Ffostrasol vs Y Cwps.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'ffrwyth':


Peri awch wna ffrwyth y pren
O hyd, fel gynt yn Eden.

Jim James
8 pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'ffrwyth':

Wrth i flas ffrwyth felysu
Ar y pren, gwylier y pry.
Huw Meirion Edwards
8 ½ pwynt

Pennill Mawl/Dychan: Y Prif Gwnstabl:

Ni ddylech fel gogleddwyr
Ddilorni'ch Prif Gop chwi,
Waeth yma lawr yn Nyfed
'Sdim un i ga'l 'da ni.

Dai Rees Davies
8 ½ pwynt

Pennill Mawl Dychan - Y Prif Gwnstabl


Mae holl Gopynnod Cymru
yn unfarn a chytûn
Mai hwn yw'r pennaf Copyn
y Copyn mwyaf un.
Mae'n eofn ar sgaffaldiau,
mae'n dringo lan a lan,
Mae'n un o Arwyr Cymru:
Copynddyn! (Spider-man)
Mae'n bwyta drwgweithredwyr
fel rhyw darantwlâ,
Mae'n llarpio'r rhai sy'n gyrru
dros dri deg m.y.a.
Mae'i lygaid craff yn gwylio
pob modfedd sgwâr o'i we:
Diolchwch, glêr Deheubarth,
mai un o'r Gogs yw e.
Geraint Williams
8 ½ pwynt

Englyn yn cynnwys pentref yng Ngheredigion:

Machlud haul ar fae Tresaith
Tresi aur ar fae Tresaith - yna'r haul
Ar yr heli'n frodwaith,
Rhu y môr, - ehangder maith,
A gwymon megis gemwaith.

John Pinion Jones
9 pwynt

Englyn yn cynnwys enw pentref yng Ngheredigion:

Yn y Bont i'r efail boeth - drwy'r rhewynt
Daw'r awen yn fflamboeth
I danio'r coed yn aur coeth
A'i rannu yn rhad drannoeth.
Huw Meirion Edwards
8 pwynt

Limrig yn ymwneud â Pharcio:


Wrth barcio fy nghar mitsibwshi
Daeth menyw a bwrw mewn i fi,
Fe'i gwasgodd fel feis
Mae nawr llai o seis,
Y lwc yw mae cerdded yr oedd hi.

Emyr Davies
9 pwynt

Limrig yn ymwneud â pharcio

Parcio ar ddwy linell felen
a wnes i, wrth alw ar Elen.
A nawr dwi a'r Citroen
wedi malu yn yffloen:
lwc mul mai ei g?r hi yw'r warden.
Geraint Williams
8 ½ pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Arferiad:


Roedd pleser yr arferiad
Yn eu galw hwy i gefn gwlad
Yn griw, beth bynnag yr hin
Anturiodd plant y werin
Ar hynt drwy'r bore cynta'
I ddweud "Blwyddyn Newydd Dda".
Ond gwag yw'n bore rhagor,
Ni ddaeth cyfarchiad o'r ddôr,
Nac ifanc wên eleni
I wneud ein Dydd Calan ni.
Yma mwy, yn ddiymwad,
Yn farw mae'r hen arferiad.

Dai Rees Davies
8 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) : Arferiad

Un dewis hyd y diwedd:
mae hi'n Sul, mae o'n ei sedd.
Rhyw lond llaw distaw sy'n dod
yn ufudd at y ddefod;
dim smic ond paent yn plicio,
pesychu'n ganu'n ei go'.
Mae o'n 'nabod adnodau
dyrys y Gair.
Drws ar gau,
a'r bollt rhyngddynt hwy â'r byd
yn oes emyn di-symud.
Amen, a neb yn gwenu,
yn dweud eu dweud yn eu du...
Dafydd John Pritchard
9 ½ pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Newyddion Da


Mae Ifan yn dalyrnwr, edmyga pawb ei ddawn,
Yn darllen gwaith beirdd eraill ac ennill marciau llawn,
Ond weithiau fe wna limrig neu'r llinell ar y pryd
Pan ddaw yr awen heibio mae mewn rhyw arall fyd.
Daeth hyn i glyw'r frenhines, a wir meddyliodd hi
Yn anrhydeddau'r flwyddyn roi iddo'r O.B.E.
Nid cymaint am ei gynnyrch ond am fod beirdd yn brin,
Yn ôl ddywedodd Phillip 'n enwedig y ffordd hyn.
Fe wyddai beirdd Ffostrasol fod hyn yn eithaf gwir
Gan fod e' yn cyfeirio at rai o dop y sir.
Newyddion da gyrhaeddodd o'r palas fore Llun
Mewn llythyr ac ar gwaelod "Yn Gywir Leisa'r Cwin".
Atebodd Ifan hwnnw a gofyn yr un pryd
Am gael ei gostau teithio mae tanwydd nawr mor ddrud.
A hoffai aros noswaith ac 'roedd yn gwbwl si?r,
Na fyddai gwrthwynebiad os cysgai gyda'i g?r.
Cytunodd ei mawrhydi mewn pwyllgor ar ôl te
Y byddai'n rhatach lawer iddi hi fynd ato fe,
'Na pam yng ngwesty'r Emlyn mewn defod parch a bri
Yr anrhydeddwyd Ifan yn fardd yr O.B.E.

Emyr Davies
9 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Newyddion Da

Darfu'r newyddion da a mud yw'r angylion,
Nid oes na thangnefedd na heddwch i'w gael dros y byd;
Llarpiodd y bleiddiaid y praidd am fod y bugeiliaid
Wedi cilio i rengoedd Hamass ac yn filwyr i gyd.
Fe ffeiriodd y Doethion eu rhoddion am arfau'r Gorllewin,
Diffoddodd y seren, dyfnhaodd y nos dros y tir;
Ond ble mae y baban a aned mewn preseb ym Methl'em
Oedd i sefyll drwy'r oesoedd dros yr hyn sydd yn wâr ac yn wir?
Mae o'n cuddio medd rhai yn ogof anghysbell bin Laden
Er na fynnwn roi coel ar y sïon, nid awn ar fy llw,
Rhag i filwyr Dick Cheney a Bush ei ddarganfod a'i gipio,
A throi y Mab Bychan yn Gristion, yr un fath a nhw.
Dafydd Lewis
9 ½ pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Y mae Glan yn drwm ei glyw
un od mewn Talwrn ydyw.½ pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Yn ei fedd ers p'nawn heddiw
Y mae Glan yn drwm ei glyw.
½ pwynt

Englyn Cywaith: Cangar?


Oet yno cyn bod Britania, na chael
A Chook ei Awstralia,
Yn tramwy dy blwy'n ddi bla
Gwerinwr, teg, arena.

John Pinion Jones
8 ½ pwynt

Englyn cywaith - Cangarw

A finne'n defnyddio f'heniaith - Ernie
Y tafarnwr unwaith
Yn ei far heb ddallt fy iaith,
A neidiodd nôl mewn adwaith.
Iwan Bryn James
8 pwynt

Telyneg: Gair


O air i air gorchfygwyd fi
Gan iaith sy'n annwyl i mi.
Ac at holl ryfeddodau'n llên
Mi ges fy arwain ganddi,
A rhywle 'mhlith y geiriau fyrdd
Mi ddarganfyddais hwnnw
Sy'n rhwydd ei yngan, ond er hyn
Yn anodd iawn ei gadw.

Jim James
9 pwynt

Telyneg - Gair

Mae'n fachlud gogoneddus yn Aber heno,
ond mae'r byd ar frys, ac mae'r ceir yn tasgu,
mae rhai eto'n dadlau, ac mae pawb yn ffonio.
Rhyw gybolfa o s?n ydyw'r cyfathrebu.
Ond yna, rhywsut, yn eiliadau'r tawelwch
pan fo'r haul yn diflannu, mae hithau'r fintai
yn arafu yn stond i wrando'r prydferthwch
sy'n sibrwd rhywbeth: "marw", "marw", efallai ...
Dafydd John Pritchard
8 pwynt

Englyn ar y pryd: Pwysau

Oswald sy'n gollwng pwysi - yn wyrthiol
Drwy wrthod bwyd ffansi;
Ond er deiet spageti
Mae o hyd yn fwy na mi.

Dai Rees Davies
8 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 77 ½

Englyn ar y pryd: Pwysau

("Wrth fy Nagrau i" - Angharad Tomos)

Dal dig ar ben dy ddigon, crio wyt
Tra bo'r crud yn fodlon;
Ac fed daw yn fraw i'th fron
Yr hen deirant o dirion.
Dafydd Pritchard
10 pwynt
CYFANWSWM PWYNTIAU: 79 ½

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'ffrwyth':

Un a'i rodd o ffrwyth y pren,
Un arall a'i ffon dderwen.
Newyn, heb ffrwyth cynhaeaf,
A ddaw heb gawodydd haf.

Pennill Mawl/Dychan: Y Prif Gwnstabl:

Prif Gwnstabl Gogledd Cymru:
Fe'i gwelwyd ger y Bala
Yn sbidio gan rhyw gamera,
Mewn brys i gyrraedd pen draw Ll?n
Cael mwgyn mariwana.
Ai yr hewl sy'n creu trafferth i Shanco
Neu rhywbeth o'i fewn sy'n ei frifo,
Mae gweld ei antics mor gynnar' 'n y dydd
Yn rybudd, fod cyffur yn gweithio.

Englyn yn cynnwys pentref yng Ngheredigion:

Cenarth, a'r Teifi'n canu - si awel
A'r sewin yn brathu,
Rheg y d?r dros greigiau du,
Dyna yw'r s?n sy'n denu.
Yfais yn Llangwyryfon - yn y Cei,
Cnwch Coch a Thregaron,
Ac eto Nebo, Llan Non,
Yna egwyl, ces ddigon.
Fe gollwyd darn o'r Sarnau, yn awr cloi
Awr rhoi clawr ar glychau,
O'n golwg aeth y golau,
Ai 'dy bwrdd' sydd wedi cau.
Un haf canol Mehefin, hobi Dan
Bob dydd oedd dal sewin,
A llwyth dwy afon a llyn
Welwyd gerllaw Mydroilyn.

Limrig yn dechrau â'r gair 'Parcio':


Peth od dechrau pennill a 'parcio'
Mewn englyn mae'n iawn 'rwy'n cytuno,
Ond ceisiwch wneud limrig
Mae'n anodd gythreulig
Rhowch gynnig cewch weld nad yw'n gweithio
Mae car tîm y cwps wedi barcio
Mewn man bach cyfleus i fynd ato,
Ac os fydd ei pennill
Yn digwydd ag ennill
Yn aros yn Bont fyddant heno.
Parcio 'ngherbyd wnes i ar y stryd
Tu fas i'r Llew Coch yn Nglan Rhyd,
Roedd hynny dydd Mercher
Mae nawr yn nos Wener,
Mae'n rhaid fod e' yno o hyd!

Englyn Cywaith: Cangar?


Oet yno cyn bod Britania, na chael
A Chook ei Awstralia,
Yn tramwy dy blwy'n ddi bla
Gwerinwr, teg, arena.

Cynigion ychwanegol:

Pennill Mawl Dychan - Y Prif Gwnstabl

De Cymru, Powys a llu Gwent
Fe fydd eich enwau wedi went
Ond am y gog a'i lathen fer
Mae'r chwilod yn ei ben yn her
Ond gofiwn ni am hwn a'i ddawn -
Fe gofiwn ni ei fod o'n iawn.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.