r tymbl-dreiar
ac mae 'nghartre clyd i bellach yn garchar;
dim mynd ma's am beint a sgwrs yn y Ship,
dim cwrdd â'r bechgyn ac ambell i drip;
dim bowls a dim golff - dw i ddim yn mynd allan
'm ond lawr i Tesco, heb gyfle i loetran.

Onid dyma fu'n hanes ni, blant y llawr?
Y broblem fach yn creu y rhai mawr.

Cywydd(heb fod dros 12 llinell) yn dechrau â "Do, bu..."

D?r

Ymweliad â man bedyddio Iesu Grist yng ngwlad Yr Iorddonen

Do, bu Ef fan hyn hefyd
a daw'r ias o'r d?r o hyd;
un byw yw'r ffos lle bu'r ffydd,
a'i bwdel lle bu bedydd.

Yn y rhyd, mae ffrwd yr ha'
a thonnau gwyn Bethania
yn troi'r llif dros y tir llwm
i lanw dau fileniwm.

Mae'r anwedd fel môr ynom
nes i lais sibrwd shalom,
a gweled crychau'r credo
yn y don, lle bu Ef, do.

Pennill ymson wrth unrhyw fynedfa:

Fe fûm, fel twrnai, lawer tro,
yn pledio ger ustusiaid bro
tros rai dieuog, gan ymroi
i'w cadw nhw rhag cael eu cloi.
Ond heno, Pedr, gwranda di,
rwy'n pledio nawr fy achos i;
does dim i'w wneud ond mentro'n ewn
i geisio cael fy hun i mewn.

Tu allan i'r ddeintyddfa

Rhyw drafferth fu i'w tyfu,
a thrafferth fydd i'w tynnu
os na wnaf fynd, yn ddiymdroi,
er mwyn cael cnoi yfory.

Wrth fynediad i fedd Tutankamun

Fel y Cofi o'r blaen, rwy'n sefyll yn syn,
nid pawb sy'n gyfartal yn farw ffordd hyn;
rhaid bod aur yn cyfrif i rai'n yr hen fyd,
mae'r un gladdwyd yma ar grwydyr o hyd.

Englyn cywaith - Niwl

Gwraig yn dioddef o glawcoma

Oedodd y tarth ym Medi - a'i gwmwl
yn gymysg amdani,
yr anwedd ara'n cronni
ar wydr oer ei Hydre' hi.

Y cof

Rhyngof a sgrîn y cofio - fe welaf
ei olau'n edwino;
pelydrau'r ffilmiau ar ffo
yn rhy eiddil i dreiddio.

Telyneg: Bwrdd

Bwrdd adar

Mi fûm yn hulio'n gyson
ddanteithion arno fo,
cnau i'r hen ditw tomos
a chrwst i'r 'deryn to;
holl deulu'r berth oedd yno'n
ciniawa yn gytûn,
a meddwl wnes weld diolch
yn llygad ambell un.

Mae'n amser cinio hefyd
ar arall yn y wig,
a'i bantri yn gorlifo
o'm dewis hael o gig;
wrth estyn yno'n sydyn
i'r seigiau gyda blas,
mi wn im weled diolch
yn llygad y gwalch glas.

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys enw lle yn Iwerddon

Mae rheg hir drwy dir y De,
Rheg y Gaeleg yn Galway.

Yng Nghork mae merched porcyn
A hardd, ond rwyf fi fan hyn.

Yng Nghork mae merched porcyn;
Taclau hyll sy 'Mhont-y-clun.

Am bob ffordd gul at Ddulyn
Mae lôn fach, letach i L?n.

Dyna od i'n clustiau ni
Yw acenion Kilkenny.

Dau alarch sy'n S? Dulyn,
'Naill yn hyll, a'r llall yn wyn.

Af o wlad sy'n cofleidio'r
Liffey, nôl am heli'r môr.

Yng nghyfyngder mwynder Mai
Dulyn sy'n dynn amdana'i.

Yn ei enw, a'i anian
Mae lle fel Galway yn gân.

Limrig yn ymwneud â ffonio:

Mi geisiodd y Meuryn fy ffonio
A phan fethodd fe driodd o eto,
Yn y diwedd syrffedais
Ac yn wir pan atebais
Fe yrrais i'r clawdd ym Modnitho.

Fe geisiodd fy nghapten fy ffonio,
Ar y pryd ro'n i dal ym Modnitho,
Do'n i'm yn y m?d
Felly bues i reit r?d
A pheidio ateb nes 'mod i'n ymlacio.

Englyn yn dechrau 'Rwyf heno...'

Rwyf heno'n benderfynol - y daw'r Glêr
Drwy'r glaw yn fuddugol,
Boed i'r Sgwod i ddyfodol
Y wlad wneud lle heb ddim lol!

Cywydd(heb fod dros 12 llinell) yn dechrau 'Do, bu...'

(Yn Rhydwhyman, rhyd ar Afon Hafren ger Abermiwl lle arferai Llywelyn gyfarfod â brenhinoedd Lloegr i gynnal trafodaethau)

Do bu'r coed i'r cadoediad
Yn dystion gwynion, bu'r gad
A llafnau'r cleddyfau'n ddur
I'w hogi, ond yn segur
Yn fan hyn, ar fan canol
Yr afon hon oesau'n ôl.

Anodd gweld trwy'r cloddiau gwyn
Lleoliad rhyd Llywelyn,
Yn hyder hawdd ei d?r hi
Y mae hiraeth Cilmeri,
Ond lle bu coed cadoediad
Yn dystion glewion, mae gwlad.

Pennill ymson wrth unrhyw fynedfa

(megis oen i'r lladd-dy)

Ymddengys fod stori'n Hafallon yn wir,
Ac wedi i'n preiddiau eu hadrodd yn hir
Nid oedd yr hen chwedlau yn ffôl,
Cans o bawb aeth o'r caeau
I'r Ty Glân lle'r ydw innau,
Aeth neb oddi yma yn ôl.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.