Glannau Teifi vs Taeogion.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'papur';


Fe all un sgrap o bapur
Gario gwaedd geiriau o gur.
Hywel Roderick
8 ½ pwynt

Cwpled Caeth yn cynnwys y gair Papur:

Ai gwir mai dim ond geiriau
Ar bapur yw'r 'bur hoff bau'?

Emyr Davies
8 ½ pwynt

Pennill mawl/dychan : Sêl Mis Ionawr


Wedi mynd â'r pwrs yn llawn,
A meddwl am y fargen gawn,
Ni ches bilyn - dyna gysur,
A'r sêl 'di dechrau ers Mis Rhagfy

Gwen Jones
8 ½ pwynt

Pennill Mawl/Dychan: Sêl mis Ionawr


Mae deugain y cant ffwrdd o bob soffa,
Ac mae ffrijis yn chwarter y pris,
Ond mae marciau mis Ionawr y Talwrn
Yn siwr o fynd hyd'noed yn is.
Tudur Dylan Jones
8 ½ pwynt

Englyn yn cynnwys y gair 'Hanes'

Tyddewi
Yn dawel ym Mro Dewi, - hen hanes
Ein hanian sy'n oedi,
A rhyw ias yn goroesi
I roi nerth a gwefr i ni.

Terwyn Tomos
8 pwynt

Englyn yn cynnwys y gair 'Hanes'

Casglu'r Cyrff
(drannoeth y drin)
Er ein mwyn - mewn iaith swynol, ddiwyneb -
bydd hanes swyddogol
yn troi'r holl friwgig mewn trol
fory'n feirwon anfarwol.
Ceri Wyn Jones
9 ½ pwynt

Limrig : Un Noson ym Mhentref Sain Ffagan


Un noson ym mhentref Sain Ffagan
Ces ofon pan welais i fwgan
Roedd e'n edrych yn syn,
Ac yn mwmian fel hyn:
"Mae tîm Ceri Wyn yn cael ffwdan".

Hywel Roderick
8 ½ pwynt


Limrig yn dechrau â'r frawddeg: 'Un noson ym Mhentre Sain Ffagan':
Un noson wrth fynd i Sain Ffagan,
Neidiodd fflashyr o'm mlaen i fel melltan,
Ond pan welais ei dasgau
Yn disgyn o'i daclau
Dwedais " Chei di'm 10 am rheina Tudur Dylan!"
Caryl Parry Jones
8 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) : Proffwydoliaeth


1. Fe gaf gâr sydd ag arian
I'm hamddiffyn, globyn glân;
Un siaria ei drysorau
Yn deg, 'mond rhyngom ein dau.
Ei gariad yn rhad a rhydd,
A'n Eden fydd yn ddedwydd;
Eiddof am byth y freuddwyd,
Daw y llon i'm mywyd llwyd.
Ei haslo wna i gael 'facelift',
Yna si?r pob crych a shifft;
Ac undydd bydda i'n geindeg -
Mae 'magic' gan Mystic Meg.

Gwen Jones
8 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Proffwydoliaeth


Ciliodd dathliadau'r Calan
I niwl oer y flwyddyn lân;
Heibio i'r hwyl, daeth bore brau
Yn adeg addunedau.
Yfory, a' i'n fwy araf...
Galw i weld pob nain glaf...
Ymroi i Gymru a hedd...
Addawaf yn ddiddiwedd.
Ond ofnaf na fyddaf fi'n
Lanach eto eleni,
A gwledda ar gelwyddau
Yr wyf yn y bore brau.
Emyr Davies
9 pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell) : Gorwario


Rwy'n gweithio i'r llywodraeth yng ngofal discs ID,
Ie, rheiny a ddiflannodd, oherwydd maent 'da fi.
Es trwy fanylion pob un, pob cwpwl, merch a llanc
I weld 'da pwy oedd fwya' o arian yn y banc.
Yn drydydd y mae Ceri, y 'Dauwynebog' ddyn,
Yn gydradd ail mae'r Meuryn, a hynny efo'r cwîn.
Ni chefais i ddim syndod pwy eistedda ar y top
Y person cyfoethocaf yw Caryl y canwr pop.
Y rhan nesaf nawr o'r cynllun - a hyn oedd fwyaf cas -
Oedd gwisgo lan fel Caryl a thynnu'r arian mas.
Peth pwysig nawr oedd hyder, high heels a lot o s?n -
Mae'n rhwydd i dwyllo pobun efo wig a dau fal?n.
Aeth pethau'n reit llwyddiannus, a minnau mewn sgert fer,
Y suitcase yn llawn arian a rhif ffon 'manager'.
Ar beth y gwaria i'r miloedd? Roedd popeth nawr mor rhad,
Armani suit a long johns, neu Ferrari i fy nhad?
Wrth fynd adref nôl o'r dafarn, o drat, mi ges fy nal,
A'r unig beth a wariais oedd ceiniog yn erbyn wal.

Richard 'Oernant' Jones
8 ½ pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Gorwario


Ocê, dwi'n licio gorwario,
Ma'n wendid, dwi'n gwbod yn iawn,
Ond dim ond un bywyd sy' gynnon ni'n 'de?
Felly waeth i mi'i fyw o yn llawn.
Dwi'n ecseitio'n lân pan ddaw'r 'statement' bob mis
I mi weld sut y gwaries i'r coffra,
?! Ryw 'chydig yn mynd at y morgej a'r plant
A FFORTIWN i Baghdad a Basra.
Fel trît dwi'n rhoi miloedd i'r NHS -
Ond roia i'r un geiniog i'r nyrsus...
Wel, pam 'swn i isio rhoi pres iddyn nhw
Pan ga 'i lenwi pocedi eu bosus?
Dwi'n mopio at sut dwi'n talu treth
Ar ddillad, bwyd, pres tu ôl y bar
Ond os ydwi wir isio sbwylio fy hun,
Dwi'n rhoi galwyn o betrol yn 'car.
Mi gadwa i'r Chavs mewn budd-dal a Bling
A'r miliwnydd 'nei Chmpagne a'i Bentley,
A thra bod 'rhen Gordon yn gwarchod fy mhwrs,
Mi waria i bob dima sydd gen i.
CARYL PARRY JONES.
9 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Pwerus yw'r papurau
gwarth sydd trwyddynt yn gwau.

Ateb llinell ar y pryd:

Pwerus yw'r papurau
Drwy ein tir - y gwir a'r gau.
1 pwynt

Englyn Cywaith : Dilledyn


Faban rhew a'i wisg newydd - o eira'n
Disgleirio'n ysblennydd,
Ac yn gwau ar gangau'r gw?dd
Ei edau yn ffrog fedydd.

Gwen Jones
9 ½ pwynt

Englyn Cywaith: Dilledyn

(tad yn falch o weld ei fab mewn lifrai milwr)
Cei, fe gei fy machgen gwyn - anrhydedd
Prydain drwy'r dilledyn,
ac o'i gael fe gei elyn,
a'r hawl i'w ladd ar ôl hyn.
Tudur Dylan Jones
10 pwynt

Telyneg : Carreg

(Ar gopa Carn Ingli, uwchben Trefdraeth, yn Sir Benfro)
Ni wêl, ni chlyw, ni flasa'r gwynt na'r glaw
Sy'n chwipio'r Garn, a'i grug a'r moelni serth;
Ni theimla'r niwl, na ias y rhew pan ddaw
I gloi pob ffrwd a nant a ffos â'i nerth.
A phan fydd haul Mehefin eto fry,
A glas yr awyr draw ar wyneb ton,
Ni thycia ddim - difater ydyw hi,
Heb wên na gwg, dideimlad ydyw hon.
Ond rywbryd, rywdro, ffrwydrodd fflam ei chreu
Yn chwa o wewyr gwynias gwres y gro,
A tharddodd yma lif o dân fu'n gweu
Llinynnau byw a bod trigolion bro.
Rywle yn nyfnder oer ei chalon hi,
A erys fflam o'r tân a'n ffurfiodd ni?

Terwyn Tomos
9 pwyn

Telyneg: Carreg

(Comisiynwyd cerflunydd - un a ddoi'n wreiddiol o ganolbarth Lloeger - i weithio croes geltaidd i Ysgol Cilgerran. Dymuniad y pennaeth oedd iddo ddefnyddio llechen Cilgerran, llechen frau iawn, enwog o anodd i'w thrin...)


Bob tro y plisgai'r llechen,
fe regai'r saer o bell
fod diffyg ar y garreg,
fod Portland Stone yn well,
heb ddeall falle rywsut,
er cystal crefft ei gyn,
nad oedd y llechen leol
am saer o bell i'w thrin.
Ceri Wyn Jones
9 ½ pwynt

Englyn ar y pryd: Eiliad

Mor rhwydd y llithra blwyddyn - mewn noswaith
Mae'n iasol o sydyn;
Er oedi, a rhwystr wedyn
Hon aeth - mae'n 'leni' fan hyn.

Terwyn Tomos
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 77 ½

Englyn ar y pryd: Eiliad

Un bore o gyfle gaf - i roi'r haul
Cyn daw'r hwyr yn araf;
Ei s?o'n fy nwylo wnaf,
Dwy law'n yr eiliad leiaf
9 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 82 ½

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.