Cadw'r Ffin vs Tegeingl.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.

Cwpled caeth yn cynnwys yr enw 'wyneb':

Taeru wnei: i ti rwy'n neb;
nid hyn ddwed gwrid dy wyneb.
Sion Aled
9 pwynt

Cwpleth caeth yn cynnwys y gair 'wyneb':


Ni bu ail i wyneb iau
Helen y fil o hwyliau.
Dafydd Ifan Morris
9 pwynt

Pennill Mawl/Dychan: Ymwelwyr

Fe welais wawr yn torri dros Abu Simbel draw
A cherddais Fannau Brycheiniog - ocê, roedd hi'n bwrw glaw.
Ehedais i Sri Lanka i weld gwlith ar y gwawn -
Dim ond 'rôl plannu erw o goed, ac mae hynny yn gwneud iawn.
Be? Mynd dros y môr i Lydaw am wythnos bach i gampio?
Neu dreulio gwyliau draw yn Sbaen, yn gwneud dim ond ymlacio?
Wel, fi fy hun, ces wyliau ecolegol yn Nhresaith,
Ac wedi hynny, alla'i ond yn eglur ddatgan ffaith:
Mai teithiwr cydwybodol, uchel iawn ei fri dw i
Sy'n gweld y byd. A sori, dim ond twrist ydach chi.
Meg Ellis
8 pwynt

Pennill Mawl/Dychan: Ymwelwyr

Rwy'n hapus heb gegiad o gwrw
A 'nghawell sy'n ddedwydd a chlyd,
Fe rannaf pob modfedd o'm heiddo
Heb rwgnach nac ots yn y byd.
Ai dyma pam ddônt i gegrythu
A chlician eu camerâu?
Pob un eisiau darn o wareiddiad mae'n si?r
I roi yn ei ogofau.
Glyn Jones
9 pwynt

Englyn yn cynnwys enw darlledwr/wraig:

Cast anodd fu cwestiynu - y gwleidydd
a llond gwlad i'w gelu;
Betsan, cei'r gwir tan ganu
yn rhwydd iawn o'r gadair ddu!
Sion Aled
9 pwynt

Englyn yn cynnwys enw darlledwr/wraig:


Iddo dôi stori addas o rywle'n
Rheolaidd; o'i gwmpas
Ar fyd blêr ac ar fyd blas
Sylwai John Roberts Wilias.
Pedr Wyn
9 pwynt

Limrig yn ymwneud â gwrando:

Mae Mam ar y ffôn, a hi'n fyddar
er hynny mae'n hynod o glyfar:
gwneud sgwrs ar y pryd
heb glywed dim byd:
mae'n dda gwrando arnach chi Myddar!
Michelle Murphy
8 pwynt

Limrig yn ymwneud â gwrando:


Am yr ail neu'r trydydd tro heno
Mi godais y ffôn a neb yno.
Er gwaetha'r dirgelwch
Mor braf y tawelwch
A threuliais rai oriau yn gwrando.
Moi Parry
8 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Terfyn

Yng ngeiriau'r ymgynghorydd
o oes hwn wythnosau sydd
ar ôl. A phob hyder aeth
yn oer, a barrug hiraeth
wna'n wnaeth pob dim na wnaethom
a rhewi surni pob siom.
Bu hyd oes rhwng mab a'i dad
yn hawlio pob ymweliad:
crwydro, nid cofio'r cyfan
ond defnyn, fel cychwyn cân.
Cychwyn, a'i derfyn yn dod
un hwyrnos rôl saith niwrnod.
Sion Aled
10 pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell):


Terfyn
( Y Dwyrain Canol)
Herio ffawd oedd codi`r ffin
Heb wahoddiad; a`u byddin
Helaeth fyn lywodraethu
Â`u tanciau drwy`r dyddiau du.
Gwylio mae gynnau`r gelyn,
N`hidio dim am fywyd dyn.
Anhrefn mor ddianghenraid
Yw ein byd o boen di-baid.
Ynom mae`r gred r`un mor gry`,
Heb warth, rhaid nawr aberthu;
A rhown yn llwyr er ein lles,
Ein hunain er mwyn hanes.
Marc Lloyd Jones
8 ½ pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Casbethau

Mae mor anodd cadw'n siriol -'di bywyd ddim yn grêt
Efo'r hyncs sy'n ciwio wrth fy nrws, yn crefu am gael dêt.
Cas beth di'u gwrthod nhw i gyd, rwy'n wylo'n chwerw dost
Ac i wneud y peth yn waeth na dim, wele'n gynnar daw y post.
O damia, llythyr arall 'di dod gan ddyn y dreth
Yn gyrru can mil eto - fel pob mis yn ddi-feth.
Dwi'm yn licio'r dyn drws nesa, chwaith - y ffermwr llon, dirwgnach
Sy'n ffyrnig wrthod sybsidi a deud bod grantiau'n sothach.
A dwi di ffraeo hyd at waed efo f'Aelod yn y Senedd
Byth ers i'r crinci gadarnhau bydd ffordd rhwng De a Gogledd.
Dim byd amdani, nawr, ond trin fy llu cwsmeriaid
Sy'n talu'u biliau lot cyn pryd, a mymryn mwy - y diawliaid!
A'r Talwrn heno 'mhen draw'r byd - neu o leia, yng Nghefn Meiriadog
Mae'n rhaid 'mi fynd i fanno, sbo, a hynny'n llwyr anfoddog
I daenu perlau f'awen gerbron Morus, gyda rheg;
Dwi'n casáu cysondeb marciau'r Meuryn - deg. A deg. A deg.
Meg Ellis
8 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell):Casbethau

Gwledydd cred yn ailarfogi,
Plant heb glywed hwiangerddi,
Dynes ordew mewn bicini.
A'r wraig 'cw bron iawn yn flin.
Y braf eu byd yn llawn o gwynion,
Teimlo'n hynach na 'nghyfoedion,
Cymry'n codi'u plant yn Saeson,
A'r wraig 'cw fymryn yn flin.
'Sgrifen fler a thaflu sbwriel,
Pwt o swyddog bach ffroenuchel,
Methu'n lan a lapio parsel,
A'r wraig 'cw bellach yn flin.
Glaw a gwynt ar ddiwrnod golffio,
Gweled dyn mewn oed yn wylo,
Plentyn bach yn diodde'i fwlio,
Ac wraig 'cw eto'n fwy blin.
Gweld hen ffrind a methu a'i nabod,
Teledu rwtsh a man eilunod,
Cymry'n llyncu cawl Prydeindod.
A'r wraig 'cw'n gythraul o flin.
Moi parry
9 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Yma'n agos mewn ogof
Hanesyn cyn cychwyn cof.

Ateb llinell ar y pryd;

Yma'n agos mewn ogof
Yn y cefn bu dyn cyn cof.
1 pwynt

Englyn cywaith: Arwydd

Tachwedd sy'n goddiweddyd - hyd y dydd
ond 'dyw'r dail heb symud:
nid peth braf mo haf o hyd
a haf yn hirlwm hefyd.
Michelle Murphy
9 pwynt

Englyn Cywaith: Arwydd


Heddiw gwelais y lliiau yno'n drwm
Mor drist oedd cysgodau
Hen elyn dan yr eiliau
A'i nos hir yn agoshau.
Norman Closs Parry
8 pwynt

Telyneg. Dathlu.

(I gofio Gwynn Davies, aelod o dîm Talwrn Waunfawr)

Mae 'na chwedl ym Missouri
Am Indiaid iaith y nef
A'r llencyn o Eryri
Anturiodd 'mhell o dref.
Yn y Steddfod, mae'n bnawn Sadwrn,
Ac mae'r tîm i gyd fan hyn.
'Dan ni'n dathlu Ffeinal Talwrn -
Mae 'na le gwag lle bu Gwynn.
Mae'r anghofiedig heddiw
yn dathlu yng ngolau dydd
am iddynt gael anturio
yn lle eu cadw 'nghudd.
Mae'r Indiaid, beirdd, a phawb fan hyn
Yn dathlu, diolch i fywyd Gwynn.
Meg Ellis
10 pwynt

Telyneg: Dathlu

O blygain i blygain, mae cyffro
Yn hisian fel eithin ar dân,
A thinsel a neon yn groeso
I'r gwario dan hudlath y gân.
Mae gosteg, rôl miri'r Nadolig
Rhwng pnawniau a hedd cyn bo'r hwyr,
A gwasarn holl grinddail y goedwig
Yn atsain ei lesmair yn llwyr.
Ar dawel lwydnosau rôl calan
Clywn osber yn ymchwydd o'r coed,
A charol pig felen yn datgan
Bod gwanwyn am gadw yr oed.
Norman Closs Parry
9 pwynt

Englyn ar y pryd: Dirgelwch

Mae pen fel gogor gen i - yn dysgu
Rhyw dasg, yna'i cholli
Dros gof, ond aros gaf i
Hir dro i'w hanghofio hi.
Sion Aled
8 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 79

Englyn ar y pryd: Dirgelwch

Wedi 'styried y stori echrydus
Ni chredwn mohoni
Ond am lanast eleni -
Rhyw hen het i'n barnu ni.

CYFANSWM PWYNTIAU: 79 ½

Cynigion ychwanegol:

Pennill Mawl/Dychan: Ymwelwyr

Fe fuom gynt yn ofni
gweld dynion gwyrddion bach
yn crwydro drwy'r bydysawd
nid fel Siôn Corn a'i sach -
ond crwydriaid bach o blaned bell
yn galw i weld ein byd,
blasu bywyd y ddaear hon
ac aros am ryw hyd.
Ond bellach does dim peryg
i neb ffansïo'n byd
a ninnau wrthi'n rhacsio
ei harddwch oll i gyd.

Cynigion ychwanegol:

Cwpleth caeth yn cynnwys y gair 'wyneb':

A hunllef storm yn genlli
Wyneb Mam fy ateb i.
Wyneb hardd oedd wyneb hon
Wyneb i gorddi dynion.
Wyneb a hudai ddynion
Hyll a hardd oedd gallu hon.
Ynom mae'r cof am ennyd
Wyneb yn wyneb o hyd.
Heb afiaith ei areithio
A heb wên ei wyneb o.
Anodd yw gweld trueni
Wyneb yn wyneb â ni.
Ar wyneb fy Rhiannon
Y mae blys am swsys Siôn
Yn dy wedd mi'th welaf di
Ar wyneb dy rieni.
Wyneb, o'i droi yw benyw
Yna wy yn ôl yw yw!

Englyn yn cynnwys enw darlledwr/wraig:

Jason Mohammed

Wyt annwyl ond newid d'enw Jason
I Jos neu ffugenw!
Arth-ddarlledwr mewn twrw
Dy benyd, o'u byd tab ?.
Daw arnaf yn Sadyrnol rhyw wendid
I wrando'n foreol
Ar griw rhad dylanwadol
A'u di-leit mewn siarad lol.

(cyfeiriad at gyn gariad Sian Lloyd, sef Lembit Opik a fu`n canlyn un o`r "Cheeky Girls")


O Siân Lloyd, mor swynol yw - hardd yw llun
A rhwydd llais y fenyw
Daw haul gan hon a dilyw
Ni fydd yn 'cheeky' tra'n fyw!

Limrig yn ymwneud â gwrando:

Ers talwm bu'n nhad yn bytheirio
Fy mod yn rhy gyndyn i 'studio
A minnau yn h?n
Mi faswn well dyn
Pe tawn wedi aros â gwrando.
Pan wylltiais ryw nos fy nyhead
Oedd cablu a rhegi'r holl gread;
Ond allan â fi
I gael gweiddi yn ffri
Cans byddar yw hen ddyn y lleuad.
Cyflymu yn lle ralentando
A bylchau ar hyd y glissando
Dim sylw i'r sgor
Ni chlywir 'encore'
Mae'n gor o gantorion di-wrando
Rwy'n darllen y papur a bwyta
Pan mae'r wraig 'cw'n rhaffu'i brawddega'
Ond mae'n gwybod rwy'n si?r
Nad ydyw ei g?r
Yn gwrando 'run gair o'i storia'
Cyflymu yn lle ralentando
A bylchau ar hyd y glissando
Dim sylw i'r sgor
Ni chlywir 'encore'
Mae'n gôr o gantorion di-wrando

Englyn Cywaith: Arwydd

Ai angof hen lw y bwa a deilen
'rol dilyw a'r difa?
Yn dd?r holl fynyddoedd iâ
A'r arwydd - gweld gwir aea'.
Dan ein hofn, o gwared ni ein Harglwydd
Rhag arwydd, rhag oeri.
Pob defod o glustnodi
A ddwed "Nhw" pan na ddwed "Ni".

Telyneg: Dathlu

Rhwng colofnau cacen wen ei nain
Mae'r llygaid llywaeth eto'n hogi dur,
Y gusan wlyb yn cleisio'i boch
A'r bysedd main yn cuddio gwarth
Y fys chwyddiedig coch.
Mae'r parau'n oedi, yna'n torri'n rhydd
Fel dwy golomen o law'r dewin mawr,
Y gwragedd i ddatgloi pob gair
Y gw?r i fflyrtan at y bar
Fel plant ar stondin ffair.
Mae ddoe yn mynd a'r gegin oer yn gwadd
Fe'i dygir hi i ddechrau ar ei gwaith
I draethell aur dan lesni'r nen.
Mae'n teimlo'r dynged yn ei bol
A gwisgo'i phenwisg wen.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.