Aberhafren vs Y Sgwod.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y drydedd rownd o gyfres y Talwrn.
Aberhafren.

Y Sgwod.

CWPLED CAETH YN CYNNWYS ENW SANT
A wawriodd 'rioed ar Seiriol
yn ei oes i fynd 'sha nôl?
Llion Pryderi Roberts
8 pwynt
Cwpled caeth yn cynwnys enw sant
Eto'n ddau, a ninnau'n hen,
y down i ynys Dwynwen.
Karen Owen
8 ½ pwynt
LIMRIG: 'PAN OEDDWN AR GANOL FY SWPER'
Pan oeddwn ar ganol fy swper
pwy gurodd y drws ond y ficer,
y vodka a'r gin
a'r gwin aeth i'r bin
a chwatais ei wraig yn y wilber.
Mari George
8 ½ pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell "Pan oeddwn ar ganol fy swper"
Pam oeddwn ar ganol fy swper
daeth mellten lawr drwy'r simne lwfer,
fe ffrwydrodd y cyfan
fel bom ar y pentan
a lladdwyd y gath ar y ffender.
Roy Davies
8 ½ pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS 'ER HYNNY'
"Cofiwch Dryweryn"
(ar y wal uwch Llanrhystud, sy'n pylu bellach)
Geiriau'r paent, y maent i mi yn rhy wan,
Er hynny, goroesi
Wna eco'r wal, a daw cri
Ataf trwy liw'r graffiti.
Aron Prichard
8 ½ pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau "er hynny"
Y ddadl tros iaith addysg
Caiff ysgol ei rheoli - yn y Sir
gan fesurau arni;
er hynny gall rhieni
roi eu hiaith i'w llyfrau hi.
Geraint Roberts
8 ½ pwynt
CÂN(heb fod dros 20 llinell): BUDDUGOLIAETH
Yn betrus ar y dechrau, yna'n hy,
Fe sodra'i draed sigledig ar y llawr,
Yn union fel tae'n plannu gwreiddiau cry'
Yn angor rhag pob gwynt neu ddilyw mawr,
Fel Atlas ar ei gwrcwd yn y baw
 phwysau'r byd i gyd yn crymu'i war.
Mae'n chwennych tro ar fywyd 'rochr draw
I'r rhwystrau roddodd natur iddo'n siar,
Ac felly'n araf bach, tra'n crychu'i drwyn,
Er cwympo lawr, a sawl diofal gam,
Daw'r bwrlwm iach a s?n ei chwerthin mwyn
Â'i wobr iddo - a dyma fy Ngrand Slam -
Y wyrth o weld fy mab yn un mlwydd oed
Yn codi'n falch, a cherdded ar ddwy droed.
Owain Rhys
9 pwynt
Cân(heb fod dros 20 llinell): Buddugoliaeth
Mae gen i wdih?, un ddof. O! mae'n fach neis,
mae'n byw ar bethau fel gwyn ?y a phwdin reis;
mae'n hedfan miwn i'r t?, mae'n disgyn ar y mat
a neidio i ben y ford, a bwyta'i bwyd o'r plat.
Mae gen i hefyd gi, 'Toy Poodle cefen streit'
mae hwn bob amser, bois, yn barod i gael ffeit.
Pan fydd e, druan bach, yn gorfod bod tu fas
a'r wdih?'n y t?, mae'n galler troi yn gas.
Ac yna, un diwrnod y pwdl dyngodd lw
ei fod am roddi pen am byth ar wdih?,
ar ôl cael bach o bractis ar ieir oedd yn y sied
a phlufio dwy Light Sussex ac un Rhode Island Red.
Fe redodd miwn i'r t? yn slei bob cam o'r clos
gan feddwl dod â sud-den death i'r deryn nos;
ond gwddwg gwdih? sy'n medru troi reit rownd
nes gwneud i ddyn i feddwl nad yw e ddim yn sownd.
A'r fantais oedd 'da hi, roedd hi ar ben y stôl
yn uwch na'r pwdl bach, a'i weld yn dod tu ôl,
a'r wdih? orchfygodd, aeth lan i dop y stâr
a deif o'r step uchelaf ai phig i'w jygiwlâr.
Roy Davies
9 pwynt
CYWYDD (heb fod dros 12 llinell): UNRHYW STORI FEIBLAIDD
(ar ôl darllen am ferch a gafwyd yn farw mewn coed ger parc lleol ar ôl cymryd gorddos o heroin)
Tua'r coed tu hwnt i'r cae,
aeth hi yno'n wythiennau
drwy wyll lle'r oedd chwistrelli
yn y dail i'w hudo hi,
a mud hisio temtasiwn
y sarff yn anadlu s?n -
ond ni welodd fod blodau
o'i hamgylch a'u cylch yn cau,
na gweld pren ei Heden hi
yn denu'r nos amdani.
Rhys Iorwerth
9 pwynt
Cywydd (Heb fod dros 12 llinell): Stori Feiblaidd
Yn ei bader a'i gweryl
un ris oer yw bore Sul.
Addolwyr a siopwyr sy'
at ei eiriau yn tyrru,
heibio'i lôn a gwg ei ble
a'i boerad ganol bore,
a'u tref heb weled, rhywfodd,
ei gam gwag yno'n gwahodd;
yn un llif aeth hwn a'r llall
i lawr yr heol arall.
Aros o raid yw'r sarhad,
aros am un Samariad.
Geraint Roberts
9 pwynt
PENNILL DYCHAN: GWYBODUSION
Mae'r rhai sy'n gwybod be' 'di be'
Yn gwybod ag arddeliad,
A'r rhai sy'n gwybod bygyr ôl
Yn gweithio i'r Cynulliad.
Owain Rhys
8 ½ pwynt
Pennill dychan - Gwybodusion
Mor ychydig a wyddwn,
rwy'n cofio o hyd,
pan oeddwn yn gwybod
y cyfan i gyd.
Roy Davies
9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Anodd yw cysgu heno
Wedi i'r wraig fynd am dro.
Ateb llinell ar y pryd:
Anodd yw cysgu heno
Ti yw'r un sydd 'na bob tro.
1 pwynt
ENGLYN CYWAITH: CADWRAETH
Daw'r nam bach, y darn ym mhob un â'n groes
I'r graen, bob yn dipyn
Yn brydferth, gyfwerth, heb g?n
Yn naddu'r pren i'r gwreiddyn.
Owain Rhys
9 pwynt
Englyn Cywaith - Cadwraeth
bag plastig
Ar frigyn mae'r gwyn ar goedd - a hel wast
mae'i blastig am hydoedd;
os am ddydd ei ddefnydd oedd,
un ofer am ganrifoedd.
Geraint Roberts
9 pwynt
TELYNEG: LLAW
Rwyt ti'n torri
fy amser
yn ddarnau,
gwibio drwy
fy nrysau styfnig
i gyffwrdd
y byd.
Cipio dy law
o'm gafael
a chwarae mig
tu ôl i fysedd lliwgar.
Dianc rhag clwtyn fy niffyg amynedd,
taenu
niwl dy ddryswch,
dros ffenestri,
ac ôl direidi
ar fwlyn drws...
Ond yn ochenaid dy amser gwely
caf gip sydyn
ar y dydd
y bydd tawelwch
yn syllu arna i trwy wydr glân,
straeon
wedi'u sgwrio
o'r cledrau
ac atgofion
yn ceisio
chwarae mig.
Mari George
9 pwynt
Telyneg: Llaw
Fe fu dadlau gwleidyddol a chrefyddol pan gyflwynwyd 'sero' am y tro cyntaf un
Gwae hi, y llaw a gredodd
fod dim yn bod go iawn,
fod sero wedi'i sodro
yng nghanol Máth ein dawn;
Gwae'r aelod a ddarluniodd
y diffyg cymhleth hwn
rhwng annwn ac anfeidredd
mor gryno ac mor grwn.
Gwae hon am byth am grafu
un cylch i'w memrwn hi,
a rhoi negyddiaeth oesol
i'n crud o rifau ni.
Karen Owen
9 pwynt
Englyn ar y pryd: Brwydr
Er trefnu'n stôr o oriau - a'u rhifo
 rhyfyg bwriadau,
Yn ein brys, mae'r cynllun brau'n
Dal i waedu eiliadau.
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 78 ½
Englyn ar y pryd: Brywdr
Heddychwr
Ei arf yw'r gair anorfod - a daw'r wên
Fel dryll i anghydfod,
mae'i gred fel bwled yn bod
a'i fomio yw'r cyfamod.
Dafydd Williams
8 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 80
Cynigion ychwanegol:
CWPLED CAETH YN CYNNWYS ENW SANT
Llon yw'r saint sy'n llenwi'r sîn
Ers tro - ond cofio Kevin?
Kevin, sant (a meudwy) canoloesol o Glendaloch, Swydd Wicklow, Iwerddon.
LIMRIG: 'PAN OEDDWN AR GANOL FY SWPER'
Pan oeddwn ar ganol fy swper
dechreuais i golli fy nhymer.
Rol blwyddyn a mis
heb fodrwy ar fys
Ei eiddo sy nawr yn y wilber.
Pan oeddwn ar ganol fy swper
Daeth ffrwydrad o grombil y boiler,
Dinistriwyd y t?,
Ac es i fyny fry,
Ac felly, ni ches ond ei hanner!
Pan oeddwn ar ganol fy swper
Gofynnais yn ofnus i 'mhartner,
'A wyt wedi 'ngwenwyno?'
Meddai hi, 'Falle naddo,
Cawn weld beth ddywedith y Crwner!'
ENGLYN YN CYNNWYS 'ER HYNNY'
Camymddwyn, dwyn a lledr du, a'r rhegi
Wrth i'r hogyn dyfu;
Mor wyn, i'w fam, er hynny,
Yw lliwiau blêr, hyll ei blu.
CÂN(heb fod dros 20 llinell): BUDDUGOLIAETH
(Capel Gellionnen, Pontardawe)
Ymlwybro megis bleiddiaid gyda'r gwyll
A wnaethant, gan lygadu'r capel clo,
Cyn gwasgu i fewn, a grym eu gweithred hyll
A fu'n dinistrio etifeddiaeth bro.
Pam taenu'r paent? Pam creithio wyneb cloc?
Pam chwalu'r pulpud a'i ddwy ganrif faith?
Ai er mwyn profi'r wefr o beri sioc,
Neu ai sarhad ar grefydd oedd eu gwaith?
Beth bynnag, er holl boen y difrod mawr
A phryder talu'r miloedd oll drachefn,
Dychwelyd wnaeth y ffyddlon ar yr awr
I'r Cwrdd ar fore Sul yn ôl y drefn,
Gan ddatgan yno'u buddugoliaeth hwy:
Addoli mewn adfeilion fyddent mwy.
PENNILL DYCHAN: GWYBODUSION
Wrth gwrs fod 'na ddyn yn y lleuadac aur wedi'i gladdu dan t?,
Wrth gwrs fod 'na ysbryd yn Chwarel y Bonta gwrachod ar ras fyny fry!
Ffeithiau 'di'r rhain, ac nid pethau gwneud,
dwi'n gwybod i sicrwydd - mae dad wedi dweud!
ENGLYN CYWAITH: CADWRAETH
(Llais fy nhaid ar dâp)
Ar ribin, s?n fy llinach, - a'i stori
o'r stereo'n gyfeillach
sy'n symud, am funud fach,
ein hoesoedd yn agosach.
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynwnys enw sant
Ar ei lwybr, a'r haul o'i ôl,
ynys oer yw un Seiriol.
Mae Cybi a'i weddïau
yn nhir yr haul yn parhau.
Nid yw clwyfau d'amau di'n
rhy euog i Gwenffrewi.
Gwranda ar d'eirfa'n darfod -
rwyt heddiw yn Rhedyw Road.
Yn hoelion a nefolair
ei gweddi mud, gwyddai Mair.
Heb enaid, fyddai Beuno
yn ddim ond ei weddi o.
O hyd, fe all credadun
wadu'r iawn fel Pedr ei hun.
(St Michael - hen label dillad Marks & Spencer, cyn symud ffatrïoedd y cwmni i'r Dwyrain Pell)
Addo siwt o ddefnydd sêl
wna hanger Sant Mihangel.
(ffrae tros arwyddion Saesneg-yn-unig yn ffreutur newydd Eglwys Gadeiriol Tyddewi)
Ni ddaw o faeth Tyddewi
lais i dorf dy eglwys di.
Yno ymysg y cerrig mân,
gafael mae cragen Gofan.
Ti a wêl ddylanwad da'r
Iesu'n y Fam Teresa.
(eglwys wedi ei symud o Bontarddulais i Sain Ffagan)
Eilwaith daw gweddi Teilo
a'i lais rhwng ei waliau o.
Aeth Ffrancis o Assisi
rownd a rownd Ynys Caprî.
Limrig yn cynnwys y llinell "Pan oeddwn ar ganol fy swper"
Pan oeddwn ar ganol fy swper
daeth cnoc ar y drws (gyda'r knocker)
a honno mor uchel
rwy'n si?r bod y lefel
yn bedwar neu bump ar y Richter.
Pan oeddwn ar ganol fy swper
pwy alwodd 'da fi ond y ficer,
a honno mor bert
mewn blowsen a sgert,
a finne heb wisgo fy nhrowser.
Pan oeddwn ar ganol fy swper
fe wylltiodd Jack Russell, y terier,
pan welodd e'r gath
yn yfed ei la'th
a dim byd ar ôl yn y soser.
Dydd Llun wythnos dwytha roedd prinder
o fwyd i'r hen gath ac, mewn tymer,
fe ddaliodd y bwji
a'i fwyta o 'mlaen i
pan oeddwn ar ganol fy swper.
Pan oeddwn ar ganol fy swper
breuddwydiais am chips a biff byrger,
y wraig aeth yn vegan
ac nid dyna'r cyfan -
fe grafodd y crîm o'r crîm cracer.
Pan oeddwn ar ganol fy swper
o chips a ffa pob a biff byrger,
rhaid fu rhedeg ar frys
yn domen o chwys
'rol canfod pen bys yn y braster.
Englyn yn cynnwys y geiriau "er hynny"
Wyt Gymru'r saint a'r breintiau, - er hynny,
gwnest dy ran trwy'r oesau
yn celu'r gwir, coelio'r gau
a gwadu'r diwygiadau.
Cofeb i löwyr Cwm Gwendraeth ym Mhontyberem
"a thra bo'r talcen glo o dan ein tra'dbydd sgrech hwteri'n gryndod yn ein gwa'd" - Arwel John
Un frawddeg ydyw'r neges - ar garreg
a'i geiriau mor gynnes;
er hynny, fe ddaw'r hanes
a'i haenau oer yno'n nes.
Cân(heb fod dros 20 llinell): Buddugoliaeth
Cafodd ewythr i mi wybod ym mis Rhagfyr 1950 ei fod wedi ennill cadair Eisteddfod Aberporth. Oherwydd eira mawr gohiriwyd yr eisteddfod. Yn y cyfamser, bu farw fy ewythr. Dewi Emrys oedd yn beirniadu a dywedodd ef y byddai lliain gwyn - arwydd o fuddugoliaeth ar angau a'r bedd - yn gweddu'n well i gadair y bardd na'r cwrlid du.
Daeth mantell wen yr eira gyda'r wawr
i daflu düwch Rhagfyr hyd y glyn,
roedd geiriau yn gonffeti ar y llawr
a'r bardd yn gwybod bod ei fyd yn wyn.
Ond cwmwl tywyll ddaeth i hofran fry
ac yntau'n colli tir i rym yr haint,
hyd nes gorchfygwyd ef gan angau du
a'i ddwyn ym mlodau'i ddyddiau i blith y saint.
Roedd Dewi Emrys yno'n drist ei wedd,
y bobol yn eu dagrau o bob tu
a'r bardd ym Mrynmoriah yn ei fedd;
roedd eira gwyn, ac yno gadair ddu.
"Rhowch gwrlid gwyn o obaith dros ei stôl,
a deil y gerdd i ganu ar ei ôl."
Pennill dychan - Gwybodusion
"Cymru fydd yn ennill, bois, y ni fydd ar y blaen!"
Y geiriau'n dod o'r galon a'u dweud yn ddigon plaen.
Â'r stiwdio nawr yn dawel, yn dilyn dathlu'r pnawn,
rwy'n si?r bod Grav yn gwybod am ennill y Gamp Lawn.
Nhw oedd y pendifigion gynt,
yn ddawnus hollwybodol,
rhyfeddod oedd fod cymaint dysg
o fewn i fodau dynol.
Fe dorrodd gwawr a darfu ddoe,
fi heddiw sy'n rhagori,
mae pob cyfrinach dan fy mawd -
daeth Google i'w disodli.
Cymysgant y genetau
er lles parhad yr hil
a pheidiwn byth ag amau
na gofyn cwestiynau fil;
y nhw yw'r rhai sy'n gwybod,
y nhw ?yr beth sy'n iawn,
felly ni fydd hi'n syndod
gweld centaur un prynhawn.
Englyn Cywaith - Cadwraeth
bag siopa aml-ddefnydd gan hen wraig
Yn dynn mae'n cydio o hyd - a'i bysedd
dan bwysau ei bywyd
a'i hangen hi bob ennyd:
cario'r bag a charco'r byd.
llestr teuluol
Hen ddarn a'i staeniau arno, - un di-liw
a di-lewyrch drwyddo;
ond yr un ddaw yn ei dro
yn biwter i fab eto.
Telyneg
Llaw
Wyres newydd
A gaf i gyfri, dyma Bibowtyn,
a phwy sydd wedyn - yr hen Dwm Swclyn,
ac yn y canol fe ddaw Rhys Harries
a drws nesa' iddo fo, John Dafis;
mae un ar ôl, Wil bach ydi hwnnw
os edrychi arni, mae pawb ag enw.
Mae eraill hefyd os ei i holi -
cei Feni Feni a Chefnder iddi;
daw Wili Daboth ac Ifan Grogws
a'r bys bach eto, mae pawb yn gwmws.
Gafaela yn dynn, mae teganau drud
yn cadw cwmni i ti yn dy grud.
Fe fyddant yn fodlon ar hyd y daith,
y ffrindiau bach sydd yn cynnal iaith;
tyrd â nhw at ei gilydd i ffurfio llaw
gan ei chynnig hi i bwy bynnag ddaw.
Bibowtyn, Twm Swclyn a'r lleill i gyd,
o ddod at ei gilydd, gallwch newid y byd.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

