Ysgol y Berwyn vs Bro Alaw

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.

Ysgol y Berwyn

Ysgol y Berwyn

Bro Alaw

Bro Alaw

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Parti'

Tynnu'r cyfan sy'n annoeth,
os wyt ti mewn parti poeth.

Arwel Emlyn Jones
8 pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Parti'

Aeth cymuned a'i chredo
Heddiw'n barti bwci bo
Siân Owen
9 pwynt

Pennill Ymson mewn maes parcio:

Dwi ddim yn gybyddlyd o gwbwl
Dweud y gwir, rwy'n ddigon hael,
Ond pam y caf ddirwy o deirpunt
Am ymweld â'r rhai sy'n wael.

Huw Dylan Jones
8 ½ pwynt

Pennill Ymson mewn maes parcio

Hanner punt i'r Cyngor Tre
Yw'r tâl am le i barcio
Ond mae lle i bawb â'i gar
Yn rhad ar darmac Tesco
'Does dim rhyfedd yn y byd
Fod siopa'r stryd yn cwyno
John Wyn Jones
8 ½ pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau: "Fo" a "Hi"

Rhagor, ni all drysoni - yr eiddo
sy'n rodd ers ei eni,
ni fu'n hawdd troi "fo" yn "hi",
ond Sioned ydyw Sioni.

Huw Dylan Jones
8 ½ pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau 'Fo' a 'Hi'

Y widw sydd yn hudo - y gwryw
I garu am ginio,
Ond buan mae hi'n blino,
Ac yna'n ei fwyta fo.
Arwyn Roberts
8 pwynt

Limrig yn ymwneud â chywilydd:

Am flynyddoedd cuddiai Wil rhyw gyfrinach
Rhag ofn i eraill ei alw'n rêl cadach,
Ond diolch i bilsen fach las
Sy'n rhoi ei galon ar ras,
Di'i wraig o byth rwan yn grwgnach.

Delyth Humphreys
8 pwynt

Limrig yn ymwneud â Chywilydd

Wrth chwilio am wraig ar y we,
Cefais gynnig gan Sam o Fombê
Pan alwodd i 'ngweld i
Mei lord oedd mei lêdi
Peidiwch deud wrth fy mam mod i'n gay!
Ioan Roberts
8 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gwacter

Anodd yw pob un ennyd,
pellhau mae'r geiriau i gyd
i'r cwm ym mhellter y cof
i unigedd hen ogof:
o weld iaith ei golau dydd
ni welwn ond hen ddolydd
ddoe wrth waith, mor ddiarth yw,
arswydus o sgwrs ydyw;
mae'n y cwm yn ein cymell,
mae o hyd mewn cwm ymhell,
y person oll a gollwn,
nid oes gwaeth na'r hiraeth hwn.

Arwel Emlyn Jones
9 pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Gwacter

Lle bu'r haul a llwybrau'r haf
Mae'r hin yn oeri'n araf
A'r adar, a'u trydar trist,
Heb hendre'n fintai bendrist
Cyn crynhoi a throi tua thref,
Drwy wawrddydd waedrudd hydref,
A gadael gwynt y goedwig
I chwipio a gwagio gwig,
Y gwynt hen sy'n cymenu
Gwynt sgubo, gwynt twtio t?,
y gwynt a'i gedy i'w g?yn
Yn unig nes daw'n wanwyn.
Richard Parry Jones
9 pwynt

Cân (heb fod dros 20 Llinell): Ffasiwn:

Dwi ddim yr un mwyaf ffasiynol
Yn syml dyna yw'r gwir,
Does gennyf fawr ddim o ddiddordeb
Dy'n nhw'm yn para yn hir.
Mae Hefin fy ffrind a'm cyd-weithiwr
Yn fwy ceidwadol na fi,
Mae o'n dal i ddilyn y ffasiwn
Oedd yn hen yn saith deg tri.
Ac felly dychmygwch fy syndod
Yn wir edrychai fel rhith,
A Hefin o bawb safai yno
Ag 'earing' yn ei glust chwith.
Yn gegrwth fe ofynnais iddo
Ers pryd mae honna gen ti?
"Ers i'r wraig" meddai Hefin "ei ffeindio
Yng nghanol ein gwely ni!"

Huw Dylan Jones
8 pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell): Ffasiwn

Mae'i gweld i'r olwg gyntaf
Fel wardrob ar ddwy droed,
Yn haen o baent a phowdwr
A bron yn wyth deg oed.

Mae'n dewis siarad Saesneg
Am fod o'r peth i'w wneud,
Er nad oes ganddi'r geiriau
Mae'n mynnu deud ei deud.

Wrth glywed y gair hiliaeth
Mae bron â mynd o'i cho',
Ond am y Sais drws nesa -
Dim eisiau'i nabod o.

Mae'n dweud ei bod yn credu
Fod bwydydd cartre'n well,
Bwyd cartra yw bwyd Tesco -
Ond fod y cartra'n bell!

Mae'n ffeind wrth anifeiliaid
Dwy gath a labradôr,
Gan fynd a hwy yn ddyddiol
Am dro'n ei ffôr-bai-ffôr
Geraint Jones
8 ½ pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Rhagor, rwy'n fôtio Tori
Niwlog iawn yw ngolwg i.

1 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Du yw'r wybren eleni
Niwlog iawn yw ngolwg i.

Englyn Cywaith: Coel

Er i Dduw roddi i ddyn - arwyddion
digon rhwydd i'w dilyn,
rhaid i bawb gerdded wedyn
ar hyd ei lwybrau ei hun.

Arwel Emlyn Jones
9 pwynt

Englyn Cywaith: Coel

Nid oes modd dadansoddi - swyn ei llais,
Na'i llun, na lleoli
Daliad nad yw'n bodoli
Ond mae hon yn bod i mi
Richard Parry Jones
9 pwynt

Telyneg: Ymatel

Dwi'n gweld y newynog
Dwi'n clywed eu cri
Ond nid ydynt ddim
I'w wneud efo fi.

Dwi'n gweld y diniwed
Mor ofnus eu cri
Ond nid ydynt ddim
I'w wneud efo fi.

Dwi'n gweld y gormeswr
Ym mraster ei fri
Ond nid ydyw ddim
I'w wneud efo fi.

Dwi'n clywed griddfannau
Y byd dan ei bla
A dwndwr mudandod
Y mwyafrif da.

Rhian Williams
8 pwynt

Telyneg: Ymatal

[Ar draeth Aberdesach, yng ngolwg chwarel Yr Eifl, lle cafodd fy nhaid ei brentisio.]

Mae 'na bedwar bilidowcar
Yn fy ngwylio yn y bae
Ac mae haid o fôrwenoliaid
Ar y traeth yn bygwth ffrae:
Pwy 'dw i i ddrysu'r graean
Ac i adael ôl fy nhroed
Lle bu ceidwaid balch Maen Dylan
Yno'n cadw tyˆ erioed?

Dw'inna isio torri' f'enw
Rhwng y cregyn; dw'isio bod
Ar y graig hyd dragwyddoldeb,
Fel bydd plant yn gallu dod
Yma, ymhen cenedlaethau
A dweud "Sbïwch! Sbïwch hon -
'Da ni'n perthyn 'nôl mewn hanes!"

Fel dwi'n perthyn, don wrth don,
I bob gronyn ar y draethell,
I bob atgof sy'n y lli...
Pa raid naddu'r un llythyren?
Y mae fan'ma ynof fi.

I fynd gyda'r gerdd, bydd gennyf luniau o Faen Dylan, lle mae'r enw wedi'i grafu'n fawr ac amlwg ar y graig.

Siân Owen
9 ½ pwynt

Englyn ar y pryd: Penblwydd S4C yn bump ar hugain oed

Daeth i wlad ei theledu; nid ar ddim,
Ond ar ddyn yn mynnu:
Arwyr sy'n creu pob 'fory,
Eu creu â safiadau 'cry.

Ceri Haf
8 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 76

Englyn ar y pryd: Penblwydd S4C yn bump ar hugain oed:

(o glywed am ragolygon y dyfodol)

Er rhoi'r fwydlen raglenni - ar y ford
Heb fawr o faeth ynddi.
Atgryfhau wna'n "hogiau ni"
O grafu'r ddysgyl grefi.

Richard Parry Jones
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 78 ½

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Parti'

Mi gredaf na fyddaf i
yn bert mewn unrhyw barti.

Artaith yw mynd i'w barti,
a Chlaude ddim yn 'nabod ni.

Artaith yw mynd i barti
a neb yn ein nabod ni.

Pennill Ymson mewn maes parcio:

Mae'r ci yn y cefn yn glafoerio
Yn gorwedd yn llipa ei fyd,
Cyn gadael y car mewn maes parcio
Agorai'r ffenestri i gyd.
'Rwy'n mynd wysg fy nghefn oddiwrtho
Yn dweud aros, aros wnei di
A dyma rhyw ddyn yn fy ateb
'Rhoi'r hand-brêc ymlaen fydda i.

Englyn yn cynnwys y geiriau: "Fo" a "Hi"

Ni wêl ond ei hanwylyd - fo a'i ddwrn,
a fu ddoe mor waedlyd,
ymaith y dyliai symud,
y mae hi yma o hyd.

Ni allai byth ei golli - a fagodd
y cenfigen ynddi,
ei harddwch sy'n ei chorddi
am mai "fo" sydd hefo "hi".

Englyn Cywaith: Coel

Er i Dduw roddi i ddyn - arwyddion
digon rhwydd i'w dilyn
er mwyn cyd-gerdded wedyn,
af o hyd fy ffordd fy hun.

Ger hen Aber pob gwybod - a'r Grym Mawr
ger y Môr Diddarfod,
y mae yn nyfnder fy mod
afon sy'n mynd a dyfod.

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Parti'

Cynan mewn parti c'wennod
A wnaeth i mi deimlo yn od

Pennill Ymson mewn maes parcio

Hawdd yw cyrraedd G?yl y Faenol
Mae'r trefniadau yn rhagorol
Ond ar ôl y nodyn olaf
Nid ei adref ond yn araf

Englyn yn cynnwys y geiriau 'Fo' a 'Hi'

I'r postmon hon ydyw "hi" - yna "fo"
Ddaw 'nôl gan fam Wali
Gwirion hwyl ein gwerin ni,
Hen siarad i'w drysori.

Limrig yn ymwneud â Chywilydd

Bicini rhy wan oedd gan Nesta
Pan blymiodd yn flêr i'r pen dyfna
"Hei musus", medd Harri
"Os da chi am eu boddi
Gai'r ci bach trwyn pinc i fynd adra?"

Wrth blygu achosodd gythrwbl
Dihangodd un swnllyd, un ddwbl,
Er i'r ci gael ei feio
Fe wyddai pawb yno
Nad Carlo oedd achos y trwbl

"Rwyf ella'n reolwr di-g'wilydd"
Medd Toshack, "O'ch gweld chi mor llonydd
A byth ar y go
I'ch cadw mewn co
Rwyf nawr wedi llogi cerflunydd

Mae 'nifal yn hollol heb g'wilydd
Yn union 'run fath â chynghorydd
Ond pen-draw yr esblygiad
Di-dostur, di-deimlad
A hollol ddi-ena'd yw'r gwleidydd

Mae'n arfer ar deithiau hel diod
Bedyddio y bws, er gollyngdod,
Diferyn i'r olwyn
A rownd y cefn wedyn -
Ond mae trochi'r ffenestri yn ormod!

Englyn Cywaith: Coel

Yn nydd yr estroneiddio - ei gadw
I gyd, a'i drosglwyddo
Yn drysor, gwerth ei storio,
I'r to iau, wna cistiau'r co'.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.