Ysgol Dyffryn Conwy vs Llanrug.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.
Ysgol Dyffryn Conwy

Llanrug

Cwpled Caeth yn cynnwys yr enw 'Planed'
Nid oes ond gwae i'r ddaear
Cans cethin yw'r werin wâr.
Andrea Parry
7 ½ pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys enw Planed
Un garreg o law'r gwirion,
all ysgwyd Byd yn y bôn.
Richard Lloyd Jones
9 pwynt
Pennill Mawl/Dychan: Sêr o Fri
Mae'r Beirdd ar y Talwrn yn gampus
Am lunio rhyw bill reit hudolus
Wrth ifanc a hen
Mae pawb o mor glên
Yn dweud y celwyddau mor grefftus.
Ifor Glyn
8 pwynt
Pennill Mawl/Dychan : Sêr o Fri
Moesau llac a glendid slebog
yw rhinweddau y rhai enwog;
rhemp heb gamp nac egwyddorion:
seren wib a seren gynffon.
Dafydd Whiteside
8 pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau: 'Pa bryd'
Bleddyn drwy'r dydd yn bloeddio - ar ei was
Pa bryd nei di gallio
A'r trêlar a fu'n cario
Y grawn dros ddibyn y gro.
Andrea Parry
8 pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau : 'Pa bryd'.
Heb yr iard, pwy ?yr pa bryd - aiff yr iaith
yn ffrwd ddi-ddychwelyd,
a'i llif o'r pentref hefyd?
Nid yw bai yn newid byd.
Richard Lloyd Jones
8 pwynt
Limrig yn ymwneud â phrotestio:
Aeth Ifan ar brotest i Lundan
Gyda gwn a helgi a chwadan
Fe welodd y cwin
A saethodd ei thin
Diflannodd cyn sylwodd y plisman.
Ifor Glyn
8 pwynt
Limerig yn ymwneud â phrotestio
Mae pob fan lawr fy nreif i yn powlio.
Rhai mawr, mwy na thanciau yn rowlio.
Pam ddiawch na chânt grap
Ar ddarllen rôd-map,
Yn lle disgyn i drap lloer- gyfeirio!
Dafydd Whiteside
8 ½ pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Uchelgais
Yn ei wyll o, aiff gwr llwyd,
i wireddu ei freuddwyd.
A'i acordion i Iona,
yn ei hwyl ar ddydd o ha'
O Appin draw i Keppoch,
suo can wna'r bocsus coch.
Heibio i Loch Aber
a'i bagiau pib seiniau per.
Herio'r don ger Morar deg
a hwylio draw o Malaig.
I Morag gynt, morio can,
a'i ogwydd am Dunvegan.
Hywel Williams
8 pwynt
Cywydd(Heb fod dros 12 llinell):
Uchelgais
( er cof am Gwyn Davies, Waunfawr)
Ar y foel oer fe welodd
yno faes oedd wrth ei fodd,
a'r rhai is gâi arddio'r brig.
Uwch y Waun mewn rhych unig
eginodd y rhai gwannaf
yn erw o wres blodau'r haf.
Yntau, arddwr yr Antur
ddyddiau'i oes feithrinodd ddur
yma ym mhridd ei Gymru wen,
yn y tir hwnt i weiren
Richard Lloyd Jones
9 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Camddarlleniad
Mor hawdd gneud camgymeriad,
Fe wnawn o dro i dro,
Yn nhwyni tywod Llanddwyn
Nes i un mawr, o do!
Llyfr llwybra Carreg Gwalch,
Ar hwnnw rois y bai,
"Nature walk" ges i a'r hogs
Ar fore braf o Fai.
Tywynnai'r haul o'r nen,
Cawn weld pob peth yn glir.
Bydd natur ar ei orau,
Ond nath o'm para'n hir!
Rhyw ddynes borcan binc,
Un digon plaen a wrincli,
Ddaeth lawr o'r twyni tywod-
Gan sbïo arnai'n "kinky".
"Di'r 'Nature Walk' ffordd hyn?"
Gofynnais i'r hen sglyf,
Edrychodd arnai'n stiwpid,
"We're Naturists, my love."
Gwyn Hughes Roberts
8 pwynt
Cân((Heb fod dros 20 llinell):
Y Camddarlleniad
Daeth y rhestr drwy'r post, rhyw ddiwrnod, yn hwyr
A finna 'di colli fy sbectol;
Aeth yn gythgam o dasg i ddarllen pob tasg,
I'm cyd-feirdd ar y tîm, i'r Meuryn, a chi
Roedd hi'n dipyn o daith i gyrraedd mewn pryd
Ac i dîm Dyffryn Gwy yn enwedig.
Roedd y cwpled caeth cynta' yn edrych fel 'planed';
Wel siawns mai llyfnhau oedd yr ystyr,
A'r pennill mawr bychan yn 'Sêl i dri';
Chwi gytunwch dwi'n siwr, na wna synnwyr.
Ac aeth pethau go ddrwg gyda'r englyn 'Pâb rhydd',
A'r limrig - heb destun - yn proestio;
Di-chwaeth oedd y cywydd am ddeuddeg uwch pais,
A 'dyw llinell am bry byth yn taro.
Ond roedd tasg wyth a naw tu hwnt i du hwnt,
Sef weiren yn plethu'n delyneg;
Ac am lwyddo i orffen y tasgau mewn pryd,
Rwy'n siwr 'mod i'n haeddu rhyw bymtheg.
Dafydd Whiteside
8 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Fy iaith yw fy nghyfoeth i
Ella na wnaf ei cholli
Ateb llinell ar y pryd:
Fy iaith yw fy nghyfoeth i
Awdl ydyw drwy dlodi.
1 pwynt
Englyn cywaith: Seiren (wrth wylio rhaglen am yr ail ryfel byd)
Udo ei llef dolefus - ddaw a gwae
ddoe i gof enbydus,
yn wasaidd i flaidd a'i flys
i rwygo bywyd bregus.
Hywel Williams
8 pwynt
Englyn Cywaith
Seiren
Utgorn i'r meddwon atgas-yn y strach
ar stryd hwyr y ddinas.
Hudo criw wna'r nodau cras,
i weiddi ar yr heddwas.
Richard Lloyd Jones
7 ½ pwynt
Telyneg: Perthyn:
Haen o gen ar hen lechen,
Erys oes o lwydni
Yn naddiad
Ei hysgrifen,
Sy'n braenu'n aneglur,
Yn graith
Agored i'r gorffennol.
Moelni'r fangre-
Lleisiau'n galw ar yr awel,
Cri'r wylan yn tarfu
Ar fyfyrdod dyn.
Byseddu'r llythrennau.
Siaradai'r cyffyrddiad
Drwy'r agendor
Sydd rhyngom.
Hen daid, hen nain,
Nas gwelais,
Ffrwyth dychymyg heb lun
I borthi'r cof.
Mae'r deigryn
Sy'n tywyllu'r garreg
Yn dyst ein bod yn
Perthyn.
Gwyn Hughes Roberts
9 pwynt
Telyneg
Perthyn
Y gwir er eu holl gariad
yw mai dau , nid mam a dad
gyfranodd i'r gyfrinach
eiddo'i bwy oedd eu 'rhodd bach'.
G?yr un am y gwirionedd
yn ddi-boen yn hedd ei bedd.
Y mae maen rhy drwm i mi
ei symud yn fy siomi.
Richard Lloyd Jones
9 pwynt
Englyn ar y pryd: Rhif Pin:
Rhy'n ddigynnen mewn ennyd - ei ased
I hwyluso bywyd.
Yn y rhif mae aur hefyd
A bom a ddinistria byd.
Andrea Parry
8 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 72 ½
Englyn ar y pryd: Rhif pin
Rhywfodd wrth i'n bwyso'i rifau - daw'r bys da'r byd i'n drysau.Eto hwn sy'n caniatauDyma y lladrad enwau.Dafydd Williams
8 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 76
Cynigion ychwanegol:
Englyn yn cynnwys y geiriau: 'Pa bryd'
Bleddyn o hyn yn bloeddio - ar ei was
Pa bryd nei di gallio?
Taranai'r sen drwy'r henfro
A rhegi hallt ?r o'i go.
Limrig yn ymwneud â phrotestio:
Lloegr landeg ydi'r tîm i ni,
Stwffio'r Sbringbocks digon si?r i chi,
'Di hyn ddim yn ffêr,
"He was in over there!"
Blydi llyffant dall 'di'r reffari!
Wills a Harri Bach
(Darpar brunsus of Wêls sin wêting!)
Wir Dduw, nes i'm mwy na twenti-êt
Naddo wir - 'rwyn gyrru'n sidêt.
O'n i'n gneud fforti wan!
Mae'r mashin 'na yn 'rong!
Mi welai chi'n cwrt - chi a'ch mêt/
Richard Brunstrom - Yn Lerpwl
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Camddarlleniad
Mae cyfarfod gennyf heddiw yng ngwesty'r T?'n y Coed
A minnau'n codi bore heb awydd cadw'r oed
Meddyliwch am Swyddogion yn malu trwy y Dydd
A minnau'n brysur odiaeth yn ceisio cadw'n rhydd
O argymhellion diflas maith
Sy'n tynnu sylw oddiar fy ngwaith.
Bydd Iechyd a Diogelwch yn codi i frig y sgwrs
A gwarchod plant rhag niwed ar flaen pob dim wrth gwrs
Rhaid casglu ystadegau ar faint o fwlio fu
Cymharu gydag eraill i weld ai gwyn ai du
Yw Ysgol Dyffryn Conwy fwyn
Neu griw y Berwyn glân eu crwyn.
Gwleidyddion am wneud stocan yn gwthio hyn a'r llall
Gan nodi y dylai ysgolion addysgu'n ddi-ball
Am bopeth nad oes arall i geisio nodi'r drefn
A dysgu i'enctid Cymru i fagu asgwrn cefn
A throi oddi wrth gamweddau lu
Sy'n llenwi ein cymdeithas ni.
Ond wedi cyrraedd 'Tini' a chwennych llwnc a hoe
Mor braf oedd sylweddoli i'r c'warfod ddigwydd ddoe.
Nodyn; 'Tini' - Y mae ymwelwyr penwythnosau cyson o Loegr
sy'n mwynhau cerdded a dringo yn Eryri yn galw'r gwesty
sydd gyda'r goets fawr yn y maes parcio.
Telyneg: Perthyn:
Bore
A'r haul yn tywynnu ar Bedol yr Wyddfa
Mwynhau golygfa Calendr a Cherdyn Post
Crwydro heibio tawelddwr Llynnoedd Mymbyr
A heddwch 'Prynais Fynydd'.
P'nawn
Tros Bont y Gwyddel at surni mwg y trên
A thalp o hanes y chwareli-
At brifddinas Eryri a Chymru gyda'r
Co' Bach yn melysu'r clyw ar Stryd Llyn.
Heno
Ar hyd y Foryd a'r Fenai'n dwyllodrus lithro
I'w chorlan feunyddiol yn y môr berw
A'i gadael hyd at borthladd Madog
A'r ceudwll ar Lechwedd y Moelwyn.
Wrth glwydo
Ystyriaf y gwaed sy'n pwmpio drwof
Y graig a'r caledi sy'n rhan ohonof
Y clydwch a'r gofal sy'n gafael ynof
Y bodlonrwydd a'r tynerwch sy'n rhedeg trosof.
Dyma fy man!
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys enw Planed
Tybed un dydd, fydd na fws
o Wynedd i Iwranws?
Ar y Sul dewch draw i'r sêr,
Gwennol i Tesgo Gwener.
Tasg 9 : Telyneg
Perthyn
Ar y traeth rwyf ond tywodyn,
Yn y goedwig dim ond brigyn.
Yn dy gwmni caf fy nerbyn,
Drwy dy gariad rwyf yn rhywun.
Ti yw'r llanw fodda'r galon
Ti yw'r gwynt a'i fwyn alawon.
Ti yr un o hyd yn gyson,
Ti yn gefn ym mhob pryderon.
Yn y dydd, ti sych fy nagrau
Yn y cyfnos, tynn dy freichiau.
Yn y nos fe ddaw dy wenau
Daw y wawr a thi 'di maddau.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

