Beirdd y Gadair vs Beirdd y Goron vs Beirdd yr Urdd.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch tri tim o feirdd o'r Wyl Gynganeddu.

CWPLED CAETH YN CYNNWYS 'GEIRIAU'

Hiraeth tu hwnt i eiriau
Yw bywyd un lle bu dau.

Huw Meirion
9 ½ pwynt

Cwpled Caeth yn cynnwys 'geiriau'

Un dydd, gwawriodd gwên rhwng dau -
gwawriodd uwch cyrraedd geiriau.
Siôn Aled
9 pwynt

Cwpled Caeth yn cynnwys 'geiriau'

Mae caethiwed ein d'wedyd
Yn rhyddhau y geiriau i gyd.
Hywel Griffiths
9 ½ pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS Y GEIRIAU ' MAE UN...

Er cof am Ray Gravell

Mae un yn llai'n y Mynydd - ac eto
Er rhwydo'r ehedydd,
Os marw'r galon lonydd
Marw i fyw yng Nghymru fydd..
Huw Meirion
9 ½ pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau 'Mae un.....'

Y Milwr olaf

Mae un, yn llwm ei wyneb, - sy'n aros
yn her wrth y gofeb
i droi nôl o randir neb
ein holynol ffolineb.
Siôn Aled
10 pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau 'Mae un...'

Grav

Nid yw'n bod ond troednodyn - i firi
holl fawredd y darlun
ond myn Duw y mae un dyn
'di nodi'i enw wedyn
Aneirin Karadog
9 pwynt

ENGLYN CIL-DWRN: BEDDARGRAFF POLI-PAROT

Wedi einioes o undonedd, - o'i chlwyd
ni chlywn ei harabedd -
o'r diwedd!
Mei Mac
8 ½ pwynt

Englyn Cil-dwrn Beddargraff Poli-Parot

Ffo Blêr

Bu ar ysgwydd celwyddau yn rhy hir,
yn rhy hir; nes amau'r
plu hwythau.
Dafydd Pritchard
8 pwynt

Englyn Cil-dwrn Beddargraff Poli-Parot

Hen Barot trwm obry tramor - y geg
Heb reg i neb rhagor.
Un porffor!
Ifan Prys
8 pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): DYSGU CYNGANEDDU

Ydi hedfan yn anodd?
Ydi mae ond gwn bod modd.
Bod yn uwch na'r byd a'i nain,
'nabod Duw, nabod Owain,
'nabod pob llwyn neu aber,
'nabod Saint, nabod y sêr,
a phob cornel annelwig
o'm hiaith, pob nodyn o 'mhig.
Tyrd i mewn, tyrd am unwaith
i fyd y gyfrinach faith,
a gyda hyn mi gei di
adenydd - beth amdani?
Mei Mac
10 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell):Dysgu Cynganeddu

Mynd ar ddêt nerfus eto,
bwyd a gwin mewn byd o'i go
a chyffwrdd llaw yn dawel;
gwrando a sbïo am sbel.

Nabod saib trwy beidio sôn,
oriau hud yn sibrydion
sy'n chwilio gwell llinellau;
diddeall yw deall dau.

Ond yn araf daw'n eirias -
feiolins a'r gwin a'i flas
sy'n mynnu rhannu, o raid,
eto synnwyr cytseiniaid.
Dafydd Pritchard
10 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell):Dysgu Cynganeddu (i blant ysgol)

Fel arfogi mwncïod,
Fel cnapan, dyma nhw'n dod
Â'u hatebion gwirion, gwych,
Eu halawon di-lewych
O wreiddiol, a holl ryddid
Eu hodli doji, di-hid,
Mewn cerddi, o'u llosgi'n llwyr,
Sy'n deisennau disynnwyr.
Ond yn ffau'r sillafau llon,
Yn ffau y geiriau gwirion,
Mae awen clyfra'r ennyd
A Chymry bach mwya'r byd.
Eurig Salisbury
10 pwynt

ENGLYN CYWAITH: ARGYFWNG

Crasu'r ddaear yn araf- a'n tynnu
At y taniad olaf
Draw ar fronnydd hirddydd haf
Wna'r haul hynaws creulonaf.
Idris Reynolds
9 Pwynt

Englyn Cywaith: Argyfwng

Sylwa, does neb yn Seilo; aeth yr haf
trwy byrth Rhufain, rhywdro;
ond o'u mewn, gwranda, mae O,
mae O'i hun yn amenio.
Dafydd Pritchard
10 pwynt

Englyn Cywaith: Argyfwng

(i bob cymuned ac ysgol fach yng Ngwynedd)

Daethai her ei diwedd hi o'r tyllau,
o'r tu allan iddi,
yn neuadd 'nawr' naddwn ni
o'i mewn nes chwalu'r meini.
Hywel Griffiths
9 pwynt

ATEB LLINELL AR Y PRYD:

Pwy a rif ddyddiau Prifardd?
Dydd byr yw anrhydedd bardd.
1 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Dydd byr yw anrhydedd bardd
O brifio'n barchus Brifardd.

Ateb llinell ar y pryd:

Dydd byr yw anrhydedd bardd
Rhyfyg yw bod yn Brifardd.

HIR-A-THODDAID : MACHLUD

'Byddwch yn barod am rai cawodydd
A tharannau yfory a thrennydd
Wrth iddi oeri o Fôr Iwerydd.'
Dyna yntê ddwedodd dyn y tywydd,
Ond mae'r oren ysblennydd - uwch y lli
I mi'n argoeli bod hynny'n gelwydd.
Dic Jones
10 pwynt

Hir-a-thoddaid: Machlud

Mae'r draffordd yn dymhorau o draffig
yn heidio ar daith anorffenedig,
yn fyd o adar sy'n ddarfodedig
a'u hymateb yn un otomatig
a'r brain yn codi i'r brig - i glwydo,
a theithio eto dan anasthetig.
Iwan Llwyd
9 pwynt

Hil-a-thoddaid: Machlud (yn Aber)

Ddoi di am wâc i'r pier acw?
Mae 'na testun llun yn y llanw;
Y cesig hud yn ceisio cadw
Swigen o haul rhag llosgi'n ulw,
A daw'r adar bach drudw - i bwyllgor
Ar lan y môr i'w wylio'n marw.
Eurig Salisbury
9 ½ pwynt

TELYNEG MEWN CYNGHANEDD :CAM

Nid trwy rhyw ddictad gwladol, - nid â gwn,
Nid â gwaed y bobol,
Yn neis neis enillant 'nôl
Ein hesgus o brifysgol.

Yn gywrain mewn pwyllgoriaith, - yn ddethol
O ddoeth trwy'r papurwaith,
Yn gynnil gyda gweniaith
O radd i radd lleddir iaith.
Idris Reynolds
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 66 ½

Telyneg: Cam

Mae'n nosi'n gynnar, a daw barrug
i oeri'r maes yn yr oriau mân,
aeth y fro i guddio dan gaddug,
daeth y gwynt drwy frodwaith y gân:

daeth Tachwedd yn ddu a difeddwl
a dail hesb ar ei anadl o,
ei wên o yn gam a than gwmwl
a golau ei hun o dan glo:

eleni mae hanner can mlynedd
ers i'r tymor fy esgor i,
'dwi heddiw yn nes at y diwedd,
ond un waith sy' i'r daith, dyna ni.
Iwan Llwyd
9 ½ pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 65 ½

Telyneg: Cam

Yr Awen

Fe'i clywais pan oedd lleisiau
yn llanw'r lle yn rhy llawen,
unwaith y llefarodd, tawelodd y twr
a bu rhaid ei sibrydion
yn fy nghymell yn bell o bob un
man, a mynnu
bod pob un cam, er fy mod i'n eu hamau,
yn dilyn y llall ar hyd lon y llais,
a deallais nad i dywyllwch
y camwn pan y daliwn
yn ei dwylo
ond cymryd cam ar hyd y cei
tuag at y gwynt,
a'i dilyn a'i dilyn a'i dal
yn y diwedd, yn dawel.
Hywel Griffiths
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 64

CYNIGION YCHWANEGOL:

ENGLYN CYWAITH: ARGYFWNG

Mae'r ia yn dadmer o hyd, - môr o wae'n
Merwino'n hesmwythyd,
Anafus yw'r tir hefyd,
?l ein traed drwy'r gwaed i gyd.

Cynigion ychwanegol:

Cwpled Caeth yn cynnwys 'geiriau'

Y cawr uwch cynnig geiriau
gaiff ei wên i'w wir goffáu

Cynigion ychwanegol:

Englyn yn cynnwys y geiriau 'Mae un...'

Cyfaill

Pan fo'r wal wedi chwalu, a minnau
ymhob man yn mynnu
mwynhau yn ei darnau du,
mae un a fynn gymhennu.

Nid yw'r gwron yn llonydd - yn y maes
Mae un sy'n dragywydd:
G?r ymarhous y sgrym rydd,
Y mae un; Ray o'r Mynydd.

Hil-a-thoddaid: Machlud (yn Aber)

Machlud ar yr hen ffordd o fyw

 gwin y sêr bu Duw'n ei gonsurio
Yn goelcerth o nwyd a'r penre'n clwydo,
Mae'n haul lleolyn wahanol heno
Ac mae'n nos yn awr pan ddylai wawrio
Yn heddiw'r globaleiddio - tlawd yw'r byd
O chwalu hud a lledrith machludo.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.