Y Tywysogion vs Yr Howgets.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gor-gyn derfynol o gyfres y Talwrn.
Cwpled Caeth ar fedd ci:
Ci sgut am gathod, ci sgwâr
Tagodd ar asgwrn teigar.
Mei Mac
8 pwynt
Cwpled Caeth ar fedd ci:
Wele Mot mewn gwely mud,
Un di -"fow!" a difywyd.
Annes Glyn
8 pwynt
Limrig yn ymwneud â cholli pwysau:
Roedd y Ddynes Dewa'n y Byd
 chynulleidfa o hyd,
Ond rwan mae'n dena',
Yn din ac yn senna',
Ac aeth ei hedmygwyr i gyd.
Sian Northey
8 ½ pwynt
Limrig yn ymwneud â cholli pwysau:
'Rôl cerdded a rhedeg a chwysu
A pheidio â bwyta na blasu
Mae Nerys mor fain
Gall fynd rhwng y drain
A sefyll mewn cawod heb wlychu.
Meirion Jones
9 pwynt
Englyn yn cynnwys y gair 'gelyn'
(am Senator Ted Kennedy, brawd JFK, sy wedi cael tiwmor ar ei ymennydd yn ddiweddar)
Er bwled, daliai i gredu'n y frwydyr
'aeth ei frawd i'w chanlyn,
a welodd o mo'r gelyn
a ddaeth i'w 'mennydd ei hun.
Guto Dafydd
8 ½ pwynt
Englyn yn cynnwys y gair 'Gelyn'
Wrth wylio'r teledu ar "nine eleven" [11/9/2001]
Yn wael, bu'r mab, o'i wely - yn gwylio
Y gelyn yn maeddu;
Ni choeliem faint y chwalu
O'n tyrrau, temlau a'n t?.
Meirion Jones
8 ½ pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Ymadawiad Arthur
Mi wn y darn, fel llawer, ar fy ngho',
Cerdd osod haf, poeth, pell fy lefel 'O',
A'i hodlau sydd yng nghlwm â'r sicrwydd gwych
y bydd yfory'n heulog ac yn sych.
Bellach dwi wedi profi'r cynnwrf sydd
yn rhythym herciog cerddi cwbl rydd
a'u holl gymhlethtod brau, er gwell, er gwaeth.
Ac eto'n hanner cant dwi'n cerdded traeth
rhwng dagrau cawod ac yn adrodd hon,
a chredu fod 'na rwbath dros bob ton.
Sian Northey
9 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Ymadawiad Arthur
Hen orchwyl annifyr a ddaeth i ran Bedwyr
Sef trefnu cynhebrwng ei ffrind gorau Arthur,
Wrth gael ymgymerwr mi wnaeth gamgymeriad
Dewisodd y cyntaf - un rhad a dibrofiad.
Cychwynwyd yn brydlon o'r t? yn Stryd Gamlan
A gyrru yn araf ond reit igam-ogam
Nes cyrraedd yn ddiogel wrth giat yr amlosgfa,
Yr hers a arhosodd - roedd andros o dagfa.
Aeth Bedwyr i edrych ac yna i ofyn,
A'r ateb a gafodd - cynhebrwng pwysigyn,
Ac yna daeth plismon a'i ordro i symud
A pheidio dychwelyd am dros ugian munud.
Mi holodd y claddwr am rywle i aros
A Bedwyr atebodd - mae'r cei yn reit agos.
'R ôl parcio yn ddestlus aeth allan am banad
Ac yna digwyddodd yr ail gamgymeriad.
A diwedd go sydyn a fu i'r cynhebrwng,
Mi faciodd y cerbyd - y brec wedi gollwng,
Yr arch lithrodd allan a disgyn i'r afon,
Ymadawodd Arthur felly i'w Afallon.
Rhys Llwyd
8 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Pris
"Ei di â mi, 'leni i L?n?
Rhown y dydd i'r hen dyddyn.
Fel trwsiai nain, trwsiwn ni
y giât, a'r ardd ac ati.
Dwedwn hanes y ddresel
a lluniau'r ddau arni'n ddel.
Ar dân yn ddau frawd yno
codwn a chanwn dri cho',
uwch y môr ein hachau maith
a ganwn fwy nag unwaith.
Ddoi di â mi nôl o'r ddinas"?
"Mae'r t? wedi ei werthu was."
Mei Mac
9 ½ pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Pris
'T? Lôn' sydd eto 'leni
Tu hwnt i dy boced di.
Bwthyn yn Ll?n, a'i lleiniau'n
Drysorau gwag, drws ar gau
Ac, o raid, rhyw freuddwyd gwrach
Yw "t? ni" i mi mwyach.
Hil ar werth. Cadarnle'r iaith
Sy'n annog Saeson uniaith;
Holi'r pris, hawlio'r preswyl
Yn un giang, Sadwrn a g?yl,
A chyflog un gymdogaeth
Yn ei dro ond cwt ar draeth
Annes Glynnn
9 ½ pwynt
Pennill Ymson wrth blannu coeden:
Rwyf yma'n chwilio'n ddyfal
am le i blannu hon,
i wneud fy rhan i sicrhau
yfory i'r ddaear gron.
Mi blanna i hi dwi'n meddwl
lle nad oes olau'r wawr,
Mi blanna i hi yr eiliad bydd
George Bush yn plygu i lawr.
Mei Mac
9 pwynt
Pennill ymson wrth blannu coeden:
Gobeithiaf fod hyn o gyfraniad
I'th ffotosynthesis di
Yn caniatáu i ti helpu
Â'm hanadl einioes i.
Meirion Jones
8 ½ pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
America
Hen gynnen sy'n gwahanu
Ac yn dal mae gwyn a du.
½ pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Hen gynnen sy'n gwahanu
Teulu o hyd - toeau lu.
½ pwynt
Englyn Cywaith: Gardd
Mynwent ar Sul y blodau.
Hardd, mor hardd yw ei gwlâu hi - yn gannoedd
dan wisg wen y lili,
a'i moroedd o rosmari,
Ond o'i mewn, mae ffrind i mi.
Guto Dafydd
9 ½ pwynt
Englyn cywaith: Gardd
(Is-deitl - Tyfiant plentyn)
Yn gyfrin mae'n egino - a gwyliaf
un gwylaidd yn deilio
Profaf bleser y prifio
a daw hau ei hadau o.
Llyr Gruffydd
8 ½ pwynt
Telyneg: Euogrwydd
(Gan gofio geiriau Branwen)
Un noson rhwng ynysoedd,
Rhwyfodd hon drwy donnau
Ei dagrau, a'r deigryn
Hallt holltodd
Eto ac eto, ac mae un atom
Yn wall yn fy nghelloedd.
Gwall a wna imi golli
Cwsg, a phob dyn yn cysgu.
Yno'n nam, ac o'i herwydd rwy'n amau
Yn dal, mai o'm plegid i...
Sian Northey
9 pwynt
Telyneg: Euogrwydd
Pe bawn i wedi gwrando
ar guriad cynnes haf,
a gweld mai llanw yfory
oedd yn crwydro'r traethau braf...
A phe bawn wedi sylwi
ar wên ac osgo'n well
a dal, yn eiliadau'r llygade',
y golau dros orwel pell....
Ni fyddwn heddiw'n gwylio
y trai dros wely'r lli,
na theimlo o gylch fy nghalon
y llaw na chyffyrddais i.
Elinor Gwynn
9 pwynt
Englyn ar y pryd: Cariad
Weithiau daw fel syrth y don - yn gusan,
Weithiau'n gas, yn deilchion,
Weithiau yn frath yn y fron;
Dirgelwch ydy'r galon.
Guto Dafydd
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 80 ½
Englyn ar y pryd: Cariad
Owns a hanner o syniad - a galwyn
O galon dan deimlad.
Troedfedd o ymarweddiad
A mwy o du Mam a Dad.
Rhys Llwyd
8 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 78
Cynigion ychwanegol:
Cwpled Caeth ar fedd ci:
Tawel ei genel, ac o!
Pwy ?yr beth wnaf heb Pero...
Heb dennyn tynn gwibiodd Tos
O'r Wern i erwau'r hirnos.
Yn y gist yma yn gudd -
rhin Gelert, yr hen gelwydd
O'r bedd yn driw i'w wedd o
Gelert a ddeil i'n gwylio.
Ci defaid
Un ufudd a ddatguddia
Galwad uwch y Bugail Da.
Ar geir roedd Mot yn dotio;
Hen dren cas oedd ei dranc o.
Limrig yn ymwneud â cholli pwysau:
Wedi i Mai atal y menyn
Aeth mor fain â waffer yn sydyn
A phan lyncodd hi "prune"
Fe synnech chi'r swn
Y dynion yn gadael Brynsiencyn
Rhoi'r gorau i fwyta bwyd afiach
Wnaeth Bet i gael bod yn ysgafnach,
Yfed llawer o dd?r
Oedd cyngor ei g?r;
A'i phwrs hi yn siwr sydd yn drymach.
Englyn yn cynnwys y gair 'Gelyn'
"Llais" a "Plaid" sy'n llaesu plwy' - a'u haddysg
Yw'r wedd sy'n rhanadwy;
Dwy blaid ansad mewn adwy,
Toc, daw gelyn rhyngddynt hwy.
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Pris
Llefain dros Rufain yr wyf
A nadu am gwymp ydwyf;
Gweld mawredd yn anweddu,
Problemau'n lleng, pallau'n llu,
A'r gwir sy'n llithro i'r gau
O fynnu is-safonau.
Hyblyg yw pob disgyblaeth,
Dim ond gair yw'r gair sy'n gaeth,
Yr hunan yw'r hunan hy,
Daliadau o deledu;
Rhyddid dry'n benrhyddid rhwydd
Heb olrhain atebolrwydd.
Pennill ymson wrth blannu coeden:
Mor ir yw'r ddeilen 'leni
Ym môn y canghennau, ond sgwn-i
A ?yr mai ei thynged hi
Yw'r rhwd sy'n hydref drwyddi?
Ailgylchu
Mi rof i'r gwraidd rhag iddynt nychu
Bryd da o dail er mwyn ailgylchu
Yn sydyn gwelaf, tra felly'n trin
Un o fanteision y llyfu tin.
Tad George Washington sydd yma
Rwy'n falch ohonot geiriosen
A thyfa'n gref a hir;
Fe dybiaf y byddi'n sefyll
A marw dros y gwir.
Englyn cywaith: Gardd
Er atal cwymp petalau - drwy wario
Ar ireidio gwreiddiau,
Ofer yw, â'r ddaear frau'n
Un haint ym mhridd hen lawntiau.
Ei haenau sy'n gynghanedd - a'i harddwch
sy'n werddon o fawredd.
Un awdl yn llawn huodledd,
Ac yn gân sy'n gain ei gwedd.
Telyneg: Euogrwydd
Mae yno'n nwfn y galon,
Mor hen ag Adda'i hun,
Yn garreg yn ein hesgid,
Ol cainc ar ffram ein llun.
Daw yno i'n poenydio
Mewn cais ar gongol stryd,
Wrth ddiffodd gwae'r teledu
A phwyso'r botwm 'Mud'.
Rhwng geiriau brwnt, difeddwl
A gweithred rad, ddi-hid
Bydd yno'n frath cydwybod
A ninnau'n wg i gyd.
Deil yno i bigo, pigo
Ein crachen friw, mi wn,
Ac ni chawn eli i'w leddfu
Nes awn o'r bywyd hwn.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

