Tir Mawr vs Dinbych

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd or-gyn derfynol o'r Talwrn.

Tir Mawr

Tir Mawr

Dinbych

Dinbych

Cwpled caeth yn cynnwys math o dywydd:

Yn yr heth a'r rhew eithaf
Mae llygedyn hedyn haf

Huw Erith
8 ½ pwynt

Cwpled Caeth yn cynnwys math o dywydd

Ein bywydau, bob adeg,
Sy'n stormydd mewn tywydd teg
Berwyn Roberts
8 pwynt

Pennill Mawl/Dychan: 'Celfyddyd Fodern':

'Rwy'n ddipyn o foi am wneud llun
Ond neithiwr fe welais i ddyn
Yn talu mil euro
Am frwyn mewn tyn Brasso
Dwi'n beio Piccasso fy hun

Gareth Jones
9 Pwynt

Pennill Mawl/Dychan: Celfyddyd Fodern

Celfyddyd Fodern: Tracy Emin

( fu'n cynrychioli Gwledydd Prydain yng Ng?yl y Biennale yn Fenis, ...a'i gwaith enwoca' oedd creu gwely blêr! )

Sut ddiân aeth hon i sbloets Yr Eidal
am greu un llanast o gynfasa'?
Dwi wedi magu pedwar cystal
am greu'r un llanast bron bob bora'!
.... a pham y cododd hi yn fan'no
rhyw dwmpath blêr o bricia' dryslyd?
Mae gen i deulu dan y bondo
mewn campwaith cyfoes o gelfyddyd.

Eifion Lloyd Jones
8 ½ pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau: 'Ni chaf'

Yn fyr o wynt trof i'r fro a'r rhiwiau
Lle chwareuem eto:
Er hyn ni chaf rai yno
All wastatau caeau'r co'.
Gareth Williams
10 pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau "Ni chaf"

Mae iaith fy mam yn iaith dramor; - ni chaf
Barch a hawl ym Mangor
Iddi; af ar egwyddor
I Lþn mwy i lan y môr.
John Glyn Jones
9 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Deddf

Deddf (Brenhines Lloegr a Senedd Cymru)

Arafodd ei llong ryfel
Yn y Bae, a thaflu'r bêl
Yn ôl gorchymyn a oedd
Yn groes i rwysg yr oesoedd.

Taflu'r bêl at hen elyn
Fel 'tae yr hen afael tynn
Yn llacio, geirio yn gain
Wyched yw'n hawliau bychain

Yna'i llong, cyn pellhau
'n tanio gwn at ein gwenau
Yn sioe'r Cwin, i serio i'r co'
Mai un llew sy'ma'n llywio.
Myrddin ap Dafydd
9 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Deddf

Ein gorchwyl ydyw gwarchod
gwymon a phlanhigion od,
a di-les i genedl wâr
yw dial ar foch daear.
Gelwir am ddiogelu
hen dwlc, neu do gwellt rhyw dþ.

Ni cheir clod am warchod iaith,
Rhydd i ddyn wahardd heniaith.
"Burn Well" lle'r oedd Bryn Olwyn,
"Barn House" yn lle Bryniau Wyn.
Anodd iawn yw rhoi i ddyn
wareiddiad heb y gwreiddyn.

John Glyn Jones
9 pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell): Plant Drws Nesa:

Mae haid o blant drws nesa' i mi a'r cwbwl oll yn hogia'
A phob un wan o'r un deg tri di'w henwi r'ol eu tada'
Roedd nymbar t?'n rhy fach i'w dal a phawb fel ffa mewn tyn
Y cyngor dorrodd drwy y wal i hen d? Dafydd Wyn
D'oedd hynny'm digon, yn fy myw, doedd yno'm lle i symud
Ac erbyn hyn maent oll yn byw'n rhif tri a phedwar hefyd.
Mae llawer mam o Giwba i Gaer 'di esgor ar gantorion
Ond Nel drws nesa', yr hen chwaer fe fagodd hi gôr meibion.
'Di sbriwsio'n ddel i'r dref aiff Nel a'i chiwed yn ei chanlyn
Mae'r ddynas fach yn edrych fel y Pibydd Brith o Hamlyn.
Mae nhw'n fendith, rhaid 'mi ddweud, i'r ysgol fechan leol
Sydd yn awr yn gallu gwneud cerddorfa a thîm ffwtbol.
Gadael fyddent cyn bo hir am Ysgol Uwchradd Gerllan
Yr unig deulu yn y sir fydd angen bys ei hunan.
Nel sy'n canlyn efo Al, mae mwy i ddod rwy'n amaf
Ac ar ôl tyllu trwy y wal rwy'n credu yr a'i o'ma.
Gareth Jones
9 ½ pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell):Plant Drws Nesaf

Rwyn byw ym 'Maes Melyn', lawr "Buttercup Way"
Mewn lle bach reit ddistaw - jest allan o'r dre
Roedd bywyd yn braf nes iddyn nhw ddod drws nesa' -
Y fam a'i thri phlentyn, a'r pedwar chi-wa-wa.

Y fam oedd Miss Lovejoy - 'doedd dim sôn am y tad,
Yn byw yn gyfforddus ar bwrs y wlad.
Roedd Chloe yn bymtheg a Clarence yn ddeg,
A Charlie'r ienga braidd yn fudr 'i geg.

Roedd Miss Lovejoy bob nos efo'i mêts yn y Lion
A'r plant ar eu traed bob nos tan berfeddion.
Doedd neb wedi codi i'w danfon i'r ysgol -
Caent ddigon o amser i wneud drygau'n ddyddiol.

Byddai Chloe trwy'r nos efo'i miwsig pop,
A Charlie'n sgrechian 'n 'i gwsg yn ddistop;
Y cwn yn udo'n un côr o'r ardd gefn
Doedd yfflon o iws i neb ddweud y drefn.

Ond pan gefais drawiad wrth fynd lawr y stryd,
Chloe a'i brawd Charlie, yn gyffro i gyd
Redodd ataf a galw 999 ar eu ffôn!
Dydi'r hen blant ddim mor ddrwg yn y bôn.

Elwyn Wilson Jones
8 ½ pwynt

Limrig yn ymwneud â meddyginiaeth:
Gan feddwl fod popeth ar ben
At feddyg yr Urdd yr aeth Ken
Fe ddychwelodd o wedi
Cael tair o dabledi
Un werdd ac un goch ac un wen.
Gareth Jones
8 ½ pwynt

Limrig yn ymwneud â meddyginiaeth

Mae garddwr o gylch Pentrefelin
A'i ddulliau yn bur anghyffredin,
Mae'n tynnu amdano
I gochi tomato
A bwydo viagra i'r cennin.

John Glyn Jones
8 ½ pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Yn y sioe cwrddais Siwan
Un go-lew am bacio gwlân.
1 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Yn y sioe cwrddais Siwan
A'i chymryd ar ennyd wan.

Englyn Cywaith: Y Tywysog Harri:

Ni ro'n nhw waed y brenin - i'w dywallt
I dywod cyffredin,
Ond i Irac a thân y drin
Y gyrrant hogia'n gwerin.
Myrddin ap Dafydd
9 pwynt

Englyn Cywaith: Y Tywysog Harri

Wrtho'i hunan ar ôl tanio - hen wefr
yn lifrau comando
ei brentisiaeth, fe aeth o
adref, a'r hogiau i frwydro.

Berwyn Roberts
9 pwynt

Telyneg: Gardd

Wrth ddwyn darn bach o natur, rhaid cael trefn
Ar bethau bach sydd am ei ddwyn yn ôl;
Rhoi pelets glas rownd letus yr ardd gefn
I nadu malwod, rhwydi yn gontrôl.
Ar fronfraith hoff o fefus; ffens rhag pla
Cwningod; mothbols rhag y twrch bach du
A sbre organig ecolegol-dda
I'r berllan (sydd heb fod mor dda i'r pry).
Ond neithiwr, un o'r trapiau fu'n rhy slic
A draenog truan fachwyd yn y rhwyd
I atal bronfraith, o'i ryddhau gwnaeth dric
Ei belen bigog, gwrthod soser fwyd
Cyn fflewtian mynd am gysgod clawdd a ffos
Daw'n ôl i ddal ein malwod pan ddaw'n nos.
Myrddin ap Dafydd
9 pwynt

Telyneg: Gardd

Ger Mesopotamia
y sleifiodd y gynta'
o geudwll y goeden
yn ddig o genfigen
i'n hudo o Eden...

Ym Mesopotamia
ein dydd, sleifiodd ynta'
am Fabilon liwgar,
a duo ei daear
ag olew ein galar.

Eifion Lloyd Jones
9 Pwynt

Englyn ar y pryd: Ascot

Eto daw iaith y daten a'r hetiau
I'r 'all British' wybren
Yn eu rhwysg, a'r doliau pren
Yn fagiau o genfigen.
Gareth Williams
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 82 ½

Englyn ar y pryd: Ascot

Daw y rhai o uchel dras, - arweinwyr
Ariannog cymdeithas,
I wylio criw y Palas,
Ond erioed 'di gweld y ras

John Glyn Jones
9 pwynt

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys math o dywydd:

Dall a chaeth does gwaeth ar gwch
Na niwl i greu anialwch.

Daw ar geirios hwyrnos haf
Guriad y cenllysg oeraf

Ael mam fu'r dafol i mi
A'r reiat wedi rhewi!

Pennill Mawl/Dychan: 'Celfyddyd Fodern':

'Hwyrnos a gwawr yn ymrafal'
Oedd hanfod cerfluniau Huw Cynwal
Ni ddalltai Now Wyn
Am ryw bethau fel hyn
Ac fe'i taflodd i'r bin efo'r sbwriel.

I un mor c?l, ei adwaith
Oedd sgrechian 'Cerwch ymaith'
A'r plant i gyd
Yn da'll dim byd
'di cerdded drwy ei gampwaith.

Mewn cornel yn oriel y Llyfrgell
Roedd dafad 'di'w phiclo mewn pabell
"Os di honna werth mil"
Medda Robin Bryn Cil
"Mi biclai bob un o fy nadell"

Celfyddyd fodern
Ai enfys ym Mehefin
A ddaw o law rhyw ddewin
Neu fydd y lliwiau oll i gyd
Yn ddim byd ond cyw drycin.

Mewn hen fath y safai, yn tywallt slyri
Yn gymysg gyda cyri dros ei bronne;
Roedd y teitl wedi'i sbreio ar ei welis:
'Ail-ymweld â Lilis d?r gan Monet

Englyn yn cynnwys y geiriau: 'Ni chaf'

Y Cynghorydd Cynllunio

Am mai yn siop y mwyaf - y mae'r jam
A'r jobs mewn aruchaf
Bwyllgor na chyngor, ni chaf
Roi lle i'r siopwr lleol.

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Deddf

Mae pob gorwel fel a fu
A'i etifedd yn tyfu,
I adladd ar ei droedle
Drwy haf hir o dir y De,
Yn ewynnog o'i fogel
Un ar cwch fel dur y cei,
Un hir ei ben cyn henaint
Un ar fôr a wyr ei faint
A gwarant ei dant yn dal
Hwn yw 'sgutor hen stotal,
Parchu mae ei fae o fôr
A gweddu i'w egwyddor.

Efallai yn Nhrefollwyn
Heibio'r allt, a'r tociau brwyn
Yn cosi glas Picasso;
A'i law ieuanc clywi o
Yn rhoi tant nes suo'r t?
Oes arall ei amseru.

Yna cei a'r llenni'n cau
Ym mhared y tymhorauk
Ar nos ddu ernes o'i ddwrn,
Un â'i ordd yn ei arddwrn.
Daw y don a'i stadud o,
A'i faneg, fel a fynno.

Er i'r llwch ddod o'r llechan
I fyd ei ysgrifen fân
A'i wynt o, ni ddeuent hwy
Dyn â'i lid yn weladwy.

Ond i'r lord, doi daear las
Y Tori o'r tai teras;
Yn ei blas tra twtiai'i blu,
Iasau cythlwng 'mysg gweithlu.

Yn nalen ei lechen lwyd,
Maen eu hiau, roedd mynawyd;
Ac o'i blu fe geibiai lais
I'w huodledd rhag pleidlais.

Cân(heb fod dros 20 llinell): Plant Drws Nesa:

David Glyn a Cheryl Lynne
Ag Arthur Wyn a Tessa
Robat Huw - Paham o Dduw
Fod raid 'nw fyw drws nesa'!

Jason, Wayne a Guto
Sy'n blant direidus iach
Os ddon nhw i'r ardd yma eto
Mi daga i'r ffernols bach.

Mae'r ffernols am y gora
Hyd nes berfeddian bora
Fe droiodd rhain Gwm Rhyd y Brain
Yn Sodom a Gomora.

Limrig yn ymwneud â meddyginiaeth:

Fe cerddais i mewn i'r meddygfa
Am cael meddyginiaeth rwyf yma
Mae doctor Cwm Bach
Am fy gwneud i yn iach
A rhoi i mi sach o treigliada.
Be fedrwch chi neud Docdor Marek
Mae rhywbeth ofnadwy ar Alec
Disgynnodd ei fodia'
I ffwrdd ers diwrnodia'
Mae arno fo sbotia fel Dalek.
Tyd r?an, Cadwaladr, côd!
Rhoi iti lawdriniaeth yw'r nôd,
Gan fod Dafydd Jiarat
'di rhoddi ei ffurat
I'w gadw tu mewn i'th gymod.
Dy ddeiat yw achos dy strach
Mae'n rhaid i ti fwyta yn iach
Yn lle macar?ns
Cym dyniad o br?ns
A paid mynd yn bell o'r t? bach.
Gan: R.J.Jones y meddyg
I: Dafydd Owain Meurig
I'w hwpo lan.
Dim gyrru fan.
Na thrin peirianwaith peryg.
A dyma nyrs Wilias yn gweiddi
'Professor ap Huws! Daliwch arni!
Cyn tyllu yn selog
I lawr am ei stumog
'Sa'n well i ni dynnu amdani?"
Bu'n rhechan r'ôl cyri deg punt
A'r lle dan ei sang efo'i wynt
I'r adwy daeth Maldwyn
A chanddo fo gorcyn
Y fflagon a wagiodd hi gynt.
Na fo, dyna chi William Fawr
Rhowch ora'i boeni yn awr
Mae Dafydd Huws Plymar
'Di dod efo'i shiffdar
Dowch i mi eich clymu chi lawr.
Gall pilsan Jac Huws yr apothacri
Iachau pob un salwch ar f'enaid i
Ond marw wnaeth Amos
Ar ôl cwta wythnos
Roedd angen pythefnos i'w byta hi.
Dydd Sadwrn aeth Luned gwraig Osian
I Dalwrn i weled biwtishan
Oes gennych chi jel
I fy ngwneud i yn ddel?
"Docdor dwi del dim majishan"

Englyn Cywaith: Y Tywysog Harri:
Er yfed, chwarae'r rafin, yn dy wlad
Cest lwy aur dy werin;
Ond i'w rhwyd nid ei, i'r drin
Er dy oed, mewn crud wadin

Cynigion ychwanegol:

Cwpled Caeth yn cynnwys math o dywydd

A Phen Carrag yn agos
Cawn weld gwlybaniaeth cyn nos.

'Sgobion yn gôr ar orwel,
Yn ddi-os cawod a ddêl.

Ar fôr, hunllef yw corwynt,
Wele hwn sy'n ddiawl o wynt.

Englyn yn cynnwys y geiriau "Ni chaf"

Heddiw ein rhan yw planu - i fedi
gofidiau yfory
a rhannaf faich 'r hyn a fu,
gwn, ni chaf osgoi hynny.
Ni chaf er mynych ofyn - un ateb,
ond betiaf bod rhywun
a ?yr pam gyll aderyn
fel bom ei dom ar ben dyn.

Limrig yn ymwneud â meddyginiaeth

Ces flocej go ddrwg yn fy nghylla,
Felly llyncais lond jwg o de sena.
A choeliech chi byth
Fe weithiodd yn syth!
A chlywyd y glec draw yn Cheina.

Doctor Cwac oedd y co sticio pinna'
I wella pob math o glefyda'.
Wrth bigo Tony Blair
Hisiodd allan "hot air"
A WHWSH aeth fel roced i'r Merica.

Aeth Now ii-oo, ii-oo a'i niwmonia
Mewn ambiwlans am Fangor un bora
Ond dechreuodd wenu
Cyn cyrraedd 'r ysbyty
A chafodd oo-ii, oo-ii yn ôl adra.

Roedd Wil yn reit fflat yn eiste'n ei gar
Yn edrach yn drist a myfyr-gar,
Roedd â'i ben yn ei blu
A'i fyd bach yn ddu
Nes i foi'r AA drwsio'r pynctiar.

Englyn Cywaith: Y Tywysog Harri

Fe fu rhai yn difrïo - ei anian
plentynaidd. Rhaid cofio
nad creu gwron ohono
a wna llwy aur yng ngheg llo.

Gyrrwyd y fo a'i geriach - y gðr hwn
gyda'i groen yn holliach
i ryfel diogelach
i drio bod 'n soldiwr bach.

Englyn ar y pryd: Ascot

Hetiau uchel yn tuchen - am y Pimm's
A'r Siampên lliw arian;
A'u nôd trwy yr holl slotian-
Eisiau secs â Phrinses Anne.

Rhan o act 'sbiwch arna i' - a phawb
A'i hoff het yn rhesi;
G?yl mesur lled waledi,
O! a'r wefr cael gair â Hi.

Sioe wenwyn ei ffasiynau, -hwn yw byd
Paenod balch â theitlau;
G?yl mesur lled waledau
A rhoi hwb i'r brid barhau.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.