Dinbych vs Howgets.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y drydedd rownd o gyfres y Talwrn.
Dinbych.

Howgets.

Cwpled caeth ar yr odl 'ec'
Cei hwylio tua'r coleg
Heb angorfa'r A B C.
Berwyn Roberts
8 ½ pwynt
Cwpled caeth ar yr odl - ec
Cymraeg sâl â sain Dalek
Yw'r iaith ar S4C.
Rhys Llwyd
8 ½ pwynt
Limrig yn ymwneud â phrotestio
"Dwi'm isho dod efo chi mami
I wrando hen bregeth a gweddi!"
"Tyrd o'na rhen hogyn
Dwi wedi cael tocyn
Am ddim i'r eisteddfod 'ma heddi".
Elwyn Wilson Jones
8 ½ pwynt
Limrig yn ymwneud â phrotestio
Rwy'n poeni am ryfel a chwyldro,
Wrth weld gwaed Irac yn gorlifo,
Ond sut, meddech chi,
Y mae'n olew ni
'Di cyrraedd dan dywod fan honno?
Meirion Jones
9 pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau 'dim ond'
(gwerthir myg gan Blaid Cymru gyda llun tri Penyberth a'r geiriau "Dim ond tri"- gweler llun)
Tynnwyd 'mygsiot' ohonynt, - ein harwyr
O ddihirod oeddynt;
Dim ond tri o gewri gynt
a Chymru'n dynn amdanynt.
Berwyn Roberts
8 pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau "dim ond"
Chwalfa
(ar ôl gweld fy hen gartref wedi'i ddifrodi gan dân)
Does dim ond cragen heno - a'n haelwyd
yn olion digroeso,
lle bu'n teulu'n codi'r to,
wyf Heledd y dadfeilio.
Annes Glynn
8 ½ pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Dod ymlaen yn y byd
Trwy holl galedi y tridegau tlawd,
A 'nhad yn wael ar lethrau'r hen Graig Ddu,
Y magwyd fi - gan naddu hynt fy rhawd
Yn un â chreithiau'r llechi ar bob tu.
Aeth llwch y graig â fo i lwch y bedd
A'n gadael i wynebu'r blwyddi blin
Heb foethau'r byd, a'r llwydni yn ein gwedd
Yn edliw ein bod ni yn blant y drin.
Er gorfod gadael bro fel llawer llanc,
Fe fûm i'n eitha' ffodus yn fy swydd
I allu hel rhyw gelc bach yn y banc,
Gan dderbyn y bu'r daith yn ddigon rhwydd;
Ond aberth mam y dyddiau anodd gynt
Sy'n dal yn sbardun i mi ar fy hynt.
Elwyn Wilson Jones
8 ½ pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Dod ymlaen yn y byd
Dod ymlaen yn y byd oedd f'uchelgais
A thros beint fe ges gyngor un p'nawn:
"Anghofia bob dim am dy addysg
Rhaid 'ti berthyn i'r clic-pobl-iawn."
Mi geisiais wneud marc wrth wleidydda,
Fy ngobaith oedd cyrraedd y top,
Ond heb gymorth gw?r busnes dienw
Buan iawn daeth fy ymgyrch i stop.
Rwy'n edifar am beidio ymgyrchu
Ac ymladd am statws i'r iaith,
Erbyn heddiw mi f'aswn yn sicir
Yn cadeirio rhyw fwrdd wrth fy ngwaith.
Ymunais â phwyllgor y 'Steddfod
A rhoi cynnig - i gael mwy o bres -
"Codwch dâl am gael mynd i'r gwasanaeth!"
Yn anffodus, wnaeth hynny ddim lles.
Gobeithiais gael cyflog sylweddol
A gweithio i S4C,
Rhaid bodloni ar fod ar y radio -
Af adref i ddisgwyl y siec.
Rhys Llwyd
8 ½ pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Rhagrith
Rhagrith (Zimbabwe)
Gwaedlyd yw pob munudyn
o hanes gormes y 'gwyn'
ar diroedd y brodorion
yn y wlad ddirdynnol hon.
Gwaedwyd ei swyn gyda sêl
a'i rheibio hi yn rwbel;
didol, yna alltudio
y rhai iach ymhell o'r fro.
Ac wrth garthu eu gwerthoedd
hen, hen i'r domen, nid oedd
trugaredd. Dwedwn heddiw
"Na ladd" wrth y du ei liw.
John Glyn Jones
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell):Rhagrith
(Mai 2007)
Penawdau'n sgrech! Â'r fechan
Ar wasgar i bedwar ban,
Ei hwyneb ar bob sianel;
Yn gôr, o'r Mirror i'r Mail,
Daw'r her: "Rhaid ei hadfer hi!
Oedwch! A welsoch Maddie?"
(Medi 2007)
Troi tu min, a'r stori'n stêl,
Daw ergyd - 'anaf' dirgel...
Oedant uwch poen bywydau,
I'r diawl â chyfyngder dau!
Â'r gair rhad mor anwadal,
Newydd ddoe sydd yn ddi-ddal.
Annes Glynn
9 pwynt
Pennill Mawl / Dychan Cynghorwyr
Hen joban go giami a hawdd ei dilorni...
Nes gorfod ei gwneud hi dy hun;
Mae'n rhwydd ar y naw i rai daflu baw:
Plaid Gwynedd? neu draw 'na... Llais Ll?n?
Ond pan ddaw hi'n ddyddia' fod rhaid setlo'r llyfra',
'Sdim pwrpas pedlera'r un gân;
Fe weli bryd hynny pa lais fydd yn ffynnu,
A'r Cymry i gyd ar wahân.
Eifion Lloyd Jones
9 pwynt
Pennill Mawl/Dychan: Cynghorwyr
Cynghoraf i chi ddiolch
I'r 'sbyty' am eu trin
A thynnu'r weiren ffensio
O rigol pob un tin.
Meirion Jones
9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Rhai od iawn yw rhai dynion
A mwy od o Ynys Môn.
1 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Rhai od iawn yw rhai dynion
Un ben wyf i yn y bôn.
Englyn Cywaith: Gwobr
(Ryan Jones a'r Gamp Lawn)
Arweinydd na ellir ffrwyno'i -ynni
na'r ddawn sy'n ei ddwylo
wrth annog côr i forio
tiwn i hud ei fatwn o.
John Glyn Jones
8 pwynt
Englyn Cywaith: Gwobr
Alfred Nobel
Er i'w enw bara i ennyn - heddwch
A gwyddor arobryn,
O reidrwydd metha'r ffrwydryn
 rhoddi'i wobr iddo'i hun.
Meirion Jones
8 pwynt
Telyneg: Camp
(i gefnogwyr Yogi - Bryan Davies o Glwb Rygbi'r Bala)
Eiliad,
yn ei gêm ola',
yn torri'r llinyn arian,
yn diffodd oes o gyffro,
yn fur heb ddrws yfory.
I fwrllwch
y llonyddwch,
daw gair fod hwn ac arall
am gynnau ambell gannwyll
drwy wthio'i hun i'r eitha'.
Pob aberth
yn ddrws gobaith
mai'r golau sy'n y galon
a'r dycnwch sydd mewn dynion
yw'r aur yn ein chwaraeon.
Eifion Lloyd Jones
8 ½ pwynt
Telyneg: Camp
Yn y saib sy'n ddim
rhwng nawr
a nawr,
rhedaf glwydi fy meddyliau
yn saeth o synhwyrau
hyd at ymyl dibyn fy mod.
Tros ysgwydd caf gip
ar fôr cymwynasau
ac anialwch gofidiau,
afonydd hiraeth
a chopaon gobaith,
crindir cerydd
ac ynysoedd llawenydd.
Ac yna, mewn man sy'n fwy na mi,
drwy stadiwm o sêr breuddwydion
clywaf y lleisiau'n diasbedain o bell
yn gawod o atgofion.
Ac mewn eiliad o aros
teimlaf y wên sy'n diffodd nos.
Yn y saib sy'n ddim
rhwng nawr
a nawr,
gallaf wibio ar hyd ffurfafen byw -
a nôl drachefn,
yn wennol yn fy ngofod i.
Elinor Gwynn
8 ½ pwynt
Englyn ar y pryd: Llais
David Lloyd
Derbyniodd un o'r rhoddion melysa':
Dyma lais angylion;
Yna trod y rhodd fawr hon
Yn alaw o dorcalon.
John Glyn Jones
8 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 77 ½
Englyn ar y pryd: Llais
David Lloyd
Yn dy nodau annedwydd - a'u hiraeth
Roedd aria'r tragywydd,
Yn dyner, ar adenydd
Hedaist, cyffryddaist â'n ffydd.
Annes Glyn
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 78
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth ar yr odl 'ec'
Oeda cyn mentro rhedeg
Costus yw brys heb y brêc.
O'r ddôr pan fo'r tywydd arwaf - galwant
yn ddig'wilydd arnaf;
O ôl y briwsion gwelaf
y sêr hyn yn sioe yr haf.
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth ar yr odl - ec
Saeson hy' mewn caffi snêc -
Hunllef yw'r haf yn 'Benllec'.
Yn ddi-drais, â'i lais bu Lech*
Yn cipio grym y kopec.
O'r Bae, wedi'r ffrae a'r ffrec,
Trai Maelor yw môr Marek.
Limrig yn ymwneud â phrotestio
Mi wnaf i fy siâr dros ddynolryw
I achub y ddaear rhag distryw
Wrth eistedd ar 'nhin
Yn diawlio y sgrîn:
Dwi'n waeth na'r dyn blin, Victor Meldrew.
Maen nhw'n oer, a phrin yw'r toileda'
Ar y lôn i'r De trwy'r hen Walia,
I Raeadr o'r Ganllwyd
I lawr rhed fy annwyd,
Nid fi, ond fy mhrostad, brotestia.
Englyn yn cynnwys y geiriau "dim ond"
Dim ond merch ar yr erchwyn - a'i heinioes
Dan wrthbannau dychryn,
Hunllef ar wely cynllun
A Shannon yw hon ei hun.
Cywydd (heb fod dros 12 llinell):
Rhagrith - Ddoe a Heddiw
Yn Hedd Wyn a'i gadair ddu
Bu eilun i'n symbylu;
A'n G?yl yn brwydro'i galar,
O angau daw geiriau gwâr;
Daw yn syth, y 'Dewin' syn,
A hances o Frynsiencyn.
Rhyfel fu a rhyfel fydd
 dynion heb adenydd,
Ar flaen y gad yn gwadu
Bu Rhif Deg heb arfau du
A'i wên deg yn enw Duw,
Ond g?r o hudwr ydyw.
Pennill mawl/dychan: Cynghorwyr
Mae un sydd yn chwys dros egwyddor
Yn brysur a geirwir pob dafn,
Tra bod 'na un arall yn cwffio
Am le iddo'i hun wrth y cafn.
Maen nhw'n griw digon hawdd eu lambastio,
Y 'Nhw' draw yn Siambr y Sir,
Ond yn lle codi llais a phrotestio,
A fentrem ni droedio'r un tir?
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

