Y Sgwod vs Ffair Rhos

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.

Y Sgwod.

Y Sgwod.

FFair Rhos.

Ffair Rhos.

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'arf'


Dal i ladd y genedl hon
wna'r arf yn nagrau Irfon.

Geraint Roberts
8 ½ pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Arf'

Colli Grav

Hen arf heb geidwad barfog
A man llwm fydd y maen llog.

Emyr Jones
8 ½ pwynt

Pennill mawl neu ddychan: Iechyd a Diogelwch

Daeth tri o ddynion yr HSE
yr wythnos diwetha' i'n capel ni
a rhoi offer rhag tân wrth y pwlpud a'r ddôr;
nid oedd modd anghytuno,
er i'r blaenoriaid egluro
na fu tân yn Engedi ers 1904.
Dafydd Williams
8 ½ pwynt

Pennill Mawl/Dychan Iechyd a Diogelwch

Yn Eisiau

Achubydd pwll nofio yn Ysgol y Glascoed
Cyfyngir i hoywon sy'n ddall ac sy'n un-troed;
Does dim angen Cymraeg, ond byddwch cystal â chofio -
Rhoi'r blaenoriaeth i'r rheiny sydd heb fedru nofio

Lyn Ebenezer
8 ½ pwynt

Englyn yn cynnwys tri lliw gwahanol

Tyfu lan yn yr Urdd
Yn ei wyrdd nid oedd ei harddach, - na choch
ei hil yn rymusach,
ond fe wn, ar aelwyd fach,
mai gwyn yw'r byw amgenach.
Geraint Roberts
9 pwynt

Englyn yn cynnwys 'Tri Lliw gwahanol'

Pêl Oren uwchben y byd - yn y gwyll
Try yn goch a fflamllyd,
A hem wychliw y machlud
Yn frig aur i'r fro i gyd.

Emyr Jones
8 pwynt

Limrig yn ymwneud â chrefydd


I rai, pererindod i Mecca,
i eraill, i weled y Bwda,
Jeriwsalem, Ganges,
cymerwch eich dewis ...
ond Anfield i Ifan drws nesa'.
Harri Williams
9 pwynt

Limrig yn ymwneud â chrefydd

Karl Marcs 0 Iesu Grist 1

'Crefydd yw opiwm ein tadau,'
Medde Marx, wrth bedlera'i syniadau
Cafodd angladd, ?r ffôl
Yn llawn rhwysg a chybôl -
Ond ddaeth e' ddim yn ôl ymhen tridiau

Lyn Ebenezer
9 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llofruddiaeth

Ni all ofer sillafau
na mil leins, o'u hamlhau,
na tharanu llythrennog,
na geiriau rhwysg, rhai y rôg,
na goracen llên mewn llais,
na'i oslef, na'i or-bwyslais,
roi i ddeg o frawdddegau
y dweud sy'n ddeall rhwng dau.
Un o hyd o'r heniaith hon,
o'i gael, sy'n air i'r galon;
â mwy na hyn, mynnwn ni
a'n holl waeddau, ei lladd-hi.
Karen Owen
9 pwynt

Cywydd [heb fod dros 12 llinell] Llofruddiaeth

Mor syn yw'r Mersi heno
A Rhys ynghwsg yn y gro,
Wedi mynd y mae y wen,
Llewych y teulu llawen,
Mynd heb raid ei ddireidi,
Rhy hwyr nawr ein pryder ni,
Nid yw 'hwdi' i ni yn neb
Un di-enw, diwyneb
Ar bafin mae amlinell
Wen o'i gorff, ond gwag yw'r gell
Am hynny, am ei heinioes
Fe roed i'w fam ddedfryd oes.

Dai Jones
9 ½ pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Ymddeoliad

Breuddwydiais bump a thrigain, nefoedd draw,
dim eisiau meddwl codi, dim cyn naw;
dôi'r paned de, y marmalêd a'r tôst
a 'mhen ychydig iawn dôi dyn y post,
dim eisiau brysio er mwyn mynd i'r gwaith
neu redeg adre' wedyn erbyn saith;
fe aiff y pnawn i wylio Wedi Tri,
caf weld Angharad Mair a ras ji-ji.
Y dydd ar ôl y parti, uffern ddaeth:
roedd gweithio'n galed, ond roedd hyn yn waeth!
"Wel, coda!" meddai'r wraig, "mae jobs i ti
sydd heb eu gwneud ers 1973.
Mae angen paentio'r llofft mewn lliwiau Crown -
dwy yn fagnolia, a gwna'r llall yn frown;
a'r parlwr ffrynt, rhaid ei bapuro fo
â Sanderson, ac artecs ar y to;
mae'r bathrwm hefyd wedi colli'i ra'n,
bydd bîde'n neis, a chawod ar wahân."
Mae yn ddiddiwedd! Peidiwch gofyn pam -
hwyrach ei bod hi'n disgwyl Aled Sam.
Harri Williams
8 ½ pwynt

Cân [heb fod dros 20 llinell] Yr Ymddeoliad

Pob Gwanwyn mi glywn i lawr y cwm
Y byrnwr a'r dyrnwr yn curo fel drwm
Yn chwyrnu a rhygnu am awr ar ôl awr
Dydd dyrnu y ceirch ar fferm Herberts Dolfawr.
Doi ffrindiau, cymdogion, cymdogaeth ynghyd
Cans gwasnaethai y dyrnwr ein hardal i gyd
Yn rhan o'n cynhaliaeth a'n ffordd ni o fyw
Ac yn rhan o hen siwrnai ddi-dor dynol ryw.
Cawd hoe adeg cinio ai'r peiriannau'n fud
Yr olwynion a'r beltiau yn dawel i gyd,
Ac yn dwr yn y gegin o gylch y bwrdd mawr
Yn blasu haelioni fferm Herberts Dolfawr.
Doi'r c?n a'r cathod a'r gweithwyr ynghyd
Rownd y wanaf isaf o'r wisgon yd
I ddal llygod bach a dal llygod mawr
Dydd dyrnu y ceirch ar fferm Herberts Dolfawr.
Mae Jim a Dai'n tynnu'u pensiwn ers spel
Ac i ddyddiau'r contractio wedi dwedyd ffarwel
Yr hen injan ddyrnu sy'n fudan yn awr
Rhan o straeon pen - tân fferm Herberts Dolfawr

Raymond Osborne Jones
9 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Ynfyd wyt os gor-fwyti
Rhy dew fydd dy farw di.
½ pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Ynfyd wyt os gor-fwyti
Yr hen fêt deiet i ti.
½ pwynt

Englyn Cywaith: Albwm Lluniau


Trist ydyw agor ei gloriau - a gweld
du a gwyn y lluniau;
y brwd addunedau brau
heddiw yn fân gelwyddau.
Dafydd Williams
8 ½ pwynt

Englyn Cywaith : Albwm Lluniau

Hoff wyneb o'r gorffennol a welaf
Gan wylo'n ysbeidiol,
Hen flodeugerdd angerddol
O fy nghâr sydd yn fy nghôl.

Emyr Jones
8 ½ pwynt

Telyneg: Ffair

Ar ôl i'r golau ddiffodd
ac i'r stondinwyr ffoi,
ar ôl i'r trên bach adael,
ar ôl i'r olwyn gloi;
pan hegla'r one armed bandits,
pan freua'r tedi bêr,
pan fydd y ceir yn ddarnau
a'r candi fflos yn flêr;
fe bydd y llestri'n deilchion
a'r stryd yn india roc,
a chefnau'r cardiau ffortiwn
yn dyllau dartiau toc;
bryd hynny, fe fydd aur y byd
mewn 'sgodyn bach - ond am ba hyd?
Karen Owen
9 ½ pwynt

Telyneg - Ffair

[teyrnged i Hayley Williams y ferch 16 oed o Bontyp?l a gollodd ei bywyd mewn damwain yn Ffair Oakwood].

Fe ddaeth llond bws o laslencyndod ffraith
Tua'r gorllewin ar eu gwibdaith llon,
Roedd afiaith yn y canu'rhyd y daith
A thynnu coes am gariad hwn a hon.
Yn uchel eu gobeithion rhuthrant mas
Yn ferw'u s?n i ganol cyffro'r dydd, -
Roedd bwrlwm, roedd 'na firi ac roedd blas
Ar fywyd heddiw, a chael crwydro'n rhydd.
O reid i reid, o sgrech i sgrech, doedd dim
Ond chwerthin afreolus ar y gwynt,
Mor gyflym, mor frawychus ac mor chwim
A phawb yn annog mynd yn gynt a chynt.
Fel darn o blwm daeth lawr o'r awyr fri
O'i gafael aeth y ffair a'i bywyd hi
John Jones
8 ½ pwynt

Englyn ar y pryd: Cyfaill

(Peter Haine)

Un waled oedd ei wleidydda - a'i gownt
Yn gudd, ond er gwaetha'
Punnoedd ei ffrindiau penna'
Dod yn ôl yn dlawd a wna.

Roy Davies
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 80

Englyn ar y pryd: Cyfaill

Er cof annwyl am Windsor Tomos, cyfaill pawb, a fu farw'n frawychus o sydyn b'nawn Sul, y 27ain o Ionawr

Ni ddaw'r wit drwyr ddôr eto - yn wisgi
Draw i'n mysg i sgwrsio,
Ond yng nghil cynnil ein co'
Deil ei lais i adleisio.
Dai Jones
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 79

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'arf'

Arf all dawelu tyrfa
yn ddios yw llinell dda.
Rhaid hogi'r Gillette eto
i wneud arf at ei farf o.
er cof am Merfyn Williams, yr amgylcheddwr o Gwm Croesor
Mae arf dadleuon Merfyn
yn ddwfn yn y tiroedd hyn.
Bom ar ôl bom yn ddi-ball,
yfory daw arf arall.

Pennill mawl neu ddychan: Iechyd a Diogelwch


Diogel ym mreichiau'r Iesu un waith,
ond heddiw, rhaid gwarchod ein plant;
a rhoi, rhoi yn gyson a fu'r ffynnon fach
ond heddiw d?r potel T? Nant;
ceir ll'goden amgenach a gwe heb bry' cop
yn lân o bob clefyd a chlwy';
i-pod a web-cam, Nintendo a sgrîn
a wna sawl pen-ôl yn ben mwy.
Os Zach sydd â llais uchel - yn cyrraedd
pob côr yn y capel,
un yn uwch a fyn na wêl
ei eiriau ar yr oriel.

Englyn yn cynnwys tri lliw gwahanol

Llyfr Du Caerfyrddin

Unwaith, yn s?n y canu, - a Lladin
yr Urdd Llwyd o'r neilltu,
un bluen fu'n 'sgrifennu:
ganed iaith mewn gwyn a du.

Dyn yw dyn
Ni wyddom ai du Adda, - ai un wen,
ran hynny, yw Efa;
yn y ddau, mi wn yn dda
rhudd ydyw'r gwaed a dreiddia.

Limrig yn ymwneud â chrefydd

Bu rhwyg mawr yng nghapel Engedi,
a chodwyd lle gwell i addoli;
a nawr mae yr wyrion
yr un blydi gwirion
yn gwrthod yn glir â chymodi.
Gwell ydyw gweddïo'n y dirgel
mewn stafell neu lecyn bach tawel
yn lle gyda bloedd
a hynny ar goedd
yn uchel ein cloch yn y capel.
Ein crefydd yw gwario a gwario
yn nhemlau bargeinion, heb beidio;
fe wariwn bob punt
ynghynt ac yn gynt,
nes gorffen yn skint, a sobreiddio.
Roedd Dafydd yn ddiacon Batus
a Methodist ronc oedd y Musus;
ond wedi rhyw ffracas,
aeth y plant yn Jehofas -
y cwbwl ond Sioni, mae'n lwcus.

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llofruddiaeth

I Roy

Dditectif diedifar,
Roy'r iaith hon yw'n cyfraith wâr;
Roy'r gell, Roy'r gyllell, a'r gwr
sydd yn ieithydd-gyfreithiwr.
Roy'r mwrdwr a'r myfyrdod,
dau o fewn ei waed i fod;
Cain ac Abel; Roy'r heliwr,
plismon caneuon o wr.
Roy'r briwiau heibio i'r ywen,
noson y llafn; trynsiwn llên!
Roy'r arch sydd yn ein gwarchod,
Roy dal, Roy'r sgandal, Roy'r Sgwod.

I Roy
Y bardd sy'n byw ar y bît
a bobi'n byw ei habit;
gwyn y gwêl bennill telyn,
dwed o hyd am feiau dyn;
englyn yn sôn am angladd
neu y blôc sydd heb ei ladd;
llawenydd a llofruddiaeth,
y trai a llanw y traeth.
Yn dawel mae'n dweud celwydd,
Roy yw'r un sy'n twyllo'n rhydd,
heno'r cop, un hanner call,
a 'deryn y Sgwod arall.

deialog rhwng bargyfreithwr y diffynnydd (Dafydd Williams) a heddwas yr erlyniad (Roy Davies) mewn llys

DW Heddwas, o flaen y deuddeg a Duw, rho di'r ffeithiau'n deg.
RD Ei ffawd oedd ergyd i'w phena hwn a fu ei chynnen.
DW Ai gwirion dy dystion di?
RD Ganed i wneud drygionia'i drais yn ei waed a red; dyn euog . . .
DW . . . na, diniwed!
RD Olion bysedd troseddwr,hwn sydd ar fai . . .
DW . . . sa' i mor si?r.
RD Bwystfil a baril y bedd!
DW Rho inni y gwirionedd!

Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Ymddeoliad

Bu mor ddefnyddiol hyd ei hoes heb un gair croes o gwbwl,
yn gymorth parod hawdd ei gael mor hael i ddyn mewn trwbwl;
ni fyddai byth yn dwedyd 'Na' trwy gydol ha' neu aeaf,
un ufudd oedd Camilla fwyn â'i swyn wrth edrych arnaf.
Fe ddeuai ataf, ar fy llw, ond galw'i henw unwaith,
a cherddai wrth fy ochor i fel cymar imi'n berffaith,
ei phen yn uchel yn yr aer, ('r hen chwaer oedd mor urddasol)
wrth gael ei chwmni gyda'r nos yn cerdded rhos Ffostrasol.
Wrth ei brochgáu cawn innau hwyl ar ddiwrnod g?yl mewn afiaith,
ar dywydd teg, mewn gwynt neu law, tu fewn i'r claw' bûm ganwaith
yn joio yn y borfa fras tan awyr las y nawnddydd,
yng nghwmni'n gilydd drwy'r prynhawn yn ddedwydd iawn hyd hwyrddydd.
Ond heno mae y gaseg wen â'i phen yn ddigon isel,
a thrist yw gweld mor wag yw'r stâl, a'r stabal sydd mor dawel;
i'r borfa aeth Camilla lân fel bu o'r bla'n, ond heddi,
nid yn ei chyfrwy hi y mae, ond yn y cae yn pori.

Englyn Cywaith: Albwm Lluniau

Plentyn a'i gyfrifiadurYno'n rhes mae s?n hwre - a gwenuFu gynnau'n ei gamre,Mor glyfar ydyw chwareCd Rom ei stori e.

Telyneg: Ffair

Mynychwyr rhyw gyfeddach
sy'n cynnwrf yn y gw?dd
o'r masarn ac o'r deri
i bentymora'n rhydd.
Agorwyd llawer cwpwrdd
er cael y dewis iawn,
bydd Morus yma'n hebrwng
ei ddawnswyr cyn y pnawn.
Patrymau coch a melyn
yn gwasgar a chrynhoi
fel arian byw o liwiau
heb foment i din-droi.
Ond Ifan yn ystrywgar
ddaeth i ddiflasu'r hwyl;
rhaid aros blwyddyn arall
cyn gwelwn eto ?yl.

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Arf'

Colli Grav

Hen arf heb geidwad barfog
A lle oer fydd y maen llog

Cywydd [heb fod dros 12 llinell] Llofruddiaeth

[Llofruddiwyd Benazir Bhutto, cyn Brif Weinidog Pacistan ar Ragfyr 27ain 2007]

I hybu Plaid y bobol,
Nid yn hawdd oedd mynd yn ôl
I'w hystad ym Mhacistan -
I weflau gelyn aflan.
Fel ei thad , mwy o hadau
O ffresni oedd hi yn hau ;
Heddwch oedd ei newyddion,
Ac oes hir a geisiai hon.
Talu'n hallt wnaeth yr alltud
Ar ei bocs i wella'r byd -
Yn ôl yng ngwers anialwch
Llwm, caeth ei phlastro i'r llwch.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.