Ffostrasol vs Talybont

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.

Ffostrasol

Ffostrasol

Talybont

Talybont

Cwpled Caeth ar yr odl 'acs':


Mi wn mae dim ond maniac
Sydd â ffydd mewn peiriant ffacs.
John Pinion Jones
8 ½ pwynt

Cwpled caeth ar yr odl 'acs':

Ddoe'n rhwym, mae nhîn heddiw'n rhacs,
A'n nhintws yn llawn tintacs.

Phil Davies
8 pwynt

Pennill Mawl/Dychan: Rhyddid Gwybodaeth:

'Da rhyddid gwybodaeth
Daw'r manylion yn llawn
Dim ond i ni ofyn
Am y wybodaeth iawn.
Jim James
9 pwynt

Pennill Mawl/Dychan:

Rhyddid Gwybodaeth

Hala CD yn y post
Dyna yw'r ffordd rata'
Ond y postman aeth yn dost:
Mae'n da-ta ar y data.

(Mae'r wybodaeth nawr yn rhydd
A phawb ryw angen Carling
Does dim byd yn awr ynghudd
Diolch i ti, Darling!)
Siwan Jobbins
8 ½ pwynt

Englyn yn dechrau gydag 'Ar ôl':

Afiechyd

Ar ôl i'r gelyn creulon yn y glwyd
I ddatgloi holl gloeon
Y t?, daeth i'r aelwyd hon
I oedi mewn cysgodion.

Dai Rees Davies
8 ½ pwynt

Englyn yn dechrau gydag (Ar ôl...)

Cadoediad

Ar ôl i'r fagnel dawelu - ar ôl
i'r wylo galedu,
eu gwaed hwy fydd cysgod du
y gynnau sy'n gwahanu.
Gwenallt Llwyd Ifan
9 pwynt

Limrig yn ymwneud â methu cysgu:

Rwy'n synnu nad wyf wedi blino
Waeth nid ydyw cwsg am ddod heibio,
Ond nid wyf yn flin
Rwyf nawr ar ddi-hun
I ddarllen y limrig 'ma heno.

Emyr Davies
8 ½ pwynt

Limrig (yn ymwneud â methu cysgu)

Rôl trosi a throsi a throsi,
A throsi a throsi a throi,
A throsi a throi,
A throsi a throsi,
A throsi, a throi, es i i'r gwely.
Phil Davies
8 ½ pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cyfoeth:

A welaist olud heulwen
Yn aur mâl ar y trum hen?
Emrallt perth yn prydferthu
Yn nydd hoen y ddraenen ddu.
Haul a gwlith fel perlau glaw
Yn ysgwyd ar we'r ysgaw?
Dail bedwen fel sofrenni
Yn euro llyfn dd?r y lli?
Oerni caeth, ar iâ yn cau
Nentydd yn ddiamwntiau?
Daear hen llawn trysor drud!
A welais y fath olud?

John Pinion Jones
9 ½ pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell):Cyfoeth

Naw oed yn llawn o nodau
ydyw hi, a ni ein dau
yn ei heilun addoli,
yn gnawd o degan i ni;
am rewi'r ffilm am hirach
yng ngorfoledd bysedd bach.
Hithau am yr oriau rhydd
ar dannau ryw adennydd

A chawn ni wrth edrych 'nôl
gadw ei gwên ddigidol
yn ein llaw; ond ni all llun
ei dal yn ffram y delyn.
Gwenallt Llwyd Ifan
9 ½ pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Yfory Ddaw:

I'r wraig fe brynais anrheg mewn siop ail law'n y Dre
Sef parot coch a melyn o barthau môr y De.
Dau lygaid fel rhai eryr, ni dd'wedai yr un bw,
A'r wraig wnaeth fy nghyhuddo o brynu gwdih?.
Fe'r gelwais yn Rhygyfarch a dyma'r rheswm pam,-
'Roedd achau Rhyg a minnau yn perthyn trwy ei Fam.
Yn sydyn ymhen tridiau dechreuodd ddweud ei lith,
Yn amlwg 'roedd Rhygyfarch yn un o'r adar brith.
Fe regai yn y Saesneg, Cymraeg ac Estron Iaith
Pob pregeth gan y misus fe'i clywn am yr ail waith.
Un bore d'wedais wrtho "Mae'n amser cau dy geg
Ni fydd i ti yfory, cei ddweud dy olaf reg".
Ar ôl ei roi mewn padell rhoes ddwfr ar ei ben
Hedfanodd yr Iorddonen i'r byd tu hwnt i'r llen.
Fe'i rhoddais yn y popty i gael ei sychu'n dda
Er mwyn i'r wraig a meddwl bu farw o ryw bla.
Anghofiais fod e yno daeth mas yn llai na dryw
Fe soniodd am grimetio un tro pan oedd e byw.
Ond fe ddaw rhyw yfory im ateb oll am hyn
Yfory ddaw im pwyso, a chael fy mod yn brin.

Emyr Davies
9 ½ pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Yfory Ddaw

AR DDYDD NADOLIG

Sdim ots fod y plantos yn deffro am chwech,
Sdim ots os yw pob un yn teimlo fel aros yn ei wely.
Sdim ots fod y ci wedi gollwng ei lwyth,
Sdim ots fod y goeden 'di ffiwso cyn wyth.
Sdim ots fod y bwji 'di marw'n ei gaets,
Sdim ots os yw'r stwffin yn drewi o saets,
Sdim ots fod y cracers 'di colli eu clec,
Sdim ots fod Fo a Fe ar S4C.
Sdim ots fod y shampers yn gynnes a fflat,
Sdim ots os gwna'm het i mi edrych fel hat.
Sdim ots os yw'r bacwn fel haearn o Sbaen,
Sdim ots fod rhaid codi y pwdin 'da craen.
Sdim ots am annus horribilis y cwîn,
Sdim ots fod pobl Cwmderi yn flin.
Sdim ots fod y batris di gorffen cyn te,
Sdim ots fod y Sales ar fin dechre'n y dre.
Sdim ots fod y trydan di diffodd am awr,
Sdim ots fod y treiffl di cwmpo ar lawr.
Sdim ots os yw'n eira, sdim ots os yw'n law,
Fe geuaf fy llygaid. Yfory a ddaw.
Phil Davies
9 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Ni welaf fawr ddoniolwch
I wyn a lloi fynd yn llwch.
1 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Ni welaf fawr ddoniolwch
Weld llên ar waelod y llwch.

Englyn Cywaith: Carwriaeth:

Yn ifanc cefais brofi - ei holl wefr,
A holl warth ei chyni,
A heddiw'n gymar iddi,
Hon, fy iaith, a garaf i.
Jim James
9 pwynt

Englyn Cywaith: Carwriaeth

Er bu Marian amdanaf - yn y gwair
lawer gwaith; er cosaf
sawl Dwynwen, Heulwen a Haf,
Gerallt yw'r un a garaf.
Gwenallt Llwyd Ifan
8 pwynt

Telyneg: Ystafell:

Dan forthwyl yr arwerthwr croch
Yr aeth y ddresel dderi,
Y cwpwrdd cornel, y bwrdd crwn
A'r gweddill o'r hen gelfi.

A theimlo pwysau'r oriau mân
Wnaf heno mewn anhunedd
Wrth grwydro drwy ystafell wag
Yn un o linach Heledd.

Dai Rees Davies
8 ½ pwynt

Telyneg: Ystafell

Yma yn fy 'stafell
Mae gennyf deledu ar y mur
Un fawr, un fflat
Un HD ready.
Ar hon mae'r llun fel grisial,
A'r lliwiau'n llachar.
Cewch weld pob blewyn ar fraich
Pob diferyn ar ddeilen.
Yma yn fy 'stafell,
caf weld y byd a natur
yn ei holl ogoniant,
heb orfod symud
o fy nyth o soffa.
Heb orfod aroglu'r gwres yn gwasgu.
Heb deimlo'r drewdod yn llenwi fy ffroenau.
Yma yn fy 'stafell,
mae fy mywyd i'n byrhau
fesul pennod.
Phillip Thomas
8 ½ pwynt

Englyn ar y pryd: Clo

Hanes plentyn Autistig a welwyd ar y teledu:

A'i allwedd caeodd ni allan - o'i fyd
A'i ddyfodol trwstan,
Yr awr y daeth ci i'w ran
Cafwyd agoriad cyfan.

John Pinion Jones
9 ½ pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 81 ½

Englyn ar y pryd: Clo

I'r Senedd yng Nghaerdydd

Gan ein bod wedi codi - y Neuadd
Newydd a gytuni,
'da ni nawr, bod ein gwlad ni
Yn haeddu'r allwedd iddi?
Gwenallt Llwyd Ifan
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 78

Cynigion Ychwanegol:

Cwpled Caeth ar yr odl 'acs':

Llaid a rhwd a styllod rhacs
Erys lle gynt bu baracs.
Mi dorrais sgert Miss Isaacs
Lan yr hewl, yn yfflon rhacs.
Beti'r Cwm yn byta'r cacs
A'i hanti'n dysgu'r syntacs.

Pennill Mawl/Dychan: Rhyddid Gwybodaeth:


Mae deng mlynedd ar hugain yn amser hir
Cyn caiff y gwirionedd ei ddatgan yn glir.

Englyn yn dechrau gydag 'Ar ôl':

Ar ôl im orffen holi, a dilyn
Dwylo fu'n arloesi,
Ba ryfedd bod arbrofi
I wneud a'n cysuron ni.

Ar ôl yr holl ymholi - a Herod
Yn herian a gweiddi,
Daeth y Duwdod mewn tlodi;
Geni Hwn yw'n 'Dolig ni.

Limrig yn ymwneud â methu cysgu:

Wedi cyfri cant o ddefaid
Adrodd pedwar hir a thoddaid
Dweud Cilmeri
A Phwll Deri,
Nos yfory dwbwl wydraid.

'Rwy'n cyfrif bod nos yn fy ngwely
Y defiad, 'rwy'n metha a chysgu
Ar goll mae na un
'Rwy'n dal ar ddi-hun
Yn flin mod i'n colli sybseidi.

Pan af i yn gynnar im gwely
Am oriau rwy'n methu a chysgu
Ond cysgaf mewn eiliad
Pan glywaf y gennad
Yn Seilo yn dechrau pregethu.

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cyfoeth:

Nid yr aur, nid yr arian,
Na mawrhad a ddaw i'm rhan
Yw'r ffortun a ddymunaf,
Waeth i'r ardd fe ddaeth yr haf
Ag arbennig blanhigyn,-
Yr aruchaf harddaf un.

Yn hwn mae parhad fy hil,
A hwn yw'r egin cynnil
Ddaw o'r fesen a blennir
Yn ddwfn yn fy nhiroedd ir.
Fy ?yr Rhaid ei glodfori
Wnaeth hwn yn fy nghyfoeth i.

Englyn Cywaith: Carwriaeth:

Dau welir wedi dwli, yn cyd gwrdd
Cyd gerdded 'efo'i gily'
Dau o'r un greddf dau r'un gri
Yn paradan cyn priodi.

Pennill Mawl/Dychan:

Rhyddid Gwybodaeth

Mi fum i yn chwilota
yng nghyfrifiadur mawr y wlad,
i nabod fy nghyndeidiau
a rhoi i'm hun ystad.
Mi welais mod i'n perthyn
i Gerallt ac i Dic,
i Cynan a Moi Parry
(mae hynny'n wir yn dric).
Roedd Gengis Khan yn wncwl
o bell ar ochr mam,
Oernant a Dai Rees Davies
(does neb yn gwybod pam).
Os nad y'ch chi'n fy nghoelio
am dras fy nheulu oll,
y mae'r dystiolaeth honno
ar y disgiau a aeth ar goll.

Limrig (yn ymwneud â methu cysgu)

Bardd enwog o bentref Ffostrasol,
a fethodd â chysgu yn ffafriol.
Fe lyncodd e bilsen,
o ffrwyth y ffigysbren
mae'n chwyrnu yn awr trwy'i ben ôl.

Englyn Cywaith: Carwriaeth

Yn ferw wrth ddifaru - na gefnwyd
Ar gyfnod y caru
Blynyddoedd blin yn naddu
Enaid dau mewn uniad du.

Telyneg: Ystafell

Daw'r haf i fy ystafell
gyda'r môr ac adar mân,
a heibio hwy rwy'n gweld o bell
y llew ar Faes Gwenllian.
Daw'r gaeaf i'm hystafell
â'i gur gan dewi'r gân,
o'r cae mae angau'n dwyn ymhell
ein llew o Faes Gwenllian.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.