Manion o'r Mynydd vs Bro Alaw
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd or-gyn derfynol o'r Talwrn.
Manion o'r Mynydd

Bro Alaw

Cwpled caeth yn cynnwys math o fwyd
Cwsg, cwsg [couscous] ym mreichiau tad-cu,
Dudalen lân dy deulu.
Nia Watcyn Powell
8 ½ pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys math o fwyd:
Bwyd da a rhad ofnadwy
Yw potes maip, 'ti eisiau mwy?
Arwyn Roberts
8 pwynt
Pennill ymson wrth weld 'Made in Wales neu 'England'
Rwy'n edrych ar lun da o Jonah
Yn dianc o'r morfil trwy'i ena'
O ganol y gwres
Heb drowsus na phres,
Ond 'rwy'n gweld 'Made in
Wales' ar ei sanna'
Edgar Parry Williams
9 Pwynt
Pennill ymson wrth weld 'Made in Wales neu England':
Made in England
Roedd cynnyrch Made in England
O'r blaen yn haeddu clôd;
Ond heddiw rydw i'n amau
Oes ffasiwn beth yn bod.
Ioan Robers
8 ½ pwynt
Englyn ar yr odl 'ant'
Weithiau i'r gwynt y traethant - eu rhybudd
I'w rebel ar brifiant,
Ond gweddi ddistaw rhiant
Yw i'w Law dywys eu plant.
Nia Watcyn Powell
8 pwynt
Englyn ar yr odl 'ant':
Ni wadaf fod hen nodiant - yn anodd,
Na'r gân ddigyfeiliant,
Ond rhwydd yw ennill llwyddiant
A'r ddwy diwn mewn gwyl gerdd dant.
Richard Parry Jones
8 ½ pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): 'Ffarwel Tony Blair'
'Roedd Mai mor ddiamheuaeth
A newydd y dydd y daeth
Hwn â'i wen 'Cool Britannia'
I addo dim ond dyddiad da,
Geiriau'n rhwydd a'r gwir mor rhad
Yn nelwedd loyw'r eiliad.
 gwen, troes at y gynnau
Yn swn efengyl casáu,
Dilyn ôl y diawl i'w nod
Nes syrthiai'r tai'n y tywod,
Hwn, archangel y celwydd,
Oer ei wen, a'i draed yn rhydd.
Nia Watcyn Powell
9 Pwynt
Cywydd Ffarwel Tony Blair:
Aros cyn cadw noswyl
A wna hwn, a throi'n llawn hwyl
I'r dolydd ar hirddydd haf,
I wylio gweithred olaf
Yr haul, yn aeddfedu'r haidd,
Ar erwau'i lafur euraidd.
Gwyn ei fyd o hyd na wêl
Y gyrwynt dros y gorwel,
Na'r brain drwy'r dwyrain yn dod
Ar herw, fel eryrod,
I'w haidd i loffa heddiw
Ar dir llwyd ei freuddwyd friw.
Richard Parry Jones
9 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell: 'Y Noson Wobrwyo'
I Ddolwyddelan down ynghyd i ganmol pawb am wneud dim byd!
I Gareth Glyn rhown lyfr talfyriad ar atalnodi pan fo'n siarad,
Ac am iddo falu lot o gynj caiff Jonsi rodd o gacen sbynj.
I Gerallt Pennant rhown bry genwa'r a dôs go-lew o Alwad Gynnar.
Ond Ffarmwr Ffowc gaiff wobrau fyrdd am anfarwoli welis gwyrdd.
Glyn Wise gaiff fasged lawn o wyau i roddi cnawd ar ffram go denau,
A deg gwers nofio efo cathod i'r hen Dai Jôs am wir deilyngdod!
Am stilio taer caiff Gwilym Owen lwy bren go gref i brocio'i raglen,
A'r Owen arall - Gari winc, gaiff wig go hir a hwnnw'n binc.
I Dewi Pws ac Arfon Haines rhown beint o dârc i fagu brains,
A photel fawr gan Morus Ifas i iro cluniau Iolo Willias.
I Lovegreen rhown ddwy bel ping pong am bod o'n bownd o'i chwarae'n rong!
A megaffôn i John ac Alun yn lle bod pawb yn cysgu'n sydyn.
Bydd gwobrau cysur i'r trueiniaid a fethodd blesio chwaeth y beirniaid
Tocyn disgownt ar ddydd Sadwrn i ddod i ffeinal fawr y Talwrn.
I Gerallt daw y wobr orau - os gyr o'r Manion yn eu blaenau.
Phyllis Evans
9 pwynt
Cân: Y Noson Wobrwyo
Neithiwr bu noson wobrwyo
Y Pentref; bu'r c'warfod yn faith
Y rhai sy'n cau gweithio'n cael X-re
I ganfod oedd ynddyn nhw waith.
Ein person, sy'n fardd a chynghorydd,
Yn actiwr a chanwr y gloch,
A gafodd y wobr ddau docyn
I'r Brifwyl yn Llanbedrgoch.
Bu'r postfeistr yma ers talwm
A rhaid oedd cydnabod ei gamp,
Fe gafodd ddwy feiro ac amlen
Yn cynnwys dau lyfr Green Shield Stamp.
Roedd dynes 'keep fit' i gael anrheg
A hithau yn denau a llwyd;
Rhag ofn iddi hi ennill pwysau
Derbyniodd lun mawr o bryd bwyd.
Nid oedd mab y Cwin yn bresennol
(yr hynaf, sy'n crwydro y ddôl)
Fe gafodd o wobr p'run bynnag:
Sef coeden sy'n ateb yn ôl.
Geraint Jones
8 ½ pwynt
Limrig: 'I ble'r awn ar wyliau eleni?'
Mi dreuliais i oriau'n pendroni
I ble'r awn ar wyliau eleni,
I chwilio am gyngor
Es i Thompson ym Mangor,
A'i ateb, 'You'll get nowhere, Welshie!'
Cynan Jones
9 pwynt
Limrig: 'I ble'r awn ar wyliau eleni?'
"O, Tone!" (Mae'r musus yn poeni)
"Does neb yn yr Eidal 'sio'n gweld ni,
Mae'r Browns draw yn Tecsas
A'r peth yn embaras:
I 'Blair' awn ar wyliau eleni?"
John Wyn Jones
8 ½ pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Aeth Seth i'r Garth i saethu
Methodd ei nod, diwrnod du
Ateb llinell ar y pryd:
Aeth Seth i'r Garth i saethu
Yn y Plas, mae gwely plu
1 pwynt
Englyn Cywaith: 'Olion Bysedd'
Dan ofidiau anfadwaith, - yn nwndwr
Mudandod ei hartaith,
Erys tyst tu hwnt i iaith
I alw'r llofrudd eilwaith
Nia Watcyn Powell
9 pwynt
Englyn Cywaith: Olion Bysedd
Ymosodiad llym sydyn - iddo ef
Boddhad, ond i'r plentyn
Aeth yn aberth i'w pherthyn'
Olion gwarth ar liain gwyn.
Geraint Jones
9 pwynt
Telyneg: 'Yr Ateb'
Pan fo'r gwir anghyfleus yn bygwth
y gwareiddiad newydd,
a rhesymeg oer yn llenwi pocedi'r
siwtiau duon;
a phan fo goleuni gwirionedd
yn mynnu 'sgubo lloriau'r
cestyll concrid
trwy'r craciau yn y drysau caedig
yna
unig ateb y cryfion
yw ymateb
yn galed
rhag i drugaredd
ddinoethi eu grym.
Ymateb nes bod pob gelyn
yn gelain
yn y tywod,
a chyrff bychain
y difrod cyfochrog
yn diferu o'r rwbel,
Ymateb nes bod y diffeithwch
wedi tawelu pob llef,
Ymateb nes bod pob llygad
wedi ei dynnu
ac yna
fe etifeddir y ddaear
gan ddeillion.
Cynan Jones
10 pwynt
Telyneg: Yr Ateb
(Tai Fforddadwy)
Pan fydd y drws yn cau ar bnawn o hir
Groesawu'r fro i'w cartref yn y llan,
Clodfori ei sylfeini, canmol tir
A diolch am y blodau: yn y man,
 modrwy'r haul ar bared, ceir fan hyn
Ddefodau llenwi silffoedd, hongian llun:
Bydd hen briodas rhwng y waliau gwyn,
Rhwng bachgen, merch a'u haelwyd gyntaf un.
"Fydd pethau'n iawn o hyn ymlaen", medd o
"Yn bydd? Mae gen i d?, mae gen i waith.
Ddoi dithau 'nabod pawb mewn dim o dro
Cawn fagu teulu bach Cymraeg ei hiaith;
Cyn hir bydd lluniau'r wyrion ar y seld!"
Petalau yw ei geiriau: "Gawn ni weld."
Sian Owen
10 pwynt
Englyn ar y pryd: Cyfarchiad penblwydd
'Rwyf yn dod yn ddefodol - i gynnau
Dy gannwyll flynyddol,
Yn un oed a ddaw yn ôl
Heddiw ac yn dragwyddol.
Nia Watcyn Powell
9 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 81
Englyn ar y pryd: Cyfarchion pen-blwydd
Penblwydd peiriant Twll yn y wal yn ddeugain oed:
Rhost ddeugain haf dihafal - a gaen
Di-giwiau i'm cynnal,
O gwna i'th wyrthia' o'r wal
Lifo eto'n ddiatal.
Sian Owen
9 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 80
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys math o fwyd
Cyrri sy'n ddrwg i Carys,
I Pam, mwy ffrwydrol yw pys.
Dau wystrus mewn gwlad estron
medd Dai oedd y bai'n y bon.
Gwell pryd na dim byd i'r bol
Yw wystrys digolestrol.
Ceiniog rois am gacen gri,
Gwariais sawl punt ar gyrri.
Pennill ymson wrth weld 'Made in Wales neu 'England'
Made in England- mewn gem beldroed
Mae yno'n bytheirio'n wladgarol
croes San Sior ar ei grys o Taiwan
daeth mewn car hefo baner o'r ffenast
a'r ddau wedi'u gwneud yn Siapan.
Rhywsut y mae'n dal i gredu
fod ei Brydain yn fawr ac yn gret-
"made in England " yw'r tatoo ar ei dalcen
a'i holl osgo'n dweud "tria hi met".
Rhyfeddaf at wacter ei resymeg drud
a'i awydd i boeri at bawb sy'n y byd.
Mae llawer o bobl yn credu
Fel finnau fod gweld 'Made in Wales'
Yn rhagori ar weld 'Made in England',
Mewn difri', For England, see Wales.
Wrth syllu ar stripar ar ganol y sgrîn
'Rwy'n gweled tat? 'Made in Wales ar ei thin,
Ac wrth ddal i graffu, mi welaf yn glir
Dat?'r ochr arall sy'n dweud, 'Dal dy dir'
Mi welaf fi'r stripar yn dawnsio
Yn rhywiol ar ganol y sgrîn,
A gwelaf fod ganddi hi glamp o dat?
Yn dweud 'Made in Wales ar ei thin,
Mae'n sleifio drwy'r llenni o'r golwg
I gelu ei noethni cyn hir,
A deimlodd hi tybed fod tad neu fod mam
Yn sibrwd, 'Fy merch, dal dy dir'?
Limrig: 'I ble'r awn ar wyliau eleni?'
I ble'r awn ar wyliau eleni
Heb angen awyren an fferi
Cawn wyliau mil gwell
Heb gerdded ymhell
Yng Nghastell Dol'ddelan, a pharti.
'Roedd Twm yn ei wely yn cysgu
Pan ddeffrodd ei wraig o wrth weiddi
Yn nghlustiau ei g?r,
'Hei, Twm, dwi'm yn siwr
I ble'r awn ar wyliau eleni.
Ar wyliau y llunedd cael wisgi
A wnaethom yn nrhef Tipperary,
A Guinness a vodka
Cyn cael ein hel adra,
I ble'r awn ar wyliau eleni?
'I ble'r awn ar wyliau eleni?'
Gofynnodd 'rhen Ieuan i Rhodri,
'Digon pell o'r cynulliad'
Yw'r unig atebiad
Y meiddiai'r darllediad gyhoeddi.
Englyn Cywaith: 'Olion Bysedd'
Difywyd aelwyd dawelach - ei llofft
yn llawn ond taclusach
a phob tegan yn lanach
heb chwilfrydedd bysedd bach.
Telyneg: 'Yr Ateb'
Ers talwm
pan oedd heuliau crwn
yn fotymau melyn -
pelydrau clir yn g'leuo'r holi
a'r chwilio am orwelion pell.
Dirgelion lond y crud
- y daith yn ras hyd lwybrau glas
a chlydwch rhwng y cloddiau.
Roedd antur mewn parablu
a phob rhyfeddu'n wyn
- neu'n ddu.
Ond heno
a'r haul yn ffrwydro'n wenfflam
cyn llithro'n slei rhwng llethrau'r cwm
- mae'r gorwel yn nesau.
Atgof y cwestiynnu'n llosgi'r gwyll
a'r chwilio'n dal i gnoi.
Mae niwl o hyd rhwng gau a gwir
a'r llwybr dros y bryn
yn gul a llwyd.
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys math o fwyd:
Neis yw uwd, ffa Heinz sydd well
Na'r gamon, rwy'n argymell
Pennill ymson wrth weld 'Made in Wales neu England':
Made in England
Mae yn barchus iawn bob amser
Y Blaenor gorau'n y Set Fawr
Ac mae'i wraig o'n dawel weithgar
Gydag cholofn yn 'Y Wawr'!
Mae'n ddyn soled yn ei ardal,
Yn 'rysgol, steddfod, cyngor plwy,
Mae'n cyfrannu'n ddiymhongar
Allai neb byth wneuthur mwy.
Mae'n cefnogi'r Urdd bob amser
Mae'n yr Orsedd ers tro byd,
Ac mae'r triban gwyrdd hen ffasiwn
Ar ei gar, yn falch o hyd.
Ond a fynta'n dweud mai'i arwr
Ydi'r T'wysog, mab y Cwin,
Mae hi'n amlwg iawn fod ganddo
'Made in England' ar ei din.
Englyn ar yr odl 'ant':O weld afal o'r tyfiant - o'i naturRoedd Newton yn bendantMai rhyddhau ei bwysau bantO'i garchar oedd disgyrchiant.(Cwyn y siopau bach)Mae'n brysur yn llwgu'r Llan - tynnu'n gwaed,Hwn yw gwaith ei pheiriant,A chawn, i ddiwallu ei chwant,Ein lladd ar allor llwyddiant
Limrig: 'I ble'r awn ar wyliau eleni?'
Sgwrs rhwng staff Thomas Cook;
"I ble'r awn ar wyliau eleni?"
"Wel, where are you eyeing then Elsie?"
"Lle mae'r Aztecs yn byw?"
"She's quite fancies Periw"
"Who's next in the ciw? O sori Cymry....."
Gofynnodd y teulu i Rhodri:
'I ble'r awn ar wyliau eleni?'
Mae Enfys 'n y cae
A Saga'n y Bae
Lle pell heb 'run ffrae: : 'Beth am Enlli?'
Englyn Cywaith: Olion Bysedd
Llwyddodd nain a nain honno - i osod
Ôl eu bysedd arno,
Ond i fyd heb weld ei fodio
Mae'r Llyfr Mawr â'i glawr ar glo.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

