Aberhafren vs Crannog
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyn-derfynol o'r Talwrn.
Aberhafren

Crannog

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Awr'.
Awr y tipiadau araf
Yw'r awr hir cyn gwyliau'r haf
Owain Rhys
9 Pwynt
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair 'Awr'.
Dwyawr araf i'r afiach
Yw'r un awr i rywun iach.
Dai Jones
9 ½ pwynt
Pennill Mawl/Dychan: 'Cymraeg y Cyfryngau'
Ceir gwledd Radio Cymru o fore hyd hwyr
ond tybed yw pawb yn ei ddeall yn llwyr?
mae'r rhai yn y bora 'fo Hwal a Nia
yn clwad llond cegiad o iaith gwlad y medra,
yna nes mlân mae Siân Thomas mor ffein -
er na fedra i ddeall yr un blincin lein -
ac os nag ych chi'n grindo mor sobor â wilber
i giosg Geraint Lloyd fe gollwch y nwmber,
ac mae'n goblyn o job i bob un ddeall Jonsi -
ond does gan yr iaith ddim i'w wneud efo hynny;
felly diolch i Dduw am Dai Jones Llanilar,
fe all hwnnw bob acen ar wyneb y ddaear!
Llion Pryderi Roberts
9 pwynt
Pennill Mawl/Dychan: 'Cymraeg y Cyfryngau':
Cyhyd ag y bo'r wleidyddiaeth yn gywir
'Sdim gymaint o ots am y modd y'i dywedir.
Owen James
9 pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell: 'Y mae boi mwy ym mhob man'.
I bawb sy'n llai na baban - i gorrach,
i Ger yn ei gwman,
i bob bioleg egwan,
y mae boi mwy ymhob man!
Llion Pryedri Roberts
8 pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell: 'Y mae boi mwy ym mhob man'
Syniad o'i seis e'i hunan - i King Kong
F'ai cael Bendigeidfran
Yn nyth y Lefiathan -
Y mae boi mwy ym mhob man.
Dai Jones
8 ½ pwynt
Limrig: 'Mi welais ryfeddod un noson'
Mi welais ryfeddod un noson,
Roedd Rhodri a Ieu yn elynion,
Ac roedd dyddiau yr haf
Yn boeth ac yn braf,
A ninnau'n rhoi stid i'r Cranogion!
Llion Pryderi Roberts
8 ½ pwynt
Limrig: 'Mi welais ryfeddod un noson':
Mi welaith ryfeddod un nothon,
Roedd theinth yn y th? i'r holl Thaethon
Yn dwedyd yn thyth
Na ddylech chi byth
Ddim cymryd y pyth math o'r python.
Dewi Pws Morris
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): 'Gwaharddiad'
Does gan bobl ddim hawl swyddogol i ddefnyddio Chwarel Dorothea i ddeifio, ond dydi hynny ddim wedi rhwystro 21 o bobl rhag boddi yno yn y 13 mlynedd diwethaf.
Mewn carchar o hen chwarel,
y synau mud sy'n ymhél,
y d?r yn adrodd stori
a'r ias yn ei geiriau hi;
?n galwadau lleisiau'r llyn
yn dod yn ddistaw wedyn
yn araf o'r dyfnderoedd,
yn llef flêr neu'n ambell floedd;
hrwy'r tonnau'r synau sydd
yn fferru'n y llyn llonydd,
a d?r y dwfn, y d?r du'n
anniddig aflonyddu.
Rhys Iorwerth
9 ½ pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): 'Gwharddiad':
Mae clwm y Clwy' am y clos
A'r mwg yn storom agos,
Ein da braf yn gynnud briw
A phraidd yn ffrïo heddiw,
Eco'r gwn yn pricio'r gwynt
A'r tw'n weddw lle'r oeddynt.
Distawrwydd a dwst hiraeth
Ar lawr lloc, a'r parlwr llaeth
A balchedd heb ei olchi
'Sywaeth, ond ni waeth gen i.
Y mae'n nos, ac y mae nhw'n
Cau llidiart Parc y Lludw.
Dic Jones
10 pwynt
Cân heb fod dros 20 llinell): Hen Bethau
tedda wrth ei hunan gyda'r hwyr
Mor eiddil wedi'r wyth deg mlynedd fu
Ac ymgysura, drwy'r unigrwydd llwyr,
Yng ngwaddol y gwrthrychau yn ei d?.
Mae urddas gwych y dresel derw mawr,
Y llyfrau llychlyd, lluniau du a gwyn,
A chân y cloc hynafol ar yr awr
Yn guriad oes amgenach erbyn hyn.
Ond sethrir ei atgofion o fewn dim
Gan ifanc oddi allan gyda'u llef,
A chodi i gau'r ffenest a wna'n chwim
Rhag nodau cras y rhethreg a glyw ef;
Ac er goroesiad ei hen bethau i gyd,
Diflannodd ei hen werthoedd ar y stryd.
Aron Pritchard
9 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): 'Hen Bethau':
( Gydag ymddiheuriadau i Aberhafren )
Daeth Crannog i'r ornest fan yma'n y Drwm,
Yn griw o henwyr â'u hysgwyddau'n grwm.
Yr oedd y tîm arall dalyrnau yn iau,
Eu llygaid yn llon a'u gwedd heb drymhau,
Ond wedi dweud hynny roedd eu stwff yn h?n
Na Thudur Aled a Wiliam Ll?n.
Am Aaron Pritchard ddyweda i ddim,
Mae e'n gyfreithwr, â'i dafod yn chwim,
Ond roedd Mari George yn darllen cerdd
Gan hen rigymwr o'r Ynys Werdd,
A fe, Rhys Iorwerth, yn hynod o hy',
Yn adrodd englynion y Llyfr Du,
A chefais y teimlad wrth wynto'r pot
Fod Iolo Morgannwg wedi helpu lot.
Rhaid fod Llion ac Owie, yn oriau gwaith,
Wedi twrio'n ddwfn i drysorau'r iaith.
Dewiser felly yng nghlorian llên
Rhwng hen bethau'r ifanc a peth ifanc yr hen.
Ac fe fentrem am Fflint i ennill y tlws
Petai rywun caredig yn agor y drws.
Idris Reynolds
9 Pwynt
Ateb y llinell:
Benyw sy'n cael babanod
Wedi rhyw, nid yw yn od.
½ pwynt
Ateb y llinell:
Benyw sy'n cael babanod
Tae'n ddyn bydde hynny'n od.
½ pwynt
Englyn Cywaith: 'Bai'.
(Llafur plant)
A hynt annifyr plentyn - yn ei boen
yn bwyth drwy'r dilledyn,
tybed a deimlaf wedyn
hyn o fai ynof fy hun?
Aron Pritchard
9 pwynt
Englyn Cywaith: 'Bai':
Ni ddaeth ustus i'm gwysio - na lleisiau
O'r llys i'm cyhuddo,
Ond mae 'na gwrt, cwrt y co',
A gwn - 'rwy'n euog yno.
Idris Reynolds
9 ½ pwynt
Telyneg: 'Ffaith'
Er sgrech y llinell las
i ddatgan dy greu
amhosib oedd credu.
Bysedd oer y sylweddoli
yn twrio am
guriad dy galon ddiarth
a chael cic ddistaw yn ol.
Gwefr oedd dy weld
yn ddu a gwyn
yn troi a throsi
yn ddigwsg
ar sgrin fy nghydwybod.
Roet ti'n estyn am fy llaw,
a finne'n methu dy ddal.
Chwiliais amdanat ti...
Es am dro
hyd heol fach ddoe
i geisio wynebau neiniau
yn y cloddiau
a'r lôn yn gul
gan garedigrwydd.
Chwilio -
ond dim ond tarth a welais.
Chwilio
yn nythod fy hanes...
Ond buan daeth
hen hen esgor
ag ysbryd newydd y sylweddoli
i rwygo o blisgyn
y poen perffaith.
Dal dy fawredd mewn dwy law,
dy droi di ataf
a gweld dy wedd
yn llawn wynebau
ddoe a fory.
Ac yn sgrech dy dorri'n rhydd
dois i dy adnabod.
Mari George
10 pwynt
Telyneg: 'Ffaith':
Fe gasglwyd yn y glorian
Y ffeithiau oll ynghyd,
A'r fainc wrth drin yr achos
A'u pwysodd nhw i gyd.
Caed yno yn y dafol
Un ffaith nad oedd yn glir,
A daeth yr hanner celwydd
I bwyso'n fwy na'r gwir.
Hywel Rees
10 pwynt
Englyn ar y pryd: Blas
Daw un awr sy'n dynerach - â ni'n dau
Dihuno'n gyfrinach.
Rhywle yn y bore bach
Un gusan yn agosach
Rhys Iorwerth
10 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 82 ½
Englyn ar y pryd: Blas
Roedd pice Nain yn ffeinach - a'r afal
Rywfodd yn felysach.
Yn oes y byns a'r cacs bach
I mi, nag 'yn nhw mwyach.
Dic Jones
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 84
Cynigion Ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Awr'.
Fe all amser dyneru
rheg o awr yn orig gu.
Trechodd blys ewyllys wan -
yfais a dweud y cyfan.
Pennill Mawl/Dychan: 'Cymraeg y Cyfryngau'
Mae iaith Radio Cymru wedi mynd yn hen ffash,
Ac S4C sy'n siarad iaith 'cash',
Ond fe glywir iaith ifanc, iaith cornel y stryd,
Iaith sydd yn gynnil neu'n swagro i gyd,
Iaith eisteddfodol neu iaith dynnu coes,
Iaith sy'n esblygu, datblygu â'r oes
Ar edefyn fach denau mewn cornel o'r we -
Dyfodol yr iaith sy'n fyw ar Maes-E.
Englyn yn cynnwys y llinell: 'Y mae boi mwy ym mhob man'.
Y mae boi mwy ym mhob man - i gorrach,
ond Gerallt, os bychan,
y gwir yw sy'n gawr ei ran,
yn fwy nag ef ei hunan!
(Ymson Dihareb)
Y mae boi mwy ym mhob man - un â'i wir
yn eiriog a thrwstan;
cynnil goeth, nid eiddil gwan,
y ni'r bachog a'r bychan.
Y mae boi mwy ym mhob man, ond ei faint
A'i fantais a'i fwlian
Sy'n peri gw?r i 'stwyrian,
Creu chwyldro, ac uno'r gwan.
(Rhestr Gyfoethogion y 'Sunday Times')
Er aros yn gawr arian, ar ei stoc
Mae'n tristáu'n yr unfan,
Cans uwch ei lun ei hunan
Y mae boi mwy ym mhob man.
Limrig: 'Mi welais ryfeddod un noson'
Mi welais ryfeddod un noson,
y rhyfeddaf erioed ym myd dynion,
ond ni ddwedaf fi
ddim mwy wrthoch chi
neu fe gredwch fy mod i yn wirion!
Mi welais ryfeddod un noson
pan welais i griw mawr o Saeson
ar draeth Abersoch
yn gweiddi yn groch
'Let's 'ave it, we're frwm Wolverhampton.'
Mi welais ryfeddod un noson
pan deithiais i Ynys Afallon,
roedd Arthur a'i griw
yn sefyll mewn ciw
wrth farbeciw Mabon fab Modron.
eb fod dros 20 llinell): Hen Bethau
mam! Dwi'm isio mynd fanna,
Mae o'n edrych y lle tywylla',
Yn llawn o drugaredda',
A llwch yn drwch dros lyfra',
 phobl yn busnesa -
Dwi ofn cael baw ar fy sgidia',
A be' sy'n y pellter? Epa
'Di stwffio? O mama-mia!
A chrochan o Samaria
Yn drewi fel fferyllfa,
Ac esgyrn o'r safanna,
A chyllyll cerrig a bwa:
Gormod o hen greiria',
A phlant yn heidio'n dyrfa.
O mam! Dwi isio mynd adra,
Neu chwarae'n yr haul neu - Waa-Waa!"
"O Joni, ymdawela,
Mae'n rhaid i chdi fynd yna -
Chdi 'di'r person, cofia,Sy'n rhedeg Yr Amgueddfa."
Englyn Cywaith: 'Bai'
Rhy hawdd, wrth geisio'r weddi - yw yfed
sagrafen trueni,
a dwyn o'th dangnefedd di
ddialedd i'w addoli.
Er cael hafan cusanau - am ennyd
mae min yn y geiriau,
ac er dal wna cariad dau
anoddach ydyw maddau
Telyneg: 'Ffaith'
Yn ei chadair,
cydio yn y gwirionedd,
a throi'r dalennau
mor grin
â dwylo defosiwn.
Bysedd o brofiadau
yn tylino
bara beunyddiol
cymundeb llythrennau ffydd,
y print yn lasddu
ar dafod,
mor flasus â thangnefedd.
Ond yn hwyrnos
y lludw llwyd,
a'r Beibl mawr
yn rhy drwm bellach,
cais gloi ei bysedd
am y Gair
a'i ddwyn
i arffed yr enaid
fel cynt;
ei dwy law yn erfyn
rhag iddo dreiglo
drwy'r agen
i'r glyn;
ac er simsanu,
am ennyd,
ailgydio'n dynn
rhag gollwng gafael.
Cynigion Ychwanegol:
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair 'Awr'.
Erw'r dydd a dorrai'i dad,
Erw'r awr heddi' i'r arad.
Er yn eofn, rwy'n ofni
Yr awr fawr na welaf i.
Os yw weithiau fel seithawr,
Dros fywyd, ennyd yw awr.
Pennill Mawl/Dychan: 'Cymraeg y Cyfryngau':
Ar raglen y sylfaenwyr
Roedd parchu iaith yn her,
Ond yn nhreigliadau amser
Anghofiwyd am yr 'er',
Ac os yw yn ddirgelwch
Pwy ydyw Tony Ble'
'Rych chithau'n 'fuddy duddy'
Dros sixty ffo' , so the'.
Englyn yn cynnwys y llinell: 'Y mae boi mwy ym mhob man'
Yn rhoi bib ar y baban, - ac i wneud
Tasg y nyrs a chwcan,
Mae'r dyn yn wraig i'w hunan;
Y mae boi, mwy, ym mhob man.
Yn ddi-ball o hyn allan - y rhannaf
Y gwirionedd syfrdan:
O achos 'mod i'n fychan
Y mae boi mwy ym mhob man.
Limrig: 'Mi welais ryfeddod un noson':
Mi welais ryfeddod un noson,
Dau ddysgwr o Sais yn ymryson
A sylw un wedd
'Can you cynga-nêdd?
My missus do say that I mus'n.'
Cân (heb fod dros 20 llinell): 'Hen Bethau':
O na fyddai'n ddoe o hyd, a'r wlad yn llawn hen bethe'r byd,
Marblis mewn poteli pop, Mrs. Jones yn cadw'r siop,
Swllt a grot am beint o gwrw, a dim Jiwc-bocs i gadw twrw,
Llysie mamgu o'r ardd yn llawn blas, byta tu fewn a'r t? bach tu fas,
Ffags am swllt mewn pac o bump - a newid i ga'l siocled,
Poteli lla'th 'di rhewi'n gorn, a'u corone'n hufen caled,
Cariad cynta', gwasgu'n dynn, sherbert drops a baw ci'n wyn,
Bobis hen, nid crwts mewn glas, lladd y gwair a chodi tas,
D.J. yn ei het â'i sbectol ar dân, Steddfod heb fwd a mwstash Pontsian,
Ceffyl a chert y boi 'rag-bones', trips Ysgol Sul a nofio mewn trôns,
Casglu'r genhadaeth a 'Duw cariad yw', gobstopyrs anferth yn newid eu lliw,
Y tegell yn tasgu, gwneud tost o flaen tân,
Dadcu a'r diaconiaid yn dwblu y gân,
Papur blotto, mecanno, 'Band of 'Ope', Cymru'r Plant,
Inc ar eich dwylo o'dd yn pallu dod bant,
Ogle mothballs siwt dy' Sul a chloch yr hufen ia,
Ca'l sioc fod Sian drws nesa wedi dechre gwisgo bra,
Galw Gari Tryfan a garglo T.C.P.
A sylweddoli'n sydyn - mai hen beth ydw i.
Englyn Cywaith: 'Bai':
Fe wyddom, er bod cyfadde'n - hanner
Codi'r staen o'r llechen,
Nad yw bai yn dod i ben,
Fe ddeil nes trof y ddalen.
Telyneg: 'Ffaith':
Hedyn Dychymyg yn yr oesoesoedd gynt
Yn torri'n eginyn ac yn crynu'n y gwynt,
Afonydd dyfroedd ac awelon Cred
Yn graddol ymestyn y cangau ar led,
Nes bod cylchoedd y boncyff a'r gwraidd yn y tir
Yn deilio'n dragywydd, yn goeden y Gwir.
Telyneg: 'Ffaith':
'Ddysgedig Athro ac Athronydd Rhyd-ddu,
A'r rhigymwr hirben, dywedwch i mi
O ddyfnder eich dysg a'ch amheuaeth iach,
Beth yw eich barn am y Bobol Fach?
A oes, dan y madarch yng ngwaelod yr ardd,
Yn canu a dawnsio, ryw fodau bach hardd?'
'Ni welais i ddoethor, ond odid, o'n mysg
A welodd i waelod pendrawdod pob dysg,
Ac nid oes na gwyddor nac awen ychwaith
A ?yr ble mae'r ffin rhwng dychymyg a ffaith,
A hwyrach, ni chredaf, er cymaint eich clod,
Yn y Tylwyth Teg - ond y mae nhw yn bod.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

