Talybont vs Y Glêr.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.

Talybont.

Talybont.

Y Glêr.

Y Glêr.

Cwpled Caeth yn cynnwys 'Iâr'

Henri ddaw, yr hen iâr ddu,
Ai ceiliog yw yn celu?

Siwan Gwyndaf
8 pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys 'iâr'

Anodd yw dal anwedd dwr,
Anos dal iâr i henwr.

Osian Rhys Jones
9 pwynt

Limrig yn ymwneud â Theithio

Mewn Trôns a string vest safai Wili,
A Beti mewn dim ond bikini,
'Roedden nhw yn Nepal,
Ond y bags "not at all",
'Roedd rheiny ar ôl yn Hawaii.

Wyn Thomas
8 ½ pwynt

Limrig yn ymwneud â theithio

Rydw i rwan i fod draw ym Mharis
Efo 'nghariad mewn gwesty mawr moethus,
Ond mae'n edrych yn debyg
Yn ôl geiriau Eurig
Bod yn rhaid 'mi fodloni ar Gorris.

Osian Rhys Jones
8 pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau 'Rhyw Ddydd'

Rhyw ddydd fe drïa'i ddod - i ddeall
Addewid y Drindod,
Ac Atat dof i ddatod
Direswm gwlwm Dy gôd.

Gwyn Jenkins
8 pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau 'rhyw ddydd'

Rhyw ddydd bydd unigolrwydd bod - mewn swòb;
Myn y saint ein gwarchod
A'n hunuaniaeth anhynod
Ar rhyw fâs data sy'n dod.

Osian Rhys Jones
8 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Dirgelwch

Rôl codi o'i hamoc ar fore Dydd Llun,
A phori drwy'r Guardian, roedd Suzy yn flin
Wrth weled Mynachod Tibet yn cael cam.
Un cadarn oedd Suzy o blaid y di-nam.

Hel enwau ar ddeiseb dydd Mawrth aeth â'i bryd,
Oherwydd i wraig o Nigeria gael stîd,
A Cwrdiaid Twrci ydoedd testun ei llith,
Wrth flogio'n ddiddiwedd o glydwch ei nyth.

Ddydd Mercher, dros muesli, aeth Suzy yn grac,
Wrth glywed fod gweithwyr Sri Lanka'n cael sac
Am berthyn i Undeb, felly aeth ar y We
A llywodraeth Colombo gath glywed ei phle.

Bu'n gwarchod madfallen drwy fore dydd Iau,
A nofio 'da dolffin drwy'r pnawn yn y bae,
Ddydd Gwener, bu'n hwrjio rhyw fagiau jiwt
A wnaethpwyd mewn co-op gan Indiaid ciwt.

Pam felly bod Suzy a miloedd o'i bath
Yn flin am fod Cymru yn hawlio'r run fath
O urddas a roddir i wledydd rhydd,
A gobaith i'w phobl ar doriad dydd.

Phil Davies
9 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell):Dirgelwch

Mae ambell beth yn y byd 'ma sy'n ddirgelwch mawr i mi,
Fel pam bod merched yn gorfod mynd fel gang i bi-pî?

Pam nad enillodd Waldo y Gadair na'r Goron erioed?
Sut yn y byd y gall fflamingo gysgu ar un droed?

Pwy oedd yr un a benderfynodd alw gafr fechan yn fyn?
I lle y diflana'r coco wrth greu bar o siocled gwyn?

Pwy benderfynodd nad gwr-id y dylid ei ddweud, ond gwrid?
Pwy oedd y westar a gyfrodd holl goesau'r milipîd?

Sut gall y fath gawres â derwen dyfu o'r fesen fach?
Pwy oedd yr idiot cyntaf i redeg ras mewn sach?

Pam y caiff addysg brifysgol ei galw yn addysg uwch?
Beth oedd yn mynd drwy feddwl y gwr cyntaf i odro buwch?

Pam y gwnaeth ein gwleidyddion gytuno â rhyfel Blêr?
Pam bod rhai eisiau darllen am batshys chwys y sêr?

Er byw dros y ffin o Gymru, pam na allaf ddianc rhag hon?
Pam bod dynion trwsiadus yn hoff o daro pêl â ffon?

Pam aeth yr Iesu i'r groes i achub fy einioes i?
Sut ar y ddaear y collodd tîm Cymru i Ffi-ji?

Ond o'r holl ddirgelion sydd imi, hwn yw'r mwyaf - mae'n ffaith:
Pam na chaiff Tîm y Glêr gyrraedd ffeinal Y Talwrn un waith?

Iwan Rhys#
9 pwynt

Cywydd teyrnged (heb fod dros 12 llinell):

(i Elin, merch Anwen, a anwyd mis Tachwedd y llynedd)

Er y 'Dolig a'r dwli,
y rwtsh a'r geriach di-ri,
y gemau a'r ffilmiau ffôl,
y twr o wast materol,
haf bach a ddaeth i'm Tachwedd,
a gwawr y gwanwyn i'm gwedd.
Er yr hirnos, trwy'r oerni
daeth rhin Mehefin i mi
yn rhwydd. Daeth hapusrwydd pur;
un annwyl a wnaeth synnwyr
o fis y rhoi. Profais rin
Nadolig - ganwyd Elin.

Anwen Pierce
8 ½ pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell):

Teyrnged i Fidel Castro

Rhyfeddu'r wyf iddo roi,
Wedi geni ac uno'i
Giwba lân, yn ei faner
A'i alaw dlawd gystal her
I glustiau dirgel, astud
Gan ddal i'w cynnal cyhyd;
Gwn am ei gymdogion o -
Ni fynnant, er clustfeinio,
Er doethed, cryfed eu criw,
Oddef cyfaddef heddiw,
Ar ôl oes, na allai'r wlad
Wrthsefyll ei wrthsafiad.

Eurig Salisbury
8 pwynt

Pennill Dychan: Seicolegwyr

Paham y testun, fe hoffwn glywed,
Ai Freudian slip yr oedd e, tybed?
Oes ODewiPws complex yno'n celu;
Rhyw atgof, rhyw broblem yno'n llechu?.
Paham, yw'n cwestiwn er mwyn cael gwybod
Holl ddyfnderoedd yr isymwybod.

Phil Thomas
8 pwynt

Pennill mawl/dychan - Seicolegwyr

Y mae fy seicolegydd
Yn dweud bod gen i issues,
Rwy'n siºr bod gan y diawl dan-din
Sawl siâr mewn cwmni tishws.

Iwan Rhys
8 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Mae diawl o hawl gyda hi
A hen wragedd yn rhegi.

½ pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Melys, rhamantus i mi
Yw hen wragedd yn rhegi.

½ pwynt

Englyn Cywaith: Mesen

(Ar ôl gweld mesen mewn hysbyseb gan un o'r banciau mawr yn annog bobl i fuddsoddi, ar waetha'r hyn sydd ar ddod o America.)

A yw dy log yn ddiogel - yn y banc,
Er bod cwymp anochel
Yn aros dros y gorwel
I nyth y rheiny sy'n hel?

Phil Davies
8 ½ pwynt

Englyn cywaith - Mesen

Os oes gormes ar fesen, daw mi ddaw
O'r ddaear yn dderwen,
Ond o'r pridd daw ar y pren
Waedu'r gad ar y goeden.

Hywel Griffiths
8 ½ pwynt

Telyneg: Cwymp

Weithiau mae'n rhaid i ffatri gau;
dim marchnad i'r cynnyrch,
a'r cwmni'n methu.

A'r gweithlu,
yn deulu o ddynion,
yn cydweithio fel peiriant cywrain,
cyn cael eu gwasgaru,
a'r dwylo dyfeisgar,
yn awr, yn segur
neu'n llenwi silffoedd Tesco
i swn storiau gwag Ok a Hello.
Diflanodd yr urddas cynt
a oedd yn creu,
tu ôi i'r gatiau cau.

O dan yr un haul ond gwahanol wawr,
ar lawr yng nghysgod y palmwydd;
gorweddai'r g?r mewn chwys gwsg.
Bloeddiodd,
ciciodd a dyrnodd yr awyr,
ond ni drawodd yr aer o'i gwmpas.

Nid oedd y llaw a oedd yn llywio'r ychen
na'r droed a gerddai tu ôl i'r arad,
yno mwyach.

Ar ôl y ffrwydriad,
yn fyddar i'w sgrechiadau ei hun,
cofiodd iddo
faglu ar wreiddyn;
un cam gwag ar ddyfais o dramor
a oedd yn llechu
o dan bridd ei dir.

Weithiau,
mae'n rhaid i ffatri gau.

Phil Thomas
9 pwynt

Mae tua 20,000 o bobl yn cael eu lladd neu eu hanafu gan ffrwydron tir neu UXBs yn flynyddol . Ers 1997 mae y rhan fwyaf o wledydd wedi arwyddo cytundeb i beidio â chynhyrchu ffrwydron tir, ond y mae 15 o wledydd yn dal i'w cynhyrchu.

Telyneg Cwymp

A wnei di, pan fo'r noson yn glir,
Lygadu'r llwybrau llaethog yn hir?

Ymhell o'r clociau rhythmig undonog
Sy'n cadw'r ddinas mewn cylchoedd anfoddog;

A theimlo bod eiliad cyn bod eiliadau
Fel oesoedd ac oesoedd yn bwrw'i iasau

Dros dy wyneb. Nes teimlo dy fodolaeth,
Mewn anadliad, dros rychwant creadigaeth,

Ac yn cynnau'n dy lygaid rhyw enedigaeth
All eisoes fod yn farw, ond pa wahaniaeth?

Ac wedi'r gwylio, a'r cydnabod,
Paid ag anghofio dy fod di'n gorfod

Cadw dy lygaid, wrth droedio dy lwybyr,
Ar dy gamau bychain, rhy fach i'w mesur;

Neu byddi di'n cwympo mor drwsgwl i'r llawr,
A'r sêr i dy ganlyn, yn y crio mawr.

Osian Rhys Jones
10 pwynt

Englyn ar y pryd: Blinder

Yno'n daer rhedwn ein dau - dros y fron,
Yn wirion am oriau;
Ond syrth y cwyr, mae'n hwyrhau,
Awn yn glou i'n gwelyau.

9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 77

Englyn ar y pryd: Blinder

Down at Arthur a churo ar y mur
Am oriau, cans heno
Daw angof i'w ogof o
Oni ddown i'w ddihuno.

9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 78

Cynigion ychwanegol:

Pennill Dychan: Seicolegwyr

Mwnci yn gwthio botwm,
Ci yn canu cloch,
Babi yn dechrau gwenu,
Torf yn gweiddi'n groch,
Siopwyr yn mynd a dwad,
Ymddygiad arwaraidd plant,
Dyna yw maes ein llafur,
Ond i chi gynnig grant.

Englyn Cywaith: Mesen

Mae anrheg o gymunrodd - y gangen
'ngrog-hongian dros weirglodd
dau gae. O ddwyn ffrwyth mae modd
'sgaru hon a'i hesgorodd.

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys 'iâr'

'R ôl yfed y dywed dyn
Nad yw iâr yn aderyn.

Nid yw iâr wedi aros
Un waith hefo fi dros nos.

Y mae galar giâr y gôg
Yn alar am ei cheiliog.

Limrig yn ymwneud â theithio

Daliwyd Wil gan gamera'r Stryd Fawr
Yn rifyrsio gan milltir yr awr,
Mae gan Gyngor Gwynedd
Ddyled o sylwedd
I'r gºr rhyfedd hwnnw yn awr.

Es â Gel am dro i Lanllechid
I bwyllo ar ôl ffrae efo'r crosbrîd,
Ond rhedodd y diawl
'R holl ffordd i Borthcawl
Ar ôl dial yn braf dros fy esgid.

Englyn yn cynnwys y geiriau 'rhyw ddydd'

Pan fo'n rhydd rhyw ddydd a ddaw'r hen wlad hon,
Yn wlad hwy ei halaw,
Byddwn wlad, heb frad, heb fraw
Yn destun, o feirdd distaw!

Pennill mawl/dychan - Seicolegwyr

Mae'r dyn ma'n gwbwl honco,
Yn siarad rwtsh yn braf,
A'r rheswm dwi'n dechre poeni
Yw am mai fi yw y claf.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.