Hogia'r Ynys vs Caernarfon.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.

Cwpled caeth ar yr odl 'oes':

Ennyd yw hyd ein heinioes
Ennyd mewn ennyd yw'n hoes.
Robin Huws
9 pwynt

Cwpled caeth ar yr odl 'oes' :


(O gofio cân "enwog" Rolf Harris 'Jake the peg')
I Rolf y mae Jake drwy'i oes
Wedi hercian ar deircoes.

Robin Evans
8 pwynt

Pennill Mawl/Dychan: Jac yr Undeb

O Belise i Singapore fe'i gwelid hi ymhobman
Boed o ben castell neu gwt mwd heb ffrwgwd braidd yn unman,
Roedd dynion yn eu cotiau coch yn gweiddi'n groch o dani
Gan ddychryn ambell Gymro bach a llawer Picanini;
Ac o dan hon aeth bechgyn Môn ar ôl 'rhen gawr Brynsiencyn
Ond fe'u gadawodd nhw yn Rhyl nid ai ddim pellach wedyn.
Dan hon bu farw'r bardd Hedd Wyn a glewion luoedd Gwynedd
Pob un yn arwyr erbyn hyn ar lechau o anrhydedd.
A hon a chwifiai mam'n ei llaw ar ddiwrnod y cadoediad
Pan ddaeth nifer fach yn ôl o'r milwyr i Lanrhuddlad.
Fe gofir hon ar hanner mast draw ym Melffast a Derry
A chodwyd hi draw yn Irac pan gaeth Hussain ei grogi;
Ni roddwyd hi uwchben ei arch cans byddai hynny'n bechod
Ond mae gan rai fel Paisley hawl ei gwisgo' mhatrwm gwasgod,
A gwir yw bod arglwyddi bach ystrywgar ânt o Walia
Yn fodlon bod dan gysgod hon pan ânt i hel eu bolia'.
Mae'n bechod meddwl erbyn hyn, 'Nid Ianws wyf ddau wyneb'
Bod cymaint nawr o'r broydd hyn yn gwrthod Jac yr Undeb.
Dyw'r Foina, Gail na'r Foina Ffoil yn meddwl dim ohoni,
Ac onid 'hyll' fa'i gosod draig ymhlith y croesau arni.
Ond nawr mae Jac yn Holihed yn'fflio'n proud' ar Stena
Ni chredaf y bydd yno'n hir, mae'r 'Gwynt o'r Bae' reit bethma.
Eurfon
8 pwynt

Pennill Mawl / Dychan : Jac yr Undeb

Chwareuai'r pedwar yn ddiddig
A Dewi a gadwai y sgôr,
Ond blinodd ein nawddsant yn sydyn
Am mai bwli hyll ydoedd Siôr.
Yna Padrig ac Andras ddihangodd
Ac aeth teyrnas "unedig" yn llac,
Felly dyna pam erbyn heddiw
Does dim angen yr iwnion jac.
Llinos Angharad
8 pwynt

Englyn yn cynnwys Pentref ym Môn


Llanfwrog
Gorwedd gwr yn Llanfwrog - yn arwr
Ymhlith erwau creithiog,
Un ydoedd wir weinidog
A'r gred yn Rhosyn y Grog
(Y diweddar Barchedig J.Roberts)
Robin Huws
8 ½ pwynt

Englyn yn cynnwys pentref ym Môn

 minnau'n blin gnoi f'ewinedd - yn oer
Gan niwl Penrhosgarnedd
Yr wyf yn teimlo'n rhyfedd.
Ewch â mi i Lanerchymedd !
Robin Evans
8 pwynt

Limrig yn ymwneud â thorri adduned


Rown i'n eistedd un nos yn 'crows nest'
Pan welais U-Boat dim ond jest,
Rown i fod i'w reportio
"Rhy Hwyr",meddwn eto,
Pan aeth mini torpido drwy'm vest.
Isfron
8 ½ pwynt

Limrig yn ymwneud â thorri adduned


Mi wnes i adduned ddydd Calan
Na faswn i byth o hyn allan
Yn rhoi ffidil yn to
Cyn cael llinell glo
A dyna fo.
Geraint Lovgreen
8 ½ pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Awdurdod

Awdurdod Cerdd Dafod ar fardd

Mae'i bawen ar d'awen di
Ni fynn it' ddweud a fynni,
A heddiw fe'th gaethiwodd
Yn y maes fel nad oes modd
Rhoddi'r Lusg er dysg a dawn
A'i rhoddi yn amryddawn
Ddilychwin mewn ail linell-
Y bai fai'n amlwg o bell;
Nid yw Dduw ac nid yw ddyn
Anfarwol fel hen feuryn.
Ni fwriadaf ar radio
Herio dim o'i eiriad o.
Machraeth
8 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) : Awdurdod

Eira ar Iard Ysgol Wedi ei Chau

Nid oes dan eu llygaid du
Ddynion crynion yn crynu
Na haenen o halen hyll
I ugeiniau ymgynnull
Nac olion olwynion lu
Yno'n erchwyn i'w cyrchu.
Mae'r iard, fel llun ar gerdyn,
Ar goll dan yr eira gwyn
Lle rhywfodd plymiodd y plu
Yn oerfel na chai'i darfu
Gan lwybr sled nac ^ol pledu
Y peli oer yn eu plu.
Ifan Prys
8 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Pobol Ddiarth

'Roedd Siôn a Siân yn byw yn ddel yn ffermdy Traeth Melynog
A gwir ddywedwyd am y ddau, eu bod yn gwpwl cefnog.
Heblaw y gywddau tew a'r ieir, a besgid ar y buarth
Bob haf, ar hyd blynyddoedd maith, fe gadwent bobol ddiarth.
I'r banc âi'r ddau bob bore Llun, i fancio yr holl arian
Ac i gael golwg ar y 'Bonds' fuddsoddwyd draw yn Llundain.
Ond ni ddywedent ddim wrth neb tra'n llenwi'r ffurflen trethu
'Roedd rhoddi arian mawr i ffwrdd, yn si?r o fod yn brathu.
Ac un penwythnos gwelwyd dau, roedd rhain yn bobol ddiarth
Yn cario 'brief-case' melyn mawr, a'r c?n o'u hôl yn cyfarth;
Ymlaen yr aethont at y drws gan guro'n foneddigaidd
Tywyswyd hwy i mewn gan Siân, i groeso pendefigaidd.
"Am faint arhoswch?" meddai Siân, "yn si?r rhaid cael pythefnos",
"Rhowch wythnos arall", meddai'r dyn a winc rodd i'w ffrind agos,
Canmolai Siôn a Siân y ddau wrth bobol oedd o gwmpas,
Ond fawr a wyddai yr hen bâr, beth hollol oedd eu pwrpas.
Ac wrth ymadael "Beth yw'r gost yr un yn awr ga'i ofyn?"
Atebodd Siôn, "Mae'n fil bob un yr adeg hon o'r flwyddyn."
"Rwy'n eich rhybuddio", meddai'r dyn, "a gwn nad wyf yn methu
Myfi a'm ffrind sydd tros y wlad yn Arolygwyr Trethi".
Eurfon
8 ½ pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Pobol Ddiarth

Ar wyliau ger Borth'n y chwedegau, a minnau'n ddeg oed, holais "pam
Y mae'r lle 'ma yn llawn pobol ddiarth?" wel dyma 'di'r rheswm, nôl Mam.
Oherwydd cynhesu byd-eang, mae Pegwn y Gogledd (North Pôl)
Yn meirioli o flwyddyn i flwyddyn, a chyn hir fydd 'na ddim rhew ar ôl.
Mae'r arth wen yn colli'i chynefin wrth i'r rhewlif ddiflannu i'r môr
Ac un dydd penderfynu a wnaethant rhaid dianc i le sy'n fwy o'r.
Fe awn i wlad arall, ond cymerodd yr earth y troad anghywir i'r North
Ac yn lle glanio'n yr Ynys Las (Greenland) fe lanion nhw'n Ynyslas (Borth).
Ac yno ar dwyni y tywod bu'r eirth fyw am dymor go dda
Ond tymor y gaeaf oedd hwnnw, a chyn hir fe ddaeth tymor yr ha'.
Wel os oedd Pegwn y Gogledd di c'nesu, roedd haul Ceredigion yn boeth
Rhaid ei heglu hi'n ôl i'n cynefin, oedd penderfyniad un hen arth ddoeth.
Ac felly ffarwelio a wnaethant â phobol y Borth a'r cyffinie
Ac er i rai erfyn arnynt i beidio a mynd, ac ymbil yn daer ar eu glinie.
Mae'r eirth erbyn hyn yn ôl 'n eu cynefin, sef Pegwn y Gogledd (North Pôl)
Ac yn ardal y Borth ac Ynyslas, dim ond pobol ddiarth sydd ar ôl.
Geraint Lovgreen
9 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Ildio i dragwyddoldeb
Ni wn i ac ni wyr neb
1 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Pam 'sneb sobor yn Horeb?
Ni wn i ac ni wyr neb.

Englyn Cywaith: Addysg


Prifio yn ysgol profiad - wnâi teulu
Erstalwm yn wastad,
Ym min hwyr caent eu mwynhad
Yn Seion drwy ddysg seiad.
Eurfon
8 ½ pwynt

Englyn Cywaith : Addysg


(trwy lygaid myfyriwr o ddyn llefrith)
O fyned drwy Eifionydd - y gwelais
Ei golud o'r newydd,
Rhyfeddais, dysgais bob dydd
Yn nhawelwch ei dolydd.

Robin Evans
8 ½ pwynt

Telyneg: Gorwel

"Hen linell" nad yw'n bod yw hon i rai
A therfyn daear oedd i'r morwyr gynt,
Ond i freuddwydiwr nid yw hwn ddim llai
Na gwely'r machlud neu hen grud y gwynt,
Mae lloches gwawr a chuddfan cwmwl gwyn
Ac weithiau'r cwmwl du, ond ni wn pam
A phellach ydyw hwn o ben y bryn,
Nag ydyw yng ngwaelodion Craig y Llam,
Ond pan fo miri'r dydd yn marw'n dân
A chân ehedydd bach yn deffro'r wawr,
Clywaf ryw eco hiraeth yn ei gân,
A hwnnw'n darfod yn y moroedd mawr;
A'r Gorwel fel pe'n nes na bu erioed
Yn cymell ato'r pedwar ugain oed
Machraeth
9 pwynt

Telyneg: Gorwel

Mae'n nos arnom yma...

Sdim gorwel; dim ond toeau gwâr
Yn cau'n gwlwm amdanom;
cylchoedd gwm cnoi
yn fydysawd sêr dan draed;
coed ceirios rhywle, a'u hogla'n drwm fel Germolene...
Dyma ni heno'n y gorlan,
a'r iaith yn swatio dan gwrlid.
Ni wn ai ffynnu a wna
o'i harbed yn swbwrbia
-yma, mae'r ffenestri mor ddall â'r dyfodol-
a heno, ni welaf y camerâu yn syllu'n slei
o ben eu polion,
o gyrion ein gwyll;
ni welaf wal frics fy mebyd,
na fedr ond un iaith ei chodi;
ni welaf yr hen linell
- heb fod mor bell -
nad wyf yn credu ynddi
...ond mae hi'n bod.
Ifor ap Glyn
9 ½ pwynt

Englyn ar y pryd: Annwyd

Marw fydd raid i'r Meuryn - a marw
Wna Twm Morys wedyn,
Heb gael gwared o'r hedyn
A'u deil efo'u trwynau'n dynn.
8 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 77

Englyn ar y pryd: Annwyd

Mi es i d? Lleucu Llwyd - trwy oerwynt
A'r eira fe'm denwyd;
Rôl addo noson o nwyd
Heno ma' gin i annwyd!
8 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 76

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth ar yr odl 'oes':


Gofid cymdeithas gyfoes
Yw y diawl ladd ie'nctid oes.
Er im gael 'car am oes'
I'w beiriant rhoddwyd berroes.
Yn y byd mae siom pob oes
Yn ei gofid yn gyfoes.
Cyfyd cyfreithiau cyfoes
I atal ci'i godi goes.
Hwn yw'u Un ar hanner oes
A rannodd ei fawr einioes.
Bu hen griw o Benygroes
Yn iodlio yn Llanidloes.
Llwgwyd criw â llygaid croes
Mae'u hen deulu mewn duloes.
Geiriau 'rude' uwch ffrwd ddeffroes
Wil annwyl i'w ail einioes.
Yn y ffrwd 'r ôl sbri deffroes
Yn ddigri'n llawn sudd egroes.
I dyrcan sydd ar deircoes
Eil o Man yw'r man am oes.
O wadu Grym Gwaed y Groes
Anodd gweld pwrpas einioes.
Â'n byd yn ynfyd anfoes
Arweinydd i'n dydd nid oes.
Mae'n nosi ym Môn eisioes
Nos pryder drwy lawer loes.
O'n hanesion ni eisioes
Llawenydd un dydd nid oes.
Os ardal sydd heb surdoes
Yn eu tai ni chyfyd toes.

Englyn yn cynnwys Pentref ym Môn

Llanfachraith
Englyn i'n Tiwtor Dosbarth - Machraeth
Un o ochrau Llanfachraith - a derwydd
Cadeiriol dri dengwaith
Ydyw o a geidw iaith
Ein hynys byth yn lanwaith
(Fel Llanfachraith mae'r cofnodion cynharaf am y pentref)
Berffro
Yn nydd eu hestroneiddio - y dolur
I deulu Y BERFFRO
Yw y brad, cau ysgol bro
Lle'u senedd a'u llys yno.

does neb ar yr ynys yn dweud Aberffraw, fel y Berffro y soniai pawb amdano ym Môn. Wrth gau'r ysgol fe gollir llawer mwy yn sgil hynny.
Trefor
Ym Môn annwyl, man unig - o gyrraedd
Y gerwin for ffyrnig
Yw Trefor, lle cewch Orig
Ger y Waun ar gwr y Wig
(Pam galw'r lle yn Trefor heb fôr o fewn milltiroedd iddo?)

Limrig yn ymwneud â thorri adduned

Pe cawn bunt am bob un fethais gadw,
Ers pan ddechreuais yn wirion eu gneud nhw,
Mi fedrwn gael smoc
A wisgi a chôc
A chael potrag o 'Stoke' yn y gwely 'cw.
"Dim mwy o smocio", medd Ifan
Na photio'n y golwg yn unman
Dim cwmni y merched
I wagio fy waled
Roedd gresyn ei weled, Nos Calan.
Er imi dorri f'adduned
Mi gofiaf yn hir am 'r hen Farged
Hi stopiodd fi fwyta
Er mwyn colli pwysa'
"Rwy'n awr yn drws nesa' yn yfed.
Roedd y Parchedig Emanuel Gruffydd
Yn ferchetwr ac yfwr a chybydd,
Ac os gwnâi adduned,
Fe'i torrai cyn saffed
A myned dros ffens, i hwrdd mynydd.
"Ga'i faddeuant am bechu?" medd Wil,
Meddai'r Ffaddar yn hynod o swil,
"Os torri d'adduned
Na'm gwelaist ar garped
Yn yfed â Nannigoat Lil."
Naw pechod sydd gan Siôn o Sionesi
Gwnaeth adduned i'w concro eleni,
"Mi ddechreuaf ag un"
Meddai Sion wrth ei hun,
"Wyth arall myn dyn a chanonir fir".
"Dim mwy o'r hen wisgi", medd Benja
"Can's wisgi Ddydd Dolig gadd Dada".
Pan ynghanol adduned
Fe drodd at y pared,
Ac yfed tot bach yn ei ddagra'.

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Awdurdod

Ai o natur annatod
Y bu dechreuad ein bod?
Ai geiriau a deddfau dyn
A gl?wyd yn nghylch gl?yn
Neu'r ennyd y try'r wennol
I'w nyth neu o'i nyth yn ôl?
A oedd y môr agored
Yn y creu cyn geni cred?
A phwy oedd E' a greodd
Wyrth o fyd oedd wrth ei fodd,
A rhoi i'w Fab awr i fod
A dewrder i'w awdurdod?

'Roedd dyn mewn môr agored
Yn y creu cyn geni cred,
Ni fu 'rioed â'i droed ar draeth,
Na synied gwerth gwasanaeth;
Ag o fewn llaith ogofau
At w?r heb iddynt eiriau
I wylio'r don aflonydd
Y doi, hwyr a nos y dydd
Daeth i'w fyd llwm batrwm bod
A dwndwr' lle mudandod
Daeth llesmair o'r gair ar goedd
Didwyll awdurdod ydoedd.

Englyn Cywaith: Addysg

Nid â rhes faith o ffeithiau - y gwelir
Y bugeilio gorau,
A thrwy fyd holl athrofâu
O'r gwerthoedd y daw'r gwyrthiau.
Ychwanegwch y neges - o werthoedd
Drôdd yn wyrthiau Hanes,
Nid ffeithiau llym ond grym gwres
A gynnal fyd yn gynnes.
Y tair 'R' rhaid fu'u caru - ac astrus
Dric estron fu hynny,
"Amrwd" oedd iaith ni'r Cymry!
Oes o fawl dan ormes fu.
Onid braf oedd gweled bro - yn ddiddig
Yr hen ddyddiau'n gwrando,
A gwas yn efail y go'
I'n Prifwyl yno'n prifio.
Hyddysg yw pobol heddiw - hwy fynnant
Wir elfennau clodwiw
I olrhain hynt dynolryw
A dysg o gyd-ganfod yw.

Telyneg: Gorwel

Cerddais a'i weled o filwaith
O bell tros y Morfa Mawr,
A'r gwlith ar y gwawn yn emwaith
O arian ar dorriad gwawr.
Cerddais yr hen lwybrau heno
Fy hunan, ond nid i'r coed,
A gweld yr haul ym machludo
A'r Gorwel yn nes na 'rioed.

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth ar yr odl 'oes' :

Does na'm deryn ag un goes.
" 'Cw fo, fflamingo ungoes !"
Y mae DWY sinema, 'does
Yn agor ym Mhenegoes?

Englyn yn cynnwys pentref ym Môn

(Cofiwn fynd i dalwrn yn Nhalwrn unwaith. Roedd y Meuryn yn hwyr iawn yn cyrraedd oherwydd niwl trwchus!)

Â'm englyn es ar f'union - i Dalwrn
Yn dalog i ymryson;
O mam! Roedd hi'n niwl ym Môn
A Gerallt yn Nhregaron.

Addwais ddydd calan eleni
'chai neb eto wneud hwyl ar 'y mhen i
am limrigau di-fflach,
ond dwi'n ôl dan y lach,
achos hwn ydi'r unig un s'gen i.
Addunedais ger bron yr holl fyd
y gwnawn i fy nhasgau mewn pryd,
ond mi gefais i'r ddannodd
a diawch, mae hi'n anodd
cnoi 'mys a limriga 'run pryd.
"Dwi am golli pwyse" medd Sion
ac mi aeth i Weightwatchers lawr 'lôn
ond y mins peis a winciodd
a'i wyllys a sinciodd;
erbyn hyn mae 'di ennill dwy stôn.
"Dwi am golli pwyse", medd Dic,
ac mi gollodd o ddau yn reit gwic,
ond siocledi y goeden
a'i denodd fel hoeden
ac mi bytodd nhw nes mynd yn sic.
Eleni mi wneuthum adduned
i dorri fy ngwallt fatha sginhed,
ond dydwi'm am neud
ar ol clywed merch yn deud
fod gen i wep fel pêl snwcer, run ffuned.

Englyn Cywaith : Addysg


Mae ffwtbol yn ein hysgol ni - yn gêm
Llawn gwynt a budreddi,
But vital for our valley
Yw'r ffrae heb fyth reffari.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.