Dolgellau vs Tywysogion

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.

Cwpled caeth yn cynnwys 'pen':

Y bol a gwyd i'r bowlen
A phwnio, pwnio mae'r pen!
Meira Evans
8 pwynt

CWPLED CAETH yn cynnwys y gair 'pen'

Mudais, a gweld storm wedyn
yn dryllio wal pen draw Ll?n.
Guto Dafydd
8 pwynt

Pennill Ymson:Ar Goll:

Ar garreg lefn ym môn y clawdd
Y rhoddais blaen fy nhroed;
A neidio wedyn dros y wal
I'r goedwig fwya' 'rioed.
Yma rhoddais gledr llaw
I'm tynnu fyny fry -
Heddiw, nid oes deri mwy -
Ond t?, a t?, a t?....
I fyny'r cae am adra,
Trwy siffrwd porfa fras;
Ond pnawn 'ma, nid oes porfa
Na'r carped Llygad Doli glas....
Yn blentyn adnabum pob modfedd o'r Berth
Y mwsog, y cen a'r mieri,
Ond yma'n oedolyn, mor anodd yw gweld
Fy mhlentyndod, ar goll, dan sylfaeni...
Nia Medi
8 pwynt

PENNILL YMSON: 'Ar Goll'

Am imi ddweud na fydd hi'n deall map tra bydd hi byw,
Mi luchiodd hi y map i mi, a gafael yn y llyw.
Mae'r plantos bach yn cysgu, wedi hewian am cyhyd,
Ond yn yr Audi, toc, mi fydd hi'n Drydydd Rhyfel Byd
Pan ddweda'i ein bod ni'n mynd ffordd rong ers bron i bedair awr,
A hynny am fy mod i'n dal y map â'i ben i lawr.
Mei Mac
8 pwynt

Englyn yn cynnwys 'Heno' ddwywaith:

Daw i mi eich dimeuai - heno blant
O'ch blys am bleserau,
Heno'ch rêf o hunllefau
Syrth im rhwyd yn freuddwyd frau.
Meira Evans
8 pwynt

ENGLYN yn cynnwys y gair 'heno' ddwywaith

I Wil Sam

(Noson angladd WS y cynhaliwyd y Cyfarfod Cyhoeddus i drafod bwriad Cyngor Gwynedd i gau ysgol Llanystumdwy)

Awn heno, o dan ryw hanner - lleuad,
Ac yn llai ein nifer,
A hynny sy heno o sêr
Yn Eifionydd yn faner.
Twm Morys
9 ½ pwynt

Limrig yn enwi Gwlad Dramor:


Di mopio ei phen mae Anèt,
R'ôl wythnos yn syrffio y net;
Fe g?glodd am 'hync'
Be gath hi ond 'mync'-
A fory, mai 'off' i Tibet....

Nia Medi
8 pwynt

LIMRIG yn enwi gwlad dramor.

Gan fod ei giw-pî o mor wan
a blewiach ei ben ymhob man
rhyw deimlo trueni
dros Stanley wnaeth Lenni
a rhoi mymryn o f?s Bec i Stan.
Guto Dafydd
8 ½ pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Hen Gariad

Hen gariad.
Un o'r giwed melfedaidd
A'i gwallt yn gaeau o haidd
Uwch ei llais a'i harddwch llwyr.
Yn ei swyn a'i holl synnwyr,
Yn ei sent, ei thwyllo sydd;
ar ei cholur ei chelwydd.
Dydd ar ddydd oherwydd hon
Fe goeliaf innau'r galon.
Yn 'y mhen waeth i mi heb
Wythiennau fy noethineb.
Mae'r hoeden eto 'leni
I'w chael yn fy mreichiau i.
Arwyn Groe
9 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell):

Hen Gariad

Yn y Crown os down ein dau
i gyrraedd rhannu geiriau,
paid â sôn am Pen Nionyn
na'r un lle difyr yn Llyˆn.
y fainc lle mae'n henwau'n fân
yn dal, na'r gerdd gan Dylan.
Dy sêr di yw rheini, rhes
o hen ganhwyllau'n hanes.
Tri deg mlynedd i heddiw
yn dy frys agoraist friw.
Ni all dy wag linellau
am Ben Llyˆn gychwyn ei gau.
Mei Mac
9 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Droedigaeth

Rwy'n cofio'r canu ar bont Borth
R'ôl peint neu ddau yn ormod,
A ti'n rhoi ffling i'th ambarel
I'r dyfroedd du, di-waelod.
Chwerthin nes yr o'n i'n sal
Liw nos ar lan y Fenai,
A ti a mi fel 'double-act'
Ym Mangor yr wyth- degau.
Nes i ti ddod o hyd i ddyn,
Ryw foi oedd 'llond pob lle';
ni ddaethost mwy i'r dafarn
Nac am sgwrs, na paned de...
Fe gerddaist heibio heb ddweud gair
Yng nghwmni ffrindiau newydd
A'th chwerthin wedi troi yn fud
Yn nhý dy Dad a'th grefydd.
Ni wn i fawr amdano
Clywais son mai 'Cariad Yw' -
Pam felly collais i fy ffrind
Pan ffindis di dy Dduw?
Nia Medi
9 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Droedigaeth

Wyt ti'n cofio ysgol Bryncroes, a'r drysau i gyd dan glo,
A'r tsiaen oedd am ei giât hi fel tsiaen am wddw'r Fro,
A'r tri llanc hynny
Aeth i'w thynnu?
'Daw, fe ddaw', medd Dafydd Iwan,
'Daw'r awr yn ôl i minnau rwan...'
'Ond, rhaid deall,' meddai Dafydd, 'mor wahanol oedd yr oes,
A minnau eto'n grwtyn, yn mynnu tynnu'n groes,
Herio'n hirwallt,
Anystywallt;
Mae Plaid â chyfrifoldeb bellach,
A rhaid ystyried y pictiwr ehangach.'
Ers pan mae gennyf bleidlais, meddaf innau, dros y Blaid
Y bum i yn pleidleisio, ond mi beidiaf os bydd rhaid.
Rhoi pabi melyn
Yn fathodyn
Am fod trwbwl yn y Triban...
Duw faddeuo i Dafydd Iwan.
Twm Morys
9 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:


Hen gusan dannedd gosod
Yw y gusan berta'n bod.
1 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Uwch y bedd, rhaid diolch bod
Hen gusan dannedd gosod.

Englyn Cywaith: Cartref

Gwraig dda oedd a gwraig ddiddan - mam a nain;
Mynnai hon ei phentan;
Yn hen yma ei hunan
Heb d? na theulu na thân.
Meira Evans
8 ½ pwynt

ENGLYN CYWAITH: 'Cartref'

Gwn yn iawn nad ein hogan ni - yw hon...
Clywais heno ganddi
Mai yma'r rwyt am imi
Aros, Twm... I ble'r est ti?
Guto Dafydd
8 ½ pwynt

Telyneg: Hwiangerdd

Swatia'n glyd, gwerth y byd
Cei gysgu tan y bore
Sws i mam, ni chei gam
Cysga di dy ore
Mwytho llaw, ni chei fraw
Cei gysgu tan y bore
Cloi y drws, mhlentyn tlws
Cysga di dy ore
Heno heno huna'n mhlentyn
Huna'n hogan dda i mam
Ni chaiff ddim amharu'th gyntun
Ni wna undyn a thi gam
Noswaith braf ganol haf
Ond gwynt o'r dwyrain chwyth
Noswaith fwyn llawn o swyn
Ond pwy s'yn gwylio'r nyth ?
Ffrindiau'n cwrdd wrth y bwrdd
Lwli lwli lws lodes dlws
Y Capten wrth y bwrdd
A'r llong yn mynd i ffwrdd
Lwli lwli lws lodes fach dlws
Wyt ti heno'n huno mhlentyn ?
Deilen gura ar y ddôr
Heno heno suo suo
Tonnau unig glan y môr
wena'n dawel ar yr awel -
Mam a ddaw i'th nôl,
Mwytho pen angel wen
Swatia yn fy nghôl
O na bai mreichiau'n dynn amdanat,
Cariad mam sy'n rhwygo'm bron
Clyd a chynnes fu fy mynwes - ond
Gwag ac euog ydyw hon.
Mair Tomos Ifans
9 pwynt

TELYNEG: 'Hwiangerdd'

Côt fach Dyddgu, yn binc binc,
A chlyd fel côt o grwyn minc!
Si hei lwli, 'mabi,
Fel hyn y cana'i iti:
Pan aeth dy dad di i deithio,
Côt ar ei ysgwydd, gitâr yn ei law,
Mi welodd ryfeddodau:
Mynyddoedd, a phalasau,
Dynion dewrion ar dyrau,
A genod fel teganau.
Pan aeth dy dad di i weithio
I'w gwt bach pren, oer ar y naw,
Gan feddwl rhaffu straeon
I syfrdannu'i gyfeillion,
Ni wnaeth y lembo gwirion
Ond meddwl tan berfeddion
Am gôt fach Dyddgu, yn binc binc,
A chlyd fel côt o grwyn minc...
Ond si hei lwli, 'mechan:
Cysgu rwyt ti rwan.
Twm Morys
9 pwynt

Englyn ar y pryd: Ffon


A dechrau'r daith yn greithiau - oherwydd
Im herio'r rheolau;
Heno'n fy nghynnal innau
Heibio'r iard mae'r bedw brau.
8 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 77

Englyn ar y pryd: Ffon


Cer yn dal, dweud o'th galon - dweud y gwir
Dweud y geiriau creulon,
Cer ar dân, cer ar d'union
Cer â ffydd - ond cer â ffon.
Mei Mac
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 78 ½

Cynigion ychwanegol:

Englyn yn cynnwys 'Heno' ddwywaith:

[Heno heno]

Heno'n wyll a'r daith yn hir - i'r bore;
bob awr yn gyfandir
heno; ond gwn y glannir
oriau gwawr a'u cargo ir.

Limrig yn enwi Gwlad Dramor:

R'ôl dolig yn gwely fo'r ffliw
Sa'm otj gin i fynd i Periw;
Neu Ülambator
De'r Affrig - neu'r Ffor,
Jyst rwla'i fynd o'ma wir Dduw!
Aeth dynas drws nesa'i Fi-ji,
A'n job i oedd bwydo y ci;
Ond ddoe rhedodd Bili
Yn syth dan rhyw lori
'My God, mai'n diw'n n'ôl 'ten past three'!
Mi es i dre'r Cofi i siopa
A chwilio am siop fach Patricia
Mi stopiais rhyw go'
Mi holais i o
"No no," medda fo," Pat a gone ia !"
Ces brofiad anifyr mis d'wetha'
Tra'n chwarae yn gôl i Siberia
Roedd y pitch fel glass
A 'doedd na ddim grass
Roedd pob 'pass' yn llithro drwy 'nghoesa'.
Mae'r chilli, fel Santa, o Lapland
Ac o Chilli daw hufen ia crand
A dyna paham
Y mae dy fam
Yn brasgamu rholl ffordd i Iceland

Cynigion ychwanegol:

CWPLED CAETH yn cynnwys y gair 'pen'


Wfft i ddogfen rhyw ben bach
A wnâi Wynedd yn wanach!

ENGLYN yn cynnwys y gair 'heno' ddwywaith

(wedi colli cyfaill yn ystod yr haf)

Heno'n drist, y glaw yn drwm, a heno
mor hen ydi'r rheswm
yr wy'n llesg ar raean llwm
yn didoli f'Erstalwm.

ENGLYN CYWAITH: 'Cartref'


Aeth drwy'r ddaear o 'laru - adre'n saff,
ond rwy'n si?r er hynny
y daw lôn, er dolennu,
â hi'n ôl yma i 'nh?.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.