Y Garfan vs Tanygroes
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
Cwpled caeth yn cynnwys gair 'pladur'
Caeau aur yw caeau'r co
Hiraeth sy'n eu pladuro.
Meirion Jones
8 ½ pwynt
CwpIed Caeth yn cynnwys y gair "PIadur"
I gaer y blodau daw gwr y bladur
Yn rhan annatod o ddistryw natur.
Wynford Jones
8 ½ pwynt
Pennill Mawl/Dychan: Cyfraith Gwlad
Dau ffermwr yn cyfreithia
dros fuwch, yn ffyrnig iawn,
ac wrth ei phwrs gyfreithwr
yn ei godro i fwced llawn.
W.Dyfrig Davies
9 pwynt
Pennill Mawl/Dychan: "Cyfraith Gwlad"
Dewch i Loegr ond cyn y daith
Bydd rhaid mynd ati i ddysgu'r iaith.
Dewch i Gymru, dewch â' ch llais,
'Does ond rhaid medru iaith y Sais.
Philippa Gibson
9 pwynt
Englyn yn cynnwys dau anifail
Hwyl yr ?yl
Gwelwn olau'r bugeiliaid yn y maes
ac am awr, fel bleiddiaid,
awn nôl i'r gorlan yn haid
a dofi yng nghrwyn defaid.
Mari Lisa
9 pwynt
Englyn yn cynnwys dau anifail
Chwery'r oen brau'n chwerw'n ei braidd - a gwawd
Yn ei gadw'n wasaidd.
Ni welir yn 'run gwylaidd,
Heibio i'w wlân, nod y blaidd.
Philippa Gibson
8 pwynt
Limrig yn cychwyn â'r llinell: 'Fe welais ryfeddod yn Hermon'
Fe welais ryfeddod yn Hermon
Roedd Welsh Cakes yn taflu cysgodion
Roedd cwrens fel gwsberis
a'u blas yn nansheris -
bu'r beirdd fyw am fis ar y briwsion.
Meirion Jones
9 pwynt
Limrig yn cychwyn â'r llinell: "Fe welais ryfeddod yn Hermon"
Mi welais ryfeddod yn Hermon:
Can tarten, saith deg o gacs moron,
Crîm hôns - rhyw chwe dwsen,
Welsh cêcs - pedwar ugen ¬
Roedd 'rhain, i ni'n pump, fwy na digon.
Arwel Jones
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): 'Ffarwelio'
Ffarwelio
Nodyn ar sgrap o bapur;
neges sy'n gyffes o gur.
Dim o werth yn y dweud mân -
ei ofid ddwedai'r cyfan.
Dod o hyd wnai'r clymau du
a chwlwm wnaeth eu chwalu.
Bydd ôl y weithred olaf
o hyd yn llindagu'r haf
a'r baich rhwng y geiriau byr
yn gwestiwn gwag ei ystyr.
Meirion Jones
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): "Ffarwelio"
Fy Seren i
'Rwy'n tywallt deigryn tawel
Am 'rhen Seren fore'r sêl,
Cofiaf dy brancio ifanc ¬
Ffwrdd â hi wrth bori'r banc
Hyd y doist i rythmau'r stwr
Yn arlwy i fy mharlwr.
Ond er hyn fe ddaeth dy rawd
Annhegwch terfyn degawd.
Yn wallgo' rwy'n diawlio'r dydd
Annheilwng mewn cywilydd.
Oes, mae darn o'n heinioes i
Yn awr ar lawr y lori.
John M.O.Jones
8 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): ' Y Ddamwain'
'Rôl gyrru hyd lonydd y pentre'
am hanner can mlynedd a mwy
a'i Mini yn rhan o chwedloniaeth
yr ardal, a'i dreifio yn fwy,
Daeth diwedd y daith i'r hen gerbyd
fu'n driw i Miss Jones ers cyn co',
fe'i trwcodd am gar automatic
un smala, mewn steil ffôr bei ffô'
Nid chwedl oedd hanes ei thynged
ond ffaith; cafodd ddamwain reit gas
pan yrrodd drwy ffenest siop sglodion
wrth dreial ei char newydd mâs -
roedd selsig yn sownd wrth y wipers
a rissols yn rolio mewn ras,
a halen fel cawod o eira
a'r erial 'di dal 'sgodyn brâs.
Daeth diwedd i'w gyrru chwedlonol
trwy'r Ynad a'i ddedfryd yn grwn,
a'r pennawd yn fras yn Y Journal:
'HEN WRAIG GA'DD EI CHIPS Y TRO HWN'.
Beti-Wyn James
9 pwynt
Can (heb fod dros 20 llinell)
Y Ddamwain
Fel eliffant a chwannen, y ddau i weld yn nawr,
Camsyniad yn lle cyntaf oedd priodi Mari Fawr.
'Ro'dd Mari Fawr yn anferth, y fwyaf yn y byd,
'Ro'dd eisiau gyts yn amlwg i briodi hon i gyd.
Dechreuwyd y briodas yn gynnar fore Llun,
A wele dau weinidog - 'ro' dd hon rhy fawr i un.
Rhyw gorrach bach o Dexas symudodd lawr i'r fro
Pan gwrddodd hwn a Mari, ni gafodd syndod, sbo.
"Yn fwy o faint," medd yntau, "mae menwod mawr Yukon,
Mae un 'run seis yn Dallas, sy'n hanner chwaer i hon
." Pan of'nodd y gweinidog: "Y wraig,a gym'ru hi?
Os gwnei, rhaid mynd i'r festri i seino fforms HP."
Yr oedd yn daith flinderog i gerdded rownd i hon
A chymryd hoe ar hanner a phwyso ar y ffon.
Ar ôl anffodus ddamwain, yr Yank, mae yn y nen,
Cans Mari Fawr orweddodd 'n anffodus ar ei ben.
I achub coste'r angladd, me'i rowd mewn amlen fflat
A'i bostio nôl i Dexas, air-mail tw pownds a VAT.
Ym mynwent Houston wedyn wir angladd barchus gadd,
Fe'i c1addwyd yn ddiffwdan tan dwrnpath pridd y wadd.
Ni wyddoch pan ddaw angau, y funud wir, na'r awr,
Ond os ar hast yr ydych - priodwch Mari Fawr.
Arwel Jones
9 ½ pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Man a man i mi wenu
Yno daw cymylau du.
Ateb llinell ar y pryd:
Yn oes frau ein dyddiau du
Man a man i mi wenu.
1 pwynt
Englyn Cywaith ' Llythyr'
(Llythyr Pennal)
Er hyned y llythrennau, er y rhwyg
i'r bregus ddalennau
er i liw pob gair leihau
ni ddygwyd ei frawddegau.
Aled Evans
9 pwynt
Englyn Cywaith: "Llythyr"
Llythyr oddi wrth y Weinyddiaeth
Dieflig yw y daflen - a'i neges
Am y rhwyg ddiangen,
Ac aroglau angau hen
Y n amlwg ar yr amlen.
Emyr Jones
9 pwynt
Telyneg 'Bwlch'
Pan oedd hafau'n hir
a'r haul yn trydar yn yr ardd,
cyfyng oedd y nyth
i blentyn bach
a byd newydd tu draw i'r clawdd
yn fagned anturus.
Siarsai mam â g?en
mai adre
oedd lle ei chyw bach hi.
Ond draw yno
drws nesa'
roedd cân soniarus yn hudo,
hufen iâ a botymau sgleiniog i'r cadw-mi-gei yn denu,
yn gymysg â choflaidadenydd cynnes
a nodau hudol
hen straeon y cynfyd.
Yno
nid oedd amser yn bod
na 'gwaith' yn galw,
Dim ond y 'nawr'
a sawr alawon y cof
yn canu
ar yr awel fwyn garedig....
Ond trwsiwyd y clawdd
wedi i'r gymdogaeth
ymgasglu'n biod du
i'w hebrwng
hi oddi yno
a'i nodau
yn pylu'n atgofion brau
wrth ddianc fel plu ar aden y gwynt.
Hedfanodd iaith arall ddi-?en
i nythu yno
a hawliodd amser â'i glochdar sarhaus
y lle yn ôl.
Dyfrig Davies
8 ½ pwynt
Telyneg: "Bwlch"
Yn oes y cart a'r ceffyl
Roedd bwlch y cae yn fach,
A'r plwyf yn blwyf cymdogol
 phawb yn rhannu'r sach.
Yn oes peiriannu newydd
Mae lled y bwlch yn fwy,
A'r trachwant sy'n y sachau
Yw'r bwlch sy'n rhannu'r plwy'.
Ken Griffiths
9 pwynt
Englyn ar y pryd: Twyll
Un ddi-dor yw ei stori, a'i hidiom
Am hydoedd yn llonni/
Yna'i saib yn ei llais hi
Yn eiriadur o oedi
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 80
Englyn ar y pryd: Twyll:
Trwy droi'r gwir yn anwiredd, bu i Blair
A'i Blaid dwyllo'r senedd.
Bod dwylo byd dialled
Yn Irac yn tarfu'r hedd.
Ken Griffiths
8 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 79 ½
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys gair 'pladur'
Mae un nas clywn mohono
na'r waedd dan ei bladur o.
Stad o dai newydd ar dir amaethyddol
Aelwydydd lle bu'r pladur
A phlant lle bu'r gwrychoedd fflur
Pennill Mawl/Dychan: Cyfraith Gwlad
Er mai o raid yw parchu
deddfau'n teyrnas wâr,
daw mwy o synnwyr weithiau
yn wir o ben ôl iâr!
Englyn yn cynnwys dau anifail
Clywais y bu rhyw hanes gwresog rhwng
cangar? a mamog.
Fe anwyd cyw ond rhyw rôg
a'i enwodd 'jwmper wlanog'.
Limrig yn cychwyn â'r llinell: 'Fe welais ryfeddod yn Hermon'
Fe welais ryfeddod yn Hermon
Llond festri a mwy mewn ymryson.
Nid safon y gân
Ond pice ar y mân
A lenwodd y lle i'r ymylon.
Fe welais ryfeddod yn Hermon
Y plymer yn cyrraedd yn brydlon
A'r rheswm y da'th
Yw bod hi'n styc yn y bath
Ac yn methu rhoi'i llaw ar y sebon.
Fe welais ryfeddod yn Hermon
Wrth yrru o Gynwyl un noson
Mewn lôn gul a serth
Roedd lori mewn perth
Oes gwerth i Sat Nav mewn moduron?
Englyn Cywaith ' Llythyr'
(Llythyr Pennal)
Addawaf wneud T? Ddewi yn eglwys
hyglod, a gwaddoli
addysg ein mamiaith iddi.
Rhown ein holl i'w choron hi.
Telyneg 'Bwlch'
Anodd, fy ffrind, fu sgwennu
pennod ar ddiwrnod mor ddu;
llythyr yn gysur i gyd
a'i afael yn dynn hefyd.
Direswm yw'r dweud, rywust,
er ceisio'i wisgo bob sut.
Pob llinell fel cell yn cau
a'r gwir tu hwnt i'r geiriau.
Yn dawel yma'n celu
yn y darn cydrhwng y du,
sy'n h?n na'r iaith ei hunan,
mae neges gynnes ar gân.
O ddim, yn sydyn, fe ddaw
ei hystyr iti'n ddistaw.
Drwy'r clywed a wnei wedyn
bydd y lle, y gwagle gwyn,
yn datod, a daw iti
yn un wên, fy nghyfan i.
Cynigion ychwanegol:
Fe dyrr pladur ddoluriau
Weiryn hen a'r gweiryn iau.
Mae'r bladur segur heb si
Yn hel medel i'r medi.
Rhin y dur yn ei waed oedd
A rhwd ei bladur ydoedd.
I'r pit â'r aflan a'r pur
A gwib y blydi bladur
Pennill Mawl/Dychan: "Cyfraith Gwlad"
Mae un bobi yn rhodio 'n
Well na phedwar mewn Volvo.
Dwylo gynt y glust fu'n curo
Ar gompiwter nawr yn teipo.
Meddygyniaeth ienctid ffôl
Hen fobi gynt a'i gic penôl.
Cyfiawnder ddaw o ddellni
A'i chosb yng nghic ei throed,
Ei natur mor anystwyth,
Ystyfnig fel erioed.
Afrosgo ac aflafar
A bastwn gaiff bob oed,
A'r marc ar gefn - medd
Rowan Fydd Shira gyda'r Groes.
Ei bwyd yw gwair tystiolaeth
O'i gnoi, yw'r gwir a ddaw
Drwy'r erlyn ac amddiffyn
I'r dafol sydd mewn llaw.
Dal pwysau ein camweddau
Ei bach, a ddeil yn gref.
Hen asyn ydyw'r gyfraith ¬
A Saesneg ydyw'r fref.
The law is an ass
Mi af ar gefn yr asyn tra byddo'n rhodio'n braf,
Ond pan fydd o'n gwallgofi, dod ymaith wedyn wnaf;
Ac os i'm brawd mawr weled fi'n rhoddi cic i'w dîn,
Caf orig fach i orffwys yn stablau llawn y cwîn.
Fan honno mi gaf addysg gan rai fu mewn ers tro,
A phan y troir fi allan, mi fyddaf yn ass-sbo.
Englyn yn cynnwys dau anifail
O! fran hardd, 'rwyt wefr o naws - hudolus,
a'r delaf o'r lliaws,
rhanna gainc heb ddam o gaws
llawn cân â llwynog hynaws.
Puteiniaid a laddwyd gan Steve Wright yn Ipswich
Unwaith y crwydra'r oenig - i feysydd
Anfoesol, colledig,
Fe ddaw'r cadno rhyw orig
Mwy i'r "gêm" a rhwygo'i gig.
Limrig yn cychwyn â'r llinell: "Fe welais ryfeddod yn Hermon"
Fe welais ryfeddod yn Hermon.
Fe welais un arall yn Seion:
Ar y cwrw mae'r bai,
Ac ar ôl peint neu ddau
Rwy'n gweld rhyfeddodau yn gyson.
Fe welais ryfeddod yn Hermon:
Y Meuryn yn hael mewn ymryson,
Y n rhoi deg mas o ddeg
Am bob tasg, chware teg -¬
Mae rhyddid i ddyn ei freuddwydion.
Mi welais ryfeddod yn Hermon
Doedd y bwyd ddim cweit lan i'r safon;
War y llynedd llond sach
O bics melyn bach
A sangwejis crimp a smel samon.
Mi welais ryfeddod yn Hermon
Noethlymynwyr erlydwyd un noson.
Diflannant i'r nos,
Ar ôl: ond dau ddros
A dau goler rownd a gardyson.
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): "Ffarwelio"
Ffarwelio mewn hosbis
Gair o wae ac iaith y gro
A hawlir gan 'ffarwelio'.
Mae gennym iaith amgenach,
Cawn nesáu trwy bethau bach .¬
Golchi, bwydo, trafod rhydd
A gwylio dros ein gilydd.
Yn nes o hyd trwy'n mân sôn,
Awn i hwyl, mynnwn hawlio'n
Geirfa olaf: 'gorfoledd',
Nid 'gro' a 'huno mewn hedd' ,
'Dere 'daf, nid 'oriau du'
Ac 'uno', nid 'gwahanu'
(morwr ieuanc)
Yn y dwfn dan grych y don
Roedd heidiau o freuddwydion,
A'r heulwen dry'r hualau
Y n fodd i hwyl ufuddhau.
Fel enaid yr aflonydd
Ar y don mae'r galon gudd,
Yno flas solas ei sêl
A chawg aur cylch y gorwel.
Hwylio o hafan aelwyd
1 ferw y llanw llwyd,
A'i ddoeau rhydd ar ei ôl
Yn eiddo'r lli tragwyddol.
Englyn Cywaith: "Llythyr"
Llythyr oddi wrth y Weinyddiaeth
Nid cymen yw amlennu -- mwd ei draed,
Lliw ei waed a'r lludu;
Gyrrwyd arch ei geiriau du
Yn dila'n ôl i'w deulu.
Fel ymbilgar garcharor - amneidiais
Am nodyn wrth ddoctor;
Yna ei ddal ger y ddôr
Yn rhegi ofn yr agor.
Telyneg: "Bwlch"
Mae'r hen hen iet yn gwegian
A'r postyn heb 'r un nerth,
Ond daeth dyn draw â'i bethau
I lenwi bwlch y berth.
Mae'i iet o bîn yn newydd
Caiff farnis yn y man
Ond gwelaf fod 'r uniadau
Yn llac dan ryw lud gwan.
Nid yw ei bostyn beiddgar
Yn ddwfwn yn y tir,
A serch ei olwg gadam
Mi wn na saif yn hir.
Bu'r gaeaf heb dosturi
A'r blewyn glas yn brin,
A chur oedd gweld diadell
Mewn cystudd ar y bryn,
Yn disgwyl am ryw fanna drud
A'u hwyneb at y bwlch i gyd.
Ond heibio ddaeth y gwcw
A'i hawel fwyn i'r fro,
I agor drws y rhewgell
A'i hallwedd yn y clo,
A'r rhai fu'n ddof drwy'r tymor llwyd
Yn troi eu cefnau ar y glwyd.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

