Manion o'r Mynydd vs Bro Alaw.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y drydedd rownd o gyfres y Talwrn.

Manion o'r Mynydd.

Manion o'r Mynydd.

Bro Alaw.

Bro Alaw.

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Hen'

Ni fedir ond gofidiau
O hen gownt sydd heb ei gau

Cynan Jones
8 ½ pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Hen'

Yn ôl y doeth ganol dydd
Hen yw pob papur newydd.

Arwyn Roberts
8 ½ pwynt

Limrig yn ymwneud â hobi/p>

Cael carchar am oes wnaeth y Person
Feichiogodd yr holl wragedd gweddwon,
Er iddo fo daeru
Nad oedd o yn haeddu
Ei gosbi am garu cymdogion.

Edgar Parry Williams
8 ½ pwynt

Limrig yn ymwneud â hobi:

Mae dynes yn ardal Brynsiencyn
A'i hobi yw gafael mewn trempyn
A mynd am y caeau
Gan esgus hel wyau.
'Dwn i'm be' neith hi efo nhw wedyn!

Ioan Roberts
9 pwynt

Englyn yn dechrau â'r gair Unwaith'

I riant yn Szechuan: Deddfodd awdurdodau'r Chwyldro Coch yn Tseina mai un plentyn yn unig a gai ei eni i bob teulu

Unwaith yr oedd dihuno - yn wawr ros
Dros un crud y Chwyldro,
Unwaith ei holl obaith o,
Unwaith 'roedd dinas yno.

Nia Watcyn Powell
9 pwynt

Englyn yn dechrau â'r gair: "Unwaith":

Unwaith bu'r hen fam-ynys - yn rhannu
Ei grawn â'r anghenus,
Nes i'r fan, pob llan a llys
Droi'n bair i'r estron barus.

Richard Parry Jones


9 ½ pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Profiad Od

Un diwrnod tra ro'n i'n torheulo mewn 'synlownj' wrth dalcen y ty
Daeth soser fach arian drwy'r awyr a gafael yn dynn ynof fi!
Ar ei bwrdd 'roedd 'na filoedd o 'êlians', a morgrug o blantos bach gwyn
Yn gwibio o gwmpas y soser ac yn rhythu arnaf yn syn!
Ac yna daeth Sama Ben-Êlian' i ddweud mod i'n myned ar daith
I wlad oedd ymhell iawn o'r ddaear ac y byddai'r arhosiad yn faith.
Ces gwmni aelodau Bro Alaw oedd mewn 'babygro's' gwyrdd bob un.
A phwy oedd yn llywio'r llongofod? Wel Gerallt y Gremlin ei hun!
Y cyntaf i'm weld ar ôl glanio oedd Cynan yn felyn ei wrîd-
Ar weddi mewn llond cae o fadarch* a rheiny yn tyfu 'ffwl sbîd'!
A draw yn Mhrifysgol y dalaith yr oedd Nia yn sefyll yn stowt
Yn dysgu'r draws fantach i 'sdiwdants' E T a phob un yn debyg i 'sbrowt'!
Ac yn alltud a phell iawn o Groesor gwelais Edgar mewn rhyw fath o ?yl
Yn gwerthu limrigau mewn fframiau gan greu peth wmbreth o hwyl.
Mi fum yno am fisoedd yn teithio a gweld rhyfeddodau gwlad 'Sboc'
Ond dyna beth od.- Pan ddes i yn ôl doedd ond dwyawr 'di mynd ar y cloc!!

*hobi ddiweddaraf Cynan yw tyfu gwahanol fathau o fadarch! Blasus iawn!M

Phyllis Evans
9 ½ pwynt

Cân [heb fod dros 20 llinell]: Profiad Od

Rwy'n awr 'n ei wneud yn hysbys -
Ces brofiad od echrydus:
Gweld UFO'n dod rownd y tro,
A do, gwnes lond fy nhrowsus.

Daeth dyn bach gwyrdd a phorffor
Mewn siwt, un sbesial ordor,
Pum esgid brôg, a math o glog
A balog - ar yr ochor.

Roedd ganddo ben tri-ongol,
Dim trwyn, ond ar y canol
Roedd asgwrn cry' ac un glust ddu
Ac felly - hanner sbectol.

Gofynnodd i mi wedyn
lle'n hollol oedd Brynsiencyn,
A gwranda, wash - mi dala'i gash
I weld mwstash y Meuryn.

Rown i'n fy llofft yn crynu
A daeth y Doc i fyny;
Yr oedd y g?r yn berffaith siwr
'Sa mwy o dd?r 'di helpu.

Geraint Jones
10 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Yfory

Dy wyneb ddydd dy eni
Ydyw Mai o hyd i mi,
Haul haf, a diferion gwlith
Hyd eginiad y gwenith,
Daw i mi dipiadau mân
Amser yn gamau simsan
A gweld, yn ddeunaw i gyd,
Y ddwyael o addewid.
Ond gwiber ydyw gobaith
A dawns na fynnaf yw'r daith
Ar dy ôl trwy'r gwyn a'r du;
Fe ohiriaf yfory.

Nia Watcyn Powell
10 pwynt

Cywydd [heb fod dros 12 llinell]: Yfory

Yng ngardd gobaith ein hiaith ni
Mae henwr yn cymoni;
Mae wrthi, wrthi o hyd
Yn ddiddiwedd o ddiwyd
Yn hau'r had yn naear hon
A'i hagor i'w blanhigion
Gan ddyheu ail-greu yn gry'r
Olyniaeth yn y plannu.
Rhoi ei ddawn a gorau'i ddydd,
Rhoi i'w ardd wna o'r wawrddydd
Hyd yr hwyr, cans g?yr y gall
Yfory droi'n haf arall.

Richard Parry Jones
10 pwynt

Pennill Mawl / Dychan: Wales Today

The world is there all the way - according
To Cardiff each weekday,
With that big clock and Brockway,
Oh! I do likes Wales Today.

Nia Watcyn Powell
9 pwynt

Pennill Mawl/Dychan: Wales Today

Mae na dagfa unwaith eto ar y pyffin rowndabowt
A Morgannwg wedi colli, stadiwm newydd ond ôl owt,

Dinas Bangor yn ddi-symud o Lan-dègai i Trî-bôth
A phroblemau'r Undeb Rygbi, yn ddi-ddiwedd - 'run hen sgôth...
Ffatri'n cau yn Abergloddfa, Tesgo newydd ym Mlaen-nant,
Derek Brockway yn darogan tywydd fyddai'n gwylltio sant.
Ddoe a heddiw, 'fory eto, fe geir mwy o'r un diwn gron
Cymru Heddiw? Na, nid Cymru rhaglen Wales Today 'mo Hon.

Ioan Roberts
9 pwynt

pyffin rowndabowt - enw Wales Today ar y gylchfan fu'n cael ei thrin yn Llanfairfechan - gyferbyn ag Ynys Seiriol Mae ynganiad y cyflwynwyr o Landygái a Threborth yn ddoniol y tro cyntaf ond wedyn ...

Ateb llinell ar y pryd:

Dwndwr y dwr sy'n daran
Di-drai i rai ar wahan.

½ pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Dwndwr y dwr sy'n daran
Argae mwy yw'r cerrig mân.

½ pwynt

Englyn Cywaith: Crefydd

Weithiau, llwyd iawn yw'r brethyn - ac weithiau
Rhy goeth yw'r dilledyn,
Ond ofer pob edefyn
O wasgu Duw mewn gwisg dyn.

Cynan Jones
8 ½ pwynt

Englyn Cywaith: Crefydd

Ansicrwydd yn ei sicrwydd sydd - a mae'r
Amheuon ar gynnydd,
Ond cysur yw'r cyffur cudd
I eneidiau annedwydd.

Geraint Jones
8 pwynt

Telyneg: Colled

Gwynedd 2008

"Mae angen chwa
o awyr iach
yn y Winllan"

Medda' Nhw.

"Mae angen
poeri
tipyn o synnwyr
i wyneb
y gwinllannwr"

Medda' Nhw

Ac felly
dan gysgod
clogynnau o ddefnydd brau
dyma gipio'r
gweithwyr

A chwalu'r mur.

Ac yna
Tra'n clochdar
yn uchel
a churo cefnau
ei gilydd

Ni welson' Nhw,

Tros eu hysgwyddau
balch,

Y moch

Yn llygadu'r bylchau..........

Cynan Jones
9 pwynt

Telyneg: Colled

[Ar ôl gweld adroddiad papur newydd am y daeargryn yn Tseina a dwy efaill mewn cadwyn o blant amddifad yn cael eu harwain i rywle saff, heb wybod beth oedd tynged eu teuluoedd. ]

Dwy efaill ar lan afon.

Bu rhywun yn ysgwyd eu byd,
yn gogrwn reis y ddaear
a'u didoli - y dideulu.

Dwy waglaw yn drwm o drallod
ger y d?r
ac un yn plygu
i hir ymolchi
am fod lluniau yn ei llwch.

Nid oes yma sebon na chadach,
na drych ond adlewyrchiad
wyneb ei chwaer...
ail-weld yn ei llygaid hi
holl adleisiau'r colli,
a dychryn di-air dwy
yno'n dynn dan groen y d?r.

Dwy efaill ar lan afon
yn gwasgu gwên
argae gofidiau.

Sian Owen
10 pwynt

Englyn ar y pryd:Y Wasg

Hanner gwir yw'r du a'r gwyn -
hanner gwir,
A'u geiriau fel menyn.
Yn ystwyth i'w hymestyn,
Hanner dweud, a chredu hyn.

Phyllis Evans
9 ½ pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 82

Englyn ar y pryd: Y Wasg

Ar ôl clywed fe redant - â'u honiad
A hwnnw yn bendant.
Yna cawn rhyw ddeg y cant
O warth, er mwyn y gwerthiant.

Sian Owen
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU:83 ½

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Hen'

Y mae mur uchel rhwng buarth Ysgol y Manod Blaenau Ffestiniog a Mynwent Capel Bethesda.

I chwemlwydd swil pan fo'r wawr yn cilio
Daw hen hen angen am fur i'w ddringo.

'Roedd ei lliw'n rhy hardd i'w lles
A'i gwen mor hen â hanes

Limrig yn ymwneud â hobi/p>

Un hobi sydd gan yr hen Berson
A hynny yw trinl gwragedd gweddwon,
Pan gaiff ei geryddu
Mae'n barod i daeru,
Mae'n rhaid i mi garu 'nghymdogion.

Mi wyddoch yn iawn mai busnesa
Yw hobi hen ddvnes drws nesa,
Mae'n gwylio y stryd
Drwy'r ffenest o hyd
Heb golli dim byd, ond ei ffrindia.

Un hobi sydd gan yr hen Berson
A hynny yw caru cymdogion,
Y broblem fawr ydi
Mae merched go secsi
Bob amser sy'n codi ei galon.

Mae Cynan yn hoff o englynion
A Phyllis a gâr delynegion,
Mae canu cywydda'n
Ail-natur i Nia.
Limriga i minna sy'n ddigon.

Prif hobi dyn du o Landudno
Yw dangos i bawb beth sydd ganddo,
'Rôl llacio ei fresus
Ac agor ei drowsus
Mae'n hysbys mai blwmars mae'n wisgo.

Rhoi polish ar frasus a'u rhwbio
Yw hobi dyn diwyd o'r Bermo,
Un noson yn fwyn
Rhoddodd bolish ar drwyn
Ei forwyn nes mae o'n disgleirio.

Englyn yn dechrau â'r gair Unwaith'

Unwaith bu imi honni - y rhoddwn
Yn rhwydd fy hun iddi,
Rhoi fy angerdd a'm cerddi
Un waith - ac wel, dyna ni.

Natalie du Toit oedd y person anabl cyntaf i gael ei dewis i gystalu yn y gemau Olympaidd yn hytrach na'r Paralympics. Bydd yn cystadlu ar y nofio pellter hir heb gymorth coes artiffisial er gwaetha'r ffaith iddi golli ei choes o'i phenglin o ganlyniad i ddamwain beic modur yn 2001.

Telyneg: Colled

Ni welsom ni mohoni yn ei phoen,
a dagrau'r ddamwain
yn llosgi cotwm gwyn ei gwely.
Ni welsom law ei mam
yn sychu chwys ei gwewyr
ar ei thalcen syn.
Ac ni wyddem am yr ing
yn syfrdandod eu cofleidio.

Ond clywsom ni y sgrech fu'n rhegi'r
graith;
a thraw pob cic
a drawodd dresi'r tonnau.
A chlywsom am y ffydd
fu'n pwytho'r siom.
A'i dewrder yn y dwr.

A gwelsom ni y wên
a goncrodd wae,
Y wên o glod
drwy hunllef y dathlu.

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Hen'

Onid bwrn yw newid byd?
Hen wyf a bodlon hefyd.

Fe wn i fod cyfiawnhad
I druan mewn hen drawiad.

Mor hir y bu'r Gymru hon
Ar aelwyd hen gwerlyon.

Ni all hen wlad fy nhadau,
heb yr iaith, ddal i barhau.

Anodd yw tynnu anian
o hen gi wêl gyni'r gwan

Limrig yn ymwneud â hobi:

Fe gafodd rhai ddawn malu awyr
A'u hobi yw gwneud hynny'n drylwyr,
Ac am yr holl falu
Fe gaiff rhain eu talu
Oherwydd eu bod nhw'n Gynghorwyr!

Prif hobi pwysigion (a'u gwragedd):
Cofnodi pob munud o'u mawredd -
Cofiannau sy'n chwyddo
Bob dydd efo'r ego,
I'w gwerthu yn Tesco'n y diwedd.

Mae'n fwriad cael cerflun yn gofnod
Urddasol o Cledwyn, rhyw ddiwrnod,
Ond safwch ac oedi
Gynghorwyr Caergybi -
A chofiwch am hobi'r gwylanod!

Englyn yn dechrau â'r gair: "Unwaith":

Unwaith daw llid o'r genau - a throi'r dig
Yn gerrig o eiriau,
Anodd tawelu'r tonnau,
Rhy hwyr yw edifarhau.

Unwaith bu hwn yn enwog - yn strytian
Drwy'r stryd fel hen geiliog,
A heddiw mae'n anfoddog,
Yn fwy o ddryw na'n gyw gog.

Unwaith bûm innau yno - yn nhir neb
Drwy'r nos yn clustfeinio
Am s?n c?n ar lwybrau'r co'
A'r ias yn sgrech y treisio.

Englyn Cywaith: Crefydd

A oes diben amgenach - i fywyd?
Nid wyf fi'n siwr bellach,
Ond fe wn mai'r weithred fach
Wna'r g?r yn ?r rhagorach.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.