Tegeingl vs Penrhosgarnedd.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.

Cwpled caeth yn cynnwys dau liw:

Nid y gwir pob du-a-gwyn
Na llwyd pob twyllo wedyn.

Dafydd Morris
8 ½ pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys dau liw:

Drwy'r baw ar wydrau bywyd
Du a gwyn sy'n llwyd i gyd.

Llion Jones
8 ½ pwynt

Limrig yn ymwneud â thynnu llun:

Oherwydd y Talwrn ac ati
Caf wahoddiad gan bawb i bob parti
Mi awn yn ddi-ffael
Pe bai llonydd i'w gael
Gan gam'ras yr holl baparazzi.

Pedr Wynn Jones
8 pwynt

Limrig yn ymwneud â thynnu llun:

Rwy'n tynnu llun da yn fy meddwl
Ond fedra'm ei ddangos o gwbwl;
Pe bawn i'n datgelu
Ei gynnwys i'r teulu
Gallai hynny greu andros o drwbwl!

Lynn Davies
8 ½ pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell: 'Yn fy henoed af innau':

Carpe Diem (er cof am Aled)

Yn fy henoed af innau, ei dithau
Ar daith y cyndadau,
Ond yn awr cyd-awn, yn iau,
Yn nwyd ein braf ddiwrnodau.

Dafydd Morris
8 pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell 'Yn fy henoed af innau':

Yn fy henoed af innau at y nos
Eto'n ôl i'r llyfrau
Yn y cof, a chyn eu cau,
Gorwedd yn s?n y geiriau.

John Ogwen
8 ½ pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Penderfyniad

Dros y Grawys penderfynodd y cynghorydd Jo ap Jo
Fyw yn ecolegolecach - dyna'r term ddefnydiodd o.
Gwerthodd Lambogini'r teulu a buddsoddi wnaeth mewn mul
Reidiodd hwn i'r T? Cyffredin a dod nôl cyn cinio Sul.
Hei di ho, canodd o, fi yw'r gwyrddaf yn y fro.

Llosgi wnaeth ei siwt Armani yn gyhoeddus ar y stryd
Gan bregethu Armagedon a llifogydd drwy'r holl fyd.
Ond arhosodd neb i wrando, heglodd pawb am adre'n chwim
"Beth a ddwedais?" yna gwelodd "Rargian fawr, dwi'n gwisgo dim"
Hei di ho,wylodd o, fi yw'r gwyrddaf yn y fro.

Aeth ag arad drwy ei winllan a distrywio'r feddwol ffrwyth
Plannodd fyddin fawr o foron, tatws, bresych, llwyth ar lwyth.
Ond liw nos fe ddaeth cwningod, llowcio'r cyfan, dyna'r sôn
A'r cynghorydd mewn pythefnos bwysai lai na deuddeg stôn.
Hei di ho, stranciodd o, fi yw'r gwyrddaf yn y fro.

Heddiw, drannoeth yr etholiad nid oes sôn am Jo ap Jo
Mae ei ful yn crywdro'r pentref, drws ei blasdy sydd dan glo.
Ond os hedwch i Farbados gwelwch ddyn ar draethell glyd
Merch liw efydd yn ei freichiau, gwydr llond rhyw ddiod drud.
Hei di ho, wincia fo, fi yw'r clyfra yn y fro.

Glyn Jones
8 ½ pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Penderfyniad

Bob bore gwelwyd Tomos Jôs yn dal y byw i'w waith,
Ac yn ddi-ffael roedd Cecil Wyn yn gwmni ar ei daith;
Siaradus iawn oedd Cecil ar hyd y ffordd i'r dre
A Tomos gydag atal deud yn yngan bw na be!
Mi drïodd ambell dro cael gair ond roedd o fawr o iws,
Ac wedi sawl t?-tytio gwyllt fe droes ei wedd yn biws,
Ond bwrw mlaen wnaeth Cecil a'i stori'n ddi-ben-draw
A Tomos bach yn ddistaw iawn yn gwrando yn ddifraw;
Aeth hyn ymlaen am flwyddyn gron heb newid yn y byd,
Byrlymai geiriau Cecil - tra roedd Tomos yn hollol fud.
A gwnaed y penderfyniad mawr, aeth Twm at athro llais,
Dim ond cael dysgu stori fach - hwn oedd ei unig gais,
Bu wrthi am wythnosau yn ailadrodd stori lon,
Ac er bod sawl t?-tytio'n bod fe lwyddodd ef o'r bron.
Pan wawriodd bore'r ymdrech fawr aeth Tomos ar y bys
A throdd at Cecil yn ddi-oed heb nemor fawr o ffys,
"G-g- gwrando arna i b-b-oi bach mae gen i s-s-stori faith,"
Ond hanner stori lwyddodd Twm i'w dweud cyn pen y daith,
Pan safodd Cecil ar ei draed fe welodd Twm ei gyfle
Gafaelodd yn ei gôt a dweud, "Pa-pa fys wyt ti'n ddal adre?"

Morien Phillips
8 ½ pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Galwad Ffôn

(galwad ffôn i fy ngwraig, yn ei hysbysu am farwolaeth sydyn ei thad, Alwyn Selway, Nadolig 2007)

Y wifren sy`n dolennu
Am ei dwrn yn glymau du!

Iddi hi`n ddirybudd ddaeth
Yr alwad - yna`r alaeth
Dreiddiodd yn ingol drwyddi
A`i nwyd wedi`i hysgwyd hi.
Heb ddirnad r`anghredadwy`n
Amau`i hun cyn holi mwy.

Mor afreal fu`r alwad
Heno`n dwyn ei hannwyl Dad.
Yn ei braw, syllai`n dawel,
Yn rhy hwyr i ddweud ffarwél.

Marc Lloyd Jones
8 ½ pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Galwad Ffôn

A minnau ar y mynydd,
dyn ar allt a'i draed yn rhydd,
yn gweld y gorwel i gyd,
a llefydd tywyll hefyd;
yn gweld cwm peryg a'i her,
yn dweud ei ddweud â hyder,
yn estyn at grib wastad,
at yr haul sy'n paentio'r wlad:

yn sydyn, â llafn wynias,
o ryw le, drwy'r awyr las,
drwy chwarel y drych oren,
mewn ennyd daw byd i ben.

Iwan Llwyd
8 ½ pwynt

Pennill Mawl/Dychan: Y Gyfraith

Y tro cynta' y cefais i nal
Amddiffynnais fy hun, gan wadu.
Er yn ddieuog ces flas pedair wal
Mi delais yn ddrud iawn bryd hynny.
Yr eildro, a minnau yn gwbl ddi-ffydd
Ces dwrna, y gorau yng Nghymru.
Er yn euog tro hwn, des o'no yn rhydd
Ond telais yn ddrud iawn am hynny.

Moi Parry
9 pwynt

Pennill Mawl/Dychan: 'Y Gyfraith'

Mae'r gyfraith fel rhyw we pry cop
A daenwyd mewn corneli,
Y pryfaid mân sy'n cael eu dal-
Y pryfaid mawr ânt drwyddi.

John Ogwen
9 ½ pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

I gof daw'r pregethwyr gynt
Anweddus gnafon oeddynt.

½ pwynt

Ateb llinell ar y pryd

I gof daw'r pregethwyr gynt
A'u hwyl yn dân a helynt.

½ pwynt

Englyn Cywaith: Inc

Bysedd na lanwodd biser yn adrodd
O edrych, am amser
Yn y parc, hel llus bach pêr
A hen wendid o'u llawnder.

Pedr Wynn Jones
8 pwynt

Englyn Cywaith: Inc

Llyfrau a etifeddwyd

Ar gyrion gwâr y geiriau, yn yr hollt
sydd rhwng y llinellau,
mae beiro un am barhau
i lenwi'r tudalennau.

Llion Jones
9 pwynt

Telyneg: Cyffro

Llwyfan Chwefror 'rôl heth o'i bwn
Sy'n ocsiwn addewidion,
O'r onnwydd noeth a'r deri tal
Does atal llu gobeithion.

Mae'r adeiladwyr yno 'nghyd
A'u bryd ar atgyweirio,
Hen dolpis du y llofftydd blêr
Yn ffanffer croch y deffro.

Ym môn y cloddiau 'run yw'r w?s
I wyrddlys gwig a phrysglwyn,
Trwmpedau aur cerddorfa'r rhôd -
Agorawd ddyfod gwanwyn.

Norman Closs Parry
9 pwynt

Telyneg: Cyffro

Ar gymer tair afon ar derfyn pnawn,
lle daw'r eogiaid eto ar eu taith,
caf oedi gyda 'ngwydr hanner llawn
a gwylio'r machlud drwy olygon llaith;
wrth i'r cysgodion ledu dros y dre',
ar ambell d?, mewn ambell dafarn fud,
mae cyffro hen ddiwylliant gloyw'r lle
yn dal i ddal pelydrau'r haul o hyd:
â'r nos yn cau, gan daenu'i hamdo hi,
fe welais fflach dan wyneb llwyd y d?r
a lliw fel blodau'r gwanwyn yn y lli,
pererin o'r Iwerydd pell, dwi'n si?r,
yn dal i gredu rhywsut, â phob llam,
bod fory rhwng Sant Croix a Notre Dame*

* Dwy eglwys hynafol Kemperlé yn Llydaw, un bob ochr i'r afon.

Iwan Llwyd
10 pwynt

Englyn ar y pryd: Trên

Yno'n gannoedd lond wagenni a'u gwerth
Fel gwartheg i'w llosgi
Yn y gennyn drygioni
Yn y llwch ein heddwch ni.

Norman Closs Parry
8 ½ pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 76 ½

Englyn ar y pryd: Trên

Y gair olaf yn nrama'r T?r

Fe wn y deuaf heno i'w aros
Fin hwyr, ond gwn eto
Bod ei was a'i gerbyd o
Ar wib am yrru heibio.

John Ogwen
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 80 ½

Cynigion ychwanegol

Cwpled caeth yn cynnwys dau liw:

O'r irlwyn fe fu'r erlid
Brwnt ar goch gau lwyd y brid.

Glas y llain nid yw geinach
Na nef hardd lili wen fach.

Dilyw melyn daffodiliau
A gwyrdd eu dail yno'n gwau.

Heddiw mae pla'n cyniwair-
Du a gwyn ar hyd y gwair.

Yn y coch? Dyna ochain,
Yn y du? Na lwc, myn diain!

Limrig yn ymwneud â thynnu llun:

Llewygodd f'athrawes mewn syndod
A llyncu ei set dannedd gosod,
Ond gorglodd yn glir
Fod fy sgwigli yn wir,
Yn gwthio Picasso i'r cysgod.

Rhoes hogyn y teulu drws nesa'
Rhyw ffortiwn go fawr am ei gam'ra
Roedd hwnnw mor slic
Doedd ond angen un clic
A danfonai bob pic i'r papura'.

Mae Dilys ym maes Radioleg,
Bu hi felly ers graddio o'r coleg.
Ie, hi yw'r ferch ddoeth
Sy'n eich cael chi yn noeth
A 'delweddu' eich bol drwy eich bloneg.

Nid oes waeth na'r hunan bortread
Gan Van Gogh wedi angerdd y toriad
O'i glust ef ei hun
A'i gyrru i fun
Gofynnaf, "Beth nesa wnaiff cariad?".

Wrth yrru drwy bentref bach Sychdyn
Daeth fflach fawr syfrdanol - am ddychryn!
Mewn tridiau daeth postman
Ac eglurwyd y cyfan
Triphwynt am lun oedd y nodyn.

Cafod g?r o 'rywle' yng Nghymru
Lun o'i fusus yn chwarae i fyny
Fe stwffiodd o gamra
Y dyn tynnu llunia
I'r lle nad yw'r haul byth yn t'wnu!

Roedd Rhisiart yn goblyn o ddyn
Ei gamra a drodd arno'i hun
Anelodd yn slic
Gyda fflachiad a chlic
A rwan mae Dic yn y llun

Englyn yn cynnwys y llinell: 'Yn fy henoed af innau':

Yn fe henoed af innau ar res hir
O soirésa a gwyliau;
Mawredd! Af ac ymryddhau
A hirnos ein Talyrnau.

Myned o hyd i'r mannau hudolus
A dal ar eu gwyliau
Beunydd aiff y to sydd iau
Yn fe henod, af innau!

O ddilyn hel meddyliau a wylo
Yn ôl i'r hen lwybrau
Lle rhedwn pan oeddwn iau,
Yn fy henoed af innau.

(Gan gydnabod englyn 'Y Llwybr Troed)

Yn fy henoed af innau i rodio
Ar hyd yr hen lwybrau;
Heddiw'n wyrgam fy nghamau
Lle rhedwn pan oedd iau.

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Penderfyniad/p>

Eto mae'n fore - mae'r hwyl wedi bod
Neithiwr sy'n gwingo - mae heddiw ar ddod
Mae cwmwl ar ddrych y ddwy ganrif faith
A hagrwch cynnydd ar wyneb y gwaith
Anodd ymbincio a mwg tros y lliwiau
Anodd i hoen yw gwenu trwy friwiau
Gwaddod a lludw yn glynu dan draed
A'r llygaid yn ddall trwy feinwe o waed
Gwagwyd pob casgen a bwrdd yn y wledd
Byddardod y drymiau sy'n rhith o hedd
Rhaid carthu'r blerwch sy'n tagu'r stafell
Ond ti, nid fi, piau'r ysgub a'r sgrafell
Wfftio cyhuddiad a gwrthod pob bai
Llowciaist ti lawer, cymerais i lai
Rhwng llanast y nos a dryswch y dydd
Yr un hen gecru a fu ac a fydd
Tuedd i batrwm a phatrwm i duedd
Rhaid gwneud penderfyniad rhwng dechrau a diwedd

Pennill Mawl/Dychan: Y Gyfraith

Beth a'n ceidw rhag anrhefn?
Gwybod bod y glas wrth gefn.
Ac a'n rhwystra rhag troseddu?
Ofni cosb y llys a'r heddlu.

Rwy'n clicio wrth wisgo y gwregys
A segur yw botymau fy 'mob'
Rwy'n cadw o fewn rhifau hysbys
Rhag gwn-gwibio rhyw Sais o hen slob.
Ym maes parcio y dre 'cw neithiwr
Rhois fy nghar ar linellau gwyn, cul.
R?an, - nid wyf yn ddrwg weithredwr
Ond gwn nawr, pam mae'r gyfraith yn ful!

Englyn Cywaith: Inc

Hen yw awch gwneud llun o iaith - dal y gair,
Dal y gamp yn berffaith;
Yn lân, dal meddwl ganwaith
Yn wefr oll dal cof ar waith.

Du ar wyn a llifyn llen - i'r afiaith
Ar ifanc dudalen
O'i roi'n hysb ar femrwn hen
Duwch ar fachlud awen

Telyneg: Cyffro

Y gweill sydd yn mwmian paderau
A'r lliwiau fel torch ar ei chlun,
Ei llygaid yn ymladd â bysedd y tes
Wrth wau ei breuddwydion ei hun.

A'iff carreg dros lynnoedd ei meddwl
Mae yma yn cyrchu y tro,
Ei chwiban yn codi'r fit?od o'r gwrych
A'i fag llond pryderon y fro.

"O gwneith, mi gyrhaeddith o heddiw,
Yr amlen a'r stamp cangar?,
A ddyliwn ddim poeni ond chlywais i ddim
Ers wythnos na be na bw."

Mae'n oedi, mae'n croesi, mae yma,
Ond o, y mae heibio y t?
A'i gadael yn rhythu i'r rhith ar y paen
Ar ddychryn dau lygad du.

Disgynna yn ôl rhwng y breichiau
A chodi ei gwau ar ei chlun,
A defnyn o obaith sy'n llithro o'i boch
I bwythau breuddwydion ei hun.

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys dau liw:

I arbed trafferth wedyn
D'wed y gwir mewn du a gwyn.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.