Aberhafren vs Dwrlyn.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.

Aberhafren

Aberhafren

Dwrlyn

Dwrlyn

Cwpled caeth yn cynnwys 'calon'

O galon deilchion y daeth
Y ddawn o greu barddoniaeth.

Owain Rhys
9 ½ pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'calon':

Dwy galon gyda'i gilydd
Yn rhwym ond er hynny'n rhydd.
Menna Thomas
8 ½ pwynt

Pennill Ymson yn ymwneud â chlampio olwyn

Tybed a ?yr hi, y warden,
Yn ei chap â phig mwyalchen
Ei bod hi, trwy wenu'n rhadlon,
Wedi clampio darn o 'nghalon?

Owain Rhys
9 pwynt

Ymson yn ymwneud â chlampio olwyn

Mi stopiais yr hers am ddau funud
Er mwyn sythu'r arch yn y cefn
A dyma rhyw foi bach go glen wrth y drws
Yn dechra holi am gyfraith a threfn
"Dwi'n gwbod y Deg Orchymyn a thipin o'r Heiwê Côd"
Meddwn wrtho reit swta, gan ofyn "Oes rhywbeth yn bod?"
Pan es eilwaith i sedd y gyrrwr
A chicio'r hen glytch 'nôl i'w le
Ni symydodd y cerbyd i unman
'Roedd 'na glamp ar yr olwyn ôl dde.
A label go haerllyg yn datgan
Y cai'r corpws barhau'r olaf daith
A mynd ar ei ffordd i baradwys
Os talwn i'r ffî ar un waith.

Rhodri Gwynn-Jones
8 ½ pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): 'Cyfarch Mewnfudwyr'

Mae amwisg niwl yn disgyn
heno yn llwyd dros Ben Ll?n,
fel 'tai gofid wedi dod
â galar Cantre'r Gwaelod,
neu law llaith yn hel y lli'n
niwl hunlle'n ôl o Enlli;

Ac ar bob car sy'n aros
heno i wrando ar y rhos,
y tu hwnt i bob un t?,
trwy haf pob ymgartrefu,
yn fraw o hyd dros y fro
mae'r niwl o'r môr yn wylo.

Rhys Iorwerth
9 ½ pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): "Cyfarch Mewnfudwyr"


Estynnaf law groesawgar
I un all ymdoddi'n wâr.
D'wed yn awr y doi di'n ôl
I ffynnon fy ngorffennol
I flasu'n hael o felys nwyd
Yr hwyl fu'n llenwi'r aelwyd.
Deimli di garthen heniaith
Yn dynn amdanat i'r daith?
Gwaddol oes roes inni rin
Cynaeafau'n cynefin
Yn darian i'w meddiannu:
Hon yw ein t?r, craig o'n tu.

Emlyn Davies.
8 ½ pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): 'Y Gystadleuaeth'

Fe wyddai'n iawn, o weld delweddau'r sgan
Mai cystadleuaeth oedd ei fywyd nawr,
Ac ymladd a wnâi'n si?r, waeth pa mor wan
Yn erbyn holl drawiadau'r 'clefyd mawr.'
Ymlwybro'n ddewr i'r 'sbyty wnâi bob dydd
At erchyllterau'r driniaeth hir, o raid,
A rhywsut, derbyn nerth i gadw'r ffydd
Gan chwerwder y cemegion yn ei waed.
Ond erbyn hyn, mae'n llai na hanner dyn
Ac er y morffin, g?yr ei bod yn ffaith
Na all gweddillion prin ei gorff di-lun
Gystadlu 'mhellach â'r holl boenau maith.
Ac yn ei dro, clyw angau'n seinio llef
O fuddugoliaeth dros ei einioes ef.

Aron Pritchard
9 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Gystadleuaeth


Garddwr cyndyn, ar y gorau, fum i 'rioed, mae'n rhaid 'mi ddeud.
Er gwrando'n glos ar Gerallt Pennant 'n dweud wrth ecsperts be' i 'neud,
Roedd troi'r cynghorion yn weithredoedd a meddwl am godi fforch neu raw
Yn fwrn, a beunydd fe weddïwn, nid am haul ond storm a glaw.
I'r drws nesa fe ddaeth sbrigyn hollalluog, dyfai wair
Yn felfed llyfn, a'i wely llysiau fel silffoedd Tesco, ar fy ngair.
Doedd pimpl gwydr mawr Llanarthne fawr uwch na th? 'i domatos coch;
A'i frawl a gododd awydd arna i dorri crib y ceiliog croch.
Tra bu'r brawd yn barbro'i brifets ar siap jiraff, a'i ben ar dro,
Ge's i ddraenen ddu'i flodeuo ar ffurf ffrog wen Mar'lyn Monroe;
Roedd ei wely rhosod cochion yn debyg iawn i wep y Cwîn
Tra ar fy lawnt roedd cennin Pedr yn sillafu "twll dy dîn".
Gwariodd fis o'i arian pensiwn i stocio pysgod yn ei lyn
Heb gael rhybudd am fy nghrëyr - pa iws cyfadde erbyn hyn?
A phitw iawn ydi'r saith corrach sy'n pysgota ger ei bwll;
Acw mae Glyndwr yn chwifio clamp o gleddyf uwchben twll!
Welai fawr o'r Steddfod 'leni er ei bod hi yn y fro
Gan fod sioe fawr arddwriaethol ym Mhentyrch, ac y bydd o,
Mei nabs, wrth sensio na 'nillith o ddim "blincin thing"
Yn siwr entro y decathlon yr Olympics yn Beijing!

Ifan Roberts
8 ½ pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell: 'Daw hen ias o hyd yn ôl'

Wrth wrando ar 'Anarchy in the UK'

Daw hen ias o hyd yn ôl sy'n ias h?n
Na s?n y Sex Pistols,
Sy'n gyfoes, eto'n oesol,
Ias creu sioc trwy roc'n'rôl.

Owain Rhys
9 pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell "Daw hen ias o hyd yn ôl"


Anweswn synau oesol - y neges
Mewn Plygain gynhesol;
Daw hen ias o hyd yn ôl
O guriad ambell garol.

Emlyn Davies
8 ½ pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD AG EIRA

Un hoff iawn o eira oedd Gwyneth,
a'i fwyta, yn wir, oedd ei hoffbeth,
ond 'rôl sglaffio gormod
fe rewodd ei thafod -
eth-eth-eth-eth-eth-eth-eth-eth-eth!

Llion Pryderi Roberts
8 ½ pwynt

Limrig yn ymwneud ag eira


Arferai peintiwr "wheit leins" o Nant-Ddu
Stopio gweithio pan welai o blu
eira go fawr
yn tywallt i lawr;
Meddai "Fory, wnai peintio nhw'n ddu."

Ifan Roberts
8 ½ pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Anodd iawn yw barddoni
Wedi Leus fy ngadael i.

Ateb llinell ar y pryd:

Anodd iawn yw barddoni
Yn wir amhosib i mi.
1 pwynt

Englyn Cywaith: 'Olew'

Galwaf, a'r geiriau'n gwelwi, - amdanat
yma i danio'r weddi,
a rhoi ias i'w hiro hi
â galwynau'r goleuni.

Llion Pryderi Roberts
9 pwynt

Englyn Cywaith: Olew


Awr fer gaed i bryderu - a lefel
Ei lif yn tawelu;
Er eu s?n, arweinwyr sy'
Yn fyr o gofio fory.

Rhodri Gwyn Jones
8 ½ pwynt

Telyneg: 'Ffenest'

Rwyt ti'n sychu
clêr marw'r haf
o'r sil
ac yn ysgwyd yr haul oriog
o blygiadau'r llenni
cyn eu cau.

Eisteddi wedyn
yn yr hanner tywyllwch
a golau bach dy drefnusrwydd
yn syllu'n fusnes i gyd
drwy'r hollt
ar y stryd sy'n hanner cysgu.

Rwyt ti'n disgwyl
yn s?n blinedig
hen gloc
i'r ceir
basio'n araf
a'u hawel yn ysgwyd
y leiniau dillad
sy'n wag o olch.

Rwyt ti'n gwrando
ar sibrydion Cymraeg
yn dianc yn boeth
o'r siwtiau galar
a'r llygaid duon
yn symud yn boleit o Rose Cottage i Sea View
a Sunny Side
a gweld dim ond cysgodion
yng ngwe'r cwareli.

Nes 'mlaen
dim ond ti
fydd yn agor llenni
a chau dy lygaid
yng ngolau'r lleuad,
rhag i ti sylwi
ar gannwyll gorff
yn corrynna
tuag at
dy stepen drws.

Mari George
10 pwynt

Telyneg: Ffenest

Roedd dy dwyllo'n ffin rhyngom,
Yn galed, yn oer,
Yn gelwydd clir.
R'on i am dy gyffwrdd,
Am estyn atat
Ond roedd dy dwyllo di rhyngom,
Yn frad tryloyw, amlwg
Ac afaelais ti ddim yn fy llaw.
Dy weld
Heb fedru dy gyrraedd.
Cymylodd fy nghwestiynnau
Wrth daro'r oerni.
Allwn i wneud dim
Ond gwylio'r geiriau'n diferu'n araf
Hyd y gwacter caled rhyngom.
Menna Thomas
9 ½ pwynt

Englyn ar y pryd: Cosb (Welsh Not)

Ni all sisial gwialen, ergydion
Na'r gwaed ar y gansen
Wywo ewyllus Owen
Parha iaith, pydru wna pren.
10 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 83 ½

Englyn ar y pryd: Cosb

A ?yr mêr ei ymwybod - nosau
Dan ei bwys di-ddarfod,
A ?yr faich cydwybod -
Hwn yw y baich tryma'n bod.

Dafydd Huws
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 79

Cynigion Ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys 'calon'

'Mond ôl calon ar fonyn
welaf o'n haf erbyn hyn.

Ni all hwyl ein chwerthin llon
gelu holl graciau'r galon.

Pennill Ymson yn ymwneud â chlampio olwyn

Tydw i ddim yn dallt be 'di matar ar tada,
sy'n myllio a gweiddi efo'r dyn 'na yn fan'na,
yr un sydd â het efo dwy linell felen
fel y rhai dan y car 'ma sy'n sgleinio'n yr heulwen;
a dwi methu dallt pam ei fod o'n llawn gwenwyn
wedi i'r dyn bach 'na ddweud bod gan dad 'glamp o olwyn'!

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): 'Cyfarch Mewnfudwyr'

(Trychineb Bae Morcambe)

Nid anodd ydoedd denu
'Run llwyth at ei for yn llu;
Oriau hir mewn awyr iach
Am y geiniog amgenach.

Ond Ionawr ddaeth a'i donnau
Yn rymus, boenus i'r bae,
Rhyw fwgan chwim o lanw
Un nos wnaeth eu llyncu nhw.

Ac ym mangre'r bore bach
Mae ewyn galar mwyach,
A'u tranc ar wasgar drwy'r traeth,
Ar awelon marwolaeth.

Cân (heb fod dros 20 llinell): 'Y Gystadleuaeth'

Bob nos yn t? ni tua chwarter i saith
Wedi diwrnod o regi a chwysu'n y gwaith
Rôl swper reit frysiog o letys a spam,
Fe'i gwelaf yn slei yn rhoi winc fach i'w fam
(mae'n blentyn reit glyfar am fabi tri mis)
A 'nghalon sy'n suddo yn is ac yn is,
A gwn nad oes gobaith gweld 'Tipyn o Stad' -
Mae'i sylw i gyd ar gadw ei dad
Yn effro am oriau gan wrthod yn lân
A syrthio i gysgu yn ddel ger y tân.
Rhaid cwtsho a siglo a dawnsio fel ff?l
A chanu'n soniarus heb golli fy ngh?l.

O'r diwedd fe gysga, a'i amrannau yn drwm,
Dim ond iddo ddeffro, a gweiddi BWM-BWM!
A dechrau stryffaglio a chrio am fwyd,
Â'r awyr tu allan yn raddol droi'n llwyd.

Mae'n ddigon i yrru y calla o'u co',
Ond gwyddom yn si?r pwy sy'n curo pob tro -
Y bachgen bach prydferth sy'n meddu ar ddawn
I wenu'n y bore, a gwneud popeth yn iawn.

Englyn yn cynnwys y llinell: 'Daw hen ias o hyd yn ôl'

Caerfyrddin

Gerllaw hen adlef drefol mae Tywi
I'm tywys yn reddfol,
Daw hen ias o hyd yn ôl
Ar ffiniau fy ngorffennol.

Damwain Ffordd

Daw hen ias o hyd yn ôl - o weled
y lili ddagreuol
sydd yn dod i warchod ôl
yn y gro ger yr heol.

LIMRIG YN YMWNEUD AG EIRA


Rhoddwyd Jac T? Pella'n ei wely'n
Diodde'n ofnadwy o'r dwymyn,
Bu rhaid galw am hers,
A dyma yw'r wers:
Peidiwch byth bwyta eira sy'n felyn!
Mae yma'n Sain Ffagan ddyn eira
Sy'n deillio o ddyddiau Fictoria,
Fe'i gwelwch yn si?r
Yn bwdel o dd?rAr y llawr o flaen y fynedfa.
Yn faswr, fe euthum i grwydro
drwy'r nen 'fo dyn eira, a hi'n brigo,
ond pan gollais fy nhrôns
es i fel Aled Jones
a hitio top notes y soprano!

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'calon':

Yng ngwaelod oer fy nghalon -
ella'n wir fod lle yn Hon.
I galon heno'n ddi-hid,
Ofer yw rhannu gofid.
Elwa neb o galon wan
Y dewr sydd yn gwneud arian

(4 cwpled i gerdyn Santes Dwynwen)
Sws gan Sal, ac mae' nghalon
i yn dweud 'Arafa Don'!
Anodd dal pan ddwed Calon
'Mwy!' a dweud 'Cyflyma Don!'
Calon, wyf lanc o Ewloe
yn hir hir aros fy nhro.
Paid dial ar fy nghalon!
Zapia decst - un sopi, Don.
Dwy galon gyda'i gilydd

Ymson yn ymwneud â chlampio olwyn

Yn y fan mae gen i hac-so,
Dril, tair ffeil a dwy flo-lamp.
Ond cnoad llai na brathiad chwannen
Wnaeth y rhain ar ddur dy glamp.
Pan ddaw'r rhew i fferru'r peipiau
Yn dy d?, bydd mwy o blwm
Nag arferol yn fy miliau,
Hitler bach - cei dalu'n drwm. Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Gystadleuaeth
'Doedd dim lot o siap ar y seintiau ers canrif a mwy deud y gwir
'Doedd 'na ddim eisiau nabod rheolau, 'roedd hynny yn hen ddigon clir.
Bob amser 'roedd ffrwgwd cyn dechrau, yn ystod ac wedi'r gem
A phob un yn mynnu cael sylw, a phawb wedyn am ollwng stêm.
'Roedd 'na rai yn dymuno cael gorffwys, a hynny cyn diwedd y gamp
Ac eraill am amser 'chwanegol, er mwyn cael gosod eu stamp.
Caed ambell un o'r gogledd, un arall o sir Fon,
A chriw go groch o Fynwy, rhai peryg 'nol y son.
Ond bechgyn y glo caled oedd y pac i gyd bron iawn
Heblaw am un o Bowys oedd yn brinach byth ei ddawn.
Byddai angen gwella'r sgiliau cyn gem dydd Sadwrn gwyl
A hynny rhag ofn i'r angylion greu chwerthin mawr a hwyl.
"Beth am chwilio am hyfforddwr a hynny reit ar frys?"
"Beth am newid lliwiau'r dillad a chael sosban ar y crys?"
"Beth am werthu'r hawl darlledu a chyflwyno'r gem yn dwt
O ben eisteddle newydd yn lle'r esgus hwn o gwt?"
Beth am holi hwn ac arall a chael sylwadau cain
Am hynt y gwrthwynebwyr a'u tynged ar y llain?"
"Tawelwch" meddai Pedr,"bendithion rif y gwlith
Mae'n gweddi wedi hateb, trosglwyddwyd Grav i'n plith"

Englyn yn cynnwys y llinell "Daw hen ias o hyd yn ôl"


Os yw ei O'n hir absennol, - yn gudd
mewn rhyw gaddug ingol,
Ar ennyd o wefr hudol
Daw hen ias o hyd yn ôl.

Limrig yn ymwneud ag eira


Gan fod pishyn go smart yn drws nesa
A Mari, gwraig Wil, yn ei ama'
O biciad am dro
Drwy'r cefn, daliwyd o
Gan olion ei draed yn yr eira.
A glywsoch chi hanes Vanessa?
Ddechreuodd affêr 'fo dyn eira
Ond erbyn mis Ebrill
Roedd yr oll oedd yn weddill
'Di rewi'n "chest-freezer" drws nesa'.
Ar ôl Dolig fe euthom a fflio
Yn giang i gael wythnos o Sgio
Ond dyna i chi drist
Doedd dim eira'r y piste
Ond ro'wn ni erbyn gorffen y "vino".

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.