Manion o'r Mynydd vs Penllyn.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
Manion o'r Mynydd.

Penllyn.

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'mochyn'
Yn dew o dan floneg dyn
Y mae achau y mochyn.
Nia Watcyn Powell
8 pwynt
CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'MOCHYN'
Ai hannu o deulu dyn
Y mae achau y mochyn?
William Jones Williams
8 pwynt
Limrig yn ymwneud â sbwriel/p>
Gwahoddais y Meuryn eleni
I noson fawr lawnsio fy llyfr i,
'Dweud y gwir', meddai'n flin,
'Dydw i ddim yn cîn
Ar lyfr poced din, mae nhw'n drewi.'
Edgar Parry Williams
8 ½ pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD A SBWRIEL
Hel llanast yn gynnar y bore
mae hogiau y dre, a sawl pentre,
I Siecoslofacia
Neu draw, draw i Tsieina
Yr â, i'w ail gylchu yn rhawie.
William Jones Williams
8 pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau 'Ar frys'
I'r plentyn
Nid ydyw hwn am law dyner - ei fam,
Mae'i fyd yn llawn hyder,
Ar frys aiff i fwrw'r sêr,
Yn ddyn naw mlwydd a hanner.
Cynan Jones
8 pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS Y GEIRIAU 'AR FRYS'
O ddiwyd fyd a'i ddefodau - â'r fro
Ar frys, mynnaf innau
Aros fin nos i fwynhau
Eiliad o hel meddyliau.
Dylan Davies
8 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Pwyllgor
Ni fu erioed 'run pwyllgor ym mhentref Llangytun,
Ond er mwyn steil aed at i geisio codi un.
Aeth pawb i'r neuadd bentref, ac eistedd yno'n hir,
Doedd neb yn llywio'r c'warfod - 'ro'n nhw'n bôrd a dweud y gwir.
Yna cododd Huws y person - trwm ei glyw a braidd yn hen -
Etholwyd ef i'r gadair ac fe'i llenwodd gyda gwen.
I'w gynorthwyo gyda'r gwaith cynigiwyd Guto Wil
Yn is-gadeirydd digon del, er ei fod o braidd yn swil.
John Jôs y ffarmwr moch roed yng ngofal y 'tsiec bwc',
Roedd o ei hun mewn dyled fawr a methai gredu'i lwc.
Ac i roi trefn ar y cofnodion enwyd Mari Tan y Fron
Oedd yn wych am dynnu lluniau, ond yn anllythrennog bron.
A rhag-ofn pechu neb oedd yno, c'nigiwyd pawb oedd ar y llawr
Yn aelodau ar y pwyllgor a'i alw nawr yn 'Bwyllgor Mawr'.
Yna cyn diweddu'r noson trefnwyd dyddiad ar nos Lun
I gyfarfod unwaith eto yn un teulu mawr cytun,
Erbyn hyn byddai yn rhaid meddwl ac ystyried yn reit ddwys
A oedd angen codi pwyllgor er mwyn trafod dim o bwys?
Phyllis Evans
8 ½ pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL) :Y PWYLLGOR
Dim ond rhyw gwmwl du tua'r Berwyn
A wnaeth i'r rhain benderfynu cychwyn.
Roedd mwmian taran yng nghreigiau 'Renig
Yn awgrym cynnar o'r frwydr ffyrnig.
Y Cadeirydd doeth o'r Hafod Fadog
Yn wylaidd wynebai'r dref ariannog,
Ac yntau'n methu'n lân a chredu
Y byddai neb mor drahaus a chwalu
Ei holl etifeddiaeth. Elisabeth hithau
Ddarbwyllodd wlad trwy werth ei geiriau
Ei dycnwch mewn diwydrwydd difesur,
Ond er cefnogaeth, cynyddai'r gwewyr.
Nesai'r storm, a'r cymylau bygythiol
Yn gysgod du uwch ben Mynydd Nodol,
Roedd t'rannau'n magu uwch grug Cwm Hesgen,
Yna fe rwygwyd yr holl ffurfafen.
A phan ddaeth gosteg i'r erwau moel hyn,
Roedd dau yn eu bedd a Chelyn yn llyn.
Beryl Griffiths
8 ½ pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Bro
I Edgar, ar gyhoeddi Manion Edgar26 Mawrth 2008
Gwawr wen dros Ogoronwy
Oedd derbyn plentyn i'r plwy'
A ddewinai farddoniaeth
O'r tir hesb rhwng Cnicht a'r Traeth,
Y mae haul ar y Moelwyn
Yn ddawns yn y cerddi hyn
Ac oerfel Ffynnon Elen
Ym mrath ei hiwmor; a'i wen
Yn hafddydd dolydd Cae Du
A'r hwyrddydd ar yr Arddu.
I Edgar, daear a dôr
A'i reswm yw Cwm Croesor.
Nia Watcyn Powell
9 pwynt
CYWYDD (heb fod dros 12 llinell) : BRO
Adar bach a'u trydar byw
Yn adfer daear ledfyw
A hil y llyffant melyn
Yn un haid yn llaid y llyn.
Mae'r holl fyd i gyd o'i go
A Duw yn ei flodeuo.
Cywion lu yn llety'r llwyn
Bref oen yn brawf o wanwyn,
A chwa'r gwynt trwy glychau'r gog
Yn dweud mor hardd, odidog
Yw'r llethrau mawn sy'n llawn lliw,
Mor hael yw 'mro amryliw.
Dylan Davies
9 ½ pwynt
Pennill Dychan: Y Post Brenhinol
Mi bostiais lythyr pwysig o Gricieth un prynhawn
I Gaerfyrddin draw ar frys gan roi'r cyfeiriad llawn,
Pob sillaf yn Gymraeg a rois, wel Cymro ydw i,
Rwyn darllen Barddas hyd yn oed a gwrando ar S4C,
A gosod côd y post, 'SA' yn daclus wrth ei droed,
Gan ddisgwyl am gael ateb yn brydlon a dioed.
Flwydd a thrimis wedi hyn daeth y llythyr nôl i'm llaw,
A dyma holi pam nad aeth i'w nod yn Nyfed draw,
Mi fu yng Nghape Town yn SA ac mi fu yn Shanghai,
Yn Ulan Bator a Beijing, rownd y blaned fwy neu lai.
Felly os am ateb sydyn rhwng gogledd a sowth Wêls,
Anghofiwch am yr iaith Gymraeg - 'use English, it never fails'.
Nia Watcyn Powell
8 ½ pwynt
Pennill Dychan: Y Post Brenhinol
Fe dybiech bod enw Llanuwchllyn
Yn ddigon ar amlen i gychwyn
Ond heb enw'r Bala,
A hynny post cynta'
Ni chewch chi ddim byd am tua blwyddyn.
Beryl Griffiths
8 ½ pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Aeth Seth i'r Garth i saethu
'Bang' ni ddangosai lle bu.
1 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Aeth Seth i'r Garth i saethu
Hen fran arno fawai fry.
Englyn Cywaith: Oedfa
I Beniel, Nanmor
Mi ddown at ein gilydd am ddau - bob Sul,
Pawb a'i salm a'i eisiau,
Cwrdd wrth fwrdd gan ymgryfhau
Yn deulu dan Dy olau.
Nia Watcyn Powell
8 ½ pwynt
ENGLYN CYWAITH: OEDFA
Heddiw awn draw yn ddau neu dri - unig,
Yr un yw y cwmni'n
Wyneb poen y dihoeni,
A oes modd dy wahodd di ?
Dylan Davies
8 ½ pwynt
Telyneg: Llan
Mor hawdd fu i mi fwrw sen
ar liwiau
a cherfluniau'r lle....
A rhwydd fu taflu gwên
ar greiriau
a defodau,
cyn setlo'n fodlon
yn un o seddau syth
fy anghydffurfiaeth
lan.
Ond bellach
iau wyf innau, fel y bardd,
atebion fesul un
yn chwifio yn y gwynt
Ac weithiau,
weithiau,
clywaf sisial rhwng
colofnau
a phrofi llafnau'r enfys
trwy'r ffenestri
yn cyffwrdd hen,
hen,
gornel
yng nghapel llwyd fy nghalon.
Cynan Jones
9 ½ pwynt
TELYNEG: LLAN
(Llandanwg)
Estyn dy law
i ddal munudau'r tywod aur,
sy'n llithro'n araf
ddi-aros
trwy wydr niwlog amser.
Dal yno'n dy law ennyd
o aur,
ac fe glywi
leisiau gw?r Mochras
yn hel gwymon,
a phwysau'r car llusg
yn crafu llwybr
trwy'r cregyn bregus.
Un gronyn arall -
a chlywi
rhyw alarnad ar yr heli
a galarwyr y meini llwyd
yn estyn eu lleisiau
dros dreigl y twynni,
nes toddi'n un
a llepian pendil y llanw -
nôl a mlaen, nôl a mlaen.
Tyrd,
chwala'r gronynnau mân i'r gwynt,
ac yno dan dy fysedd
cei ganfod geiriau'r prydydd
ar y garreg lwyd.
Yna daw gw?r Mochras a'r elor
dros y cregyn teilchion,
eu clogynnau llaes
yn dal niwl y gwyll
yn eu plygiadau llwyd.
Ger y porth
fe ddônt ac aros
gan blygu pen i wrando
geiriau'r gosber
yn sibrwd trwy yr hesg.
Haf Llewelyn
10 pwynt
Englyn ar y pryd: Teulu
Uwch gwynder bwndel ar wely - daw dau
Er eu dig, i nesu'n
Unplyg yn eu diwyg du,
A dod eilwaith yn deulu.
Cynan Jones
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 78 ½
Englyn ar y pryd: Teulu
Crëwyd yng nghainc yr ywen - o un had
Wraidd i'r criafolen,
A hi a sugnodd o'r hen,
Y gwaed a thyfu'n goeden.
William Jones Williams
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 78
Cynigion ychwanegol:
Hysbys y dengys y dyn
Yn ei ach radd o fochyn
Limrig yn ymwneud â sbwriel/p>
Yn hynod o ddiwyd bu Daniel
A'i drol a'i ful bach yn hel sbwriel
Nes cafodd lond bol,
A chladdu y drol
A'r mul bach heb lol mewn twll chwarel.
Dyn meddw, digwilydd a diog,
Mae'n ddrwg gen i ddweud, yw'r gweinidog,
Mae'n yfed ei wisgi
A gadael poteli
Yn rhes wrth ddrws ffrynt ei gymydog.
Yn hawdd iawn y gall y Cynulliad
Wastraffu eu hamser yn afrad,
Criw drudfawr yn methu
Gwneud dim ond ad-drefnu,
Ail-gylchu ysbwriel mân siarad.
Englyn yn cynnwys y geiriau 'Ar frys'
I'r plentyn o filwr
Nid ydyw hwn am wên dyner - ei fam,
Mewn arf oer mae'i hyder,
Ar frys aeth i fwrw'r sêr,
Yn ddyn naw mlwydd a hanner.
Pennill Dychan: Y Post Brenhinol
Mae Anti Jên ac Yncl Wil
Yn cynnal parti mawr,
A phawb o'r pentre' 'di cael gwadd
I ddathlu tan y wawr.
Ond dwi fan hyn yn unig
A'm dagrau'n cronni'n llyn,
Am fod y cerdyn oedd i mi
'Di hedfan i Berlin!
Mae'r post yn cyrraedd Nanmor
Tua dau o'r gloch y p'nawn
A phawb yn cwyno'n ddyddiol
'Dw'n i'm pa beth a wnawn'.
Mae'r post yn cyrraedd Buck House
Tua hanner awr 'di chwech
Ond wedyn digwydd gwyrthiau
'Mond i'n Cwîn ni daro rhech.
Cynigion ychwanegol:
CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'MOCHYN'
Amheuthun mochyn yw mes -
Y g?r i ambell gawres.
Ymochel rhag y mochyn
Yn ei dwlc fydd diwedd dyn.
O'm hachos i a'r mochyn
Union y gwnes res ar hyn
LIMRIG YN YMWNEUD A SBWRIEL
Does dim un gwasanaeth yn rhagor
Er codi tri band mewn treth gyngor
Hel lludw ddydd Mercher
Rhyw lond bag a hanner
Cyfleuster heb fawr o egwyddor
Yn barod mae cymaint o sbwriel;
Yn llifo i'r moroedd a'r awel
Fel bod sbarion Ty'n Rhydd
Yn drysu bob dydd
Y tywydd ar lannau'r MôrTawel
Yn Harlech rhag hogiau bach 'bored'
Yr oedd 'na 'emergency cord'
Deuai "Brensiach y brain"
O enau ein Nain
"Fe gaiff rhain fynd i'r drol locabord"
Petai'r rhai mewn grym ar gynghorau
Ychydig yn fwy gylch eu pethau,
Fe welent yn syth
Na wellith hi fyth
Trwy'n boddi mewn môr strategaethau.
ENGLYN YN CYNNWYS Y GEIRIAU 'AR FRYS'
Ar frys di-dwrf i'r oson - gwlad ar wlad
Yrr fwledi'i nwyon;
Duw'n ei ddig yn dweud "Digon"
Ond 'y saint' am dewi a son.
Buasai rhoi hysbyseb - am un ferch,
Mwy'n, fwy na gwên wyneb;
Na atal , ar frys, ateb
Eilun yn awr o flaen neb.
Yn awr frawd, yma ar frys - rho d'enw'n
Glir dano, yn ddestlus,
A daw baich heb godi bys
O daliadau dyledus.
CYWYDD (heb fod dros 12 llinell) : BRO
Holaf am hynt f'anwylydO bell.
"Mae hi'n newid byd
Hebot. Bu ar y botel
Am hir; bu'n enwog am hel
Dynion estron, llawn ystryw;
Un ar we puteiniwr yw;.
Ei lluniau ar gardiau'n gain
Yrrir , a map i'ch harwain:
Mae'i phrisiau ar wifrau'r We".
Hydref, a throi am adre'
Ar sgowt mewn llafurus gêr;
Hen wynebau'n Llanaber !
(Yn Llanaber mae mynwent y Bermo)
Pennill Dychan: Y Post Brenhinol
Dod mewn fen, nid yn troedio
Fel ers talwm,
Dod yn hwyr, nid ar wawrio
Fel ers talwm,
Trwch a phwysau, maint a ballu
Yw y ffi sy raid ei thalu,
Na, nid tair a dime, felly
Fel ers talwm
Sticio'r cwin ond heb ei llyfu
Fel ers talwm
ENGLYN CYWAITH: OEDFA
Hen aelwyd heb do na waliau, - a fferm
A'i holl ffin yn eisiau;
Capel a gwedd ei seddau
O un i un yn gwacau.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

