Llanrug vs Howgets.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.

Llanrug.

Llanrug.

Howgets.

Howgets.

Cwpled caeth ar yr odl 'ic'

(Bobby Charlton)

A'r hen glais 'di rhewi'n glic,
mae un o hyd ym Munich.

Richard Lloyd Jones
8 ½ pwynt

Cwpled caeth ar yr odl -ic


Yn y cof rwy'n byw pob cic,
Â'm henaid coffáf Munich.

Meirion Jones
9 pwynt

Pennill Dychan - Athrawon

'Rol oes o farcio llyfra'
a'r cam o ddiffyg gwylia',
cânt ymddeoliad cynnar iawn
a phensiwn llawn.......a damia
er gwaetha'r straen a'r pwysau gwaith
dônt nôl i weithio'r eilwaith.

Dafydd Whiteside Thomas
8 pwynt

Pennill Mawl/Dychan: Athrawon


Maen nhw'n ticio'r blychau cywir,
Arfarnu'n ddu a gwyn,
Yn dysgu mewn fframweithiau,
Strwythuro'u gwersi'n dynn,
Ond er i'r Prif ddweud "Marciau llawn!"
Mae'r plant yn bôrd bob diwedd pnawn.

Annes Glynn
8 ½ pwynt

Englyn 'dau a dwy'

Dwy 'forwyn' a dau forwr - 'dwy' am hwyl
dau am êl mas neithiwr;
dwy slip-disg, dau draws wisgwr,
'dwy' mewn staes a dau mewn st?r.

Dafydd Williamjs
9 pwynt

Englyn 'dau' a 'dwy'


Dau ddyn a dwy ddewines - dau â chwaeth
Dwy â chwant anghynnes,
Dau mewn braw, dwy am hen bres,
Dau wirion a dwy aeres.
Meirion Jones
8 pwynt

Limrig yn cynnwys unrhyw salwch

Cyfaddefai rhyw ?r o Llanber
ei fod o'n un sobor o flêr.
Ond beiai'i amnesia
fod ei ddillad a'i sgidia
bob bora yn llofft yr au pair.

Dafydd Williams
9 pwynt

Limrig yn cynnwys unrhyw salwch


Ar ôl addo yr hedd i Arabia
Gostwng lefel y carbon yn Asia,
Yn ôl i'r T? Gwyn
Aeth Bush yn reit syn,
Wedyn cofiodd fod ganddo amnesia.

Meirion Jones
9 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Salem

Cyfarch y bachgen sy'n syllu trwy ffenest Capel Salem yn llun Curnow Vosper

Trwy gwarel capel y co'
henaint a welaist yno;
syllu wnest trwy ffenest ffydd
ar arafwch ein crefydd.
Gwag ag oer fu'r holl gorau
a Duw'r graen heb drugarhau.
Un neu ddau yn dal i ddod
ond y diafol fu'n defod,
ag undonedd y weddi'n
dweud dim wrth dy glustiau di.
Gwelaist fyw ein dirywiad
yn hen lun Salem ein gwlad.

Richard Lloyd Jones
9 ½ pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) : Salem

Er rhinwedd a sawr ennaint
Gweddïau hen Suliau'r saint
Gwn, Siân, fod ym mhlygion siôl
Edafedd y diafol
A'i wên gam ar gynfas gain
Yn eli â brath milain.
Daw hwn ac ystumio Duw'n
Dad estron sy'n creu distryw,
Cariad a pharch dan warchae,
Athrawiaeth gaeth yn bair gwae,
A gwên sarff ym mhlygion siôl
Yn nef i gred eithafol.

Annes Glynn
9 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Aduniad

Daeth gwahoddiad drwy lythyr yn y papur bro
I gynnal aduniad - a chyn pallu o'r co' -
I holl blant yr hen ysgol a aethant ar chwâl.
Ac yn well na dim byddai'r oll yn ddi-dâl.
Mae mylti- miliwnydd - un o'r cyn-ddisgyblion
Yn llogi rhyw westy am ddiwrnod a noson,
Ac yn noddi'r cyfan; y gwledda a'r sbri;
Pwy wir allai wrthod y fath jambori?
A rhaid ydoedd turio 'mherfeddion y co'
I weld fy nghyfoedion fu'n crwydro'r hen fro;
Y criw ar y buarth: chwarae Lyndyn, trwthdêr,
Hopscotch a pheldroed, efelychu y sêr.
Does dim ysgol 'no rwan, ac nid ar Wynedd mae'r bai;
Roedd angen cael gwared â'r hen le yn ôl rhai;
Y plastar 'di cracio a'r waliau yn damp,
Na thrydan hyd yn oed, dim ond gola oel lamp.
Mi sgwennaf i ddiolch am gael y gwahoddiad
I ddod draw at bawb i ddathlu'r amgylchiad;
Ond fyddai ddim yno. Rwy'n y carchar nawr
Am losgi'r hen ysgol yn ulw i'r llawr.

Dafydd Whiteside Thomas
8 ½ pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell) : Yr Aduniad


A fuoch chi 'rioed mewn aduniad?
Os naddo, ystyriwch yn hir
A dysgu o brofiad 'r hen Wiliam
Yn nathliad ei hen ysgol sir.
Mae o yn un da am wynebau,
Am enwau, 'di o ddim mor si?r,
A phrintiwyd pob un ar fathodyn
I osgoi unrhyw drafferth a st?r.
Roedd sbectol 'r hen Wil wedi torri,
A dyna oedd achos y lol
Pan syllodd am hir ar fathodyn
Y flonden - 'low cut' at ei bol.
Fe alwodd hi Wil yn hen sglyfath
A'i gyhuddo o chwilio am secs,
Ac yntau yn trio protestio
Na fedra fo ddarllen heb sbecs.
Wedi llawer o wthio a gweiddi
Ac yntau, wrth bwyntio ei fys,
Yn cyffwrdd ym mronnau y flonden -
Mae Wiliam yn awr yn y llys.
Rhys Llwyd
8 ½ pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Er yn hen yr wy'n heini
Yoga yw'r mantra i mi

1pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Un llam rof ar draws y lli
Er yn hen yr wy'n heini.

Englyn Cywaith : Cyfarchion Priodas

I ddathlu Priodas Ddiamwnt
I chwi'ch dau heddiw mae chwe deg mlynedd,
y mae 'leni chwaneg
o aur Duw ar fodrwy deg,
a dwy law'n un delyneg.

Richard Lloyd Jones
8 ½ pwynt

Englyn Cywaith: Cyfarchiad Priodas


I'r afon dewch â'ch rhwyfau - i gychwyn
Ar gwch eich bwriadau;
Nofiwch bob ton â'ch doniau,
Gwenwch, cyd-dynnwch eich dau.

Ieuan Parry
9 ½ pwynt

Telyneg - Gofal

Pan mae bywyd yn cilio
beth yn y byd yw gofal
Dr. Duw?
Cariad yw?
Cariad teulu
a ffrindiau.......
hyder yng nghyffyrddiad
dwy law - tyner a pharod
i'th helpu.....
oni bai am lygaid sy'n cuddio dim
yngl?n a diwedd dy stori...
Neu enaid wrth y gwely
sy'n gwylio'i ddagrau
fel y mae o'n gwylio'i eiriau
yn ffynnon gobaith
sy'n bradychu'r doctoriaid
yn awr dywyllaf dy ofid.
Pan mae bywyd yn cilio,
beth yn y byd yw gofal
Dr. Duw?

Medi Wilkinson
9 ½ pwynt

Telyneg: Gofal


A weli di, o gae i gae,
gampwaith llumanwr y lleiniau,
yn rhubanau twt o ddrain sy'n gwau
hanesion ei holl hydrefau?
A glywaist erioed glec y llafn
â'i hergyd ddethol, union,
yn sigo'r pren, yn hollti'n lân
drwy wynder syfrdan y bonion?
A chlywed cri ac ochain cyll
wrth i ddwylaw blygu'r bywyn,
a'i 'stumio'n grefftus, ara' bach
nes dal ar ddim ond ewin?
A synnaist weld, o'r brwgaits blêr,
y plethwaith cain yn nadreddu
dros ddôl, hyd lôn a rhwng dwy iet
yn aros i'r haf ei lenwi?
A gwaredu at y dyrnau dur
sy'n dod i rwygo'r grefft o'r tir?
Elinor Gwynn
9 pwynt

Englyn ar y pryd:

Beddargraff ci

Llew 1990-2000

Ni chyrcha draw'n llawn awydd - na gyrru
Eto'r gur i'r mynydd.
Dan yr allt lle rhedai'n rhydd
Mae'r llew annwyl mor llonydd.

Dafydd Williams
8 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 78 ½

Englyn ar y pryd:

Beddargraff ci

Heddwch i esgyrn Bleddyn
A herciodd yn deircoes am flwyddyn
Rôl cyrraedd pen ei denyn
Chwrnodd a hunodd fan hyn.
Annes Glyn
8 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 79 ½

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth ar yr odl 'ic'


Rwyn gawr, yn gry', yn gwic
wastad yn besimistic.
Y gwir yw, mae'n iaith yn Greek
i'r set tu draw i Shotwick.

Limrig yn cynnwys unrhyw salwch


Er bod Llyfr Mawr y Plant yn llawn ceisis,
mae Sion Blewyn Coch mewn cryn greisis.
Wil Cwac Cwac â ffliw adar
ac Ifan ei bardnar,
a myddar a micsamatosis.

Englyn Cywaith : Cyfarchion Priodas

I'r ddau sy'n priodi

Y grêd yn eich addunedau - yw'r grym
a'r graig ffurfia'r argae;
a'r gwir sy'n sail i'r geiriau
yn dal d?r a dwylo dau.

I ddathlu Priodas Berl
Daw yr aur, cafwyd arian - yn gyfoeth
gan gyfaill, fy nharian.
Y tri deg, trwy hwyl, trwy dân,
cofiaf fy mherl drwy'r cyfan.

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth ar yr odl -ic

Heno, mewn stereophonic,
Rwy'n fyw, yn Nhafarn y Fic.
Er c'wilydd i wleidydd slic
Punnoedd greodd y panic.
Ar wefan, awdur panic
Sy'n celu'i oed yn s?n clic.
Chwilio gem a chael gimic,
A'r Awen ond 'slywen slic.
Trwy'r uffern yn y traffic
Dyro in ddihangol dric!
Emlyn sydd yn teimlo'n sic
Heno rôl Gin a Thonic.

Pennill Mawl/Dychan: Athrawon

Gyda chymorth yr undebau
Fe ddiflannodd baich y TASAU,
Os daw terfyn i'r asesu
A fydd bwrpas i ti ddysgu?
Fe awn at ffynnon ddysg yn ddeddfol bron bob dydd
I droi ein pobol fach yn saint â'n manners,
Rhown iddynt ddracht o win profiadau doeth,
O leiaf ceisiwn wlychu pig y bygyrs,
Fe'u trochwn yn nirgelion iaith a llên
Er gwaethaf strwythur sych rhyw banel posers
Ac os bydd storm yn bygwth boddi'n plwc
Cawn ddod yn ôl â'r llanw fel eu jailers,
A phan y cana'r gloch a ninnau'n hesb
Cawn dorri'n syched efo joch o Bells neu Teachers.
Mae pawb wedi bod yn blant ysgol,
Yn credu bod dysgu at eu dant;
Mae'n swydd hawdd, a byr yw ei horiau,
Rhed gwyliau a chyflog i'r pant.
Ond gwyddom nad oes ciw i addysgu -
Rhaid yw chwysu'n galetach na'r plant!

Limrig yn cynnwys unrhyw salwch


Wedi teimlo yn sâl a di-liw,
Heb fod allan am beint efo'r criw,
'Rôl dioddef fy nghwynion
Fy ngwraig meddai'n dirion -
"Dim ond dynion sy'n dioddef o'r ffliw".

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) : Salem


Yn yr Oriel fe'i gwelwn
Ag olion sebon heb s?n;
Paent canrif sydd heb lifo,
Vosper mewn amser yw o;
Dros y ffin o dras y ffydd
Ein llun sydd yno'n llonydd.
Nid ar Wirral mae Salem
Ond mewn bro â thro i'w threm;
Ger y nant a'r geiriau'n hen
A'i waliau'n lân mewn heulwen
Ei hedd erys hyd heddiw'n
Porthi dau neu dri sy'n driw.

Englyn Cywaith: Cyfarchiad Priodas


(G?r yn cyfarch ei wraig ddi-Gymraeg, sy'n dysgu'r iaith, ar ddiwrnod eu priodas)
I ni'n dau mae ffin dwy iaith - yn uno
I greu llinell berffaith,
Ond bydd acen yr heniaith
Yn rhwymyn hyd derfyn taith.
Daw y cariad cywiraf i chwi'ch dau
Fel chwa dawel, araf;
Gall cusan goncro'r anaf
A ias clwy' eich oesau claf.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.