Y Taeogion vs Crannog.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gor-gyn derfynol o gyfres y Talwrn.
Cwpled Caeth ar yr odl 'inc':
Weithiau mae 'ngeiriau poeth-i'n
camu 'nôl o'u cau mewn inc.
Ceri Wyn
8 ½ pwynt
Cwpled caeth ar yr odl 'inc':
Nid oes ar gyfer gwerin
'Cwrs y Byd' ond Byd heb inc.
Idris Reynolds
8 ½ pwynt
Limrig yn ymwneud â Heneiddio
Yng Nghartre Hen Bobol Llandeilo
Fe srtîciodd hen fenyw fach heibio,
"Beth o'dd 'na?" medde Ted
"Sai' 'mod," medde Ned
"Ond Iyffach - o'dd angen 'i smwddo!"
Caryl Parry Jones
8 pwynt
Limrig yn ymwneud â heneiddio :
Ma' ngwraig yn un ifanc llawn rhyw,
'Ac er bo fi'n gant, ma' hi'n driw.
'Dylwn fod yn ddyn hapus,
'Mae hi'n ifanc a siapus
'Ond sai'n cofio ble yffach rwy'n byw.
Dewi Pws
8 ½ pwynt
Englyn â'r llinellau'n dechrau: Wrth / tua / mi / wedyn
Y Bugail Da
Wrth wneud fy rhan i wyna'n well, - er troi
tua'r un o hirbell,
mi wn nad af innau 'mhell
wedyn o'r holl ddiadell.
Tudur Dylan Jones
8 pwynt
Englyn â'r llinellau'n dechrau: Wrth / tua / mi / wedyn
Wrth orffen y cae heno - a hithau
'Tua wyth, rwy'n tybio,
'Mi af draw i'r pub am dro,
'Wedyn, mi af i glwydo.
Owen James
9 ½ pwynt
CÂN (heb fod dros 20 llinell) Â phob pennill yn dechrau â 'Pan'
Pan oedd enw Peter oedd yn hedfan drwy y nen,
Pandy oedd enw Andy - un o ffrindia Bill and Ben,
Pannas ydi'r llysiau sy'n edrych fel moron anaemic,
Pansan- medda nhw - di'r dyn sy'n gwisgo sent a lipstic.
Panama 'di'r enw ar ganàl, sigar a het,
Pantal?ns seis Steddfod sy' ar lein ddillad Anti Bet,
Pandemonium ydi'r hyn sy'n digwydd yn Nymbar Ten,
Panis Angelicus...Aled Jones... Amen.
Panda ydi'r tedi bêr sy'n ddu a gwyn i gyd,
Panad ydi'r ateb i holl broblemau'r byd.
Panic ydi'r teimlad pan ma'ch brêns chi yn 'eich b?als
Pan glywch bo' chi'n erbyn Crannog yn rownd y cworter ffeinals.
Pancos 'di crempogau 'sa chi'n siarad fatha Sowthyn,
Panàche ydi'r unig air i ddisgrifio steil y Meuryn,
Pant yn ddaearegol ydi rhych sy rhwng dau fynydd,
Pants, fel mae'n digwydd, sy'n cuddio rhych sy' rhwng dau fynydd!
Pan 'di sut 'dach chi'n deud "Pain" 'sa chi isio bara'n Ffrangeg,
Panini 'di'r gair ponslyd am frechdan ddrud Eidaleg,
Pantomeim 'di bob un lecsiwn bellach doed a ddelo,
Pan oedd lle o'n i'n ista cyn 'mi fentro i'r Talwrn heno!
Caryl Parry Jones
9 ½ pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell) Â phob pennill yn dechrau â 'Pan':
Pan o'dd Wil yn ddeugain oed fe deimlodd chwant priodi,
'Pancosen o ferch a dweud y gwir, i ga'l sgwrs a'i gadw'n heini.
'Pa nefoedd a'i disgwyliai meddyliai'n domen chwys,
'Panacea oedd ei angen cans yr oedd Wil mewn brys.
'Panel o'i ffrindiau agos a fu'n dewis y cymar iawn,
'Pan ffrei yn y dafarn ac yfed drwy'r prynhawn.
'Pantomeim ddilynodd a phawb a'i farn ei hun,
'Paned o goffi am wyth o'r gloch a fotio am y fun.
'Pandora o'dd eu dewis o'r bocs- merch i fachan lleol.
'Pant y Rhyd o'dd enw'i fferm, ac ynte bron ymddeol.
'Panas a thato i swper, ( mae'r Gogs yn ei alw yn stwnsh ),
'Panatellas wedyn, a phawb mor blês â phwnsh.
'Panderfynnodd Wil yn syth i ofyn am ei llaw,
'Pancho o'dd enw ei thad o baith Ariannin draw.
'Pan gnociodd Wil yn ysgafn swil , y FE a ddaeth i'r drws,
'Panama hat ar ei gorun, ac yn gwisgo sgert fach dlws.
' 'Pansy!' medde Wil yn syn ' Be chi'n gwisgo dan y sgert?'
' 'Panty hose' medde fe ' a jawl, chi'n hogyn pert'.
'Panics mawr! dihangodd Wil wedi dysgu gwers am wreica,
'Pan ewch i ddewis cymar oes, cwrddwch â'i thad hi gynta.
Dewi Pws
9 ½ pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell):Mawredd
(Wrth gofeb rhyfel)
Mae'r meini'n eu henwi nhw:
Arwyr y rhyfel garw
A grafwyd yn ysgrifen
Na chwâl ystormydd na chen.
Yno, mae milwr llonydd
Yn dal i'w gwarchod bob dydd,
Yn y cae yn gwarchod co'
Dynion nas claddwyd yno.
Am i hanes grymanu'i
Fwa hurt drwy'r blodau a fu,
Ar y meini oer maen nhw'n
Feirwon na allant farw.
Emyr Davies
9 ½ pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) 'Mawredd'
Ni ddyfalodd fy eilun
'Gymaint ei faint ef ei hun.
'Roedd y mawredd amharod
'I roi clust i eiriau clod
'Ynghlwm â'r bwrlwm di-baid
'Yn llenwi ei holl enaid.
Roedd ei holl wlad yn Strade,
'Ei babell oedd ym mhob lle,
'A'i afiaith yn cyhwfan
'Y crys coch mewn corws cân.
'Ond yn ei ôl mynd a wnaeth
'I ydlannau chwedloniaeth.
Dic Jones
10 pwynt
Pennill Mawl/Dychan: Ysgolheigion
Os wyt ti'n dwyn syniadau
Heb arddel gwraidd y geiriau,
Llên-ladrad ydyw'r traethawd hwn,
A diawl mi wn wyt tithau;
Os wyt ti'n sgolor cynnil,
A'n derbyn grant o ddengmil,
Am wneud 'run fath, cei radd a mawl
Myn diawl, mae'n draethawd ymchwil!
Emyr Davies
9 pwynt
Pennill Mawl/Dychan: Ysgolheigion
Ma' nhw'n gwybod llwyth o bethe,
'Lot mwy na fi a chi,
'Wedi darllen a myfyrio
'Mewn colegau ger y lli.
'Ond os ydyn nhw mor glyfar
'Â'u graddau grand di-ri'
'Pam nad y'n nhw ar lan y môr
'Yn joio fel myfi?
Hywel Rees
9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Fe wyr rhai - waeth beth fo'r hin
Nature sy'n drech na netin.
Ateb llinell ar y pryd:
Nid yw ffens yn cadw ffin
Natur sy'n drech na netin.
1 pwynt
Englyn Cywaith: Diogi
Pan fo ffurflen i'w llenwi yn fy iaith,
mae'r un fain mor handi:
mil haws, mwy hylaw yw hi
i daeogion diogi.
Ceri Wyn
9 pwynt
Englyn Cywaith: Diogi
Mae dyn y gwn amdano - yn gorwedd
'Mewn seguryd heno,
Ni wnaeth ddim oll, waeth mae o
'Yn rhy bwdwr i beidio.
Dai Jones
9 pwynt
Telyneg: Gwrthod
Mae'r bychan heno'n crwydro
ar bafin oera'r nos,
a gair ei Dad yn brifo
yn nwfn ei enaid, 'Dos'...
a gwên dynera'r lleuad
yn oeri o awr i awr,
gan adael dim o neithiwr
ar bafin gwag y wawr.
Tudur Dylan Jones
8 ½ pwynt
Telyneg: Gwrthod
Y naill ar goesau egwan
'Wedi ei luo'n sych,
'A'r llall yn sypyn adfyw
'Yn gorwedd yn y brych.
A'r hesbin wedi ffroeni
'Â chreulon reddf ei rhyw
'O'r ?yn p'un oedd i farw
'A ph'un o'r ddau i fyw.
Dic Jones
9 pwynt
Englyn ar y pryd: Llwyth
Y llwyth gafodd ei ddarganfod ym Mrasil yn ddiweddar.
Hen gof o fewn ein gafael - a hen ddweud
Sydd wedi ymadael,
Yna drwy'r coed, ere u cael,
Yn y goedwig eu gadael.
9 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 79 ½
Englyn ar y pryd: Llwyth
A wado ei gyndadau - mae ym mysg
Myrdd ei gromosomau
Ennyn a ddwg yn ddiau
Ei ddirgeledd i'r golau.
Hywel Rees
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 82
Cynigion ychwanegol:
Cwpled Caeth ar yr odl 'inc':
Paham fod ein map â'i inc
yn danbaid o Brydeinbinc?
Yn Siloam rhof sleiwinc
yn y porch i'r ferch mewn pinc.
Pennill Mawl/Dychan: Ysgolheigion
Mae'n ddoeth cael MA neu ddau, - neu hwyrach
Ddoethuriaeth; Mae yntau
Heb radd ond yn enw brau;
Athronydd biau'r llythrennau.
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth ar yr odl 'inc':
Y drwg â chymryd un drinc
'Ydyw'r rheidrwydd am dridrinc.
Salwch sydd ar y Sealink
'Mewn storm - ac mae yno stink.
Limrig yn ymwneud â heneiddio :
Hen wreigan o ardal Lland'ilo
'A chryche dros ei phen, corff a'i d'ilo.
'A'th i'r laundry Chinee
'Ac fe sorto nhw hi,
'Mae'n lot gwell ar ca'l ei stilo.
Mae bywyd yn hir ac yn faith
'Ac rwy'n teimlo holl bwyse y daith.
'Pam mae pawb yn y byd
'Yn fy erbyn o hyd
'A finne bron iawn bod yn saith?
Pa ots os yw'ch stwff wedi dyddio
'A'ch cerddi 'n dod rownd am yr eildro?
'Na hidiwch, Daeogion,
'Mae'n digwydd yn gyson
'Pan fo tîm ar y cyd yn heneiddio.
Englyn â'r llinellau'n dechrau: Wrth / tua / mi / wedyn
Wrth gyrraedd i borth garw - hen dyddyn
'Tua deuddeng erw,
'Mi ddaw yn aur, medden nhw,
'Wedyn, rwyf am ei gadw.
Wrth ei glust llusgwyd Ustus - o'r cae ?d
'Tua'r Col anhysbys;
'Mi, rywfodd, grafodd ddigrîs.
'Wedyn, 'roedd yn wybodus.
GOLLYNGDOD
Wrth yfed lot o sawl potel - a chael
'Tua chwech cyn diwel,
'Mi wn i mai hyn o êl
'Wedyn sy' raid ei adael.
Wrth i'r awel ysgeler yrru'r llesg
'Tua'r llain ddi-amser,
'Mi wn fod marw'n y mêr
'Wedyn yn ennill hyder.
Pennill Mawl/Dychan: Ysgolheigion
Fe wyddant hwy
'Fod eu bydoedd bychan
'Yn dipyn mwy
'Na'r byd mawr tu allan.
Os yw'r cwestiwn yn syml
'Mae'r ateb yng nghudd
'Mewn cyfrolau drudfawr
'A ddarllenir rhyw ddydd.
Rwy'n siwr fod Ned a finne
'Yn sgolars yn Standard Three,
'Wa'th gwedodd Miss Llywelyn
' 'Gallai ddysgu dim i chi!'
Mae gwybod dim yn achos trwbwl
'Ond dim llawn cymaint â gwybod y cwbwl.
Englyn Cywaith: Diogi;
Heb y cyrch o bicwerchi - a fynnodd
'Gyfuno y perci,
'Try'r tir hwn a welwn ni
'Yn ddeugae o ddiogi.
Telyneg: Gwrthod
Er gwaetha'r diagnosis,
'Fel llaw yn cydio'n dyn,
'Gwrthodai ollwng gafael
'Ar ei gobeithion gwyn.
A'r poenau'n cydio'n dynnach,
'Coledda yn ei chur
'Y gobaith na wrthodir
'Gollyngdod nodwydd ddur.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

