Crannog vs Tir Mawr.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd derfynol o'r Talwrn.

Crannog

Crannog

Tir Mawr

Tir Mawr

Cwpled Caeth yn cynnwys 'Cadw'

Diwerth yw rhethreg segur,
Ar y maes mae cadw'r mur.

Owen James
8 ½ pwynt

Cwpled caeth: yn cynnwys y gair 'cadw'.

Tra'n cadw'i fast ar gastell,
Nid yw math Edward ymhell.

Huw Erith
9 pwynt

Pennill Dychan: Rhagfarn Oed

O'r holl bapurach sy'n ennill swyddi
Y pwysicaf yn awr yw'r distysgrif geni.

Owen James
9 pwynt

Pennill Dychan: Rhagfarn Oed

Pan ddêl eu hamser, yna rhaid
Eu gwahardd rhag ymryson
A hel y rhai sy'n oedran taid
I fod yn archdderwyddon.

Myrddin ap Dafydd
9 pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau: 'Dim Ond'

Y mae mwy na modrwyau - yn unig
I uniad calonnau,
Nid emrallt yw deall dau,
Nid dim ond diamwntiau.

Idris Reynolds
9 ½ pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau 'dim ond'.

Pan fo'r haf dan li'r afon, llawenydd
Dan y llynnoedd duon;
A'n deil rhag ymchwydd y don? -
Dim ond enaid mewn dynion.

Gareth Williams
10 pwynt

Pennill Ymson: Mewn Angladd

Y fi yw'r ymgymerwr
A'r undertaker, too,
A fi sy' bia'r emyn
'I mewn i'r arch a nhw'.

Idris Reynolds
9 ½ pwynt

Pennill Ymson mewn angladd.

C'nebrwng William Abersoch
Mae gen i briodas wedyn
F.A.Cup am dri o'r gloch
Mi gladdai hwn reit sydyn.

Gareth Jones
9 pwynt

Limrig: Maes yr Eisteddfod

(Cwyn ein Tywysog yn Eisteddfod Genedlaethol Mwnt)

Ar Faes yr Eisteddfod yn Mynt
Fe brofais i Welshnashi stynt:
Boi yn gwisgo crys-T
Ar y cefn llun myfi,
A 'Twll Ich Dien Chi' ar y ffrynt.

Dewi Pws Morris
8 ½ pwynt

Limrig: Maes yr Eisteddfod

Daeth byddin yr U.S. of A
ar y cyd efo Heddlu y De
R'ol cyrch pedair blynedd
i arestio yr orsedd
a'u hel i Gwatanamo Be

Gareth Jones
9 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Enwogrwydd

Clywsoch sôn am Shambo'n siwr -
Yr eidion ga'dd waredwr
Yn llys rhyw gyfreithiwr llwyd.
Oherwydd fe ohiriwyd
Arno'r dynged gyffredin
A ddaw ar dda'r hen bla blin.

Ac fe wylai rhai yn rhwydd
Niagra dros enwogrwydd
Rhyw lo aur o liw arall,
A'r sgrin yn addoli'n ddall.
A nawr fe aeth ef ar fâch
Y nacer yn enwocach.

Dic Jones
9 ½ Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Enwogrwydd.

(R.S. y bardd)

Rhwng y lli a'r llwyni llus,
gardd gudd nid gardd gyhoeddus
fynasai o, llwyfan swil
i'r gân o'i ddaear gynnil.

Ond dôi at giât ei awen
griw llym am agor y llen:
y mae rhwyd mewn camerâu,
dau wn mewn rhai cwestiynau.

Troeai o'r tir tua'r ty,
glaw Neigwl yn ei wgu;
uwchlaw'r traeth ni chlywai'r trwch
o Lyn waedd am lonyddwch.

Gareth Williams
9 ½ pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Mae'r Babell Lên eleni
Yn ei hwyl arferol hi.

1 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Mae'r Babell Lên eleni
Yn dal Dic yn dy law di.

Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Ymddiheuriad

A fi ar wely ange, yn gadel y byd ar ôl,
Mae'n bryd i mi gyfadde am fy holl bechode ffol:
I Mam, yn gynta, druan, am newid ei byd yn llwyr,
Wy'n ymddiheuro ganwaith am fod dri mis yn hwyr;
I Dad, am fadde imi, ac am beidio a 'nghosbi, 'ed,
Pan nes i'r cemistri 'speriment, a hwthu lan ei sied;
Am shafo Tedi Ber fy chwaer, a'i foddi yn y llyn;
Am beintio car y Ficer yn goch, a glas a gwyn;
Dwgyd brassiere Mrs Davies yn gynnar un bore o haf,
A'i ddefnyddio i hedfan yr hamstyr - jawl odd e'n gatapwlt braf;
A busnes pen-ol y gath fawr dew odd yn byw yn 6 New Road,
A'r mwstard roies i arni - na'r ffasta iddi symud eriod!
I Dilys, fy ngwraig gynta, wy'n ymddiheuro'n daer
Am yr episode od gydag Anti Blod, a'r baby oil, a'i chwaer;
Wy'n sori am sbaddu Pero'r ci, odd yn gas, a thew ac afiach,
Ma nhw'n gweud, ar ol iddo gael y snip, fod fe'n edrych lot yn sgafnach.
Ond ma'r syrjeri'n ffonio ddwy funud yn ol -
Odd diagnosis y Doc yn rong,
A 'wy 'di newid fy meddwl - nes i byth greu trwbwl
So wy'n canslo pob sori - so long!

Dewi Pws Morris
9 pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell): 'Yr Ymddiheuriad'

Yr oll a oedd gennyf i'w wneud
oedd cân ugain llinell i'r Meuryn.
Ni wn i yn iawn sut mae dweud,
ond sori dwi ddim wedi gwneud un

Gareth Jones
9 ½ pwynt

Englyn Cywaith: Efeilliaid

Ar funud fud, y llef fain - a glywant,
Hwnt i glyw, yn atsain
Yn y sêr ar donfedd sain
Sy'n h?n na'r synau'u hunain.

Dic Jones
10 pwynt

Englyn Cywaith: 'Efeilliaid'

Hunodd y naill ohonyn' - er hynny
Gall rhieni'r bechgyn
Yn rhwydd, afrwydd bob blwyddyn
Ffeindio dau yn ffunud un.

Myrddin ap Dafydd
9 ½ pwynt

Telyneg: Anrheg

A'r byd yn troi yn araf
Ar filltir dipyn llai,
Roedd cadw uwch y dyfroedd
Yn anodd iawn i rai,
Ond roedd o hyd mewn dyddiau llwm
Hen ddwylo hael o gylch y cwm.

Ar hyd ein cymoedd heddiw,
A'r byd yn troi mor glou,
Does fawr o neb yn hidio
Am bris y llaeth a'r lloi,
Ac os oes angen cymorth mwy
Rhaid chwilio'n galed hyd y plwy.

Hywel Rees
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 83 ½

Telyneg: Anrheg.

Pan ddown at fforch, ti'n mynd dy ffordd dy hun,
Sgrin dy helmed yn rhoi iti lygaid dyn.

Clec yn dy feic a'r cwmwl o'th ôl yn glir
A'r lôn yn dal gorwelion hyn y tir.

Mae'n chwithig braidd wrth roi dieithrwch i ti
Yn rhodd ar ddwy olwyn; pellter rhyngot a ni

I ddathlu dy ben-blwydd; testun hel
Gofidiau mewn mwg wedi'i lapio'n ddel.

Ond cyn diflannu gyda'r lôn, ti'n troi,
Codi llaw: dwi'n llawn o'r hyn wnest tithau'i roi.

Myrddin ap Dafydd
10 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 84 ½

Cynigion Ychwanegol:

Cwpled Caeth yn cynnwys 'Cadw'

Pan ddaw'r lleng, nid diengyd
A wna'r rhai sy'n cadw'r rhyd.

Os bydd gen ti bres dros ben
Dod e' i gadw'n dy goden.

Heb gi, na shetin, na sied,
Ofer yw cadw defed.

Pennill Dychan: Rhagfarn Oed

Yn y stiwdio anodd gwadu
Nad yw cam'ra'n gwahaniaethu,
Ond ym myd cyfartal radio
Nid yw wyneb yn heneiddio.

Ar flaenoriaethau'r teli
Mae nhw'n rhoi yn uwch
Y cyw o flaen y ceiliog
A'r llo o flaen y fuwch..

Wrth son am ragfarn henoed,
Bu neb fel Anti Jen,
Ond pasiwch heibio i honno
Waith uffern, roedd yn hen.

Englyn yn cynnwys y geiriau: 'Dim Ond'

Lliwiau gardd, a lle i gerdded - â'u tai,
Dim ond d?r sy'i weled,
Llawer ofn sy' man lle rhed
Afon heb dd?r i yfed.

Pennill Ymson: Mewn Angladd

Am fod dannedd siarc mor finiog
Fe all roi lot o los,
A dyna pham ry'n ni yma
Yn claddu dim ond cos.

I'r actor talwn deyrnged,
Dros ei enaid nawr rhown weddi,
Buodd wastad dwtsh yn brennaidd -
Ond byth mor stiff a heddi.

Gyrrwr penboeth, cyflym ydoedd
Bob amser yn rhy glou,
A'r undertaker heddi'n
Claddu'r overtaker ddoe.

Bob nos wrth far y Lion
Fe yfai hwn fel ych,
Mae syched arno eto,
A'r afon bron yn sych;
Ac yna ymhen tipyn
Fe fydd e, maes o law,
Yn chwilio am y toiled
Cyn cyrraedd ochor draw

Limrig: Maes yr Eisteddfod

Aeth stricar i'r Maes brynhawn Iau
I gyngerdd Cor Merched Trelai,
Gwenodd ledi fach fain
O'dd yn ishte'n y blaen,
'Mae e fel un y gwr - ond yn llai'.

Mae yna o hyd ryw ryfeddod
A Chymry ynghyd mewn eisteddfod,
Abergwaun gafodd hwch,
Aberteifi y llwch,
A'r Wyddgrug? Rhy fuan i wybod.

Englyn Cywaith: Efeilliaid

Dau gnawd rhyw raid genynnol, - dau a wnaed
O un hedyn dethol,
Dau'n un a dau'n wahanol
Yn rhannu cwtsh yr un côl.

I wanwyn eu genynnau - â'r esgor
O wysg praidd yr oesau,
A dwy deth y daw hithau
'Mhen dim i'w clymu nhw'u dau.

Telyneg: Anrheg

Ar ôl i bawb ddod ato
Yn ward y cleifion bach,
Roedd un gan Santa'r llynedd
Yn weddill yn ei sach.

Ond wedi i'r We wasgaru
Apel ar draws y byd,
Ar ?yl San Steffan 'leni
'Roen nhw wedi mynd i gyd.

Gadawodd hi, y teirblwydd oed,
Wrth erchwyn lan y staer,
Un tusw bach o flodau'r ardd
Wrth ddisgwyl brawd neu chwaer.

Mor hir fu'r aros wedi hyn
Nes collodd peth o'r blas,
A siomwyd hithau pan fu rhaid
I daflu'r anrheg mas.

Fe'i dryswyd wedyn un prynhawn,
Wrth weld drwy gil y drws
Yng ngolau gwan y parlwr ffrynt,
Un dorch o flodau tlws.

Cynigion Ychwanegol:

Cwpled caeth: yn cynnwys y gair 'cadw'.

Un sâl, a'r glaw ar silwair
Yw Duw nad yw'n cadw'i air!

I un gwan ddydd gwaith a gwyl
Ei arch sy'n cadw gorchwyl.

Cadw'r gau rhag hau o hyd vO winllau y gwenwynllyd

"Cadw mi gei" fy meiau
Y mae o hyd yn trymhau.

Hanes ein gwlad, medd Cadw
Yw lle neis i'w cestyll nhw.

Pennill Dychan: Rhagfarn Oed

Y Cyfarwyddwr:

Yn wir,nid gwahaniaethu
ar sail eich oed yr ydw i
Rwy'n sori, Gwen,
ond dyn bach pren
tua wan ffwt ten oedd Nodi

Yn saith deg mlwydd oed yr oedd Dan
yn chwara'n y gol i Milan
Y clwb aeth ar frys
a'i herio'n y llys
pan gollo' nhw eti ffor wan

A'r 'Dolig yn dynesu
rhyw air bach i'ch hysbysu
fod Anti Jane
rom,bach yn hen
i actio'r baban Iesu

I fynnu ei hawliau aeth Gwenno
Cychwynodd am Ryl i brotestio
Cyn cyrraedd Llanbabo
roedd wedi anghofio
ble'r oedd hi a pham oedd hi yno

Mae'r hyn 'da chi'n ddweud yn bur gywir
Mi rydan ni angen dyfarnwyr
Ond chwara' teg,Alwyn
mae'ch car bach tair olwyn
yn beryg o frifo'r chwareuwyr

Dim profiad - dim gwaith
Gormod ohono dim gwaith chwaith.

Er mwyn gwneud pethau'n gywir
Fe benderfynodd Gwil
Gyflogi un croes rywiol
Croen tywyll o Brasil
A rhagofn y cyflogwr clen
A wnaeth yn siwr ei fod o'n hen

Ond och a gwae a gafwyd
A chwyno o sawl tu
Ac fe ddaeth un i'r ffatri
I gega, meddai'n hy
"Nid ydyw'r ddeddf yn caniatau
I roi yr hen o flaen yr iau.

Englyn yn cynnwys y geiriau 'dim ond'.

Dim ond porffor y gorwel, - a cherddi
chwarddwr y cwm tawel,
a nos; y bryniau isel
yw sennau du Passchendaele

Pennill Ymson mewn angladd.

Mae'n llawer rhy hwyr am wn i
Difaru yn awr yr wyf i
Na ddwedais wrth Brynle
pan gefais i'r cyfle
fod arna fo ddegpunt i mi

Dyn Tywydd oeddet,Albi
Bygythiaist sawl Swnami
Ni ddaeth Monswn
na'r un deiffwn
wel gwynt teg ar dy ol di

Y mae'n achlysur digon trist
Ond wir mi 'dwi yn hwyliog,
Cans nid pob dydd daw'r cyfle i ddyn
I gladdu cewri Crannog.

Rhown arnynyt garreg anferth
Ymysg y pridd a'r baw
Pwys arni Mistar Meuryn.
Ychi di dyn y rhaw.

Bu ddigon hir yn dwad
Y dydd rhoi llwch i'r llwch
Fy nrysu ges i droeon
Wrth geisio' i roi mewn blwch.

Mi ges i y cytundeb
I'w gladdu ddiwedd Mai
Ond ddaru o ddim marw
Fel yr addawodd rhai.

Ymhen pythefnos arall
Ei ddyddiau oedd ar ben
Ond daeth o'r fagl eto
Nid aeth tu hwnt i'r llen.

Y barnwyr roes eu dedfyryd
A hwy a Duw a'i myn
Fe'i cleddais yng Ngorffennaf
Mewn amdo lliain gwyn.

A heddiw caeth ei haeddiant
Ar ôl post mortem hir,
Mae shambo wedi ei gladdu
Tro yma, dyna'r gwir.

Mae'r amlosgfa'n rhuo'n awr
I gael gwell fflam i'r ddynes;
Ar y drws mewn sgwennu mawr
Mae'r rhybudd: 'Croeso Cynnes'.

Limrig: Maes yr Eisteddfod

Roedd Llio ger tent Stiwdio Sain
a'r orsedd ddaeth heibio fel chwain
O'i gweld yn chwrlio
wel dyma hi'n cofio
fod ganddi hi ddillad ar lein

Yng nghanol y rhodres a'r dwndwr
fe chwysai ei wraig gerbron 'Glyndwr'
yn crefu mewn padar
na chawsai o'r gadar
Mae'n clasho 'fo'r carpad sy'n parlwr

Difethais i par da o sgidia'
yn crwydro o cwmpas am dyddia'
ac oria' wnes treulio
yn holi a chwilio
am tent oedd yn gwerthu treigliada'

R'ol degawd fe fagodd o'r plwc
i fynd efo'i otograff bwc
ond hyd yn oed wedyn
ei fab fu raid gofyn
am lofnod gan Betsi Clwc Clwc

Yr Urdd a Chynulliad y De
Llond tenti o bobl gwneud te
Pafiliwn,pagoda
a thent gelfyddyda
o'r Arglwydd tyrd o'na Awê!

Ddydd Llun yr eisteddfod eleni
eisteddodd i gael ei choroni
Bu rhaid mofyn shifftar
a llifio drwy'r gadar
er mwyn cael Gwenhwyfar ohoni

Cân(heb fod dros 20 llinell): 'Yr Ymddiheuriad'

Helo deulu bach ! Yn fyw ac yn iach fe ddaethoch yn ol o Gorff?.
Bu mymryn o helbul. Gor-fwydais y Jyrbil.Pan farwodd roedd fel cangar?.
Oedd unrhywbeth arall? o,ia'r ddiadall-mae nawr hyd Feirionnydd yn pori
a'r cwblo'r ieir wedi'w taro gan geir, heblaw am yr un oedd yn gori.
Hen gythraul o gadno, y fo gafodd honno,y noson yr aeth o a'r twrcwn
Fe driais ei saethu ond ces yr hwch fagu.Mae'r ffrij dan ei sang efo bacwn
Wrth farbio i chi fe bladurais y ci ac fe waedodd nes oedd o yn wan
Fe aeth,cyn ei amsar,wrth fynd at y ffariar,pan gefais i glawdd efo'ch fan.
Anghofiais bob dim am 'r'hen Bero a Jim ym monat yr hen Hillman Imp
tan ges i f'atgoffa pan glywais i'r ogla-ond roeddynt yn gelain a chrimp
A oes yna fwy? ? oes! ogla nwy! gefn nos pan oedd pobman yn ddu
Eich semi detatched sydd yn awr yn de-hatched a bynglo sydd gennych,nid t?
Gwneud rhywbeth y byddwn! a wir yr, pe medrwn fe hoffwn droi'r clociau yn ol
ond rhywrai yn rwla sydd gyda llond Sherpa-cloc mawr a'r cloc larwm and ôl
Mae'r aga 'di torri.Rwy'n andros o sori,ni wn i yn iawn sut i ddweud.
Mi drwsiaf 'Y Pant'.Gwarchodaf y plant...ond gofyn sydd raid i chi 'neud.

Englyn Cywaith: 'Efeilliaid'

Yn eu dwr dallt dieiriau - a rannent
Cyfrinach goslefau,
Yna eu rhoi dan yr iau
I'w hunioni fel ninnau.

Telyneg: Anrheg.

Yn Soar mewn cyflwyniad
Wedi'r bugeilio maith,
Mawrygwyd'rhen weinidog
Am ofal mawr ei waith.

Hir iawn fu'r holl deyrngedau
Ar draul blynyddoedd chwim,
A'i braidd yn rhannu'r bara
Er iddo fyw ar ddim.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.