Manion o'r Mynydd vs Tir Mawr.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyn-derfynol o'r Talwrn.

Manion o'r Mynydd

Manion o'r Mynydd

Tir Mawr

Tir Mawr

Englyn yn enwi brîd o warthog

Neges ar y peiriant ffôn o'r Sioe Fawr

Mae hi'n bwrw fel cwrw o'r can - a dwisio
Cael 'dosh', JERSI Aran
A bwyd, plîs, rydwi'n FRISIAN:
Eira'r ferch, mewn carafán.

Cynan Jones
8 ½ pwynt

Englyn yn enwi brîd o wartheg:

Roedd Dai'n hegar am arian - yn dôsio'r
Dîsyl fesul cwpan;
Âi â llaeth rownd tai Bwlch-llan
O Ffair-rhos ar gefn Ffrisian.

Myrddin Ap Dafydd
8 ½ pwynt

Pennill Mawl/Dychan: Y Deyrnas Unedig

Pan fydd holl rymoedd mawr y byd
Wedi casglu eu harfau dieflig,
A'n chwythu bob blewyn yn llwch hyd y llawr;
Bryd hynny - mi fydd pawb yn unedig!

Phyllis Evans
8 ½ pwynt

Pennill Dychan: Y Deyrnas Unedig.

Ro'dd yr hipi sy' ffor'cw o Ealing
Wrth smocio rhyw sdwff mae o'n neud,
Yn rwdlan bod ni'n bobol unedig,
Yn Saesneg, siwr Dduw, roedd o'n deud.
Wrth feddwl, di'r boi ddim yn unig,
Dim ond ddoe roedd rhyw Bitar hen
Yn dyrnu am deyrnas rhyw undab
ar radio, ond ddim cweit mor glên.
Ma'n siwr bod y Pitar ma hefyd
Er'i oed o, yn smocio'r fall
Ac yn gweld rhyw ryfeddoda
Na ddeuai i feddwl neb call.

Gareth Williams
8 ½ pwynt

Cwpled Caeth ar yr odl 'el'

Bydd pob bwgan o'r anwel
Yn siwr o gyfarfod Swêl.

Cynan Jones
8 ½ pwynt

Cwpled caeth ar yr odl 'el'.

Drwy law gwenynen dawel
Caiff cwch y plwy' fwy o fel.

Huw Erith
9 pwynt

Limrig yn ymwneud â llifogydd

Pan lifodd yr afon tro dwytha
Mi gollais i Flymo a berfa,
Os cawn ni lif eto,
O Dduw, 'rwy'n gobeithio
Yr aiff o â dynes drws nesa'.

Edgar Parry Williams
9 ½ pwynt

Limrig: yn ymwneud â llifogydd.

Wil oedd pencampwr Rhyd Ddu
am 'sgota ag abwyd neu blu
ond heno, heb enwar
fe ddaliodd ei swpar
heb hyd'n'oed fynd allan o'r ty

Gareth Jones
9 ½ pwynt

Cywydd Serch heb bod dros 12 llinell

(Pan oedd Dafydd ac Alice Parry, Dinas Ddu, Nantmor, gynt, dros eu pedwar ugain, ac Alice mewn gwely ysbyty, yr oeddynt yn parhau i ddal dwylo fel cariadon)

Nid yw'r ward a'i hawyr drom
Am rynnu'r miri ynom,
Ti a'th ben ar obennydd
Mor wyn ar derfyn y dydd
Ag awr fy neffro'n dy gôl,
Dywysen briodasol.
Awel wawn y fedel ?d
Dan heulwen Awst, anwylyd,
Fuost ti i mi am oes,
Haf a hinon fy einioes,
Deil o hyd, o ddal dy law
Hen dân gwirioni deunaw.

Nia Watcyn Powell
10 pwynt

Cywydd Serch (heb fod dros 12 llinell):

I Rhian

'Leni mae'n ddeugain mlynedd,
Eto iau, gwniad dy wedd!
Dy wên yw gwres 'hen bennill',
Dy aeliau perl sy'n dal pill
O dir iach y mwynder rhydd,
Mêl yw'r gân ym Mhlu'r Gweunydd.
Rhimyn haul Dolwar mewn ha'
A hiraeth Nant yr Eira
Ynof wyt, fy niangfâu,
Y wên a wna blygeiniau.
Daw ias rhyw fyd ara deg
Yn oesau dy Bowyseg.

Gareth Williams
10 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Cyfweliad

'Roedd job'n y C'narfon an Denbi
Gan fod Duw am riteirio yn syth
"Vacancy" - 'Y Bod Tragwyddol'
Cyflog Twrna a phensiwn am byth".

Cefais ffurflen gais a manylion
"Rhaid cael barf , rhoir blaenoriaeth i sant;
Dim gwyliau na budd-dal salwch
Dim treuliau na thâl magu plant".

'Roedd tri ar y panel cyfweliad
Sef Moses, Alan Sugar a Duw,
'Roedd Alan a Duw yn reit bigog
A'r hen Foses yn drwm iawn 'i glyw.

Meddai Alan -"be wyddost am wyrthiau?"
"Gwenud rhai weithia'" me' fi "dal rhai'n ôl-
Stopio Lloegar rhag curo'n Mileniwm
A helpu Diego i gael gôl"

Ond ches i mo'r job yn y diwedd
Roedd hi'n ffics, a doedd petha'm yn ffêr,
Aeth boi di-waith 'mewn ar 'y 'nôl i
'Choelia'i byth, efo gwên 'Tony Blair'.

Cynan Jones
9 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Cyfweliad

"Yr ydych yn hwyr, Mistar Loss ! rwy'n aros amdanoch ers un!"
"Fe roeddwni yn helpu fy mos, a'n sydyn fe grogodd ei hun"
Mae'ch C.V fel dwy Faled Largo ...gofodwr!...gwyddonydd atomig!....?"
"Fe ddwedoch eich bod chi yn chwilio am berson a chanddo ddychymyg"
"Ni fuoch mewn joban eirioed na chawsoch eich herlid ohoni"
Yn hapus ac ysgafn fy nhroed, a hon fydd y drydedd eleni"
"A gawsoch chi unrhywbeth Iwan, i gofio, pan oeddech yn gadal ? "
Tua deg mil i fyny i rwan, yn gompo am 'unfair dismissal'"
"Petae'ch yn cael cynnig y swydd, pryd fyddai'n gyfleus i chi ddechra'?"
"Dim 'leni, rwy'n cael fy mhenblwydd. ...Beth am fis Mai flwyddyn nesa?"
"Beth fyddai'ch telerau chi, Ken ?" "Can mil efo bonws a gwylia"
"da chi'n trio gwneud hwyl ar fy mhen?" "Ydw...ond chi ddaru ddechra"
"Dyma eich cyfle chi, Sion, oes gennych chi gwestiwn i mi?"
"Y ddynes mewn llun ger y ffôn- ai allan o gragen ddaeth hi?"
"Rwy'n credu'r a'i allan am smocs, fe glywais i ddigon rwy'n credu
oes ganddoch chi ragor o jocs? neu unrhywbeth i'w ychwanegu?"
"Fy nhad ydyw Arglwydd Bryn Glas, a fo yw prif saer lodge Trehafod"
"Wel croeso mawr atom ni, wâs. Cei ddechrae pan fyddi di'n barod"

Gareth Jones
9 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

I gyrchu hedd diwedd dydd
Af innau i Eifionydd.

½ pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

O'r cwm a'i gyfyngder cudd
Af innau i Efionydd.
½ pwynt

Englyn Cywaith: Yr A55

I'n tir eithaf, nes yw trothwy - dianc,
A deuol yw'r tramwy,
Ond â'n holl wlad yn adwy
'Ry'm ni'n lannau Mersi mwy.

Nia Watcyn Powell
9 pwynt

Englyn Cywaith: Yr A55

Nid rhuban o lôn mohoni - nid ffrind
Dwy ffrwd heibio'n trefi;
Yn y dyrnu mynd arni
Mae cnul ein tarmacio ni..

Myrddin ap Dafydd
9 pwynt

Telyneg: Cymwynas

"Digwydd pasio"
meddai
"falla dy fod ti ishio r'wbath?"

Digwydd pasio?

'Roedd y gwrid yn ei lais
yn bradychu'r celwydd.

Ond yn nyddiau'r bylchu
â'r hwyr eto'n gwmwl terfynol,

Diolchais

Nid â gair ond â gwên.

Yna ,
trodd i adael,
braidd yn rhy sydyn
nes bod yr awel o glep y drws
yn symud peth ar y llenni,

A daeth un o belydrau disglair y
machlud i'r t?.

Cynan Jones

Telyneg: Cymwynas

Tyrd ar fy nghefn o ben y garreg farch
Rhag baeddu llaes dy wisg ym maw y llys;
Adroddaf wrth dy gario at y porth
Pam fod y rhes ffenestri'n pwyntio bys.
Cei glywed am y golau roes un gwawr
Ar waed y nos oedd ar fy nwylo i
A pham na haeddwn hyd yn oed o-bach
Yr ast a gollodd wres ei thorllwyth hi.
Tyrd ar fy nghefn - o'r garreg farch i'r porth,
Ysgafnach wyt ti dros y pymtheg cam
Na 'mhymtheg Calan Mai; tyrd ar fy nghefn
Cei dithau gario'r baich o fod yn fam.

Myddin Ap Dafydd
10 pwynt

Englyn ar y pryd: Dyddiadur

Y mae Manion pob munud - yn nofel
Fach breifat fy mywyd.
Penodau'r doeau diwyd
Yn ddim o bwys; 'dwyf ddim byd.

9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 82 ½

Englyn ar y pryd: Dyddiadur:

Llawer cofnod am waith, modur a'r ardd,
Llawer rhaid ar bapur,
Llawer peth sy'n bleser pur:
Ychydig o'r pechadur.

Myrddin ap Dafydd
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 83

Cynigion ychwanegol:

Cwpled Caeth ar yr odl 'el'

Chwerwder yw melyster mêl
Ar wefus hen g?n rhyfel.

Limrig yn ymwneud â llifogydd

Mae gwylio llifddyfroedd di-derfyn
A gwrando pistylloedd yn disgyn,
Ysywaeth yn siwr
O yrru hen ?r
Ar drot i wneud d?r yn reit sydyn.

Pan estyn y môr ei derfynnau,
A theyrnas Tir Mawr dan y tonnau,
Dros y bae gyda'r nos
Clywir alaw fach dlos,
'Rhen Jôs wrthi'n canu limrigau.

'Rôl clywed y deuai mewn awr
I lawr drwy Nant Gwynant lif mawr,
Mi redais heb oedi
I fyny Cwm Dyli,
A thorri dwy goes wrth ddod lawr.

Fy ngwraig wnaeth fy neffro wrth weiddi,
'Hei, brysia, mae'r llif wedi codi
I ben grisiau mewn chwinciad',
Atebais, 'Iawn, cariad,
Dos lawr i wneud panad reit handi.'

Cyn hir daw Marina i Namor,
A fferi Caergybi i 'Nysfor,
A Dai Jones, medda nhw,
Yn dod mewn canw
I hel tail gwdihw yng Nhwm Croesor.

I'r 'true Brit' mae o'n brofiad ffantastig
Cael dreifio drwy'r llif fel ras 'redig,
A phan foddith y ceir
Mynd i glwydo fel ieir
Yn gynnes ar ben weiren 'letrig.

Tasa Noa 'di dweud, 'Duw, mae'n bwrw',
A swatio i yfed ei gwrw,
'Fyddai raid i ddyn heddiw
Ddim poeni am fenyw
Na gwryw na dilyw cyn marw.

Cyn hir gwelir gorsaf yn Namor
A llif o ymwelwyr o dramor
Yn mynd ar dren grefi'r
Ucheldir, heb boeni
Am linell y moelni byth rhagor.

Telyneg: Cymwynas (yr hunan fomiwr)

Yn y rhuthr
rhwng dydd a nos
a'r ddinas yn cynrhoni:
yn gwibio'n
blithdrafflith o lwybrau morgrug
i loches eu daear.
Arswyd seiren a chyrn
yn diasbedain drwy'r drysni,
a'r dydd yn chwyrlio
i wacter blin y cof.
Lleisiau'n sgrialu drwy dwneli concrid
a'r byd yn floedd drwy uchelseinydd.
Llewyrch heulwen di-fachlud
ar orymdaith nosweithiol
carnifal y cenhedloedd.

Yno
dan lw
dy eiliad o osteg,
estynaist dy ddwy law
yn gynnwrf o aberth -
anwesu'r llinyn -.

Cyn tynnu.

A'th weddi yn sgrech waedlyd
dros Allah.

Cynigion ychwanegol:

Englyn yn enwi brîd o wartheg:

(wedi darllen hanes James Thomas, Hwlffordd, Ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas y Gwartheg Duon pan sefydlwyd hi 1904)

Yr anesmwyth brin hwsmon, byw ar weld
Codi'r brid i'w safon;
Hyd y wlad y cerddaist lôn
Hyd wayw i'r Da Duon.

Pennill Dychan: Y Deyrnas Unedig.

Y Brydain fendigedig
Ein teyrnas hoff unedig
Sy'n enw digon hynod wir
Ar dir sydd mor ranedig.

Pennill Dychan: Y Deyrnas Unedig.

Cyn gadael nyth mor glud a hwn
Rhaid meddwl yn ofalus,
Cysidro'r dewisiadau'n ddoeth,
Mae'n gynnes a chyforddus.

Mae'r nyth i bawb er fod i rai
Well safle a mwy o gysur
Ac mae'r hen fam yn cario bwyd
I'w chywion hi yn brysur.

A'i aros yma y wnawn ni?
Neu neidio'n ddall a mentro,
Os methu fydd dim ysgol' n'ol
Fydd na ddim croeso eto.

A chyn i bawb fynd ffordd wi hun
Boed lwybr call neu ddwl,
Rhaid cofio mai goleuo wna
Heb ymbarel John Bwl.

Mae yr hualau yn datgloi
I Gymru fel yr Alban,
Sut etyb Lloegr ar ben ei hun,
'Da ni ar y ffordd allan.

Cwpled caeth ar yr odl 'el'.

Heb ei falm mae'r cwch heb fêl,
Awn yn llai mewn tai tawel.

Boi neis a'i ben yn isel
efo'i Ddiwc yw Dafydd Êl.

Pan fydd glaw yn yr awel
ar gloddiau mae oglau mêl.

Os yw'n ddiog drwy'i fogel
Ni wyr iaith y gwaith nas gwêl

Limrig: yn ymwneud â llifogydd.

Rhwng d?r at ben glin loss ajystar
A Trudy yn fwd i'w syspendar,
Ma' bil yr insiwrans
Yn filiwn, heb gyrtans,
Go brin'neith hi jans i llnau'r gwtar.

Mae Harri'n dyfaru'n y distia'
Pam ddiawl aeth i'r sgip wythnos ddwetha'
a thaflu ei badl,
ei ogls a'i snorcl
a'r pethau i'w rhoi yn ei glustia'

Gweddio ar Dduw yr oedd Math
i warchod y plantos a Kath
a'n wir! fe ddaeth cerub
mewn ffurf gwnidog Rachub
i'r sgeilat a'u hachub mewn bath

Ein Tad, fi sydd yma, Huw Hefin
Gweddiais am ddwr i fy nghenin
Mae'n bwrw ers dyddia
O Arglwydd, defnyddia
rom bach ar dy synwyr cyffredin

"Awn rwan i stiwdio Pen Mynydd
i gael rhagolygon y tywydd" :
Bydd dilyw i ddechra'
cyn mellt a tharana'
ac wedyn glaw mân rhwng cawodydd

Tra'n clwydo i fyny'n y distia
yn sydyn meddyliodd Patricia
Mae'n braf gweld y gwr
yn ymrafael a dwr
Hen dro fod y sebon lawr grisia

Wel coda y funud 'ma Arthur!
mae'r tywydd am droi yn annifyr
Tyrd gwisga am danat
a plymia o'r giarat
a nofia i'r post i nol papur

Y lleidr a aeth tua Sblot
i ffwrdd gyda'r afon, fel shot
a'i gelc o dy Enid di'w lapio mewn cwrlid
a'r heddlu'n ei erlid mewn cot

Cywydd Serch (heb fod dros 12 llinell):

Cwrwg yr haf oedd cariad
ar ddoe y dwr: bwrw'r bad
i bwll llyfn, a wyneb lli
yn fwyn dan eu rhwyf heini.

Newid llestr yn rhyd y llan,
hwylio i oed aber lydan
a herio tonnau garwach
môr byd, efo'r morwyr bach.

Bwrw am y bae arall,
ffeirio'r llywio - 'naill a'r llall -
yn cyfeirio dwylo dau
a'r haf o hyd ar rwyfau.

Englyn Cywaith: Yr A55

O'i choncrid cwyd gofidiau hen hanes
Ein dibyniaeth ninnau;
Hyd y tir o'i wastatâu
Lôn wnaed i ddylanwadau.

O wylnos Sul ein culni - fe yrrwn
hyd fore'n drygioni,
I'n hafradlon ddigoni,
lon y nos yw'n calon ni.

Telyneg: Cymwynas

Ni weli ôl yr adwy
fan hyn,'mond gwrych o ddrain
yn gwarchod ar y terfyn
rhwng weiren bigog fain.

Ers dyddiau rhannu'r llafur
a'r bwrlwm aeth dros go',
fe gaewyd llawer adwy
fel mae sawl drws yng nghlo.

Telyneg: Cymwynas

Rhoi heb ofyn, rhoi yn hael
Y rhoi nad ydyw'n cofio
(Nid rhoi yw rhoddi er mwyn cael)
Ond rhoi heb edliw iddo.

Derbyn yn ei thro pan ddaw
A diolch ei bod yno,
Gweld gwerth i'r nerth sydd mewn help llaw
A pheidio ei hanghofio. Huw Erith

Englyn ar y pryd: Dyddiadur:

Yn ieuanc, doi fy nuwiau yn hoenus
I lenwi'i ddalennau
Yn y cof, ond wrth lesgáu
Un hen ?r, h?n ei eiriau.

Dyddiau na chaed eu addo - a nodwyd
I'r dyfodol ynddo;
Rhain a aeth yn gaeth i go'
A heddiw oedd dy eiddo.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.