Penrhosgarnedd vs Penllyn

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.

Penrhosgarnedd

Penrhosgarnedd

Penllyn

Penllyn

Cwpled caeth yn cynnwys enw blodyn

Ar draeth ein hunaniaeth ni
Mae hiraeth mewn rhosmari.
Llion Jones
9 pwynt

CWPLED CAETH (yn cynnwys en w blodyn)

Ar ardd ei fedd rhoddaf un
Pabi i gofio pobun .
Wil Jones Williams
10 pwynt

Pennill Mawl/Dychan: Saint

Fy mraint, mi wn,
Fyddai cael eu cymdeithas
Dros banad o Tetleys
A sgonsan gynnas,
Ond fe af lle dwi'n ddedwydd,
waeth beth ddwed fy meirniaid,
Am Guinness a phei
Efo'r 'pechaduriaid'.
John Ogwen
9 pwynt

PENNILL MAWL/DYCHAN - SAINT


Os ewch chi draw i Enlli
Maent yno rif y gwlith,
'Rôl cyrraedd Aberdaron
Fe drodd y rhain ffor'chwith.

Beryl Hughes Griffith
9 pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell 'Ni wn i pa beth a wnaf'

Trwy'r niwl pan ddaw'r trên olaf, anochel,
dan wichian i'r orsaf,
ni wn i pa beth a wnaf
yn nos y seidin nesaf.
Llion Jones
10 pwynt

ENGLYN; Yn cynnwys y geiriau 'Ni wn i pa beth a wnaf'

A nodau hir-ddyddiau haf - yn gwylaid
Ymgilio yn araf,
Ni wn i pa beth a wnaf
A s?n gwae'n sain y gaeaf.
Dylan Davies
9 pwynt

Limrig yn ymwneud ag ailfeddwl

"Rhy hwyr codi pais" yw'r dywediad,
Ail feddwl yw gwreiddyn y syniad,
Os ydych am wneud
Wel gwneud yn lle dweud
A pheidio gohirio'r digwyddiad!
Lynn Davies
9 pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD AG AIL FEDDWL

Meddai gwraig ,oedd o'r India, 'n y Rhyl
"Cefais ddigon o fyw ar y 'pill'.
Ac yn wir mae o'n rong"
Ac yn awr heb "so-long"
Mae'n llond ei sarong ym Mrasil.
Iwan Bryn Williams
8 ½ pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) 'Y Dewis'

Streic y Penrhyn 1901

Ar y streic mae twrw'r stryd
yn efail o dân hefyd,
pob teulu'n deulu di-waith,
yn deulu dillad eilwaith;
â'r rhai cry'n dechrau crïo,
un bore oer aeth bradwr bro
yn heulwen ei gywilydd
i'r gâd ar doriad y dydd,
o'i adre' o, godde'r drin,
herio cabanau gwerin,
ac ar ei wynt, glywch chi gri
y cregyn, a s?n crogi.
Iwan Llwyd
9 ½ pwynt

CYWYDD(Heb fod dros 12 llinell):Y DEWIS

Bum fis yn dewis o dwr
O w?r i ganfod arwr ;
Es i gorlan ysgarlad
Yn y De, roedd mab a'i dad
Ysbrydol dros barwydydd
A phel yn gyfrwng eu ffydd..
Un cyfrwys gamwr, gwysgi
Un â'i sbîd â'i JCB
Swynwyr dwy oes wahanol
Pâr o'r un gamp a'r un gôl.
Gwell it, finiog, fy llogell
Ne chwlwm dau'n marw 'mhell.
9 pwynt

Cân 'Y Siom'

Gydag ymddiheuriadau mawr i R.Williams Parry

Ganllath o'r llwyfan enfawr, pan
oedd llef Archdderwydd Cymru'n atsain dros bob man,
A minnau'n crynu yn fy seithfed nef
Yn disgwyl am yr alwad, - yn y fan,
Ar ddisgwyliedig droed a swnllyd
duth, Llwybreiddiodd dau osgeiddig
lanc o'm blaen; Minnau yn chwyslyd ac heb ynof chwyth
Yn derbyn clogyn melfed, ac ymlaen
Lle roedd y seremoni fawr i fod -
Cadeirio'r bardd - roedd Gerallt
wedi dweud Rhyw ddydd y baswn i yn cael y clod,
Ond haws bob amser ydyw dweud na gwneud.
A chanodd y cloc larwm - ffiaidd bib, Digwyddodd, darfu, megis seren wib.
Morien Phillips
8 ½ pwynt

CÂN (Heb fod dros 20 llinell): Y SIOM

Pan dorrwyd y newyddion trist am salwch hwn,
Daeth gofid drosom oll fel ton ar lanw llawn,
Ein harwr brwd, y graig a heriai bawb â gwên,
Gleddyfwr addfwyn, na welai faint ei ddawn.
Fe loriai ac fe hudai â'i frwdfrydedd hy.
Y mynydd diniweidrwydd â'r galon fawr,
A'r garreg yn ei gyfansoddiad, tybiem ni.
Wynebodd Grav y frwydr greulon honno'n gawr
A llwyddodd, 'nôl ei arfer i orchfygu'rstorm,
Cyn dychwel eto'n frenin llwyfan Nant y Ci
A'r gynulleidfa fawr yn unol ar eu traed.
"Mae Grav yn iawn!", fe giliodd ein holl ofnau ni
Anweswyd ef yn gynnes, yn gynnes yn ein côl
Ond daeth y bollt a chwalu ein gwag obeithion ffôl.
Os pallu wnaeth dy galon feddal, anferth di,
Rwyt "Yma o Hyd" yn ein calonnau ni
Beryl Hughes Griffith
8 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Byr ydyw purdeb eira'n
Yr haul yn nhalwrn yr ha'.

Ateb llinell ar y pryd:

Byr ydyw purdeb eira
Y stryd, byr hefyd ein ha'.
1 pwynt

Englyn Cywaith: Ôl Traed

Lluniwyd ar lwybrau llinach batrymwaith,
lle bu tramwy sicrach
yn gadael lôn unionach
ar hyd y byd i draed bach.
John Gwilym Jones
9 ½ pwynt

ENGLYN CYWAITH: ÔL TRAED

Yng nghysur ein moduron - y deuwn
A diolch am foddion,
A'r hawl i fwrw hoelion
O Sul i Sul trwy'r osôn.
9 ½ pwynt

Telyneg Tyrfa

Yfory drachefn yn rhywle bydd dinas yn ferw chwyrn,
bydd gwaedd a dwrn a phastwn yn corddi'r ceir a'r cyrn.
Yng nghorwynt y terfysgu bydd gruddiau, fu gynt yn fud,
yn aeddfed gan eu dicter fel deiliach dros y stryd.
Drennydd ar ryw aelwyd bydd mam a gwraig a brawd
yn golchi'r anwarineb oddi ar oerni'r cnawd,
y cnawd am awr a daniwyd gan reddf tu hwnt i bwyll
nes hyrddio'i hun fel drudwy at ffenestr plas y twyll.
John Gwilym Jones
10 pwynt

Telyneg: Torf

Hen, hen g?yn
sy nghri y gwynt,
hen alar
a hen helynt,
a drosom daeth
rhewynt Rhagfyr,
ei fysedd main
a'i hen gur.
Yr un boen,
a'r un saeth
a drawyd
ers gwewyr Catraeth.
Yr un ystum
ar 'sgwyddau -
'run cwlwm
amdanom yn cau.
Hen rengoedd
yn rhannu cysur
o gylch y bedd
yn un mur.
Ond a'r dorf
yn toddi i'r gwyll,
disgwyl
mae'r stafell dywyll
am Heledd
yno i aros
heno ei hun -
newydd yw'r nôs.
Haf Llewelyn
9 ½ pwynt

Englyn ar y pryd: Camgymeriad

Ni all y croesi allan na rhwbio
Rwber ddileu'r cyfan;
A gall baich un gwall bychan
Yn y t? ail gynnau'r tân.
9 ½ pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 84

Englyn ar y pryd: Camgymeriad

Gwirionedd ar un gronyn - yn hongian,
Fill a'i hangau'n ddychryn;
Â'n gwlad mor daer am gael un
O'r golwg, pwy yw'r gelyn?
8 ½ pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 82

Cynigion Ychwanegol:

Englyn yn cynnwys y llinell 'Ni wn i pa beth a wnaf'

Ni wn i pa beth a wnaf i gofio
'Rhen gyfaill anwylaf;
"Arwr ymysg y dewraf"
Yw y gri gan ffrindiau Grav.

Limrig yn ymwneud ag ailfeddwl

Mae syniad y limrig 'ma heno
Yn anodd i feddwl amdano
Fe ddylai y meuryn
Ail feddwl am destun
Siawns wedyn y gallwn ei blesio.

Mae'r geiriau "tri chynnig i Gymro"
Yn gyfle i ailfeddwl a churo;
Un cynnig sy' 'ma
Ond cyn dweud "Nos da"
Os yw hi'n un dda ma' hi'n sgorio!

Cynigion ychwanegol:

CWPLED CAETH (yn cynnwys en w blodyn)


Mae angau heno ym Mwyngil
Ond eto daw daffodil.
Haul a'i chwip ar salwch hen
Briallu 'ngwedd Ebrillwen.
Roedd hi'n dlos, ond fel rhosyn
Ni hidiai hi waedu dyn.

PENNILL MAWL/DYCHAN - SAINT

Fe gofir mil a mwy
Lle mae elwysi plwy',
Oes llan heb sant ysgwn i ?
Gadawaf f'enw iddi

Mi dreuliais ddegawd, mawr fy mraint,
Â'r saint yn Llanymddyfri;
Rhwng Mair a Dingad , â'u dau d?r,
Bu'n elw'n siwr i'ng nghyfri -
Cyn camu mlaen, i'r breintiau mwy ,
Ym 'Mhumplwy gwerin Penllyn.

ENGLYN; Yn cynnwys y geiriau 'Ni wn i pa beth a wnaf'

Wedi hwyl plentyndod iach - ni wn i
Pa beth wnaf ymhellach
A gardd egin fy llinach
Ond cofeb i bentre bach.

LIMRIG YN YMWNEUD AG AIL FEDDWL


Y wraig ddeudodd "Dos at y doctor"
A chwrddais gydnabod ym Mangor,
Fel dôi hi y nês
Mi deimlwn ei gwres
Fel cynt, ond am bres mae o rhagor !
Meddai mam wrth weld geneth o'r Eil
O Man yn fy nghanlyn,"Gwerth weil
Fyddai hogan sy'n nes"
A phr'odi a wnes
A dynes o lannau y Neil.

ENGLYN CYWAITH: ÔL TRAED

Er i 'nhaid ei phrynu hi, - ac i 'nhad
Gywain oes ohoni
I'n cynnal ym mhob cyni,
Nid yw mwy'n hafod mi.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.