Tir Mawr vs Penrhosgarnedd.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y drydedd rownd o gyfres y Talwrn.

Tir Mawr

Tir Mawr

Penrhosgarnedd

Penrhosgarnedd

Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw gêm:

Nid dawn sy'n nghwpled heno,
Yma'n wir mae'n domino.

Huw Erith
8 pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw gêm

O dan ei fawd ei nef o...
Hen lanc yn tidliwincio.

John Ogwen
8 pwynt

Limrig yn ymwneud â masnach:

Mewn wyau y talai Ior Cletwr
am bopeth o'i forgais i'w siwgwr
Ar ol ymgynghori
yr ieir aeth i ori
a gwneud yr hen Iori'n fethdalwr

Gareth Jones
9 pwynt

Limrig yn ymwneud â masnach

Un fodrwy, dwy wraig - dyna'r syniad
A welir ar silffoedd archfarchnad,
Neu dair am bris dwy
Os am fargen fwy,
Na! Dwi ddim yn siarad o brofiad!

Lyn Davies
8 ½ pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell: 'Y mae William yn moeli':

Os hawdd gweld dros y seddi yn Seion,
'Does wiw fynd i weddi
A'r si yn wyllt drwy'n rhes ni,
'Y mae Wiliam yn moeli'.

Gareth Williams
8 ½ pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell 'Y mae William yn moeli'

Drama

"Cael transplant? Moi? Be' sa'n'ti? - Na' i ddiawl!
Dw i'n ddyn i GYD.. yli,
A 'n en' tad 'm ond wig s'gin ti..."
Y mae William yn moeli.

John Ogwen
8 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Gwahoddiad

Annwyl Wil Breian fab Emrys,
Bro Dirion, Stryd Fawr, Abererch
Dymuna Goronwy ac Eirlys
Eich cwmni ym mhriodas eu mherch.
Fydd yno am naw gyda'r babi
Yn swyddfa gofrestru y dre
Os na 'dach chi yno i'w phriodi
Mi fydd yma uffar o le

Gareth Jones
9 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Gwahoddiad

Aeth y wraig i ffwrdd efo Merched y Wawr am wythnos lenyddol i'r Rhyl!
A'm gadael innau fy hun yn y t?, yn flin, 'di llyncu mul;
A'm mhen yn fy mhlu daeth William i'r t?, cymydog â thafod reit blaen,
"Tyd draw efo ni, mae'r bois am gael sbri sef wythnos 'da SAGA yn Sbaen,
Sex and Gems For the Aged 'di SAGA," medd Wil, "mae na le i ni gyd dan 'run to;
Paid dod efo llawer o ddillad - gwersyll noethlymunwyr ydi o."
"A beth ydi hwnnw?" gofynnais yn syn, "Ai pobol yn cerdded yn noeth?!
"Peth hollol naturiol fy nghyfaill" medd Wil, "mae Sbaen yn uffernol o boeth!"
Mi es ar y plên a landiais yn glên ynghanol y Costa del Sol,
A gwelais y fintai noethlymun, amheuthun, yn cerdded y traeth yn ddi-lol,
Pob croen wedi crincio, yn wir isio'i smwddio o'r corun i waelod y cefn;
"Dowch hogia," medd Wil, "Sdim rhaid bod yn swil, mae'n well i ni syrthio i'r drefn."
Diosgwyd y dillad, ond fi oedd yr eithriad, ni fedrwn fynd modfedd ymlaen
Heb wisgo trôns parod i guddio fy swildod, a llun y ddraig goch ar y blaen;
Daeth dynes flonegog o waelod swydd Efrog a phwyntio at faner fy ngwlad
Gan geisio ei dynnu, wel wir rown yn chwysu pan dynnodd o'i lawr - o'r fath frad.
Mi redais fel milgi o grafanc y ledi a thrôns y ddraig goch rownd fy ffêr
Nes dod i'r maes awyr a theimlo'n annifyr - yn noeth ac yn edrych yn flêr!
Ces le ar awyren gan hogan benfelen, y fi a'r hen drôns efo'r ddraig,
Yn wir y tro nesa â'i byth efo SAGA ond aros yn Rhyl efo'r wraig.

Morien Phillips
8 ½ pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Crefftwr

Hyd wal fynydd yn cuddio
mae'na wr, mae'i enw o
yn angof, ond mae'i ofal,
nod ei waith drwy'r pwythi'n dal
i gloi sawl carreg fregus.
Dimeuau'i chau fynnai chwys!

Rhoi'i oriau hir i'w pharhad,
dawn saer a'i grefft yn siarad.
Awen ei waed godai nhw,
a'i enaid wasgai'r llanw'n
haen o'i mewn, cau'r cerrig man
i'w enw, nid i'r hunan.

Myrddin ap Dafydd
9 ½ pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Crefftwr

Er cof am Wil Sam

Yr un gorau'n y garej,
Yr un â'i dryc yn D reg
y dyn ei hun, dewin iaith,
yn gwybod be' 'di gobaith;
y dyn tyner ei werin
a chopar doeth chwip ar dîn;
yn cofio'r straeon cyfoes,
yn dweud ei ddweud hyd ei oes,
yn haeddu'i wên, haeddu'i enw,
a'i bobol o, nefi bl?,
oedd trigolion chwedloniaeth
ffwr-â-hi'i gelfyddyd ffraeth.

Iwan Llwyd
9 pwynt

Pennill Ymson wrth olchi llestri:

Fe ddechraeais lwytho'n ewn
ond ni ffitiai rhai i mewn
Roedd yr Hotpoint dan ei sang
pan gychwynodd efo bang

Gareth Jones
9 pwynt

Pennill ymson wrth olchi llestri

(Y peiriant sy'n siarad)

Dw i'n orlawn fel arfar
A'm silffoedd yn gwegianvOnd mi geith yr hen slebog
Ail-olchi'r ddwy sosban!

John Ogwen
9 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Yr iâr sy'n dodwy wyau
Yn wyllt, a'r ceiliog sy'n hau.

1 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Yr iar sy'n dodwy wyau
Balog 'rhen geiliog ar gau.

Englyn Cywaith: Beddargraff Cyfreithiwr

Er ei apêl llais melys, - arno fo
Daeth y Farn yn rymus
Ac aeth yn llywaeth o'r llys
I'w dwll - un di-ewyllys.

Gareth Williams
8 ½ pwynt

Englyn Cywaith: Beddargraff Cyfreithiwr

Er dadlau ag angau'i hun a thaeru
wrth herio'i farn wedyn
yn Llys Apêl y gelyn,
o raid, mae'r ddedfryd yr un.

Llion Jones
9 ½ pwynt

Telyneg: Addurn

Diwrnod cenedlaethol Seland Newydd ydi 'Diwrnod Waitangi' ar 6ed Chwefror - a diwrnod protest y Maori

Waitangi yw'r tatw ar heulwen glas
fy wyneb, rhychau'r cleisiau ar fy nhir
lle bu dy lafnau'n naddu ein hen dras
i'r pedwar gwynt; tatw yn marcio'n glir
rhwng gên a chorun, clust a chlust, ein poen
o berthyn, poen o golli llwybrau'n taith,
pelydrau ein cyfaddawd ar fy nghroen
lle nad oes cyfraith nos rhwng iaith ac iaith.

Waitangi: diwrnod gwyl i ti, rhoi gwynt
i'th faner imperialaidd, picnic crand
mewn parc, areithio am yr amser gynt
a hwyl i'r teulu; gorffwys, rhwysg a band:
y colur ar y calendr, powdwr gwyn
dros greithiau dyn ar yr ynysoedd hyn.

Myrddin ap Dafydd
10 pwynt

Telyneg: Addurn

Llifiodd yr offerynwyr
eu Verdi, drwy'r noson lefn,
a gyddfau dur y corws
aeth drwyddi yn ôl y drefn.
Yn ôl 'run drefn, codasom,
bypedau, ar ein traed
i'n dwylo bach deallus
lesmeirio am y gaed.

Ond yna, ar chwa ddigymell,
ar stryd ddidrefn y dre,
clywsom ryw nodau esmwyth
heb wybod dim o ble;
does bellach le nac eiliad
na chlust na chof a ?yr
yr alaw fu'n gadwyn berlau
yn pefrio am wddf yr hwyr.

John Gwilym Jones
10 pwynt

Englyn ar y pryd: Llwyddiant

Yn y llanw, cadw llinell - o obaith
Yn abwyd i'w gymell;
Gweld y bwi, ac o'i wlad bell
Y cywydd sy'n y cawell.

Huw Erith
8 ½ pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 81

Englyn ar y pryd: Llwyddiant

Gordon Brown

O'i ddod fe fynnit ddwedyd - 'Hwn yw llanw
Fy nghynllunio diwyd',
Ond nawr, a llyn dy wynfyd
Ar drai, rho'r bai ar y byd.

John Gwilym Jones
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 79 ½

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw gêm:

Hel democratiaeth i'w hedd
wna swn ping pong y senedd.

Ddaeth na ddim, a dim sy'n dod
O gardiau ein segurdod.

Cwpled Caeth yn cynnwys enw unrhyw gem( a
chymeryd bod chwarae cuddio yn gem)

Mae rhai caeth yn rhwymau'r co'
heddiw, petaent ond cuddio.

Limrig yn ymwneud â masnach:

Dychwelyd o'r Aifft fore Sul
wnaeth Now heb ei wraig (Sian Lon Gul)
Roedd wedi ei ffeirio
mewn marchnad yng Nghairo
am yrr o gamelod a mul

Un peth sy'n fy synnu yn amal
bob tro ddaw'r bil llefrith gan Idwal
fod dyn sydd yn denna'
fel nodwydd-ddur sanna'
yn pwyso mor drwm ar ei bensal

Ei llaw oedd di'w chodi yn gynnar
a fyny y bu hi drwy'r amsar
"oes gwelliant ar filiwn.....?
wel SOLD!" medd Wil Ocsiwn
"i'r ddynes a'i braich hi mewn plastar"

Marchnadoedd y byd sydd mor simsan
mae coffrau Bryn Bugail yn gwegian
Mewn cist yn y ty
mae punt Dafad Ddu
ble unwaith y bu grant maharan

I Sodom bell aeth Alwyn
i geisio gwneud rhyw swlltyn
Ei gondom du
a werthai'n llu
ond yna bu daeargryn

Picasso, gwn tato, wy Bwncath
neu bethau tu allan i'r gyfrath
Beth bynnag 'da chi 'sio
gofynwch i Pancho
Gall hwn roi ei ddwylo ar rwbath

Englyn yn cynnwys y llinell: 'Y mae William yn moeli':

Ei groen sy'n ei goroni, - wele'i ben
Fel bylb yn mudlosgi;
Y goruwch fel cacan gri:
Y mae Wiliam yn moeli.

A phethau'r baddon seboni - 'immac'
Sy'n gymysg gan Meri,
Difa blew wna'i holew hi,
Y mae Wiliam yn moeli.

Cân (heb fod dros 20 llinell): Gwahoddiad

Mae Morfydd y wraig yn dymuno
Eich gwadd i gyd yma am ginio
(Fe ddyliwn awgrymu
Eich bod chi yn sgwennu
Ewyllys cyn ichi gytuno)

O deuwch i'r Cambrian Hotel
Am noson yng nghwmni T. L
A dewch â phyjamas
Oherwydd, rwy'n ama,
Y byddwch chi yna am sbel

Estynir wahoddiad i'r Met
I ddarlith gan Huw Huws (Tibet)
(Gan fod yr hen genad
Yn poeri wrth siarad
Awgrymaf i chi ddod a het)

Dy wahodd yn gynnes rwyf Robat
I weld llyniau Kyffin yn breifat
Yn brydlon am naw
Cei win yn dy law
A paid a dod draw heb dy walat

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Crefftwr (Shane Williams)

Caeau y wlad sy'n culhau -
lle main sydd rhwng llumanau;
mor benstiff pob amddiffyn
â lein y dacl yno'n dynn,
ond rhowch hawl i'r diawl bach da
am ennyd - a 'dio'm yna!

Drwodd y daw hwrdd ei don,
ras heibio fel dwr sebon
a'i draed heb hen drawiadau
wrth feddwi helgi neu ddau;
dewin lled ewin o dir -
'mond olion mynd a welir.

Pennill Ymson wrth olchi llestri:

Pam, o Dduw yn Nwygyfylchi
fod 'na sêl peiriannau golchi?
Pam, o bobman yn y fro
aeth y wraig i fanno am dro?

Golchi llestri 'nghefn y t?
fum i am flynyddoedd lu
Yna'r Hotpoint tri-pwynt-saith
ddaeth i 'ngwneud i yn ddi-waith

Cyflog mis aeth i Wil Manod
am ddod draw i'r t? i'w osod
wedyn treuliais bedwar p'nawn
wrthi'n trio'i ddallt o'n iawn

Fe fu'r peiriant arbed gwaith
wrthi'n mynd am oriau maith
ac am oria' wedi hynny'n
gwneud dim byd tra oedd o'n sychu

Degawr, bellach, a aeth heibio
Dwedodd wrthyf am ei wagio
Rydw i bron a dechrae crio
Wrth i'm dynnu plat ohono

Gallaf 'nabod, wrth ei stydio
swper neithiwr - iau 'di ffrio
Na, ni olchaist blat na llwy
Fuaset ti'm yn potshio wy

Melltith arnat,beiriant golchi
ddaeth o'r sêl yn Nwygyfylchi!
Af yn ol at olchi'n goeth
efo Fairy a dwr poeth.

Son am gwc yw Annwen Llwyd!
Er mwyn diolch am fy mwyd
rwyf yn ceisio sgwrio'n lân
olion pryd a fu ar dân

Fe'i daniais pan oedd o yn llawn
a'r peiriant fu'n rhygnu drwy'r pnawn
Bu seithawr ers hynny
a nawr rwy'n eu tynnu
nhw allan a'u golchi nhw'n iawn

Mae angen cael gradd neu ddigrî
i ddaeall yr Hotpoint ......Wn i !
Mi dynaf y llestri
y ffyrc a'r sosbeni
a'i rhoi nhw i'w llyfu i'r ci

Rydwyf Jiwdas yn wlyb a'n drybola
Nefi wen, dwi 'di hen gael llond bola
R'ol bob swper fi sydd
wrthi'n sgwrio drwy'r dydd
Dyna ddigon! hon fydd yr un olaf

Englyn Cywaith: Beddargraff Cyfreithiwr

Wyched dy wneud a'm hachos, taeru'r llwyd,
Troi y llys heb ymffrost;
Da gwn dan bennyd y gost,
I lan ddethol ni ddaethost.

"Ei enw fel erlynydd un adeg
ddenai glod dihysbydd",
lleibia rhai uwch ei gell brudd.
Hoff yw hwn yn ddiffynnydd!

Telyneg: Addurn

I ddenu dyna i ddiben
I roi rom bach o liw i'w lwydni
Fel gwas y neidr uwch y dwr
Ar ddiwrnod ffadin,
I hudo o'r dyfnderoedd,
Rhoi hen reddf ar waith
Ac i ysgogi'r llam
A dry y sglein yn sglyfaeth.

Cynigion ychwanegol:

Englyn Cywaith: Beddargraff Cyfreithiwr

Er hanes pob llwgr weini, - trwy bob cwrt
ar bob ces wnest golli,
yn dy Apêl, Iesu weli,
a Fe fydd dy dwrne di.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.