Y Glêr vs Y Garfan.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y drydedd rownd o gyfres y Talwrn.

Cwpled caeth yn cynnwys enw peldroediwr:

Tristaf gweld Gazza fel g?r
Wedi'r hud fel peldroediwr.

Osian Rhys
8 pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys enw pêl-droediwr

Y mae rhwng y "bêl a mi"
alar i bob un goli.

Meirion Jones
8 ½ pwynt

Pennill Mawl/Dychan: y Cyfryngau

Mi brynais bapur newydd yn ol fy arfer,
Papur Saesneg gan rhyw foi ar gornel stryd,
A darllen am dalu dyledion yn yr Ardd
A Chanolfan fawr y Bae sy'n werth Y Byd.

Hywel Griffiths
9 pwynt

Pennill Mawl/Dychan: Y Cyfryngau

I lyfis y brif ddinas
rhown glod am fod mor ddoeth
a rhoi i'n Senedd sylw
fel cyfathrachdy noeth.

W. Dyfrig Davies
8 ½ pwynt

Englyn yn cynnwys 'Dihunais wedi hynny'

Es a merch ddel i fy ngwely - un nos,
Wedyn es i gysgu,
Dihunais wedi hynny
A gweld ei bod yn fam-gu.

Iwan Rhys
8 ½ pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell: Dihunais wedi hynny

Rhyw uniad ddaeth o rannu'n medi ni
a neb yn newynu.
Byd teg, a hedd ar bob tu -
dihunais wedi hynny.

Meirion Jones
8 ½ pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell):Atgofion

O steddfod i steddfod yr es 'da 'mam a 'nhad
Gan droi oddi ar yr hewlydd unffurf, mwy,
Bob Sulgwyn ac Awst i lonydd bach y wlad
A dod i adnabod sawl afon a dyffryn a phlwy'.
Ro'n i yng nghefn y car yn edrych mas
Yn gweld pob tref yn bell, pob hewl yn hir,
Pob bryn yn Wyddfa dan fy awyr las,
Pob gorwel drwy'r ffenestri'n ben draw'r tir.
Ond nawr, a minnau'n gyrru 'nghar fy hun,
Yr Wyddfa sydd rhyw chydig bach yn llai,
Mae'r eisteddfodau'n mynd o un i un
A dim ond anadl sydd rhwng llanw a thrai.
Yn sydyn, sylweddolaf, a chaf fraw,
Am fod pob gorwel bellach yn fy llaw.

Iwan Rhys
9 ½ pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Atgofion

Meddyliais lawer tro paham eu bod
fel edau wedi'i weu ym mhleth fy myw,
a'u tensiwn ambell waith yn mynd a dod
gan dynnu dagrau balch drwy'r brodwaith lliw.
A pham fod angerdd rhyfedd yn fy ngwaed
yn magu ynof wres rhag oerni'r oes
i herio'r awel estron, gyda nhraed
yn camu mlân yn gry trwy'r gwyntoedd croes?
A pham fy mod yn mynnu erbyn hyn
parselu'r etifeddiaeth yn fy mhlant
a'u lapio hwy ill dwy mewn plygiad tynn
o gariad at y Gymru hon a'i thant?
Mae pabwyr cannwyll ddoe yn wyn o dân
a llusern hen Gymreictod yn eu cân.

Beti-Wyn James
9 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Pentref

Yn Nhryweryn Eryri
Yn nechrau'r haf welaf i
A'i chopaon dyfnion, du
Ar yr wyneb yn crynu,
Ym mhyllau hon mae holl led
Eryri oriwaered,
Mynyddoedd o'i mewn heddiw
I'r seler oer fesul rhiw
A llechwedd, ei holl lechi
A'i muriau mawr, mwya' hi,
Yn slipio, llithro i'r llyn,
Eryri yn Nhryweryn.

Eurig Salisbury
9 ½ pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Pentref

(Epynt)

Tra'r nos dros dir yr Hirllwyn
a gwn hyd wndwn yr ?yn;
tra'r hed taflegrau trwy'r ha'
yn uwch na'r Pentre Ucha';
tra gwag y Babell bellach,
y Waun Fawr a'r Neuadd Fach;
a'r llo ar allor y llan
yn ateb galwad satan;
tra hyn, tra herio einioes
yw y gred ym Mwlch y Groes,
i'r fynwent rhowch bob plentyn -
cardod i Herod ei hun.

Mari Lisa
9 ½ pwynt

Limrig yn ymwneud â iechyd

Es i'r stafell aros i aros
Ac aros ac aros ac aros,
Ac erbyn daeth cyfla'
Y gael fy nhro inna'
Ro'n i'n sgerbwd ers mwy na phythefnos.

Osian Rhys Jones
8 ½ pwynt

Limrig yn ymwneud â iechyd

Bu Twm yn ddihwyl ers rhai dyddie,
ac awydd gweld doctor y pentre'.
Fe gafodd ei slot
am naw ar y dot,
dri mis i ddydd Iau yn y bore.

Beti-Wyn James
8 ½ pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Nid cegin sy'n gwneud cogydd
Ond mae o'n cwcio'n y cudd.

Ateb llinell ar y pryd:

Nid cegin sy'n gwneud cogydd
Ond wir, dwi'n trio bob dydd.

1 pwynt

Englyn Cywaith: Gwarth

(yn Awstria)

Ni welwn ni drwy welydd - yr enaid
mor wyn ei barwydydd,
erchyllderau'r seiliau sydd
i lawr yn ei selerydd.

Hywel Griffiths
9 ½ pwynt

Englyn Cywaith: Gwarth Awstria

Hi'r chwaer heb eiriau chware i rannu
cyfrinach ei hunlle -
yn ei chlais mae llais y lle
yn hyglyw yn y gwagle.

Meirion Jones
9 pwynt

Telyneg: Difrod

Teg fyddai tybied ymddiriedaeth
A deall sy'n ddyfnach na d?r
Wedi canrifoedd eu cyfathrach.

Ond mor anhraethol o araf
Yw erydiad swae'r cariadon -
A thynerwch eu mwythau yn arw.

Mae'n hindda, ac mae fel petae pob ton
Yn sibrwd yr anwiredd tyneraf
i glust yr un bae sy'n annwyl,

Ac mae pob cusan fechan o fôr
yn edrych dros ysgwydd y tir.
Ac wedi pob coflaid mewn cesail

Tynna'r don yn ôl, a thynnu
pob gronyn o hiraeth gyda hithau -
na fydd y traeth fyth yr un fath eto.

Osian Rhys Jones
10 pwynt

Telyneg: Difrod

Pelydryn o haul
yn ffrwydro'n fil o berlau mân
ar gwarel briw y ffenest,
gan oleuo tu mewn i'r hen gapel oer:

Lle mae
paent yn rheg ar y pulpud;
perfedd yr hen gloc ar chwâl
â'i wyneb yn deilchion ar lawr y sedd fawr;
Y styllod a fu'n gefn i weddiwyr ddoe
fel cyrff Belsen
yn domen blith draphlith;
A llyfrau'r addolwyr
wedi eu rhwygo'n heriol.
Yn y gornel
llysnafedd ac ysgarthion dynol
yn wawd ar ffydd y ffyddloniaid.

Ond
o syndod a thristwch
eitem fer y newyddion,
hedodd cymuned a chymdogaeth
yn ôl i droedio'r llwybr cul.
Yn unedig
i glirio'n dawel,
glanhau a thrwsio,
I ail godi to,
dyblu'r gân ac adfer ffydd,

A'r haul wrth wenu
drwy wydr y ffenest,
Yn cynhesu'r galon lân.

W.Dyfrig Davies
9 pwynt

Englyn ar y pryd: Gwydr

Gwelaf, drwy'r paen, glafdir pell - y tanio,
ond 'rwyt ti'n fy nghymell
i weld, drwy'r ffin, amlinell
anelwig iawn o le gwell.

9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 81 ½

Englyn ar y pryd: Gwydr

Y mae 'mhob rhan o'm mywyd un hanner
sy'n llawn o ddedwyddyd.
Ac un sydd yn wag o hyd
un ofer o wag hefyd.

Mari Lisa
9 ½ pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 81

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys enw peldroediwr:

Ceisias, ni lwyddais, cael iâr
I woblo fel Bruce Grobellar.

(wedi gweld llun o hen dîm pêl-droed Crannog)

Dacw'r gamp, ai Dic yw'r g?r?
Er ei oed, mae'n beldroediwr!

O'r smotyn ... Bodin â'r bêl ...
O'r Och! Mae lot rhy uchel!

Yn ôl steil ei gyrls du o
Dynes yw Ronaldinho.

Pennill mawl/dychan: y Cyfryngau

I fod yn hac mi ddysga i'r
Holl sgiliau sydd yn cynnig bri -
Rhaid 'mi feddwl, cyn rhoi clod,
Ar y person yma, be' sy'n bod?

Englyn yn cynnwys 'Dihunais wedi hynny'

Clywyd Machraeth yn traethu - 'aed a mi
Ar hast mawr i'r sbyty,
Dihunais wedi hynny
Ac wrth f'ochor, doctor du!'

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Pentref

(sef pentref yr Ystog, Sir Drefaldwyn, dafliad carreg o'r ffin)

Yn rhesi del yr Ystog,
o gylch y tai gwyngalchog,
drwy'r dydd mor llonydd yw lliw
arwyddion Cymru heddiw,
yn naws ddoe mae'n haws i ddyn
argoeli saethau'r gelyn.

Ond er hyn, bu'r cloddiau drain
yn ddaear dan ffyrdd Owain,
down ni yn gatrawd newydd
fel un i'w ddilyn, rhyw ddydd,
hyd y lonydd dolennog
a rhesi del yr Ystog.

Limrig yn ymwneud â iechyd

Mi fûm i yn taeru a thaeru
Gyda'r doctor fy mod i yn gwaelu,
Mi daerais cyhyd
Nes cwympo yn fud
A marw ar y ffordd i'r ysbyty.

Roedd Jac yn or-hoff o dorheulo
Torheulodd nes gwywo a chrino,
Erbyn hyn, wyddoch chi,
Mae ar ben y TV,
Mewn Pot Puree yn perarogleuo.

Cyfogodd fy mabi chiwawa
Dros gefn y rotweilar drws nesa,
Dyma hwnnw wedyn,
Yn hollol amheuthun,
Yn brathu'r ci bach rhwng ei goesa'.

Roedd ceffyl Nain Jôs yn wahanol,
Nid oedd ganddo fo ond tair pedol,
Er bod ganddo trwy'i oes
Un yn fwy na thair coes;
Mae'r cardis ma'n deit yn Ffostrasol!

Roedd hen ddynes o ochrau Rhydlios
Oedd yn mynd i weld meddyg bob wythnos,
Ond diolch i gyfrwystra'r
Doctoriaid a'u rhestra
'Mond unwaith y mis mai'n ymddangos.

Mae 'na rai sydd yn cael un y diwrnod,
Ac eraill sy'n cael llawer gormod;
Ond faint ydw i
Yn ei gael medda chi?
Wel dio'm i chi nadi'r cnonod.

"O diar diar", wrth y doctor medd finna,
"O diar diar, diar diar", medd ynta,
Roedd yn swnio reit glyfar
Wrth ddweud diar diar
Felly derbynais ei air a mynd adra.

"O diar diar", wrth y doctor medd finna,
"O diar diar, diar diar", medd ynta,
Dwi'n ama, oherwydd
Ei broblem lleferydd,
Os daw byth at y pwyntia' pwysica'.

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys enw pêl-droediwr

Ei ran a wna Wayne Rooney,
Hyn wna o hyd, am wn i !

Pennill Mawl/Dychan: Y Cyfryngau

"Rhaid i'r film gael jeopardy;
rhaid cael sex a stori great!
Actorion amlwg - famous...
a rhan i'm brawd, ei ffrind a'm mate!"

Os methu â chyfathrebu
 ni a wna'n gwleidyddion,
Mae bach o ryw ar S4C
O'r senedd, yn hawlio'r newyddion.

Mae cymaint o sianelu niws
a'r un stori sy' da nhw'i gyd!
A phawb yn dweud eu dweud trwy'r dydd
ac yn dweud eu dweud yr un pryd!
Gwrandawaf newyddion un sianel
cyn gwibio i'r llall - ond cam ffôl
yw clywed yr union hanes
a glywais ddeng munud yn ôl.
O rhowch i mi ond un fersiwn
o niws y dydd ar y bocs,
a phawb arall yn dilyn Subtitles
o'r fersiwn Gymraeg - bydd dim ots!

Mor hawdd yw eu dylanwad
ar ffordd o feddwl dyn,
mae swyn yn s?n eu geiriau
a hud ym mhob rhyw lun.
Os yw eu lleisiau hwy yn groch?
Twt!! Fe wasga' i y botwm coch!

Englyn yn cynnwys y llinell: Dihunais wedi hynny

Dwy ferch ddel sy'n fy ngwely, yno'n fyw
yn fawr ac yn gwenu.
Dwy rhy dynn mewn lledr du -
dihunais wedi hynny.

Limrig yn ymwneud â iechyd

Roedd y cyri, i Wiliam, yn ormod,
cafodd boen yn ei fol a rhyw gryndod,
fe aeth i'r t? bach
heb deimlo'n rhy iach,
bu'r profiad yn un o ollyngdod.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.