Glêr vs Beca

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.

Y Glêr

Y Glêr

Beca

Beca

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Beirniadaeth'

Er gwanned ein cwpled caeth,
Barn o hyd yw beirniadaeth.
Hywel Griffiths
9 ½ pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Beirniadaeth'

Os bwrn yw y talwrn, ta waeth
Yr un ydyw'r feirniadaeth.
Wyn Owens8 ½ pwynt

Pennill Mawl/Dychan: Y Gemau Olympaidd

(i Lloyds TSB)

Awn a dweud "mae'r 'Lympics yn dod acw",
Rhown foicot i'r 'Steddfod!
Rhown ein pres yn nes at nod
Llundeinig na'u llên dinod!
Osian Rhys Jones
9 pwynt

Pennill Mawl/Dychan: 'Y Gemau Olympaidd'

O dan y cylchoedd lliwgar
Sy'n hofran yn y gwynt,
Fe ddaw o bob cyfandir
Bencampwyr ar eu hynt.
Ond beth sy'n hala fi yn dost -
Y 'ceffyl du' sy'n cario'r gost.
Cerwyn Davies
8 ½ pwynt

Englyn yn cynnwys: 'Roedd Anwen yn barddoni'

Sibrydais, cusanais hi, - yna troi
At bob tric lyfi-dyfi,
Ond gwefus ust! gefais i ¬-
Roedd Anwen yn barddoni.
Hywel Griffiths
8 ½ pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau:'Roedd Anwen yn barddoni'

Ni roddai ddiolch am olchi - na stilo
Nid 'na'i steil na'i hobi,
Awdlau teg ei dileit hi
Roedd Anwen yn barddoni.
Wyn Owens
8 ½ pwynt

Limrig yn ymwneud ag ysgrifennu

Fe gollodd Taliesin ei ddwylo
Ar y lôn rhwng Rhyl a Threfyclo,
A chreu andros o lanast
A'i law mas drwy'r ffenast
Wrth geisio dal gafael mewn beiro.
Osian Rhys Jones
8 ½ pwynt

Limrig yn ymwneud ag ysgrifennu

Es ati i greu hunangofiant
I edrych yn ôl dros fy llwyddiant,
Cyfrolau ac awdlau,
Coronau, cadeiriau,
Yn Sothebys fydd yr arwerthiant

Terry Reynolds
8 pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell) yn dechrau â'r geiriau 'Mae'n wir':

Mae'n wir i minnau aros
Lawr yn Nhaf a threulio'r nos
Dan gynfas dinas Caerdydd,
Cael yn hael ei heolydd
Yn borfa, cael y craciau
O dan draed yn dir i'w hau,
A chael yn ei llennyrch hi
Eiliad glyd i gael oedi.

Ond gwn y daw yr awydd,
Lond Ais, yn ei ôl un dydd
I'w gweld hi'n ymdonni'n deg
A'i chnwd yn cychwyn hedeg.
Eurig Salisbury
10 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn dechrau â'r geiriau: 'Mae'n wir...'

Mae'n wir, mae'n gwlad mewn hiraeth
Garw iawn, y gorau aeth.
G?r y cais, y llais a'r llun
A'i einioes yn ein hennyn.

Un didwyll ymhob dadwrdd,
Lle roedd bob tu Cymru'n cwrdd.
Yn ein twf a'n mynd hefyd
Mae'n chwedl i'r genedl i gyd.

O na bai i ni bob un
Ddal ei ddelwedd a'i ddilyn,
Heb elw aur ond o blaid
Cymru'n un yn ein henaid.

Wyn Owens
10 pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell):

Diwrnod Anlwcus

Codi'n y bore am saith o'r gloch.
Rasel 'di torri. Cwt dan fy moch.
Lawr i gael brecwast. Hanner awr wedi saith.
Jam wedi llwydo. Clêr yn y llaeth.
Dal ar y clos am chwarter i ddeg.
Car pallu dechre. Agosáu at reg.
Fan yr AA'n cyrraedd am hanner dydd.
Clipo iet ar ffordd mewn. Bwrw olwyn yn rhydd.
Cyrraedd y swyddfa toc wedi dau.
Mae'n ?yl y Banc. Swyddfa 'di cau.
Cyrraedd nôl adre'. Chwarter i dri.
Lleidir di galw a dwgyd sytî.
Pump o'r gloch. Ishte ar lawr i wylio Rownd a Rownd.
Llaw yn y peiriant recordio yn sownd.
Ffono ambiwlans am chwech. Hwnnw'n cyrraedd yn hwyr.
Clipo iet ar ffordd mas. Egsôst bant yn llwyr.
Mynd i'r gwely cyn deg wedi blino'n lân.
Blanced drydan yn mynd ar dân.
Ie, fi yw Ann, merch druenus
A briododd llynedd â Mr Lwcus.
Iwan Rhys
8 ½ pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): 'Diwrnod anlwcus'

Pan godes fore heddiw, a hynny'n fore iawn
'Bydd hi'n sych' medd boi y tywydd 'a falle galw'r prynhawn'
Ac wrth i'r dydd fynd rhagddo, daeth anhrefn i'n t? ni
Fe drygodd Twm y cwrcath wrth wmla gyda'r ci.
Ni lwyddod Leis, er chwilio, gael ymgymerwr rhad
A method Twm gael angladd yn barchus fel ei dad.
Daeth y gweinidog heibio a hwnnw'n GATHolig
A syrthiodd ar groen banana o bram ein babi dig.
Roedd Wil y gwas yn godro pan ddomodd y fuwch las
Llond bwced a oedd ganddi a'r lla'th i gyd fu fa's.
Roedd gen i wair yn barod i ddod i'r ydlan glyd,
Ar gyngor dyn y tywydd, aeth hwn yn lwydni i gyd.
Es miwn i fyta cinio rhyw marce un o'r gloch
Pan glywais Leis yn gweiddi, d'er lawr i dwlc y moch.
Mi es i ar fy union o ni bron a cholli ngwynt
Yno gorweddai'r mochyn fel mochyn Mati gynt.
Yr hwyr, enillais filiwn ar rifau'r loteri
Ond nid a'th Leis i'r pentre i brynu' nhocyn i.
Fory, 'dai yn fy ngwely a hynny nes yr hwyr
Nes bod fy holl broblemau wedi diflannu'n llwyr.
Hywel Mudd
8 ½ pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Yn ffynnon y gorffennol
Mae rhyw hedd o rigmarol.

Ateb llinell ar y pryd:

O ffynnon y gorffennol
Daw gwres ein hanes yn ôl.
1 pwynt

Englyn Cywaith: unrhyw declun/offer fferm

Gwrando trêd grwndi trydan - gwrando haf,
Gwrando defaid mudan,
Gwrando camp yw gwrando cân
Gwelleifiwr o frig llwyfan.
Eurig Salisbury
9 pwynt

Englyn cywaith: Unrhyw declun/offer fferm

Adlais ni ddaw o'r ydlan - 'r un yw ffawd
Yr hen fferm ymhobman,
Yn gofeb i oes gyfan
Ar y lawnt mae aradr lân.
Wyn Owens
10 pwynt

Telyneg

Bai
(Sir Ian Blair)

Pan fo d?r yr afon yn loyw
Mor hawdd yw canmol yr haul,
Ond pan fo'r llif yn dew a llwyd
Haws ceryddu'r baw ar draul
Y rhai fydd ond yn t'wynnu'u gwên
Pan fo geiriau'r pysgod yn treiglo'n glên.
Osian Rhys Jones
8 pwynt

Telyneg: 'Bai'

Gerbron y siwtiau ffurfiol
A thrwy sianelau defod
Fformiwla y dweud,
Cyfadde bai yw'r spectacl cyfarwydd
Sy'n esgusodi gwarth
A gwae eu gwneud.
Rhyw fymryn bach o gryndod;
Tinc diffuant;
Rhyw edliw nôl a mlaen
a phwyntio bys -
a thynnu hances wen o'r boced
dros y galon
i sychu chwys.

Dyw ymddiheurio ddim yn anodd.
Agor ceg i yngan geiriau; dyna'i gyd.
A llyncu balchder; gwybod
Y bydd pawb yn gwybod
mai nhw oedd wrth wraidd y drwg,
Yn siom i'r byd.

Ond wedi awr y cegaid s?n
Cânt lithro nôl i gragen eu coc?n
A llechu yno'n dawel bach -
Holl sioe y cyffes drosodd

- a'u croen yn iach.
Cathryn Gwyn
9 pwynt

Englyn ar y pryd: Olew

O'r man diogel, ni weli - yn llawn sôn
Olwynion eleni,
Y lôn hir lle gwelwn ni
Gelanedd y galwyni.

CYFANSWM PWYNTIAU: 80 ½

Englyn ar y pryd: Olew

Olew! I bawb sy'n elwa - mae'n fuddiol
Am na fydd yn para
Yr olew sydd danwydd da
Yw olew ein rhyfela.
Wyn Owens
8 ½ pwynt

CYFANSWM PWYNITAU: 80 ½

Cynigion Ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Beirniadaeth'

Hithau'r feirniadaeth waethaf
Yw'r clod gau gorau a gaf.
Mewn steddfod, pan draddodir,
Ni thâl y feirniadaeth hir.
I ddysgwr crefft y ddwysgan
Ni thâl y feirniadaeth wan.
Mae'n syniad cael beirniadaeth
Os am fedru'r canu caeth.

Englyn yn cynnwys: 'Roedd Anwen yn barddoni'

Roedd Anwen yn barddoni - roedd Anwen
Mor ddawnus a secsi,
Ond sâl, sâl heddiw sylwi
O dan wig mai dyn yw hi.

Cywydd(heb fod dros 12 llinell) yn dechrau â'r geiriau 'Mae'n wir':

Meini
(o glywed am farwolaeth ffrind ysgol yr hydref yma)

Mae'n wir fod un maen arall
yno heno, maen na all
y criw o fois cryfa un
ei wadu, heb ddweud wedyn
'Mae 'na un ohonom ni
yn y fan.' Ger hen feini'r
beddau awn heibio iddynt
a chrymu gan gamu'n gynt
rhag yr iorwg a'r hiraeth,
rhown reg uwch y garreg gaeth
rhag gweld ein meini ninnau,
a'r nosau hir yn nesau.

Ymchwil

Mae'n wir yw term ein haeru,
Mae'n wir ameniwn yn hy,
Rhown ein stamp ar hanes dyn,
Hawlio'r astudio wedyn
Yn well na'r hen rai bellach,
Dwyn y lot o dan y lach
I ddileu'r hen ddadleuon,
I ddewis barn newydd sbon -
Nes daw achos i'w dychan
Yn ei sgîl, a'i thywys gan
Un iau at y dechrau'n deg
I hawlio'i therminoleg.

Englyn Cywaith: unrhyw declun/offer fferm

'Y Gyllell Boced'

Ag un fflic mae hon yn clicio i'w lle,
A'i llafn yn disgleirio,
Ond rhaid ei chadw bob tro
Yn dwt mewn poced eto.

Cynigion Ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Beirniadaeth'

O gariad daw beirmiadaeth
Sy'n rhoi gwawl a mawl a maeth.

Dyma'r feirniadaeth waethaf,
Nid wyth, ond 'sefn and a haf'

Pennill Mawl/Dychan: 'Y Gemau Olympaidd'

Rwyf innau'n hoff o helpu, mae arian yn fy llaw,
Cyfrannaf at elusen, yn lleol a thu draw.
Mae'n bleser cael y cyfle i gynnal pethau pell
Fel theartau operatig a'r gêmau, nid oes gwell.
Mae'r person ca's y syniad yn haeddu mawl a chlod
Gwieddwyd wir ei freuddwyd a gweld y gêmau'n dod.

Mae'n gwasanaethau iechyd ac addysg yn ddi-ffael
Mae'r henoed uwch eu digon a chartref rhad ar gael.
Clodforwn y trethdalwyr a'r gwleidyddion oll i gyd
Am gefnogi yr Olympiad a chroesawi pawb drwy'r byd.
Ymunwch gyda minnau i godi gwydraid bach
I'r boi 'nath ddwyn ein harian i greu y ffasiwn starch.

Wi'n marfer nawr dros flwyddyn
Er bod fy nghoesau'n fyr
I fynd i gêmau Llundain
Am Aur neu Thus neu Myrr.

Englyn yn cynnwys y geiriau:'Roedd Anwen yn barddoni'

Roedd Anwen yn barddoni - yn y bath
A Ben yn seboni,
Nid ofer ei hyder hi
Mae'i chân mor lân eleni.

Roedd Anwen yn barddoni - o'i gorau
Yn gwrain aeth ati
I weld a enillai hi
Y goron hon eleni.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.