Crannog vs Beca

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.

Crannog

Crannog

Beca

Beca

Cwpled Caeth yn cynnwys y gair 'Tras':

Mae'r rhosyn sy'n wyn i ni
A'i dras ymhlith y drysi.

Owen James
8 ½ pwynt

Cwpled Caeth yn cynnwys y gair "tras"

Pa werth inni'n perthynas,
Wedyn troi a gwadu'n tras.

Terry Reynolds
8 ½ pwynt

Pennill Ymson mewn fferyllfa :

Go brin mai'r moddion
Fydd gysur im.
Y ffisig gorau
Yw ei gael am ddim.

Idris Reynolds
9 pwynt

Pennill ymson mewn fferyllfa

Ma'r fenyw wrth y cownter
Mor drwm ei chlyw, mae'n drist.
'Dwy bron yn siwr y gwelais
Suppository yn ei chlust.
Meddylias innau, wel jiw jiw,
Tybed ble mae ei hoffer clyw!

Hywel Mudd
9 pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell: ' Ond o'm mewn o hyd y mae':

Dan hedd y cerrig beddau - nid yw hwn
Ond enw o'r achau,
Ond o'm mewn o hyd y mae
Hen hen daid a'i wendidau.

Idris Reynolds
9 ½ pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell"Ond o'm mewn o hyd y mae"

Yn y cof mae berw'r cae - a'r galw
Pan mae'r gôl tan warchae,
Ond o'm mewn o hyd y mae
Arwr yn dal i chwarae.

Eifion Daniels
8 ½ pwynt

Limrig yn ymwneud ag Ocsiwn:

Ocsiwn er mwyn codi arian i symud i Awstralia

'Nes i'r ocsiwn i gyd yn Gymraeg,
Ges i bunt am hen lun Siors a'r Ddraig,
A dwy am y ci,
Can mil am y t?
A forty nine 'p' am y wraig.

Dewi Pws
9 pwynt

Limrig yn ymwneud ag Ocsiwn

I osciwn aeth Martha llwynpiod
Prynodd ddyn fel prynu dofednod,
O'r llwyfan daeth cri
"Buy one, get one free"
Anghofiodd ei bod hi yn briod.

Terry Reynolds
9 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Newid

Synagaog yn s?n i gyd
Ac elw ar fyrddau golud,
A phob prysur usurwr
O'i fonws ef yno'n siwr
Ei grap am bob dimai gron
Yn waledi'r rhai tlodion.

Oni ddôi Un drwy y ddôr
Na roesai bwys ar drysor
Y byd hwn, ac o bob tu
A'u gyrrodd, a gwasgaru
Yr arian mân dros bob man,
A'r twyllwyr y tu allan.

Dic Jones
9 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) "Newid"

Mor ansad mwy yw'r hinsawdd
Mae'n ddilyw ac nid yw'n hawdd.
Pa law yw hwn ? fydd i'n plant
Ddyfodol neu ddifodiant ?

Yma mae'r hunan-fomiwr
Ar daith a'i lygad ar d?r.
Ffiaidd yw gyda'i ffydd ddall,
Bom sydd rhyngom â'r angall.

Er i'r ddaear alaru
Am ddelfryd o fyd na fu,
Heddiw â'r iâ yn toddi
Er hyn o fyd, 'run wyf fi.

Wyn Owens
8 ½ pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Atgyfodiad

Roedd Meri a Wil y hen gwpwl bach swil
Yn ffermio gerllaw yr Arennig
Wedi priodi ers hanner can mlynedd, ne fwy,
A'i perthynas erbyn hyn yn blatonig.
O nhw ishe ca'l sbarc 'nôl i'w priodas yn gloi
Ac at therapydd aethont yn Splott -
Gofynnodd i Meri 'Oes 'na fynd yn eich g?r?'
Ac atebodd hi'n dawel 'Dim lot.'
Yna trodd e at Wil a'i holi yn daer
'I chi'n sbwylo eich gwraig chi lan lofft?
I chi'n rhoi iddi flode a'i chusanu'n ddi-baid?'
Wedodd Wil 'Odw i'n edrych yn sofft'
Fe estynodd y doctor ddougant o bils bach
Mewn potel fawr blastig a glas.
'A fydd rhain yn fy helpu?' holodd Wil gyda braw.
Daeth yr ateb â gwên 'Ffindwch mas'.
Wedi wythnos fe weithiodd y moddion,
Ond rhy dda oedd effeithiau y pil,
Ac mae Wil wedi gadael ei wraig ers tri mis
Ac yn byw 'da lapdancer yn Rhyl.

Dewi Pws
9 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell) - "Yr Atgyfodiad"

Dwy ddim yn yrrwr peryg, ma nhrwydded i yn lân,
Ond ces i brofiad rhyfedd ffordd adre'r nos o'r blân;
Mi fwrais i gwningen a honno yn un fawr
A'i gadel hi yn gelain yng nghanol y ffordd fawr.

Rôl stopi'r car, meddyliais, wnaiff swper iawn i mi,
Ond nid cwningen leddais, ysgwarnog ydoedd hi;
A chyn i mi gael cyfle i'w rhoi yng nghefn y fan
Daeth cerbyd arall heibio ac aros yn y man.

Y gyrrwr a ddaeth allan, un moel a dannedd du
A holodd "Beth ddigwyddodd?" "Ces ddamwain" meddwn i,
"Mi fwrais ysgyfarnog, nid arna i mae'r bai,
Dwy'n ofni bod hi bellach yn y 'warren in the sky'.

Aeth yntau nôl i'w gerbyd, daeth nôl ag 'aerosol',
Chwystrellodd gorff y sgwarnog o'i phen hyd ei phen ôl.
"Sa nôl", medd e "paid cyffro", cyn allen weud jiw, jiw
Mi roedd y sgwarnog gelain yn ôl ar dir y byw.

Fe roddodd i mi'r aerosol i'w gadw yn y fan,
Ac er fy anghrediniaeth, edrychais ar y can.
Mae'n rhan o'r 'toolkit' bellach rhag ofn caf ddamain 'to,
Y chwistrell 'hare restorer', y gorau yn y fro.

Hywel Mudd
9 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Mewn enw mae hunaniaeth
I'n henwau i gyd 'ryn ni'n gaeth
1 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Mewn enw mae hunaniaethI ni o'i golli 'sdim gwaeth.

Englyn Cywaith: Hers:

Drwy feidir o dorf fudan un yn llai,
Tyn ei llwyth i'r ydlan.
Araf yw , ond rhy fuan
Y daw i mi yn y man.

Dic Jones
9 pwynt

Englyn cywaith - "Hers"

Mae yno ferch llawn maners - un a saif
I siafo dy wishgers,
Cei arlwy dan y cwrlers,
Syniad da yw'r His and Hers.

Wyn Owens
9 pwynt

Telyneg: Fflam

Yng nghanol y prysurdeb
A'r adeiladau lu,
A lliwiau y Gorllewin
Yn cuddio'r hyn a fu,
Does fawr o neb yn sôn am ing
A fu un waith ar sgwar Beijing.

Dai Jones
9 ½ pwynt

Telyneg - "Fflam"

Yn nannedd y gwynt
Goleuaist yn dirion.
Cwpanais fy nwylaw
Yn fur diogel o'th gwmpas,
Ac 'roedd dy wres
Yn fy nghynhesu.
Fy maner aur,
Fy lluman fach.
Chwifiaist yn sigledig,
Yn simsanu
Rhwng byw a marw.
Chwythais innau'n dyner,
Anadlais arnat
Holl ynni fy ewyllys,
Fy ngobeithion i gyd.

Am ennyd,
Gofalais amdanat
Cyn i ti lithro
O 'ngolwg
A diffodd
Yn dawel.

Cathryn Gwynn
9 pwynt

Englyn ar y pryd: Harri

Tywysog sbâr yw Harri, - ond er hyn
Hen dro fyddai'i golli.
Ond roedd y pwn, am wn i'n
Ormod i'r British Army.

Dic Jones
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 82 ½

Englyn ar y pryd: Harri

Yn ein hawydd anniwall - y mae dyn
Am danio heb ddeall.
Dwyn y wawr i'n gwlad ni oll
Harri,l na Bosworth arall.

CYFANSWM PWYNTIAU: 79

Cynigion ychwanegol:

Cwpled Caeth yn cynnwys y gair 'Tras':

I'r to iau rhyw lyfwr tin
Yw'r Syr o dras y werin.

Anferth o drafferth i dras
Yw epilio mewn palas.

Daw weithiau i'n cymdeithas
Rai o hyd heb barch i'w tras.

Pennill Ymson mewn fferyllfa :

Wrth weld yr holl dabledi
A'r moddion sydd ar gael
Rwy'n synnu bo'r feryllydd
Ac arno olwg wael.

Rwyf yma nawr ers tipyn
Yn aros yn y ciw
Yn ceisio pilsen warfrin
Er mwyn cael cadw'n fyw.
Y gwenwyn sydd fel arfer
Yn difa llygod mawr
Ond oni bai amdano
Mewn twll y byddwn nawr.

ynnwn i y label
A roed ar fol y botel
A'i sticio wedyn ar y wraig,
Boed ar ei brest neu'i bogel,
Fe allwn, y mae'n amlwg,
Ei dala wrth ei gwddwg,
Ei hysgwyd nes ei bod yn stiff
A'i rhoi mewn bocs o'r golwg.

Englyn yn cynnwys y llinell: ' Ond o'm mewn o hyd y mae':

Yn ddwfn yn niwloedd ofnau - mae o hyd
O'm mewn ryw hen eisiau
Yn aros am y geiriau.
Ond o'm mewn o hyd y mae.

Cymru v Lloegr

Pan fo'r bêl mewn cornel cae - onid hawdd
Mynd i hwyl y chwarae?
Ond o'm mewn o hyd y mae
Hen orchest wedi'r gwarchae.

Limrig yn ymwneud ag Ocsiwn:

Mewn ocsiwn yn ardal Trelai
Gwario ei ffortiwn 'nath Dai
Fe brynodd e'r cwbwl
A thalu bron dwbwl.
Wy'n credu ar y 'twitch' oedd y bai.

Rhyw ffarmwr o ardal Pencader
Oedd yn gwerthu ei fuwch bob dydd Mercher
Ond lle bynnag yr âi
Roedd yn dianc dydd Iau
Gan ddychwel'nôl adre dydd Gwener.

Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Atgyfodiad

( Gan gynnwys atgyfodiad o rai o linellau adnabyddus ein barddoniaeth )

Mae bro rhwng môr a mynydd,
Heb ynddi ysgol mwy,
Mor dawel â'r pentrefwyr
Sy'n naear oer y plwy'
A'r rhai ar ôl, heb Lais o raid,
Yn hybu'u plant, a neb o'u Plaid.

Mae'n Wanwyn, ond mae'n anodd
I fendio dim fel hyn
A'r Byd yn marw'n dawel
Dros ysgwydd Rhodri Glyn,
Yn ddim ond sawr ar frig y gwynt
O'r rhai'n y Bae sy'n brin o bunt.

Mae'r Peter Hain esgeulus
Yn ôl yng Nghastell Nedd
A thebyg fod tri Arglwydd
I ddod i'r lan o'r bedd
Fel pe'n dod adre ar ei hynt
O falu giât yr Efail gynt.

Englyn Cywaith: Hers:

Yn anelwig drwy'r niwloedd - y'i gwelais
yn gwylio y strydoedd;
rhan o'r cyfnos agos oedd.
Arswydais cans hers ydoedd.

Telyneg: Fflam

( Fflam yw arwyddlun yr Undodiaid - yr unig enwad yng Ngheredigion nad yw eto wedi cau un o'i gapeli )

Fe grynai fflam y gannwyll
Yn egwan ambell waith,
Ac fe ddôi ambell chwythwm
Heb ei llwyr ddiffodd chwaith.

Ac os daeth adeg pylu'r
Gogoniant gynt a fu
Mae'r fflam yn para yno'n
Goleuo'r Smotyn Du.

Telyneg: Fflam

Neithiwr , wrth ford y gegin,
Y gannwyll wêr yng nghynn
Fu'n cymell oriau'r llesmair
Yng ngwawl ei golau gwyn.

Heno, ar fwrdd y parlwr
Mae dagrau'r ganwyll g?yr
Yn addef awr yr hunllef
Wrh fygu'r llin yn llwyr.

Cynigion ychwanegol:

Cwpled Caeth yn cynnwys y gair "tras"

Os tras yw gwraidd atgasedd,
Duw yw'r had ac awdur hedd

Nid trwy deyrn y daw'r Deyrnas,
Nid trwy rym mae ennill tras.

Un enfys ar hen gynfas
Yn ei dro yw dyn a'i dras.

Pennill ymson mewn fferyllfa

Fe welais ar y botel
A gefais yma ddoe,
"To be taken in some water",
Dwy'n mynd i'r bath yn gloi.

Er lleddfu ein holl boenau
Ac atal llu glefydau.
Nid oes un moddion hyd yn hyn
All wella ein ffaeleddau.

O ni ma ar ddechre'r wythnos -
Prescription wrth y Cwac,
Dwy dabled ces i'w llyncu
I wella rownd y bac.
Dwy nôl, ond dal heb wella,
Wi'n teimlo'n eitha blin,
'Dde mana a man se ni 'di rhoi'r
Suppositories lan fy nhrwyn.

Englyn yn cynnwys y llinell"Ond o'm mewn o hyd y mae"

Pafiliwn yr Eisteddfod
Er pob pwd, ffrwgwd a ffrae, - yma rwyf
I'r Gymraeg dan warchae,
Ond o'm mewn o hyd y mae
Nid ei chur ond ei chwarae.

Limrig yn ymwneud ag Ocsiwn

Ar werth mewn ocsiwn yn Trostre
"Dim drors, bwa frest a byr goese"
Aeth Wil ni i weld
Pa gyflwr we'r seld
I gael rhywbeth yn debyg i wraig e.

Englyn cywaith - "Hers"

Parc Gwyn yw terfyn eu taith - mor araf
Mor hir yw'r orymdaith,
Er gweld ei phwn lawer gwaith
Hwn ni welwn yr eilwaith.

Hon yw siarabang angau - yn araf
Mae'n cario ei llwythau,
I ddyn, fe gaiff yn ddiau
Arni ei olaf siwrnau.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.