Crannog vs Bro Ddyfi.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y drydedd rownd o gyfres y Talwrn.
Crannog.

Bro Ddyfi.

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'calon':
Dros y swnt tu hwnt i'r tes
Yn y galon mae Gwales.
Owen James
8 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'calon' :
Ni all hwyl yr wyneb llon
Wir gelu gwaeau'r galon.
Dafydd Wyn
8 ½ pwynt
Pennill Mawl/Dychan: Camera Cylch Cyfyng:
O gwmpas yr archfarchnad
Mae'n gamerâu i gyd
A'r cwmni'n gwneud yn sicr
Na chollant hwy ddim byd.
Ond yn y pentref bychan
Lle'r oedd 'na siop neu ddwy
'Doedd yno yr un camra
Yn gwylio'u lladrad hwy.
Dai Jones
9 pwynt
Pennill Mawl/Dychan: Camera Cylch Cyfyng
Mae Camera CC yn fy mhlesio,
Fel lleidar, caf ddwyn heb ofidio,
Am nad oes 'run plisman
Na chamera yn unman
Tu mewn i'r Cylch Llydan i'm gwylio.
Elwyn Breese
8 ½ pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell: 'Rhyw ladd yn rhywle o hyd'
Y Duw Byw, o greu y byd yn Eden,
Ydyw Awdwr Bywyd;
Er ei fwyn Ef mae hefyd
Rhyw ladd yn rhywle o hyd.
Idris Reynolds
9 pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell: 'Rhyw ladd yn rhywle o hyd'
O anheddau'n dedwyddyd - fe welwn
Wae'r fwled, a dwedyd,
"Rhyw ladd yn rhywle o hyd!"
A'i rannu - am ryw ennyd.
Gwilym Fychan
9 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell) : Breuyddwyd (io)
Ces hunlle pw' nosweth am y wlad lle'r wy'n byw,
Wedd 'na rai wedd yn dala ma' menyw yw Duw!
Wedd 'da nhw ffordd ryfedd o drin'u hen rai,
Yn 'u rhoi mewn Cartrefi a dwgyd 'u tai.
Fe aen' nhw â'ch crys oddi ar eich cefen,
A tae chi heb grys fe gaech ddou dan y drefen.
Fe wnaethon nhw gyfreth bod smoco'n beth drwg
Am fod eich cymdogion yn dwgyd eich mwg.
A wedd sgrîn yn y gornel a llunie pob lliw
A rhywrai yn gweud bod y rheiny yn 'fyw'!
Daeth yr Ewro yn lle Pounds, Shillings and Pence
A chywirdeb gwleidyddol yn lle common sens,
Wedd 'na rai wedd yn poeni am fod yn fwy slim
Ac yn galw am dacsi i'w c?en i'r gym.
A wedd y gwleidyddion yn rhedeg rhyw ras
Lle wedd rheiny wedd miwn yn c'al gweud pwy wedd mas,
Gwleidyddiaeth gynhwysol wen nhw'n galw y peth
( Neu lot fowr o ddwylo yn godro'r un teth)
We nhw'n gweud fod y wlad yn dod mla'n llwr 'i thin.
Un peth wedd yn rong - wen i'n dal ar ddihun.
Dic Jones
9 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Breuddwyd (io)
Wrth wrando ar Dalwrn mewn breuddwyd
Clywais dîm oedd yn berffaith o'r bron,
Cael deg ym mhob cystadleuaeth,
Roedd y Meuryn, am unwaith, yn llon.
Enw'r tîm hwn oedd "Y MIAWIAID",
Rici Hoyw oedd â'r cwpled a'r gân,
Edward H. oedd â chywydd ac englyn
Nas gwelwyd eu tebyg o'r bla'n.
Daeth Wayne bob cam o Gwmderi
I'r tîm, wel do, ar fy ngwir,
Efo llinell ar y pryd nas gwelwyd
Erioed yr un llinell mor hir.
Roedd yr englyn i fod yn gywaith,
A hefyd y dychan a'r mawl
Wedi'u llunio gan un aeth i Baris
I'r Grand Slam - un drwg ar y diawl!
Ond tîm o fewn tîm oedd y rheini,
Mi ddeallais i hyn yn y man,
Mabwysiadwyd y cyfan gan Crannog -
Am fod 'i tîm nhw braidd yn wan.
Hedd Bleddyn
8 ½ pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gelynion
( Carcharor rhyfel yn byw gyda ni oedd Lino Guiardelli )
Dyddiau y gaethglud oeddynt.
Ar gaeau ?d Hendre gynt
Bues i, yn ôl pob sôn,
A Lino yn 'elynion'
Am un haf, pan loywem ni
Yn y ceirch ein picwerchi.
Yn rhoi llaw y naill i'r llall
I wasgu pigau'r ysgall,
A'n galw gyda'n gilydd
I rannu coed 'run cyhudd,
'Run lludded, 'run fasged fwyd,
Yr un hwyl a'r un aelwyd.
Dic Jones
9 ½ pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gelynion
Mae ein Duw'n mynnu dial
Ar y rhai tu hwnt i'r wal
Sy'n trwytho, plagio eu plant
 chelwydd; ni ddychwelant
I'r gad yng ngwlad eu tadau,
I'n bomio'n deilchion; mae dau
Yn oriau'r nos, yn nhir neb,
Yn dylunio'u diawlineb;
Eu ddoe nhw, na ddaw yn ôl,
Yw ffiniau y gorffennol;
Heddiw mae wal ein heddwch
A dur llwyd yn hollti'r llwch.
Tegwyn Jones
8 ½ pwynt
Limrig yn ymwneud â salwch:
Am fod calon dadcu yn gwanhau
Cafodd 'pacemaker' rhad o Dubai,
Nawr bob tro mae'n rhoi cnec
Yn y car mae 'na glec
Ac mae drysau y garej yn cau.
Dewi Pws
9 pwynt
Limrig yn ymwneud â salwch.
Es draw i'r feddygfa un pnawn,
Roedd y 'stafell man aros yn llawn,
Gofynnais - "Shwd mae?"
Medd pawb ond rhyw ddau
Yn ateb i'm cwestiwn - "Dwi'n iawn!"
Hedd Bleddyn
9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd :
Os Syr i'r Frenhines wyt
Dyn od i ninnau wyt.
½ pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Os Syr i'r Frenhines oedd
Idiot i eraill ydoedd.
½ pwynt
Englyn Cywaith: Clo
Gen i mewn stydi mae stôr - o bethau
Na wnaf byth eu hepgor,
Ond er hyn y mae un drôr
A wagiwn - petai'n agor.
Idris Reynolds
10 pwynt
Englyn Cywaith: 'Clo'
(oherwydd cyflwr y muriau, y mae Eglwys Sant Tydecho, Llanymawddwy wedi'i chloi am y tro cyntaf ers canrifoedd)
Â'i hen waliau'n dadfeilio - caled iawn
Cloi'i dôr, ond o'u trwsio
Dychwel a wna Tydecho
Â'i fara a'i win nôl i'r fro.
Dafydd Wyn Jones
9 pwynt
Telyneg : Llythyr
Yng nghornel drôr tywyllwch
Y bore wedi'r braw,
Tudalen pen y dalar
Rhyw ddirgrynedig law,
Heb amlen na chyfeiriad
I'w hebrwng ar ei thaith
A neb i ddisgwyl ateb
Hyd dragwyddoldeb chwaith.
Hywel Rees
10 pwynt
Telyneg: Llythyr
Mae'n rhyfedd na welais mohono
cyn heddiw,
roedd yno o hyd
mewn amlen â'm henw arni,
yn un o fwndel o drysorau
a gadwodd dwylo
gofalus
fy mam.
Prin ei eiriau o'r gwely
di-droi'n-ôl,
dim ond dyheadau
syml tad,
a'r hiraeth am chwarae mig
rhwng canghennau'r coed
gyda'i lodes fach,
ff'reta ar y ffriddoedd
ym mro'i ddedwyddyd,
gyda'i fachgen
dengmlwydd.
Rhy ifanc oeddwn
i gofio'r
trysor hwn,
ond ynddo cefais
gipolwg
ar y g?r tu ôl i'r wên,
a'r tad tu hwnt i'r ffrâm.
(er gwybodaeth, bu fy nhad farw pan oeddwn yn bedair oed)
Ann Fychan
9 ½ pwynt
Englyn ar y pryd: Eco
Fe ddaeth y trai i Seion - ond yr un
ydyw rhaid y galon.
Ac mae seiniau doeau'r dôn
i'w chlywed rhwng y cloeon.
Dai Jones
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 83
Englyn ar y pryd: Eco
Dy chwerthin a'th ffraethineb - a glywaf
yn gloywi dy wyneb.
Heno, Nain, ond does 'na neb
o'r giat i'r garreg ateb.
10 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 81
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'calon':
Os rhinweddol yw golud
Calon lân, fe gân i gyd.
Pennill Mawl/Dychan: Camera Cylch Cyfyng:
Fe welai hwn yn eglur
Bob lleidr yn y lle.
Yr unig un na welodd
Yw'r un a aeth ag e
O gornel stryd un noson,
Sy'n profi ei bod hi'n haws
Tynnu allan lygad
Brawd Mawr na thynnu'r trawst.
Englyn yn cynnwys y llinell: 'Rhyw ladd yn rhywle o hyd'
Lle afiach bellach yw'r byd, - stori drist
Rhyw drais yw ein bywyd,
Eithafiaeth byth a hefyd,
Rhyw ladd yn rhywle o hyd.
Difa'r rhai gwanna' i gyd - fu crefydd
Y cryf ers y cynfyd,
Mae trwy'r glob, lle bo bywyd,
Rhyw ladd yn rhywle o hyd.
Cân (heb fod dros 20 llinell) : Breyddwyd (io)
'Wy'n amal yn breuddwydio am gael pwere Duw
I wneud fy myd yn ddifyr, - a gwella'n ffordd o fyw,
Cael llyged X ray miniog, rhai jest fel Siwperman,
I weld drwy flows y fenyw sy'n byw drws nesa lan,
Cael bod yn anweledig, mynd mewn i'r Steddfod am ddim,
Barddoni gystel â bois Parcnest, a chael mwy o gorone na Jim,
Taenu mantell dros y Teifi fel nad oes na Gardi mên,
Creu ffatri creu asgellwyr a phob un yn edrych fel Shane,
Uno ein timau rhanbarthol fel nad oes na Dwrcyn na Jac,
Cael menyw lot pertach na Rhiannon y wraig, o jawl ma hi'n ishte'n y bac,
Rhwng Gwalia fach a Lloegr- creu ffos i lawr y ffin
A hwylio ein gwlad i'r Bahamas gan ganu GOD save the cwîn,
Ond mae'r freuddwyd agosa i 'nghalon yn dibynnu yn fawr arno FO,
Sef bod Crannog yn cael mynd i'r ffeinal a chael deg gyda'r Meuryn bob tro.
Ond na! ma' hynny yn farus - gofyn am farcie llawn,
Mae'n siwr base naw a hanner yn siwtio Crannog yn iawn,
Ag yffach! wrth feddwl am funud - sdim ots os gawn NI one point t?,
Yr unig beth sy'n bwysig yn awr yw bo NI yn ca'l lot fwy na NHW.
Limrig yn ymwneud â salwch:
'Wy'n sâl yn ysbyty Nantgarw
Yn teimlo yn wan ac yn arw,
Mae'n llygaid ar gau,
Mae 'nghorff fel y clai,
O sorry, 'wy jest wedi marw.
Un sâl am lefafu odd Mafi,
Odd hi'n byw gyda'i bfawd yn y Bafi,
Odd e ddim lot gwell
'Da pob 's' yn troi'n 'll'
A'i enw odd Llam Llimllon Pafi.
D - d - diodde ma Sh - Sh - Sh - Sian,
Ma hi'n ff - ff - ff - ffaelu yn lân
A g - g - gweud dim
Heb swn'o fel hyn,
Ond mae'n iawn pan yn morio mewn cân.
Anghywir yw rhoi yr ac-EN
Ar ddiwedd gair yn lle'r go-BEN,
Sal-WCH yw'r cwb-WL
A 'na chi'r trwb-WL
Wy'n neud e fy hun now and AGen.
Roedd teulu o ardal Treboeth
Yn cynnal eu barbeciw'n noeth,
Ond ffeindiodd merch flewog
Bod ffreio heb ffedog
Rhy agos i'r tân ddim yn ddoeth.
Englyn Cywaith: Clo
Heddiw mae'r hir gaethiwed - wedi llwyr
Dw'llu llwybr ymwared
Fel pan fydd yn rhydd ni rêd
I gyrraedd drws agored.
Er y glaw ar y gleien - a gwywo
O'r Gaeaf bob deilen
Eilwaith fe ddaw yr heulwen
Ar wely oer lili wen.
Telyneg : Llythyr
Y tresi heb eu cribo
A'r brat tu-fewn-tu- fa's
Y llenni heb eu tynnu
A'r sbectol yn ei chas.
Ac amlen drudwy'r pryder
Yn llwch y silff ben tân
Yn disgwyl llygad cliriach
I'w hagor 'nes ymla'n'.
Telyneg : Llythyr
Sgrifennai ef yn gyson
A rhannu, un wrth un,
Pob clec a chlonc y pentre
A'i stori ef ei hun.
Yn awr, er yr hwylustod,
Edliw mae'r sgrîn bob tro
Bod cyfeiriadau'i rwydwaith
Yn hwy na'i neges o.
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'calon' :
Er i wên ein twyllo'n rhwydd
Y galon ni ddwed gelwydd.
Yn y galon dirionaf
Gwn o hyd fod yno gnaf.
Pennill Mawl/Dychan: Camera Cylch Cyfyng
Parodi ar bennill o emyn adnabyddus. Tôn: Clawdd Madog
Os gwylir fi, bechadur,
Bob dydd ar hyd fy nhaith,
Rhyfeddol arf sy'n llechu
I gelfydd wneud ei waith;
Er mwyn safio'n "Democratiaeth"
A chael iachawdwriaeth lawn,
Heb ofni colli'n hawliau,
Brawd Mawr o hyd sy'n iawn.
Englyn yn cynnwys y llinell: 'Rhyw ladd yn rhywle o hyd'
Rhyw ladd yn rhywle o hyd - a edrydd
Am ein brwydro gwaedlyd,
Yn ei boen na welai'r byd
Y marw enfawr mor ynfyd.
Cân (heb fod dros 20 llinell): Breuddwyd (io)
Mae breuddwydion yn datgelu pethau mawr amdanom ni
Mae 'na neges wir symbolaidd ym mhob un, oes, coeliwch fi;
Yn ddiweddar bu tîm Crannog yn cael breuddwydion mawr
Ac fel Joseff gynt o'r Beibl fe'u dehonglaf hwy yn awr.
Nawr, ym mreuddwyd Dic mae ysbryd yn cyhwfan dros ein gwlad,
Nid oes hedd i'w gael yn unman ac mae pawb yn drist eu stad;
Mae'r rheswm am ei ofid nawr i mi yn ddigon clir,
Poeni mae am swydd Archdderwydd, - dyna fydd o cyn bo hir;
A bu Dai ac Owen druain ers wythnosau mewn cryn sioc
Gan freuddwydio bod rhyw fwystfil yn difetha eu holl stoc;
Ond na phoenwch mwy, gyfeillion, mi esboniaf yr holl ffws,
Nid moch daear sy'n eich poeni ond y cr'adur Dewi Pws!
Y mae'r prifardd Idris Reynolds ar y rhaglen "Weakest Link"
Yn breuddwydio'n braf bod Gerallt yn rhoi arno ambell winc.
Mae i'r freuddwyd neges syml, os efallai braidd yn gas,
Canys dweud mae Gerallt wrthych fod hi'n bryd i chi fynd mas!!
Felly, ar ôl heno, Crannog, mi gewch gysgu'n sownd a saff
Cans Bro Ddyfi fydd yn ennill - dyna farn y Meuryn praff!!!
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

