Hogia'r Ynys vs Y Tywysogion.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y drydedd rownd o gyfres y Talwrn.
Cwpled caeth yn cynnwys : 'ffin'
Boed Hydref neu Fehefin
Un ni ffodd rhag croesi'r Ffin.
Robin Hughes
8 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys 'ffin'
Ar y ffin mae rhyw ffynnon
Lân o hyd... Diogelwn hon!
Twm Morys
8 ½ pwytn
Limrig yn ymwneud â : ' gwaith'
Gwaith Ifan oedd bwydo y llewod
Eu hawch nhw am fwyd oedd ryfeddod,
Ar ôl diwrnod cynta'
'Roed popeth 'di fwyta,
Ond aeth a'i wraig yna 'r ail ddiwrnod.
Isfron
8 ½ pwynt
Limrig yn ymwneud â gwaith
Cyfweliad am Swydd "Handy Man"
"Yn hen ac yn hanner dall, Huw,
Yn gloff ac yn drwm iawn dy glyw,
Eglura i mi vBe' sy'n handi ynot ti?"
"Dim ond rownd y gornel dwi'n byw!"
Mei Mac
8 ½ pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau: 'Yn fy aros yfory'.
Profiad â gefais yn ddiweddar yn Ysbyty Gwynedd
Wrth f'ochor mae doctor du - yn araf
Yn f'arwain i gredu
 sêl, werth y driniaeth sy'
Yn fy aros yfory.
Machraeth
8 pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau:'Yn fy aros yfory'
Af trwy'r holl ddaear i'w charu, - a mynd
Dim ond er mwyn rhannu
Eiliad, heb syniad beth sy
Yn fy aros yfory.
Guto Dafydd
8 ½ pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Breuddwyd
'Roedd y ffaith fod Caswallon ap Inigo'r Graig
Yn chwilio ymhobman am rywun wnai wraig
I'w weled yn blaen yn y ffordd 'roedd o'n gwenu
Un wefus i lawr tra bo'r un isaf i fyny.
Aeth yn greadur o'r diwedd oedd yn credu breuddwydion
A chafodd freuddwyd un noson oedd wrth fodd ei galon;
Fe welodd ei hun yn gyrru'r labrador o'r gwely
Ac yn lluchio sentiach i'r man bu yn cysgu,
A phwy ddaeth ato ond merch hynod brydweddol
A'i mesuriadau i gyd oedd yn arall fydol-¬
O gylch ei froncysyllte roedd hi'n naw deg c m
Ac mor fain yn ei chanol a siâp hen glem,
Ac roedd medda fo o rownd ei seteen
Fel ymbarel bwci ac aeth yn hynod 0 "keen-,
Dechreuodd gusanu yr hen folstar mawr
Nes iddo rowlio a rowlio a disgyn ar lawr,
A dyna lle'r oedd o 'di rhoi enw i'r bolstar
Penelope Puw dw i'n dy garu! Daeth clochdar
A deffrodd Caswallon(a'i fam uwch ei ben)
Mewn hunllef yn gweiddi, Please come again!!
Eurfon
8 ½ pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Breuddwyd
(ar ôl bod yn siarad efo g?r gweddw oedd yn breuddwydio am ei wraig)
Neithiwr cawsom banad, heb hyd yn oed sgwrsio.
A chditha'n mesur dail a thywallt d?r,vDewis m?g, a gweld y crac sydd bellach ynddo.
Wrth dollti'r te fe hedodd pili pala
O big y tebot, a glaniodd ar fy nglin
A gorffwys yno'n crynu am eiliada'.
Gwnes banad ar ôl deffro bore heddiw.
A gwylio pig y tebot, jest rhag ofn
Y dôi gloyn byw ohono'n wyrth amryliw.
Sian Norddi
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Arwr.
ARWR Shane Williams.
Saeth-fellten y Mileniwm
Y dryw a darodd yn drwm,
Hwn oedd un a dawodd wig
Un agorodd wal gerrig;
Perlau fu ei geisiau i gyd
A'i redeg iddo'n gredyd,
Elai heibio fel hebog
Petae'n Fai fe ganai'r gog
o henfan ei brenhinfainc
Yn ffraeth uwch ceiliogod
Ffrainc, Y cawr bach rhaid curo byd,
o Wennol! aros ennyd.
Machraeth
8 ½ pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Arwr
Yli'r boi sy'n rowlio o'r bar,
yr hogyn llwfr a hegar
acw a'i eiriau'n clecian
drwy'r dydd, yli ei waed ar dân.
Yli ei fraich, mae'i lifrai o,
enw'r hen gatrawd yno
o hyd, fel mae ei henw hi
yYr hogan mae'n ei rhegi.
Yli arno'n dilorni'n
big yn awr ein tebyg ni.
Ac yli mae o'n crio:
yn ei ddydd arwr oedd o.
Mei Mac
8 ½ pwynt
Pennill Ymson mewn arwerthiant
Rydw i'n bennaf bric pwdin y teulu
Sydd a ffobia i gasglu a chasglu.
Mae pob stafell yn llawn,
A phan ddaw y pnawn,
Dw i ddim yn gwybod yn iawn lle ca'i gysgu.
Isfron
8 ½ pwynt
Pennill Ymson: Mewn Arwerthiant
Tir y boi sy rwan, sef mwy na hanner Ll?n,
A chant a dwy o ffermydd, a buches ar bob un,
Tai gwyliau hyd y glannau, pob t? â'i iot ei hun...
Ac mae 'na bry cop ar fy nhrwyn! Be' wna'i, neno'r dyn?
Twm Morys
8 ½ pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Yn y Ganllwyd breuddwydiaf
O hyd ar hirddydd o haf.
½ pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Yn y Ganllwyd breuddwydiais
Am gael lôn heb sôn am Sais.
½ pwynt
Englyn Cywaith: Pregeth Hir
Awr jest cyn dod i'w destun - awr arall
Ar eiriad pob emyn,
Oedi drwy'i weddi wedyn
Yna awr ar ben ei hun.
Robin Hughes
9 pwynt
Englyn Cywaith: Pregeth Hir
O, mor fawr ydi 'marf i, - a minnau'n
dod i mewn â Tedi;
Os ydych â blys oedi
Mi rown eirch i'n meirw ni.
Twm Morys
9 pwynt
Telyneg: CADAIR
Ni chofiaf fy nhwymo ynddi
Yn sugno o botel gam
Ond erys hin ei chariad
A lifai o galon mam
Fe'm rhwymwyd ynddi eto,
Yng nghanol dieithriaid llwyr
A chysur yw swyn ei chariad
Ar erchwyn talfeydd yr hwyr.
Isfron
8 ½ pwynt
Telyneg: Cadair
Fis Chwefror eleni y daeth dienyddio gyda'r gadair drydan i ben yn Nebraska - yr unig dalaith a oedd bellach yn dal i'w defnyddio fel yr unig ddull o ddienyddio."Eistedded y bardd."
"Steddwch, 'stynwch ato fo."
"Tyd yma'i eistedd ar fy nglin."
'Sgwn i be oedd yr union eiriau
yn Nebraska.
Roedd rhyw onestrwydd moel
mewn crocbren
ac mewn gilotîn.
"Stedda 'ngwas i."
Ac ynta'n cofio bwrdd a glin...
Sian Norddi
9 ½ pwynt
Englyn ar y pryd: Cymydog
Ni fynnodd weld terfynau - yn rhannu
Pob rhinwedd yn ddarnau,
Yn awr cur chwalodd furiau
I'n dal yn agos ein dau.
8 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 76 ½
Englyn ar y pryd: Cymydog
Bu unwaith wyneb inni, - wyneb un
Yn byw yn ein cwmni,
Ond yn awr 'nos da' i ni
Yw llaw un yn cau llenni.
8 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU:79
Cynigion ychwanegol:
Hen deulu ar eu deulin
?yr y ffordd o groesi'r ffin.
Ar agor 'roedd yr egin
Cyn dod nos I ffos y ffin.
Yr eildro 'r aeth drwy'r heldrin
Ei ffydd â'I cariodd tros ffin.
Mae adeg na thyf egin
Ar y ffordd sy'n croesi'r ffin.
I ?r â ffydd ar y ffin
Daw I wared dwy werin.
Aeth Blair a glewion gwerin
I'w antur ffol, hwnt I'r ffin.
I'r lluoedd o'r gorllwein
Antur ffol fu pontio'r ffin.
Bai ni fyddai ar fyddin
Gadwai'r nos o ffos y ffin.
A ?yr y ffordd groesa'r ffin
I rannu, Hwn yw'n brenin.
Limrig yn ymwneud â : ' gwaith'
Torri gwalltiau pobl sal bu Wil Jos
Ai o gwmpas y wardiau bob nos,
Efo digon 0 jic
I dorri gwallt Sheik
A'i werthu'i bwtic yng NglanRhos.
Llyfu stampiau yn stafell y Cyngor
Ydoedd gwaith Matilda Macgreggor,
Ond aeth i lyfu y bos
A sac gadd heb os
o achos yr oedd o'n ben blaenor.
Englyn yn cynnwys y geiriau: 'Yn fy aros yfory'.
Telais i bawb o'r teulu - eu bonws
Heb unwaith ymgercu,
Nawr rwy'n "wreck" a sawl siec sy'
Yn fy aros yfory?
Cân (heb fod dros 20 llinell): Breuddwyd
Peidiwch a sôn am y Pen Pobydd na'r Pen Trulliad
Na chwaith am Pharo yn cael y fath ddehongliad,
Dydy breuddwydion fel'na yn ddim ond chwedlau .
Canys fejiterians ydy buchod tew a thenau;
Ond mae'r stori ganlynol ichwi'n wir bob gair
Am hen gardotyn o Wyddel aeth i gysgu i'r gwair;
Cafodd biseriad o de a phum brechdan caws Edam
Aeth ei wres yn uchel a chiliodd llau ar garlam;
Ond yna cadd freuddwyd am ryw hogan gwallt gola
Roedd hi'n ddel eithriadol ond yn llawn cricmala,
Ei boen nawr am chydig oedd sut gwnai ei gwella
A mynd a hi'n ôl efo fo'i Conemara;
Ond yng nghanol ei wynfyd daeth Pen Trulliad gwantan
A Pharo a'r Pen Pobydd a dwyn ei flondan,
A gorfodwyd hi briodi yn nhref Alecsandria
Ond deffròdd y cardotyn ac roedd hi'n hwyr y bora,
Fe sgubodd y cowt a chadd bunt am wneud hynny
Aeth ymlaen ar ei daith ond arhosodd i sgwennu,
A phan ddaeth nos Sadwrn a goeliwch chi fi
Fe enillodd tros filiwn ar y loteri.'
Cân (heb fod dros 20 llinell): Breuddwyd
Hen wag oedd Wil Ty Canol, gwnai rywbeth os cai bres
Drwy ddweud wrth hwn ac arall y gwnai bopeth er eu
lles, Un bore'n y caban chwarel, 'r hen Dwm 0 Ben yr Allt
Fu'n son am freuddwyd gafodd, oedd anodd iawn ei ddallt.
Ond Wil wrandawai'n astud, ar freuddwyd rhyfedd
Twm Ac allan daeth a'r ateb, meddyliai am y swm!
"Tyrd acw heno Thomas," medd Wil yn wen i gyd
" R wy'n siwr y gallaf helpu, o'th nabod di cyhyd".
Ac yno yr aeth Tomos, ac uwch cwpaned de
Dechreuodd Wil ei holi am y breuddwyd gafodd e.
Medd Twm, "Roedd merch ddeniadol yn cerdded at fy nh?
A chanddi lun ohonof yn gwisgo fy siwt ddu"
"We I aros," meddai William "os rhoi ddeg punt i mi,
Mi ddadansoddai'r breuddwyd yn wir a gefaist ti."
Fe roddodd Twm yr arian o'i boced ar y bwrdd,
A Wil yn rhwbio'i ddwylo o'i weld yn mynd i ffwrdd.
Ac yna fore trannoeth, fe dipiodd Wil y scales
Drwy ffonio geneth hawddgar Encyclopaedia Wales.
"Mae gennyf gwsmer ichwi, sef Twm 0 Ben yr Allt
Galwch i gael llun ohono, mi fyddwch chi yn dallt.
Pennill Ymson mewn arwerthiant
Rydw i'n siwr fod 'na jyrms yn y
llyfra' Sydd o'm cwmpas ymhobman
yn fa'ma, A'r holl ddwylo budron
A'r ewinedd hir duon
Rydw i wedi cael digon, af adra.
"Oes na lo yn y fuwch?" meddai Jac
Wrth ffermwr mewn pais o Irac;
" Rhaid ail ofyn yn Saesneg",
Meddai WiI, Rhyd y Gaseg
"Is there coal in the cow at the back?"
Mae'r t? cw'n llawn lluniau Lloyd George
Mae o'n y llofftydd, lawr grisiau a'r porch,
Ond a ydi hi'n ddoeth
Pryn lun yn din noeth
Efo dim yn ei law ond ei dorch?
Mae'r giatiau wedi agor,
Mae'n rhedeg i mewn i'r cylch.
Y cardiau wedi eu llenwi,
Fedrai wneud dim mwy yn ei gylch.
Ond bath pe gwelent ddolur,
Mi faswn yn teimlo'n gas.
Pe baent yn ffeindio allan,
Fod ganddo dafod las.
Mi fasa pawb yn rhyfeddu,
Mi faswn yn edrych yn syn.
Ond fe all y gwybed daro,
Tra'n teithio i'r fan hyn.
Telyneg: CADAIR
Nid wyf yn cofio im' aros erioed
I ryfeddu at ei gwneuthuriad cain
Hyd heno ,pan ddaeth gwawl y lloer drwy'r coed
Ar yr aelwyd yn hen fwthyn fy nain,
Ac yno gwelwn y fegin ynghrog
Ond roedd y tân a'r pentanau'n oer
A'r aelwyd fel pe'n ddarn 0 Dir na Nòg
Neu yn ganfas i gysgodion y lloer;
A'r hen gadair fawr er yn wag yn llawn
A rhyw ddwylo yno'n pwytho neu'n gwau,
Mi wn yr awn yno eto pe cawn
Ac ni chredaf bydd y drws wedi gau.
A gwn y gwelaf hen gadair a'i graen
A dwyfraich i'm cam o'r oes o'r blaen.
Mae 'na rywbeth arbennig
Yn ei cherfiad hi,
A ddeil gyswllt unig
Â'r gorffennol i mi;
Ac mae'r dyddiad yno
Ar ei derw cain,
Yn foddion fydd eto
Im' gofio fy nain.
Tybed glywais i neithiwr
Yng nghorws y gwynt,
Ryw lais bach o'r parlwr
Fel â glywn gynt!
Na, doedd neb yno.
Ond y gadair a mi
A dwyfraich 0 groeso,
Fel y cofiwn hi.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

