Bro Alaw vs Cadw'r Ffin
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'bocs'
Creisionwyd bwyd, sydd mewn bocs,
 heulwen yn ôl Kellogs
Arwyn Roberts
8 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'bocs'
Daw carlam byw, a'n giamocs,
i ben, yn daclus, mewn bocs.
Sion Aled
8 pwynt
Limrig: "Pan oeddwn yn ymyl Llandudno"
"Pan oeddwn yn ymyl Llandudno"
Daeth cloban o wylan fawr heibio
A bellach 'rwy'n ddeddfol
Yn diolch yn ddyddiol
Na roddwyd adenydd i hipo
John Wyn Jones
8 ½ pwynt
Limrig: 'Pan oeddwn yn ymyl Llandudno'
Pan oeddwn yn ymyl Llandudno
mi holais "Y Venue, lle mae o?"
Meddai'r ddynes i mi
"Mae benyw yn 'hi'
a dw inna yn rhydd os chi isio!"
Michelle Murphy
8 ½ pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell: "Anodd yw penderfynu"
Dynion sydd yn cwestiynu - be sy dda
Be sy ddim, i'w feddu,
Gan nad oes na gwyn na du
"Anodd yw penderfynu" .
Geraint Jones
8 pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell: "Anodd yw penderfynu"
Anodd yw penderfynu - i rai Iancs
ar risg yr enwebu:
ai dal wrth wraig 'rhen deulu,
ai mentro â'r deffro du?
Sion Aled
8 ½ pwynt
Cân [heb fod dros 20 llinell]: Y Gyfrinach
'Doedd y wasg ddim am ddatgelu
Hynt a helynt milwr brwd
Nes i rywun o Awstralia
Ollwng yr hen gath o'r cwd.
Wedyn straeon hyd at syrffed
Lluniau fil o'r arwr hwn
Yn rhoi braw i'r Talibaniaid
Fo mewn camofflâj â'i wn.
Wedi i'r stori gyrraedd adra
Wnaeth o'm aros yno'n hir
Ond yn awr hon yw'r gyfrinach
Ac mi rydw i'n deud y gwir.
Mae y wasg yn llawn celwyddau
Lluniau gwneud, a'r print yn fân
Ond hawdd nabod Mynydd Parys
'Tai o'i weld ym mhig y frân.
Tydwi'n gwbod na fu'r milwr
'Rioed yn llwch Affganistan
Tydi Phil the Greek 'di deud 'thai
A'r dyn camra'n dod o'r Llan
Geraint Jones
9 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Gyfrinach
Beth yw y gyfrinach?
Beth sy'n cadw ffydd?
Beth yw y gyfrinach
o fyw o ddydd i ddydd?
Ai cariad, gwir brydferthwch,
ai cyfeillgarwch triw?
Ai cred mewn Duw neu dduwiau?
Ai cred mewn dynol ryw?
Beth ydyw y gyfrinach i fywyd ar ei hyd?
Ai cyfoeth, gwaith a chynnydd
sy'n cynnal gobaith byd?
Neu a oes rhywbeth amgen,
rhyw agwedd newydd wedd,
Rhyw ysfa gyndyn ynom
i fynnu byw mewn hedd?
Pob enaid, pob lle sanctaidd,
holl greaduriaid byd,
ac ysbryd ein hynafiaid
sydd gyda ni o hyd.
Ai dyma yw'r gyfrinach,
ai'r ateb geisiwn yw
yr undod a'r gwir gariad
sy'n nerth ym mhopeth byw?
Michelle Murphy
8 ½ pwynt
Cywydd [heb fod dros 12 llinell]: Stryd
Ddoe chwaraem ein gemau
Ar ei hyd, yr hen a'r iau,
Martsio a rhuo'n paréd
Draw acw, codi'r wiced
A'r pyst gôl hefo stolion
Dod â'n miri'i lenwi'r lôn;
Am un awr, ein stadiwm ni
Ydoedd yn nyddiau'r tlodi.
Ond stafell wely bellach
Yw stryd a byd plentyn bach,
Mae'u drysau ar gau i gyd
A'i hafiaith dan glo hefyd.
Richard Parry Jones
9 ½ pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Stryd
Stryd - Cenia 2008
Tir cul yn nhref torcalon:
un rhyd hir yw y stryd hon,
carthion cymdogion yw'r d?r,
undod y lle yw dwndwr
adfyd dyniadon lledfyw
a'u bod yn straffaglu byw.
Ond myn eu caethiwed maith
adnabod cyndyn obaith,
â'r waedd sy'n mynnu rhyddid
â llais sy'n tanseilio'r llid:
a'r stryd yn ddirwystr ei her
a'i hundaith dros gyfiawnder.
Sion Aled
9 ½ pwynt
Pennill ymson mewn syrjyri
Ew mae'n gas gen i ddod yma, dydi o ddim yn lle rhy iach,
Ac mae'r fet braidd yn sigledig, a 'dwi'n poeni dipyn bach;
Chafodd yr hen Fot mo'i weithio ers tua deufis, falla dri,
'Dwi 'di gwisgo fel dyn leiffbot - a dim ond dal y pen 'dw i!
John Wyn Jones
8 ½ pwynt
Pennill Ymson mewn Syrgari
Dwi di ista'n fama ers meityn yn dal pob jyrm ddaw heibio
Mae o'n y gornal fancw â golwg llwyr ddiffygio
Mae'r "frequent flier" newydd ddod - mae yma bob dydd Merchar
A 'daiff rhen gono oedd 'ma cynt byth allan ond ar stretshar.
Dwi'n teimlo'n giami 'mhlith y criw sy'n tagu a phesychu
Ond os gwna inna ganu'n iach - fydd 'na ddim meddyg teulu.....
Meg Ellis
8 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Er bod 'na lob ymhobun
Yr wyf fi yn fi fy hun.1 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Yr wyf fi yn fi fy hun
Yn gweled pawb fel gelyn.
Englyn Cywaith: Cusan
Pleser ar frig pleserau - un heb iaith
Un heb oed na ffiniau
Arwydd heb iddo eiriau
Yn dweud y cyfan rhwng dau.
Ioan Roberts
8 ½ pwynt
Englyn cywaith Cusan:
Cywiraf arwydd cariad - yn rhoi sêl
ar serch ar ei brifiad:
bu oerach gynt ei bwriad
yn yr ardd i selio brad.
Sion Aled
8 pwynt
Yn y ddrama 'Amadeus', mae Salieri yn ei gysuro ei hun mai 'damwain ffodus' ydi campweithiau Mozart....
Mae rhai yn dweud mai 'damwain byd natur' sy'n troi elfennau carbon yn ddiemyntau (maen nhw'n dod o'r sêr/meteoritau hefyd).
Telyneg: Damwain
Salieri: Carai a mwclis yw creu miwsig:
gleiniau i'w gosod yn gain
a hynny mewn gobaith.
Rwyt ti'n hau nodau fel hadau nionod
a dim ond damwain
yw eu disgyn
fel drudwy hyd y dudalen
yn 'diwn'.
Mozart: Atgof yw s?n adar,
anghofiais am siffrwd dail;
rwy'n gwaelu
ar gynhaliaeth dim
ond grisial annisgwyl y gân.
Ac mae ein nodau ym mhobman,
yma'n bod ers dechrau'r byd;
maen nhw'n syrthio fel llwch o'r sêr
a glanio bron yn gyflawn
ynof; ychwanegaf firyw elfen o orfoledd...
Beunydd, trof gareiau'n gwlwm
a golchi gleiniau'r gân;
bydd ambell un,
ar ddamwain.
yn ddiemwnt.
Sian Owen
10 pwynt
Telyneg: Damwain
(myfyrdod darpar-nain)
Damwain genynnau, mi glywais i
Oedd i mi fod yma, yn pwy ydw i..
Gwrthdrawiad celloedd yn llunio cnawd
A bod dynol arall yn cychwyn ei rhawd.
A'r un hen stori, dro ar ôl tro -
Ail-adrodd patrwm osodwyd cyn co'
Ond pan ddaw'r bod bychan yma i olwg y byd
Nid damwain, ond teulu, a'i ceidw yn glyd.
Meg Ellis
9 pwynt
Englyn ar y pryd: Elw
Abwyd yn unig yw diben - y nwyddau
A roddi'r ar fargen
Er hynny'r pry yn y pren
Yw'n tâl ar y fantolen.
Sian Owen
8 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 79 ½
Englyn ar y pryd: Elw
Pa elw sydd? Pa les o hyd ein gwario
Ar geriach ein golud?
O greadur, pa gredyd
Ennill baw a cholli byd.
Sion Aled
8 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 76 ½
Cynigion ychwanegol
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'bocs'
Nid yw byw yn ddim ond bod
Yn harbwr y bocs carbod
Sglyfath mewn rhyw fath o focs
Yw egni cwmni Magnocs
Limrig: "Pan oeddwn yn ymyl Llandudno"
"Pan oeddwn yn ymyl Llandudno"
Dychmygais weld lle call i barcio
Troed lawr, troi i'r chwith
Ond nid oedd ond rhith
O wel, rhaid mynd rownd unwaith eto!
"Pan oeddwn yn ymyl Llandudno"
Roedd y cownsul yn brysur darmacio
Fe wasgwyd fy Rofar
Dan olwyn sdîm rolar
Y bygar heb olau rifyrsio
Englyn yn cynnwys y llinell: "Anodd yw penderfynu"
Beth gaf - ai pastai afu - ai'r eog
Ai'r wyau a'r llymru,
Neu gath fôr a thato'r t??
"Anodd yw penderfynu!"
Pennill ymson mewn syrjyri
Mae hi'n od bod rhaid dod yma
I gael triniaeth N.H.S.,
Ond yr unig ffordd am sylw
Yw drwy syrj'ri yr A.S.
Pan fydd hi'n dywydd braf
Mae'r lle ma'n llawn i'r 'mylon,
Ond aros adref wnaf
Pan ddaw y stormydd geirwon.
Mae'r syrjyri'n brysur y pnawn ma
Lle llawna yn nhalaith Hel-man
Mae pawb wedi cael Harri-fadwch
Ac am fynd o Aff-ganistan
Englyn Cywaith: Cusan
Mae cusan môr y glannau - ei oglais
Hir ddioglyd a'i fwythau
Heno'n frath ar geulan frau
A'i lafoer yn ei chlwyfau.
Mewn drycin gwelwn ninnau - eu hadwaith
Yng ngwrid eu hwynebau
Arwydd heb iddo eiriau
Yn dweud y cyfan rhwng dau.
Cynigion ychwanegol:
Limrig: 'Pan oeddwn yn ymyl Llandudno'
Pan oeddwn yn ymyl Llandudno
y peiriant SatNav aeth i grwydro:
drwy ddilyn ei lafar
es dros ben y piâr
a r?an yn Douglas rwy'n crïo.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

