Y Cwps vs Y Taeogion.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y drydedd rownd o gyfres y Talwrn.
Cwpled caeth ar baced o sigarets:
Gwae ti, yn eu mwg a'u tar
Cei wenwyn a bedd cynnar.
Iwan Bryn James - Y C?ps
8 pwynt
Cwpled caeth ar baced sigaréts
Y mwg melys heintus sydd
Yn niwl hyfryd i lofrudd.
Emyr Davies
8 pwynt
Limrig yn ymwneud â gwrando:
Rwy'n gwrando ar geiliog Ty'n Beudy'n
blygeiniol am bump yn fy ngwely.
Es draw gynne fach
â chortyn a sach:
fe gysgaf yn dda bore fory.
Geraint Williams
8 ½ pwynt
Limrig yn ymwneud â gwrando
Ar fiwsig fydda i'n hoffi gwrando,
Pob nodyn, pob bar, pob crescendo,
Ond mae na un gân
Sy'n fy laru i'n lân
Sef Chwarae'n Troi'n Chwerw gan Bando!
Caryl Parry Jones
9 pwynt
Englyn yn cynnwys enw dilledyn
Hunanfomwraig
Ar y llain gaeth daeth ei dydd - i wisgo
Is-wasgod ei chrefydd,
A ffiws eithafol ei ffydd
Yn ei henaid yn danwydd.
Iwan Bryn James
10 pwynt
Englyn yn cynnwys enw dilledyn
BEDYDD
Dof fel tad - nid fel credadun - mewn siwt
am un Sul, fy mhlentyn,
ond tad sydd am it wedyn
ddod o hyd i'th Dduw dy hun.
Ceri Wyn Jones
10 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell) anghofrwydd
Mae stâd newydd o dai yn cael eu codi yn fy mro enedigol. Gelwir y lle yn'Maes y Ddawns' am fod William Jones, Dolhywel, cofnodydd Dawnsfeydd Llangadfan yn dod o'r ardal.
I'r stâd o dai fe ddaw gwareiddiad diarth
Gan raddol ddifa'r hyn fu yno c?d,
Di-hid o iaith a chwedlau hen y rhanbarth,
A chwbwl fyddar i'r diwylliant drud.
Heb wybod chwaith am William Jones Dolhywel
Fu'n dwrdio dros gyfiawnder yn ei ddydd;
A ydyw tybed o ryw fangre dawel
Yn gweld y llanast yn ei gwmwd prudd?
Tyrd Voltaire Cymru galwa ar y cogie
I Faes y Ddawns ym mrethyn llwm eu tras,
A'r merched, gyda dicter yn eu clocsie,
I ddawnsio'n ffyrnig yn eu ffrogie bras.
Dawnsio nes creu daeargryn drwy'r holl blwy'
Am inni lwyr anghofio'u gwerthoedd hwy.
Dafydd Morgan Lewis
9 pwynt
CÂN (heb fod dros 20 llinell): ANGHOFRWYDD
Yn ein dyddiau prysur ni mae'r cof yn bownd o ddiodde
A phawb ym mhobman medda nhw'n anghofio pob math o bethe.
Mae'r Saeson 'di anghofio'n llwyr sut mae chware rygbi
A Gordon Brown a Darling 'di anghofio sut i gyfri.
Tudur Dylan methu cofio sut beth 'di peidio codi'n
Y Pafiliwn ar ddydd llun neu Iau... Y Tlws Gwyddoniaeth 'leni?
A ma' nhw 'di anghofio rhoi yr "dd" yng Nghastell Newi,
A minnau - am ryw reswm - yn anghofio gwrando ar Jonsi.
Dwi weithia'n methu cofio be' dwi'n neud ar ben y landin',
Ma'r g?r wedi anghofio lle ma'r hoover a lle ma'r gegin,
Cenedlaetholwyr methu cofio ( a dyna be' 'di strach),
Ma'u gwaith nhw ydi achub yr holl ysgolion bach.
Ac ydio'n bosib sgwn i mai anghofrwydd sydd ar waith
A dyna pan mae c'nifer yn cael trafferth gyda'r Iaith?
Ddim yn cofio treiglo, ddim yn cofio sut mae trin
Geiriau a brawddegau like.. a stwff ... ya know wor I mean?
Anghofio rhoi punt dan glustog fy mab a beio'r Tylwyth Teg,
Methu'n lân a chofio'r tro dwetha gesh i 10,
Methu cofio (cyn i chi ddeud) sut mae sgwennu cerddi.
Ond mae gen i fy rhesymau bawb - dwi'n hanner cant yfory!
Caryl Parry Jones
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell)Diolch
Yn sgil cyhoeddi ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i gefnogi'r wasg Gymraeg, cyhoeddiad a roes y farwol i bapur dyddiol Y Byd.
Dau gan mil, llawn digon, medd
Y sawl sy'n mesur sylwedd
Ein gobaith, rhai sy'n gwybod
Beth yw beth yng nghynllun bod.
Ta waeth mai haws gwrteithio'n
Gerddi na'n hiaith, yr iaith hon
Sy'n rhy hen ffasiwn i rai
I wreiddio fel yr haeddai -
Mae 'Cymru'n Un', a ninnau,
Ein lle ni yw llawenhau
Bod amod ym mhob dime
I wlad roi'r Byd yn ei le.
Huw Meirion Edwards
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Diolch
Diolch am hyn o dywydd
ar ben bryn ar derfyn dydd,
am eiliad heb gymylau
i weld iaith hen leuad iau,
lleuad yn siarad â'r sêr,
un lleuad ymhlith llawer.
Diolch am hyn o dywydd
yn yr hwyr, am fod yn rhydd
i rodio'r dibendrawdod
heb ei weld, a diolch bod
yr eithaf na welaf i
yn nes â hithau'n nosi.
Tudur Dylan Jones
9 pwynt
Pennill ymson wrth fwyta
Mae yna goel gyffredin bod rhywun yn colli mwy o galoriau na mae o'n ennill wrth fwyta selyri.
Cnoi a chnoi ar sel'ri sdic
Nath 'mi deimlo braidd yn sic,
Am bob cal'ri fach dwi'n gael
Dwi'n colli dwy, na fargen sâl,
Ac os na'i fwyta mwy na chant
Fe fydda'i farw yn bendant.
Arwel Jones
8 ½ pwynt
Pennill ymson wrth fwyta
Ces becyn o gnau daear
a'u hagor yn y man
heb feddwl am un eiliad
am y peryg ddoi i'm rhan.
Darllenais gyda syndod
ar ôl bwyta un neu ddau
y geiriau erchyll: 'RHYBUDD:
FE ALLAI GYNNWYS CNAU!'
Tudur Dylan Jones
9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Un diniwed yw Noa
yn nôl arch yng nghanol ha'.
Ateb llinell ar y pryd:
Un diniwed yw Noa
A dau a dau yn beth da.
1pwynt
Englyn cywaith geiriadur
O'i fewn mae'i goed a'i feini - du fel nos
Yn aros am seiri
I'w huno mewn goleuni
Heddiw 'nhai'n cywyddau ni.
Huw Meirion Edwards
8 ½ pwynt
Englyn Cywaith : Geiriadur
Hen bry' aeth drwy'r gyfrol bron; Air wrth air,
Fe duriodd yn gyson,
A throi'r eirfa hardda hon
Yn rhestri geiriau estron.
Emyr Davies
8 ½ pwynt
Telyneg pennawd
Gadawodd hithau'i phapur ar ei hôl,
er clirio'i phethau'n dwt, a gwenu'n glên,
a gwthio'i hun a'i bag - ymlaen a nôl -
cyn camu i'w rhyddid oddi ar y trên.
Cydiais ynddo, a gweld fod yn yr inc
staen holl amheuon ei dehongliad hi
wrth fodio'r stori flaen, tra'n gwrando tinc
y rhagfarn sy'n y print ... A dyna ni.
A nawr rwy'n gweld gorsafoedd un ac un
a'u stori'n niwl, a thrwy'r ffenestri baw
mae trefi a phentrefi'n ffurfio'n llun
aneglur - ar daith rhwng heulwen a glaw.
Mae'n amser twtio 'nhrugareddau lu;
rwy'n edrych i lawr ar fy mysedd du ...
Dafydd John Pritchard
10 pwynt
TELYNEG: Pennawd
Sef, 'Our Revenge shall be the Laughter of Our Children'a welais ar un o'r murluniau sy'n coffau Bobby Sands ar y Falls Road ym Melffast. Sands ei hun piau'r frawddeg.
Ar strydoedd stwrllyd rhyfel
fe glywai ambell sant,
drwy'r dagrau a'r sgrechiadau,
ddialedd chwerthin plant.
Mae'n dawel ar y strydoedd,
a chofeb i sawl sant,
ond er clustfeinio'n galed
ni chlywaf chwerthin plant.
Ceri Wyn Jones
8 pwynt
Englyn ar y pryd: Tyrfa
Tyrfa mewn mart yn un o luniau Aneurin Jones
Yno'n ei olew annelwig - dysgodd
Weld ei hosgo'n unig,
Heb un brys, o'i bôn i'w brig,
Yn ifanc o gyntefig.
Huw Meirion Edwards
8 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 79 ½
Englyn ar y pryd: Tyrfa (Pasg)
Hon, y dorf, sy'n codi ias o gariad
At y g?r trwy'r ddinas
Ar yr un gwynt sy'n troi'n gas
Heb rybudd, ond 'Barabas'.
Tudur Dylan Jones
8 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 81
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth ar baced o sigarets:
Mae mwgyn i ddyn yn dda,
Os am egwyl, ysmyga.
Hoelion yw'r rhain i'th selio
Yn yr arch mewn dim o dro.
Limrig yn ymwneud â gwrando:
Gwrandewais ar y Meuryn
yn lladd ar fy limrigyn.
Un mâs o ddeg!
fe lyncais reg:
Diolch byth na wnes i'r englyn.
Pennill ymson wrth fwyta
Er cof am gan golledig Yr Arwel Jones am ganibal fawr ddu.
Fe ges i tipyn bach o sdrach
I gyrraedd yma'i Gymru fach
Ond ges i bryd o frest a choes
Yng nghaffi bychan Tan-y-groes,
A dim ond sbectol fach a chap
Fydd ar fin fy mhlat i wap
Ac mae 'na flas ar dalu'r pwyth
I'r diawl enllibiodd fam fy llwyth!
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth ar baced sigaréts
Er mor braf yw'r mwg afiach,
Gwenwyn yw i'r fegin iach.
UN SIGARET
I sicrhau eich angau chi,
Ewch i dân ei chadwyni!
Gwylia'r tar a'r nicotîn -
Mae'u mwg yn difa megin.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

