Ysgol y Berwyn vs Y Tir Mawr.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
Ysgol Y Berwyn.

Y Tir Mawr.

Cwpled caeth ar yr odl 'ac'
Nid yw'r un o wlad yr Yak
yn un am yfed cogniac.
Arwel Emlyn Jones
8 pwynt
Cwpled caeth ar yr odl 'ac':
Y mae hanes sawl meniac
Yn sarhau hanes Irac.
Gareth Williams
8 pwynt
Pennill Ymson mewn Cinio Gw?l Ddewi
Mae pobol yma heno
Na wyddwn ar fy llw
Bod rhithyn o gymreictod
Yn perthyn iddyn nhw.
Ac er bod Cennin Pedr
Ar flaen eu gwisg yn falch,
Nid yw dros eu Prydeindod
Ond chydig bach o galch.
Huw Dylan
8 ½ pwynt
Pennill Ymson mewn Cinio Gw?l Ddewi:
Beth ar wyneb daear gron..?
O be ddaeth dros fy mhen i?
i ddod at Ddybliw Ai y Fron
i wledda eto 'leni ?
Gareth Jones
9 pwynt
Englyn yn cynnwys enw dwy afon.
Lle awn ond dilyn y lli - yn araf
ambell awr a throelli
ar y don a phendronni,
y Conwy, Mynwy a mi.
Arwel Emlyn Jones
8 pwynt
Englyn yn cynnwys enw dwy afon:
Alaw Hafren dry bennau - yn y bae,
Ond o bell daw pibau'r
Hesg fin hwyr i'm hysgafnhau
Am orig o Gymerau.
Gareth Williams
9 pwynt
Limrig yn ymwneud â diod
Jên druan oedd a'I chalon di torri
Nôl y dail tê ni fyddai'n cael priodi,
"I'r diawl o fod yn hen ferch
A byw heb gariad na serch,
Dwi'n mynd draw I Tesco'I nôl coffi.
Delyth Humphreys
8 ½ pwynt
Limrig yn ymwneud â diod:
Hwyr neithiwr fe sleifiodd Wil Mona
drwy'r sgeileit i'r ffatri Gorona
Ac wedyn aeth ati
i wagio'r poteli
nes oedd o'n rhy dew i ddod o'na
Gareth Jones
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell):Sain Taffan
Ni welwch fam yn wylo
na braw yn syfrdannu bro,
na gwaed ar y stryd i gyd,
na rhyfel drwy'r tir hefyd.
Ni welwch unrhyw alar
na gwae am rhywun a gâr,
na s?n hunllef a llefain
yn yr hwyr, na hiraeth rhain.
Ni welwch mewn siwt milwr,
na gweld mewn hyfforddiant g?r
un o'r rhain, nac unrhyw ran
o effaith creu Sain Taffan.
Arwel Emlyn Jones
9 ½ pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Sain Tathan
Swn du'n Sain Ffraid, San Dunwyd
a than len Sain Tathan lwyd:
gelyniaeth yw'r goleuni.
Y tai'n wag o'n seintiau ni,
y bys yn llygad y byd
a gwellt dros goleg Illtud.
Mewn hen lannau, desgiau dur;
ym mro Iolo, rhyfelwyr;
hen lwynog y biliynau
ar ei farc wrth greu gyrfâu
i ddenu'r milwyr; mae'r mwg,mae'r gynau ym Morgannwg.
Myrddin ap Dafydd
9 ½ pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell) Y Bws Olaf
Rwyf heddiw'n teithio adref o ysgol leia'r fro,
Yn teithio fel yr oeddwn pob dydd ers llawer tro.
Rwyf wedi eistedd bellach ar bob un set o'r bron
Gan deithio yn ddirwgnach ar hyd y flwyddyn gron.
Rwyf wedi teithio'n hapus pob bore a phrynhawn
Ond yn y set ffrynt heddiw dwi ddim yn teimlo'n iawn.
Fy stumog sydd yn corddi wrth droelli rown pob tro,
Oherwydd dwedodd rhywun - rhaid cau ysgolion bro.
Mae hiraeth yn fy nghalon am gaeau bach pel-droed
Lle bum yn chwarae ffwtbol yn well na neb erioed.
Bydd hiraeth gennyf hefyd am Miss a Syr a mwy,
Ni fyddaf byth yn hapus heb gael eu cwmni hwy.
Mae mam sydd yn athrawes yn mynd I golli'I gwaith,
Rwyf innau bron iawn adref yn dod I ben y daith.
Mae dagrau yn fy llygaid a'r windsgrin yn llawn glaw
Oherwydd mae'n fws olaf a minnau ond yn naw.
Delyth Humphreys
8 ½ pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Bws Olaf.
Mae wrth yr adwy ac mae'n chwithig braidd
Mynd o'ma heddiw (a hynny'n groes i'r graen)
Fel arfer aiff y traed bach fel y gwynt
Ond maent fel petai ar bob un ohonynt faen,
Rhyw gadwyn sydd wedi ein hangori ni i'r fan,
Cicio ein sodlau ac edrych ar ambell lun,
Sgwrsio, Hel atgofion ond does dim
"Ia hwyl 'ti rwan, 'welai di ddydd Llun"
Mae'n canu ei gorn a bellach rhaid yw mynd
Yn gyndyn dawel, fel mewn angladd bron
Ar draws yr iard ac i fyny y gris dur
Gadawn ni y gwmniaeth fu mor llon,
A throi ein cefnnau wnawn a chanu'n iach
A chloi y draws ar yr hen ysgol fach.
Huw Erith
8 ½ pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Dacw Mam ar gefn camel
Yn ddi-os yr oedd hi'n ddel.
½ pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Dacw Mam ar gefn camel
A'i gwr, Dad ar deigar del.
½ pwynt
Englyn Cywaith: Coel.
Ar hen goed, brain yn oedi - a rhyw ?r
yn rhy wan eleni,
a'r hen wn anelwn ni'n
rhy hen i saethu'r rheini.
Gruffydd Antur
9 ½ pwynt
Englyn Cywaith: Coel
Cam ceiliog yw cam y Calan; - cam swil,
ond cam saff a buan
ac mae mawl i gamau mân,
diogel mewn byd egwan.
Huw Erith
9 pwynt
Telyneg :Pris
I gysoni mantolen Thatcheraidd las
Rheidrwydd oedd cau y pyllau glo,
I gysoni mantolen Thatcheraidd werdd
Rhaid cau ysgolion bach yn eu bro.
Mae mantolen Thatcheraidd yn gwybod o hyd
Beth yw pris pob peth a gwerth dim byd.
Gruffydd Antur
9 pwynt
Telyneg: Pris
(Heather Jones yng Nghapel Coffa Celyn)
At borth marwolaeth, down â chi yn griw
o blant, i werthu'r stori ichi: dwr
y llyn yn Chwefror llonydd yn eich lliw
ac argae ar eich dagrau. Mae'r holl stwr
am foddi cwm ac iaith ymhell yn ôl
i chi, a phan ddaw'r gân am 'golli ty
a cholli tyddyn', 'welwch chi mo'r ddôl,
na'r ysgol wag na chwymp y trawstiau du.
Yr eirlys wrth y Capel Coffa sydd
yn mynd â'ch bryd, a phwy 'dan ni - y to
mewn cotiau tew yn ias y diwedd dydd -
i sôn am ddyled, tynnu nerth o'r co'?
gan wybod, pan fydd nyth eich dryw yn chwalu
mai chi, y gwanwyn hwn, fydd piau'r talu.
Myrddin ap Dafydd
10 pwynt
Englyn ar y pryd: Gw?l Ddewi
Er llwm yw'r hen gwm i gyd - y gwanwyn
Ddaw'n gwenu'n llawn bywyd,
A thyfai pob Mawrth hefyd
Mae'r hen genhinen o hyd.
Huw Dylan
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 79
Englyn ar y pryd: Gw?l Ddewi
Gwae'n dydd heb dy gennin di - gwae'n gwerin
Heb wladgarwch ynddi;
A gwae'n hen iaith os gawn i
W?l ddiog o'n Gw?l Ddewi.
Myrddin ap Dafydd
8 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 81
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth ar yr odl 'ac'
Llawer iawn er gwell Irac
yn awr gefnogant Barrack.
Ni â Bob i sêt y back
mae Einir yn secs meniac.
Er i'r oes gondemnio 'crack'(cocaine)
hoff yw yr oes o'i Phrozac.
Os oes lot o bethau'n slac
dewiswch aphrodisiac.
Pennill Ymson mewn Cinio Gw?l Ddewi
Dwi'n fama ar fin rhoi anerchiad
Ar sant mwya boring y byd,
Uchafbwynt ei fywyd oedd pregeth
Am wneud pethau bychain o hyd.
A pham da ni'n bwyta ac yfed
I'w gofio, wel dwi dddim yn siwr,
A fynta yn ôl y traddodiad
Yn bwyta ond bara a d?r.
Englyn yn cynnwys enw dwy afon.
Tigris, Ewffrates a ffrae - d?r a gwaed
a rhyw gêm i'w chwarae,
gwarchod y byd yw'r gwarchae,
pwer ?nt yn dilyn prae.
Gwelwn gynulliad golud - yn y tarth
ger y Taf, ac ysbryd
yr afon Irfon o hyd
yma yn dechrau symud.
Crwydraf lannau braf ein bro - o'r Mynach
i'r mynydd, a gwylio
yn Llyn celyn, dim ond co',
fan hyn o'r afon yno.
Limrig yn ymwneud â diod
Rôl yfed o ddyfroedd llyn Cwellyn
Dechreuais I ddioddef o'r dwymyn,
"Wel ?f fwy o dd?r
Mi welli, mae'n siwr,
A chwydais fel ton dros y gwydryn.
Cywydd (heb fod dros 12 llinell):Sain Taffan
Cwymp Gwalia yw'r camp gwyliau
i rhyw fois gael ymgryfhau,
yn ffatri cynnal ffitrwydd,
hon sydd yn sialens o swydd;
hogie', lle cewch gyfle gwell,
dewch yma rhaid eich cymell,
deuwch oll, o dewch da chi
i harddwch fro hyfforddi.
Drwy ryfel ewch draw hefyd
i wlad bell, i weld y byd;
ewch yn wir, ond dewch yn ôl
yn farw, mae'n arferol.
Englyn Cywaith: Coel.
O dan siap bwa pob un - y rhyddid
i gael breuddwyd plentyn,
a rhodio, crwydro wedyn
erwau hud Yr Aur ei hun.
Rwy'n ymhel â helbulon - heb oedi
mewn byd o arwyddion,
anwybyddaf rybuddion,
af yn awr i lawr y lôn.
Telyneg :Pris
( Ymson Jiwdas)
Anghofiai fyth mo'I wyneb
llwn suddo'n îs,
Ond felly mae mewn bywyd,
Y mae gan bawb ei bris.
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth ar yr odl 'ac':
Darfod mae lliwiau Kodak
ar hen jaen yr Iwnion Jac.
Yn y cor gwnaeth Wil Cwac Cwac
Asio ar ol cael prosac.
Pennill Ymson mewn Cinio Gw?l Ddewi:
Dwy gourgette fel cerrig grât
Proffiterôl fel lledr
Setlo wnaf ar lyfu 'mhlat
A bwyta 'Nghenin Pedr
Mae'r stêc a gefais gan y brawd
yn dila n'eno'r dyn
mi wrantai fod 'na fwy o gnawd
ar Ddewi Sant ei hun
Deugain punt am gesail ych
a chrystyn sych a chawl !
a diodda' blant rhyw gor cerdd dant
Gwyl Dewi Sant o ddiawl!
Hip-hip, Hip-hip, Hip-hip, Hwre !
Hwre i Ddewi Sant !
Ni thwyllaf eto'r ffasiwn le
os fywia'i fod yn gant
Yr oedd yr hen Ddewi yn ddipyn o foi.
Am wyrthiau y byddai'n eu gwneud!
Mi fyddai troi'r cig 'ma yn rhywbeth i'w gnoi
yn wyrth gwerth ei gweld rhaid mi ddweud.
Englyn yn cynnwys enw dwy afon:
Dwy afon (stori Branwen)
 meirwon Llinon yn ei llaw - a'i llais
yn llesg yn y gwlithlaw,
niwlen ddu i'r lan a ddaw
i noswylio dawns Alaw.
Er cof an Jac (Jac a Wil)
Dwy alaw yn dawelach - y ddau lais
A'r ddau li'n arafach,
Dwy gan er hynny'n lanach
Gwendraeth fawr a Gwendraeth fach
Limrig yn ymwneud â diod:
"Y Gwnidog fydd yma mewn eiliad !
Wel brysiwch wir Dduw ! Ewch i guddiad
y llefrith a'r siwgwr
a'r bwyd yn y cwpwr'
cyn iddo fo gyr.." " Oes 'ma banad ?"
Yn gorwedd ym Mryn Beryl
Yn awr mae f'annwyl Avril
Mewn gwewyr dwys
Ar ol i Crwys
Roi burum yn ei Bovril
Ddydd Gwenar roedd uffar o bry
yn hedfan o gwmpas y t?
R'ol slap efo'r 'Guardian'
Fe aeth, ar un adan
i'r te oedd yng nghwpan Mamgu
Yn gorwedd mewn hedd mae Emrysia
R'ol chwartia o Filk of Magnesia
Y clwy, hi a'i trechodd
Un bore fe gododd
Ond yna disgynodd 'lawr grisia'
Rwyf yma ers echddoe'r prynhawn
'di gwagio'r holl bympiau'n y 'Crawn'
Does dim byd amdani
Ond mynd 'nol at Annie
Duw na, Gyma'i Newcastle Brawn
Roedd Gwantan , mab Sian, angen maeth
a moddion a roed yn ei laeth
Ond oll wnaeth y sinsur
sudd lemon a'r pupur
Oedd gwneud y creadur yn waeth
Ymhell dros ei chant wele Nain
Bob bore mae'n cymryd y rhain:
Tri hanner tomato
a Black Forest Gateaux
a joch o Sanatogen Wine
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Sain Tathan
Yn ystod dauddegau'r ganrif ddiwethaf arferai'n nhad, ei frodyr Jo a Guto a'i gyfaill ysgol Mervyn ymlwybro'r tair milltir o'r Bontfaen i Saint Athan (pentref bychan bryd hynny) o ddeutu tair gwaith yr wythnos yn ystod gwyliau ysgol mis Awst. Roedd pwrpas deublyg i'r daith - hela cwningod ac ar ddiwedd yr helfa, gollwng eu colomennod rasio. Yr her fyddai ceisio dychwelyd adref i'r Bontfaen o flaen y colomenod. Mae Jo yn gorwedd ym mynwent y dref ers 1930 ac mae enw Mervyn ar y gofeb rhyfel yno.
Criw o hogiau mewn cragen
Yw'r lluniau, o hafau hen
Yn lli sionc ei lleisiau iach,
Mae ewyn heb draeth mwyach;
Heb Awst i'w ffureta'n bod
Na mwyniant mewn c'lomennod.
'Mhen talm, colomennod dur
Uwch dryw na chwyd i'r awyr,
Os mud yw'r 'strwythurau sment,
Un maen sy'n fyw mewn mynwent,
A darnau Awst ar dir neb
Yn gyfan, er y gofeb.
Englyn Cywaith: Coel
I'r rhes ar lyfr y groser, - a'u nos Iau'n
Troi'n seiat i'w pryder
Taenai faich ar bunt yn fer
A'i ras gynt dros y cownter.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

