Criw'r Ship vs Dinbych.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
Criw'r Ship

Dinbych

Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw lestr (Leicester)
Nefi! Am lôn annifyr
Yw'r lôn sy'n mynd i Gaerl?r.
Arwel Roberts
9 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw lestr.
Pan af draw i Gwm Tawe
Paned yw disgled o de.
John Glyn Jones
9 pwynt
Pennill Ymson mewn llys barn (llais y diffynnydd)
Ma'r boi wig yn flin fel tincar -
Crinc 'di codi lot rhy gynnar -
A'i wep r'un shêd o goch â'i glogyn.
Beryg bod o'n trio 'nychryn?
Motsh gin i - geith ddal i refru
Ac mi ddalia' inna'i wenu.
Tra mae o yn famma'n rhuo,
Mae fy mrawd yn byrglo'i d? o.
Arwel Roberts
9 pwynt
Pennill Ymson mewn Llys Barn
John Glyn mewn Llys Barn
Dwi ddim yn un am ruthro -
na cholli 'nhymer, 'chwaith:
gêm fach o golff, neu arddio -
barddoni... ambell waith.
Sut ddian 'dwi felly'n fan'ma?
Fel ynad, dwi'n y cawl
am yrru'n wyllt trwy'r Bala -
Dwi bron â rhegi'r... diawl!
Eifion Lloyd Jones
9 pwynt
Englyn yn cynnwys tref yn Lloegr
Bodio ar dywydd budur - wyf yn dlawd,
Rhaid wrth fawd yn fodur.
Nefi! Am lôn annifyr
Yw'r lôn sy'n mynd i Gaerl?r.
Arwel Roberts
8 pwynt
Englyn yn cynnwys tref yn Lloegr
Hynodrwydd ein llywodraeth - yn y Bae
yw ei bod mor llywaeth
a'r unig waredigaeth
yw troi o hyd i Gatraeth.
John Glyn Jones
10 pwynt
Limrig yn ymwneud â darllen
A chymrodd hi wythnos i'w orffen.
Ni allai'r seicologist sgwennu,
Na darllen run llyfr, na sillafu;
Doedd arno ddim angen
Presgripsiwn na ffurflen
I ddarllen meddyliau y Cymry.
Menna Medi
8 pwynt
Limrig yn ymwneud â darllen.
(Profiad plentyn bach yn dysgu darllen trwy ddefnyddio gwahanol ddulliau)
Yn wir dwi di ffwndro ar 'Ffonics';
"Lwc and sê " sy'n fy ngyrru i banics.
Fe arthiodd Miss Huws
?'i hwyneb yn biws -
"S'dim iws ! Dos 'nôl at dy gomics !"
Elwyn Wilson Jones
8 ½ pwynt
Cywydd: Cenhedlaeth
(IVF)
Yn y rhew y mae'n parhad
yn driawd, a'u dadrewiad
yn aros. Mae hi'n oeri,
ond o nyth ein coflaid ni
yn boeth yr â'n gobeithion
mawr, yn bell i lawr y lôn
i'ch cynnal chi grisialau
yn un darn nes y down ni
i'ch nôl, a thyfu pluen
eira yn ein hysfa hen.
Nici Beech
8 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cenhedlaeth
Ni oedd cydwybod un waith
yn hybu byd llawn gobaith
gan brocio, herio'r rhai hyn
o anobaith y dibyn.
Daeth tro ar fyd a mud mwy
ydym ac anweladwy'n
gwylio protestio'r to iau
yn iach o'r gadair freichiau.
Ofnwn wynebu'r cyfnos,
ofn y niwl yn hafn y nos.
Ofni gweld diwedd cyfnod
yw'r un bai ym mêr ein bod.
John Glyn Jones
9 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Colli Pwysau
Mae Anti Joan yn ddynas fawr
Ymhell dros ddau gan cilo -
Mewn stôns, mae hynny... wel, yn lot.
Heblaw os 'dach chi'n rheino.
Tri pheint o dd?r mae'n roi'n ei bath.
Tri pheint - dim tropyn rhagor.
Os roith hi fwy, pan ddringith mewn
Mi ddaw o dros yr ochor.
Mae'n mynd ar glorian bob dydd Sul,
Ond mae hwnnw wedi sigo -
Mae'r nodwydd fach yn dal r'un man
Pan ddaw hi oddi arno.
Mae'n trio'i gora'i fyta'n iach,
Ond wiw 'ddi siopa'i hunan.
Mae eil y letys lot rhy gul -
A'r siocled mewn eil lydan.
Ond wir i chi, fel bollt o'r glas,
Daeth llwyddiant wsnos dwaetha -
Mi gollodd bron i bedwar pwys
Wrth siafio ei cheseilia'...
Arwel Roberts
9 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell):Colli Pwysau
Roedd Wendy Waen Dew yn go lysti,
Ei bloneg 'n cordeddu amdani.
Ac weithiau pan fyddai yn hastio
Fe grynai fel jeli yn woblo.
Un dydd aeth i bwyso ar glorian;
Ond Ow ! roedd hi'n bum stôn ar hugian:
"Dwi am joinio y Clwb Cadw'n Heini,
'Dio'n costio ond hanner can gini."
Aeth yn syth ar beiriant i bwmpio
Ac ar 'feic dim yn symud' i bedlo;
Bu'n rhedeg traws gwlad am filltiroedd
A'r chwys yn byrlymu'n aberoedd.
Ni chafodd ond salad i'w fwyta;
Dim siwgwr, dim byrgars na bara;
Mhen deufis diflannodd y pwysi
A'i dillad yn hongian amdani.
Am golli'r holl fraster mor sydyn
Enillodd "Prif Slimar y Flwyddyn";
Mae'n hapus, yn dena fel slywan Yn gweithio fel model yn Llundan.
Elwyn Wilson Jones
8 ½ pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Yn y bac y mae y bog
Rydym yng Ngefn Meiriadog.
1 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Rydym yng Nghefn Meiriadog
Yma'n hir yn Nhir-na-Nog.
Englyn Cywaith: Cysgod
Daw ef gam ar ôl bob dyn, y mae'n fud
ond mae'n fyw a sydyn;
Na, nid oes a aned, un
na ddelo hwn i'w ddilyn .
Eryl Davies
7 pwynt
Englyn Cywaith:Cysgod
(Un o ddinasyddion Hiroshima)
Anadlai'r dydd yn fodlon, - ni welodd
yr eiliad na'r ffrwydro'n
llosgi llwch ei weddillion
yn glais i gerrig y lôn.
Berwyn Roberts
9 pwynt
Telyneg: Addewid
Yng ngwres ein dydd
newydd,
pan oedd yr haul
yn dân
a'n ffurfafen
lawn cariad,
roedd ffydd mewn geiriau
a llw rhwng dau.
Ond pylodd y sêr o'th lygaid,
a'r addewid o'th galon.
Gadewaist fi
â'r dydd yn oeri
a'n geiriau'n llwch.
Nia Môn
9 pwynt
Telyneg: Addewid
Eisteddfod fach Llannefydd, tua saith,
a'r Neuadd yno'n llawn rhieni'r fro
ar flaen eu seddau'n gwylio ffrwyth eu gwaith
mewn llygaid syn sy'n chwilio ogo'r co'
wrth eistedd 'mhen draw'r llwyfan o dan straen
gan chwifio coesau'n nerfus a di-drefn
tra'n disgwyl am y gair i gamu 'mlaen
i'r golau unig o gwmpeini'r cefn;
pob mam yn blasu cytsain pob un sill
wrth annog mwy na'r llafar-ganu blin
i drwyn y meic cyn cilio'n ôl i'r gwyll
am gysur clap cyfoedion fu'n y drin:
un rhuban bach yn nrôr atgofion pell
y flwyddyn nesa', pan fydd pethau'n well.
Eifion Lloyd Jones
9 pwynt
Englyn ar y pryd: Cusan
Mor dywyll â mwyar duon - ei flas
Fel losin atgofion,
A'r wobr gudd, fwy na'r suddion
Yw'r wefr ddaw yn nwfn fy mron
Nia Môn
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 77
Englyn ar y pryd: Cusan
Mae ynof draeth o atgofion - a rhith
O groes a'n gobeithion
Yn bwt o her i bob ton
Yn nhywodiaith cariadon.
Berwyn Roberts
10 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 82
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw lestr (Leicester)
...Y botel win, gaiff b?t 'leni
Gwn yn iawn, ond nid gen i.
Pennill Ymson mewn llys barn (Y Barnwr)
Dwi nôl - ac yn gwisgo fy "hoodie" -
Yn bored ac yn edrych yn cool,
Yn aros i glywed dyfarniad
Am drosedd rhyw dipyn o ff?l.
Ac yna, mewn drych yn y toilets,
Dwi'n edrych yn syn ar fy llun
A sylwi mod innau yn cuddio
Tu ôl i fy nillad fy hun.
Englyn yn cynnwys tref yn Lloegr
(Cyhoeddodd banc Lloyd's TSB yn ddiweddar eu bod yn atal eu nawdd i'r Brifwyl,er mwyn noddi'r gemau olympaidd)
Wedi rhoi dros Gymru'n driw, newid nawdd
Dros Lundain wnaeth heddiw;
Newid nod dan din ydyw
A dwyn dros brydeindod yw.
Limrig yn ymwneud â darllen
Gyda rhannau o'i gorff bach yn gignoeth,
Daeth Gwilym i'r casgliad mai annoeth
Iawn, iawn ar ei ran
Oedd prynu i Ann
Syspendars a chopi o 'Tinboeth'.
Dwi'n berchen ar ddeuddeg geiriadur
A phedwar deg wyth gwyddoniadur;
Dwi'n hynod ddysgedig,
Ond mae'n anodd gythreulig
Creu limrig heb gymorth llyfr sy'n cynnig odlau i wahanol eiriau...
Un araf oedd Wali am ddarllen,
Ac wrth sgwennu llythyr, bu Modlen
Yn araf 'sgrifennu
Ei bod hi'n ei garu -
Cân (heb fod dros 20 llinell): Colli Pwysau
Roedd Marged yn ddynes a hanner, Yn wir, roedd hi'n ddigon i dri;
Ei bol oedd fel cawr, a chymrai ddwy awr, I eistedd i lawr i bi-pi.
Ni welodd ei thraed ers wythnosau, A'i brest oedd fel dau goco-nyt;
Fe fwytai ddeg pryd, yn fraster i gyd - Roedd golwg y d. ar ei gyt
Ei mam oedd run fath, ac roedd honno 'Di mygu ei thad dan ei fflab;
Pan farwodd hi'i hun, fe'i claddwyd bnawn Llun, A bore dydd Mawrth, poor dab!
'Di Marged ddim hanner y ddynes, Y buodd hi dipyn yn ôl;
Mae'n sgerbwd mewn croen, yn dioddef o boen, Heb fawr o ben blaen na phen-ôl.
Fe brynodd Dissolve i ll'nau'r carped - Roedd hoovro a sgrwbio'n llawn straen;
Ond doedd hi'm yn si?r be wnaeth efo'r d?r, Oedd (i) fod i gael gwared â'r staen.
Yn lle rhoi yr hylif mewn bwced, Yn barod i sgwrio'r holl le,
Fe gydiodd mewn pot, ac yfodd y lot, A'i joio fel paned o de.
Fe doddodd ei bloneg mewn chwinciad, A chollodd dros unarddeg stôn;
Diflannodd ei d?r, fel Tom ei chyn-?r, Gan joinio y Fenai ym Môn.
Ei dillad a hongiai amdani A'i hesgyrn oedd denau a brau;
'R ôl colli can owns, doedd ganddi ddim bowns I symud heb sôn am i ll'nau.
Crebachodd yn bwten fach, lipa, A'i chroen oedd yn welw a llwyd;
Edrychai yn fflat, yn union fel mat A bellach doedd arni'm chwant bwyd.
Mae gwers yn y stori gyfeillion - Rhaid cofio bod slimio'n llawn straen,
A 'd oes 'na ddim pris ar werth elbow greese I glirio rhyw 'chydig o staen.
Telyneg - Addewid
Gweddïa'n ddiwyd
am ddihangfa,
wrth guddio'i hofn
tu ôl i'w dillad aflêr -
yntau'n feistr ar gelu ei arferion
rhag y byd mawr o'i gwmpas.
Dyrnau'n dwrdio,
tafodau'n tasgu,
a'r llais
fel bwyell
yn torri ar dawelwch y nos.
Ei lwon
yn adleisio blynyddoedd gwag
ei addewid,
ac "echel chwil y sioe"
yn troi
mor sicr ag erioed.
Hithau'n gwingo'n dawel
mewn anobaith,
Cynigion Ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw lestr.
Roedd o'n drysor ar awr ddu
I'w gael o dan y gwely.
Ar ôl lluchio plât ati
Ni fu nain 'n ein cartref ni.
Pennill Ymson mewn Llys Barn
Be' ddiawl dwi'n ei wneud yn fa'ma
Yn sefyll o flaen fy ngwell.
Rwyf wrthi yn rhoi fy nhystiolaeth
A gwaredigaeth ymhell.
Pam gebyst bu imi droseddu?
Be' gythral ddaeth dros fy mhen?
Mae'r Meuryn yn awr am fy nghosbi
Am beidio a dyblu yr 'n'.
Englyn yn cynnwys tref yn Lloegr
Y rhain yw'r pererinion, - Carwsos
yn eu crysau cochion
ac ânt gyda'u "here we go'n"
eu cannoedd i Fanceinion.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

