Bro Ddyfi vs Ysgol Dyffryn Conwy.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
Bro Ddyfi.

Ysgol Dyffryn Conwy.

Cwpled caeth ar yr odl "w"
Ennyn hollt rhwng ni a nhw
Wna'r gwir heb dorri'r garw.
Gwilym Fychan
8 ½ pwynt
Cwpled Caeth ar yr odl 'w':
Cyn i Wil fynd mewn can?
Llynedd, fe drodd y llanw.
Rhian Gwawr
8 ½ pwynt
Limrig yn cynnwys "Aberllefenni
Y mae sôn bod William ac Elsie
Am fynd o Ffestiniog eleni
Ac am newid mynd draw
I gael gwyliau'n y glaw
Yng Nghorris ac Aberllefenni!
Ar ddydd cynta'u hoes wedi'u geni.
Elwyn Breese
8 ½ pwynt
Limrig yn cynnwys 'Aberllefenni':
Wrth droi tuag Aberllefenni
Fe gwrddais Hedd Bleddyn mewn 'mini'
Yn mynd ar ei hynt,
Nes daeth chwa o wynt...
...Doedd ganddo ddim byd oddi tani!
Andrea Parry
8 ½ pwynt
Englyn yn cynnwys dau Broffwyd o'r Hen Destament
'Methu'
Yr Iddewon yn Gasa
Duw Eseciel ni welant, - na Seion
Eseia, ond plygant
I hen Dduw y dant am ddant,
I hen Dduw difaddeuant.
Dafydd Wyn Jones
10 pwynt
Englyn yn cynnwys dau Broffwyd o'r Hen Destament
"A oes awen, Eseia - heno i ddod
I ddyn gael talyrna,
Cod hwyl, cael marciau da?"
"Mae awen Jeremeia"
Andrea Parry
8 ½ pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell_: Anghofio
Dod draw i weled Jonsi
A wnes i ar y beic,
Ond ddim Jonsi ydy hwnna
Sy'n eistedd wrth y meic.
Mi holais Gwilym Fychan
Ond doedd yntau ddim yn si?r,
Ond credai o mai MYMRYN
Mae rhai yn galw'r g?r.
Syllais arno'n ddyfal,
Ond credaf mai mistêc
Oedd tybio ar y cychwyn
Mai fo oedd Charlie Drake.
Rwy'n cofio'i weld yn rhywle
Cyn iddo fynd yn hen,
Medd Ann "Y fo arferai
Fod yn y Babell Lên.
Ac meddai Dafydd wrthym,
"Rydech oll yn colli'ch co',
Mae yma ers canrifoedd -
Ond Gerallt ydy o."
Hedd Bleddyn
9 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Anghfio
Ymweld â Mam
"Helo Mam", wrth gyfarch bod tawel y gadair
A'r llygaid yn edrych trwof yn hollol oer.
"Sut hwylia sydd arnat heddiw?" heb lyfethair
"Pwy ydych chi?" medd tafod rasel hesb o boer.
"Dy fab sy'n galw heibio i ymweld â thi
Er mwyn parhau'r hwyl a'r tynnu coes di ri."
Dim hwylia arni bore 'ma;
Dim syniad lle mae adra;
A'r cof ar chwâl yn ddarna.
"Sut wyt ti'n ngwas i?" Daeth y cwestiwn fel o wn.
"Dai awn a thitha hefyd gwelaf i", yn syn.
"Lle mae dy wraig a'th blant? Maent yma rywle mwn".
"Maent adra heddiw". "Lle mae fanno erbyn hyn?
Pwy ydych chi? Ni welais chi o'r blaen erioed".
"Glyn, dy fab sydd yma", atebais yn ddi-oed.
Llinynnau wedi llithro
Y meddwl wedi gwagio
A mam wedi f'anghofio!
Ifor Glyn Evans
8 ½ pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ebrill
Pob diwrnod â'i gawodydd,
Pob niwlen â'i seren sydd
Yn wincio'n llon drwy'r niwl llwyd;
Ar y migwyn gwyn ganwyd
Oen hardd; mae llygaid gwyrddion
Ar y tir; adar y to'n
Ymolchi, a mwyalchen
Bur ei hawdl ar frig hen bren
Yn brolian, mae'n gân i gyd
Lle bu; tywyll yw bywyd
Yn magu'r oen; mae gwair rhos
Yn oer, a brân yn aros.
Tegwyn Jones
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ebrill
Synnaf wrth weld ei seiniau,
Synnu at y brefu brau.
Uwch y wal daeth chwech o wyn,
Gwroniaid, gweiniaid gwanwyn.
Hopian swil nes stopio'n syn,
i nelu ar fodolyn!
Mawr y bri ar lun mor braf!
Yn yr heulwen yr hawliaf:
Maent selog i'n hannog ni,
i ystyried tosturi.
Ebrillwn fel Briallu,
i hybu Twf ar bob tu!
Hywel Williams.
8 ½ pwynt
Pennill Mawl/Dychan: Gwybodusion
Os gwyddost ddigon 'chydig
I weld pen draw dy go',
Fe dybi di fod popeth
Oddi mewn i'w gwmpawd o.
Hedd Bleddyn
9 pwynt
Pennill Mawl/Dychan: Gwybodusion
Bydd Cymru'n chwarae rygbi yn erbyn Ffrainc mewn sbel.
Af draw i wylio'r frwydr yn gynnes mewn hotel.
Sgrin fawr yn llenwi'r pared a chadair esmwyth ddel
Ond teirawr union yno cyn imi ddweud 'ffarwel'.
Meddyliwch wir am drafod ffôl y gwybodusion a'u cybôl.
Pa angen pymtheg ar y cae a stiwdio lawn yn codi ffrae
Y gêm sy'n cyfrif i chi a fi, nid siarad gwag yr enwog dri
O wybodusion enwog iawn sydd bellach wedi newid dawn-
Nid malu'r gwrthwynebwyr ffit ond malu rhywbeth arall chwit!
Ifor Glyn Evans
8 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
I'r mart aeth Rhisiart a Rhun
Am awr i brynu menyn.
½ pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
I'r mart aeth Rhisiart a Rhun
Yn amrwd, gwerthwyd mymryn.
½ pwynt
Englyn Cywaith: Rhagrith
I blesio'r "Hope and Glory" - albino
Yw'r Albanwr 'lenni,
Eisiau 'nawr i'n plantos ni
Roid mawrhad i'w mawrhydi.
Dafydd Wyn Jones
8 pwynt
Englyn Cywaith: Rhagrith
(Y wraig o Ghana yn mynd yn ôl i farw - Ama Sumani)
Gobaith einioes fu'r croeso - a roddwyd
Yn rhwydd i'w chofleidio;
Ond wedyn ei halltudio,
Agor rhych mewn dyfnder gro.
Andrea Parry.
9 pwynt
Telyneg: Cymod
Yn ôl greddf pob mam
gofalaist amdanom
â llaw dyner
cariad;
huliaist ein byrddau
â danteithion
cyson dy dymhorau.
Ninnau,
dy blant diofal,
yn gwastraffu dy roddion,
fel pe na bai yfory'n
bod,
yn dibrisio dy
haelioni,
ac fel pob plentyn,
yn cymryd gofal mam
mor bechadurus o
ganiataol.
Rym wedi pellhau -
anghofio dy werthfawrogi,
dy barchu.
Tybed a yw'n rhyhwyr?
Beth petait ti, y Fam Ddaearflinedig
yn peidio rhoi ....?
Ann Fychan
8 pwynt
Telyneg: Cymod
Edrych dros ysgwydd yn 1939 ar gytundeb Versailles.
Versailles a'i 'sblander, cyferbyniad
Mwys a'r gwastraff ifanc
Yn y ffosydd.
Erys y pabi coch yn symbol tragwyddol
O'r gyflafan, leidiog,
di-bwrpas.
Rhengoedd mud y croesau'n garfan
Drefnus lle bu
Gwaed a gwae.
Gwaddol hwn yn gyfrwng
Heddwch brau, yn braenaru'r
Ffordd ymlaen.
Cytundeb, cosb, yr un yw'r ddau.
Gwleidyddion gwan, dim rhuddin yn eu
Rhannu rhwydd.
Un naw tri naw, ac Ewrop unwaith eto
Yn rhyferthwy'r rhyfel,
Beth oedd gwerth y cymod hwn?
Gwyn Hughes Roberts
8 pwynt
Englyn ar y pryd: Datblygiad
Ni'r addurn o wareiddiad, - hen dduw ddoe
Oedd dduw'r dant a'r llygad,
Ni'r rhai gwâr sy'n mynd i'r gad
Yn cario croes Duw cariad.
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 79 1/2
Englyn ar y pryd: Datblygiad
Golau ar gemegolyn - yn haenen,
Drwy'r ffenest mewn bocsyn,
Ddaw o hafn mewn llafn, yn llun
I'w gadw, o lygedgyn.
Hywel Williams
8 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 76 ½
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth ar yr odl "w"
Hen lol yw mynd ar dy lw,
Mae wirion - 'tawn i'n marw!?
Nid yw pres holl wlad Per?
Ar waeledd o fawr elw.
Limrig yn cynnwys "Aberllefenni
Mewn llechfaen o Aberllefenni
Roedd ffosil o nyth a iâr dandi
Yn eistedd ar wy,
A phawb drwy'r holl blwy'
Yn aros i'w weld yn deori.
Mae aber ar yr afon Ddyfi,
A llef yw y gair arall am weiddi,
Ac mae pawb sydd yma
Er cymaint y dyrfa
Cân (heb fod dros 20 llinell_: Anghofio
Wel, dyma stori ryfedd,
Anhygoel ydyw hon
Am w'nidog a anghofiodd
Wisgo'i goler gron.
Fe wisgodd grys T trendi,
Un du a choler wen,
Guiness ar ei ffrynt o
A Carlsberg ar ei gefn.
Fe aeth o draw i'r capel
A phregethu fore Sul
Ar bwysigrwydd gwerin Cymru
I droedio'r llwybr cul.
Roedd Ifan Jones, y blaenor,
Yn ?r pryderus iawn,
Ac i foddi ei ofidiau
Bu ar wisgi drwy'r prynhawn.
Wel, dyma beth oedd chwalfa
Oddi mewn i'r Gymru hon
Am i un parchedig w'nidog
Anghofio'i goler gron.
Pennill Mawl/Dychan: Gwybodusion
Mae ambell lo am frefu
Yn uwch na'r lleill i gyd,
Ond ar ôl gwrando arno
Faint elwach (callach) ydyw'r byd?
Englyn Cywaith: Rhagrith
Heddiw mae y gwleidyddion - yn wasaidd
Am im blesio'r Saeson
A rhoi fy mraich ar fy mron
A geirio llw i'r goron.
Cynigion ychwanegol:
Cwpled Caeth ar yr odl 'w':
Heather Mcartney
Arian oedd llwyfan ei llw
A chariad drodd yn chwerw.
Limrig yn cynnwys 'Aberllefenni':
Rhyw hoeden o Aberllefenni
Sydd wastad yn chwerthin am 'mhen i.
Ni wn i paham
Edrycha mor gam,
Pa nam sydd mewn gwisgo ei sgert hi?
Mae Aberllefenni yn rhewi
Mae Aberllefenni yn drewi,
O, Aberllefenni
A, Aberllefenni
Ond tyd hi'n anodd barddoni!
Rhyw ddyn bach o Aberllefenni
A na, tydi hyn ddim yn ffyni,
At y meddyg yr aeth
A philsen a gaeth,
I godi' hen beth o'i fyny.
A "Sat nat" i "Abergavenny"
Ymlwybrodd y boi hefo'i lyfli,
"Good God" medda hi,
"'S'not where we should be
We've landed in Aberllefenni!"
Roedd Beni o Aberllefenni
Am briodi a Gweni eleni,
Ond gwrthod yn daer
A wnaeth yr hen chwaer
Rol gweld fod ei Beni yn Jeni!
Cân (heb fod dros 20 llinell): Anghfio
Eira'n chwyrlio'n drwchus
Yn pluo'n enbyd oer
Yr awyren oedd ar gychwyn
Yn wen fel golau'r lloer.
Rhuai'r peiriannau cryfion
Gan wthio'r criw ymlaen
Cyflymach a chyflymach,
Mynd gartref wnaent rhag blaen.
Ond ofer fu'r ymdrechion
Disymwth ddiwedd taith
Ar darmac gwyn a rhewllyd
Gadawyd lawer craith.
Chwaraewyr ifanc, disglair,
Eu bywydd oll ar ben,
Ni wnawn anghofio Munich
O dan ei fantell wen.
Pennill Mawl/Dychan: Gwybodusion
I banel y rhaglen Scrum V a ddarlledwyd ddiwedd Ionawr 2008.
Mae rhai yn gwybod 'chydig,
A rhai yn gwybod dim,
Ond 'nôl y gwybodusion
'Doedd Cymru'n fawr o dîm!
Telyneg: Cymodi
Fe wn nad wyf yn berffaith,
Fe grwydrais lwybrau ffol,
Ac er na fum yn ffyddlon
'Rwyn fodlon dod yn ol.
Mae'n rhaid cael dealltwriaeth
Os ym i fyw'n gytun,
Cytundeb fyddai'n annog
'Ryw hyder yn fy hun.
 thalp go dda o gariad
Yn gyson rhwng ein dau,
 chymorth yn llawn gobaith
I'r uniad gael parhau.
Ac os y byddi'n fodlon
I faddau'n meiau i
A dioddef fy ngwendiadau
Fe rof fy hun i Ti.
Telyneg: Cymodi
Geiriau croes sy'n aml frifo
Anodd iawn ynt i'w anghofio
Geiriau cas sydd yn peri loes
Arhosant yn y cof am oes.
Gair celwyddog sydd fradychus
Yn gachiaidd a thruenus,
Geiriau tymer wyllt yn hofran,
llechu wnant yn nyfnder calon.
Gair o gerydd yn ddi achos
Dicter sydd yn hir ymaros.
Geiriau cymod sy'n groes i'r graen
Ond drwyddynt hwy caf symyd 'mlaen.
Telyneg: Cymod
Yn s?n y daran, a'r gwaed
yn gymysg a'r diferion
glaw.
A'i ben i lawr, a'r hoelion garw'n
hollti cnawd ei
law.
Rhwng dau ddi-edifar, cymdogion
yn oerni'r
curlaw.
Saerniwyd Cymod brau rhwng
dyn a Duw, drwy'r Crist
di-fraw
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

