Y Sgwod vs Crannog

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd or-gyn derfynol o'r Talwrn.

Y Sgwod

Y Sgwod

Crannog

Crannog

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'pen'

O'i chychwyn, dim ond unwaith
y doi di i ben y daith.

Geraint Roberts
8 ½ pwynt

CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'PEN'

Ni ddaw byth un dydd i ben
Yn ddibwys heb ryw ddiben.

Hywel Rees
8 ½

Pennill mawl/dychan - 'Ceffylau blaen'

Pan oeddwn i tua 7 mlwydd oed, roedd fy nhad yn torri'r llafur â beinder a thri cheffyl. Roedd un o'r ceffylau'n llusgo'i draed, a fy ngwaith i oedd ei farchogaeth a rhoi gwialen ar ei ben ôl yn awr ac yn y man i'w gadw'n gyfochrog â'r ddau geffyl arall.

Gan fod un cel yn ddiog, fe'm rhoddwyd ar ei gefn,
gwialen fedw fechan, a `nhad yn dweud y drefn;
ond er mai'r poni druan yw'r un o dan y straen,
ei wendid sy'n amlygu holl nerth y ceffyl blaen.

Roy Davies
8 ½ pwynt

PENNILL DYCHAN: CEFFYLAU BLAEN

Mae'r ceffyl blaen yn ôl y drefn
A'i dîn yn nhrwyn yr un tu cefn.

Dai Jones
9 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) Diolch

Ymweld â Maes Gwenllian ger Cydweli ar Fehefin 12, dydd y Dywysoges Gwenllian

Heddiw yn nhwf y cloddiau
ei hanes hi sy'n nesau
a'i hau yn drais ar dir âr
y cae h?n na'r cof cynnar.

Mae trueni'n y gwiail
a gwaed oer ar blyg y dail;
daw d?r y nant trwy dir neb
i weundir y creulondeb.

Er i ddolur flaguro
yn frwydrau ar frigau'r fro,
eto'n un wlad down ati
hyd lôn werdd ein cenedl ni.

Geraint Roberts
10 pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) : DIOLCH

Tlawd wyf pan welwyf olud
A holl bomp rhai gwell eu byd.
Anniddig eiddigeddus,
'Rwy'n wyneb neb, y mân us.

Ond cyfoethog, euog wyf
O anniddig pan fyddwyf
Mewn oed â hen gyfoed gynt
Y bu dwrn y byd arnynt.

Eneidiau tynged ydym
Yn ôl trefn y lotri ?m.
Lle myn y disgyn y dis,
Diolch nad ni sy'n dewis

Dic Jones
10 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell)- 'Dweud celwydd'

Un noson yn Ionawr fe bechais yn ddirfawr,
ac enfawr fu `mhryder trwy gydol y nos;
mewn talwrn yn Ffarmers yn hollol ddifaners
fe ddwedais rai fibbers o flaen beirdd Ffair Rhos.

Y gân oedd 'Y Diwedd' a dwedais anwiredd
gerbron gwreng a bonedd - a'r Meuryn ei hun,
a mawr yw fy ngofid ers hynny oblegid
penwendid yw anwir ynganir gan ddyn.

Rhoi stop ar gystadlu a ddwedais bryd hynny,
ac wrth Radio Cymru fe ddwedais "so long",
ac am draethu celwy' rwyf wir yn difaru,
rwy'n dweud "I am sorry" - yr oeddwn i'n rong.

Yn awr ymddiheuraf, ac felly pwysleisiaf,
a hyn ar bob sillaf, cyhoeddaf i'r plwy' -
mae arnaf gywilydd, rwy'n addo o'r newydd,
ni ddwedaf run celwydd mewn talwrn byth mwy.

Rwy'n siwr bo' chi'n cofio, pob un sy' 'ma heno,
ces ddeg marc am lunio celwydde mor glir:
Ie, deg am gelwydde, rwy'n siwr nawr caf finne
lawn cymaint o farcie am ddwedyd y gwir.

Roy Davies
9 pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): DWEUD CELWYDD

Mi af â chi i wlad y llaeth a'r mêl
Lle nad oes Sais i'w glywed a'r Frenhines yw Dafydd ?l,
'Dyw plant yn ei harddegau byth yn 'bored'
Ac yn falch o dafod y ddraig,
Y gwragedd yn shapus, a phob un yn hapus
Gyda'i thîn draddodiadol Gymraeg,
Prins Charles yn arwain y Blaid,- a'i fam
Yn Llywydd o Ferched y Wawr,
A Johnny Wilkinson ein harwr sy'n ben
Ar ein tîm cenedlaethol ni nawr.
Lembit Opec yn troi'n fynach
Ac yn byw mewn ogof ger Sgiwen
A fi, Dewi Pws, yn Feuryn
Yn cywiro gwaith Gerallt Lloyd Owen.
George Bush, p?r dab, fel pwdl
Yn dilyn troed Rhodri Morgan,
Dafydd Iwan yn priodi â Thatcher
A Jonsi a'r criw ar yr organ.
Wel dyna Gymru ddifyr 'se hon,
Un o wledydd rhyfeddaf y byd,
Ond yn ffodus jest rwdlan yr oeddwn,
Diolch byth roedd e'n gelwydd i gyd.

Dewi Pws
8 ½

Englyn cywaith - 'Gwybodaeth'

Gerry a Kate McCann, rhieni'r ferch deirblwydd, Madeleine, a gafodd ei chipio tra ar wyliau yn yr Algarve

Un weddi hir yw'r dyddiau hyn, - galwad
i galon dieithryn
i'w chadw'n fyw; y rhywun
a'i deil hi, eu Madeleine.

Karen Owen
9 pwynt

ENGLYN CYWAITH: GWYBODAETH

Mae Gwybod am wybod mwy, - mwya 'a ?yr
Mae ei awch yn ddeufwy
Am ddod i'w bendrawdod drwy
Ei wneud i ni'n ddirnadwy.

Dic Jones
9 ½ pwynt

Limrig yn ymwneud â ffasiwn:

Os cadwith y wraig 'cw ddilledyn
mewn wardrob yn saff am sawl blwyddyn,
daw eto i'w fri
gan arbed i mi
rhyw dri chant o bunnoedd am bilyn.

Harri Williams
8 pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â FFASIWN

'Rym ni'n gwpal 'hen ffash' o Drefil,
Mae 'na rai yn dweud bo ni'n gul,
Ond mae'n bywyd ni'n llawn,
Ni'n cael 'sex' bob prynhawn,
A dwywaith 'rôl capel dydd Sul.

Owen James
8 pwynt

Ateb Llinell ar y pryd:

Marw fydd raid i'r Meuryn
On yn awr, mae'n mynd yn h?n.
1 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Marw fydd raid i'r Meuryn
Nes ymlaen pan a'n h?n

Pennill ymson mewn carnifal

Fe ddaw 'na amser yn yr haf
am ddillad bydd rhaid chwilio,
y rhai a daflwyd amser 'nôl
na fydd eu heisiau eto.
Am un prynhawn, caf fod yn ben
a neb yn fy adnabod,
a fory cofiaf fel y bûm
yn frenin am un diwrnod.

Harri Williams
8 ½ pwynt

PENNILL YMSON : MEWN CARNIFAL

( Ieuan Wyn Jones yn Mardi Gra Y Bae)

Mi wisgais lan fel Joseff
Yn lliwiau'r Siaced Fraith
Heb enwi annibynniaeth
Na sôn am dynged iaith,
A byddwn wedi ennill
Y wobor erbyn hyn
Oni bai i rywun gredu
Mai fi oedd Ieuan Wyn.

Idris Reynolds
9 pwynt

Telyneg - 'Geiriau'

Mi glywais Gymro ifanc ar ei daith
ac yn ei sgrepan, cariai hwn hen iaith,
ond er mor hynod oedd yr wyddor, wir,
ni allai'r Cymro, really, ei dweud yn glir;
roedd naws whatever i'w frawddegau mâl
a marw ym mhob sill o'i yngan sâl.

Pan ddoi cyd-deithiwr ato i ddweud y drefn
am gadw'n gaeth y trysor ar ei gefn,
o'r holl ganrifoedd geiriau ar ei go',
ni allai faglu dweud dim mwy na so.

Karen Owen
10 pwynt

TELYNEG: GEIRIAU

( Mae trigolion mud a byddar carthffosydd Nicaragua wedi datblygu eu 'hiaith' eu hunain)

Yn seler y budreddi
Yn s?n mudandod maith
Ni ofyn gwên ramadeg
Na deigryn eirfa chwaith.
Mae cyrff yn llafar dan y stryd
A chri distawrwydd yn y crud.

Ac yn eu tlodi moethus
Mae uchel dyrau grym
Yn gwrando ar dawelwch
Huodledd yn dweud dim,
Achos pan gollo geiriau'u nerth
Fe gyll y galon hithau'i gwerth.

Dic Jones
10 pwynt

Englyn ar y pryd: Prydeinwyr Dramor

Trwy ffenest gul y fila - mi wêl rhain
Ôl rhwyg yn Espania
Na throi'r haul uwch traetha'r ha'
'r tonnau'n 'Rule Britannia'.

Dafydd Williams
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 81 ½

Englyn ar y pryd: Prydeinwyr Dramor

Y rhawg, er hanner trigo - o ddewis
Mewn gwlad ddieithr iddo
Fe fyn yr alltud gludo
R?l Britannia gydag o.

Hywel Rees
9 ½ pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 82

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'pen'

Mae ynom ben y mynydd -
o'i ddringo, ond syrthio sydd.

Rhyw gynnen o ben draw'r byd
yw'r bai am rwystrau bywyd.

Nid oes oered â seren
wedi i'w byd ddod i ben.

Rhifo a rhoi mewn 'sgrifen
alli di byth wallt dy ben.

Pwy nad yw, tua pen y daith,
wedi nabod anobaith?

Pob estrys sydd â'i guddfan
â'i ben lawr a'i ben-ôl lan.

Awr o haf a'm traed yn rhydd
yw mwyniant pen y mynydd.

Pennill mawl/dychan - 'Ceffylau blaen'

Pe byddai pawb fe llawer un
yn wastad yn y cefn,
ni fyddai dim yn cael ei wneud,
dim rheol na dim trefn;
mae'n rhaid i rai fod yn y bôn,
ond dyn y blaen wyf fi,
dim ond fy haeddiant felly yw
cael gwisgo'r OBE.

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) Diolch

Diolch i Anti Martha am gael fferet yn anrheg

Am fferet i ffereta
diolch wnes i ddynes dda;
fferet fyrbwyll, orffwyll oedd
i wningod yn llengoedd.

Ni fu un erioed mor fyw,
Tudor* o feret ydyw,
un ddiwyd tan y ddaear,
a'i gôl hi yw'r jygiwlar.

Irate yw fferet mewn ffau
(a'r rhyw deg, ar adegau)
eto, wir, am fferet wiw
winciaf a rhoddaf thanciw.

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) Diolch

Diolch am 'lais' John Morris-Jones

Ar ôl cael benthyg gan yr Athro Gwyn Thomas gaset o awdur 'Cerdd Dafod' yn llafarganu cywydd, er mwyn ei chwarae i aelodau dosbarth cynghanedd Bethel

Un nos Fercher arferol
i ni nawr sy'n ddi-droi'n ôl,
am i un llais mwyn ein llên
roi tro am barti'r awen
ym Methel; am i ieithwedd
ei Gymraeg mor hir ei hedd
ddeffro, ar gaset, eto
y gân h?n na'i ganu o.

Un noson, ein barddoniaeth
ynddi'i hun yn ddrama ddaeth;
tra'n hiaith hardd a bardd yn bod,
ei ddweud ef fydd cerdd dafod.

Englyn cywaith - 'Gwybodaeth'

Darllen...
troi tudalennau...
rhifyddeg...
rhyfeddu...
cwestiynau...
gwers arall...
deall rhwng dau...
desg lydan...
disgwyliadau.

Englyn cywaith - 'Gwybodaeth'

Mae perchnogion peiriant chwilio Google ar y We yn honni bod defnyddwyr yn rhyddhau llawer o wybodaeth amdanyn nhw'u hunain wrth ei ddefnyddio. Cafwyd un dyn yn euog o lofruddio ei wraig ar ôl gadael gwybodaeth ar Google

Daw'r gwirionedd yn rhyfeddol - yn rhydd
ar y We'n barhaol,
ond ein hiaith sy'n mynd yn ôl
yn gadwyn ffaith ddigidol.

Limrig yn ymwneud â ffasiwn:

Fel llanw y môr mae sgert Mari
i lawr at ei ffer, neu yn codi
i lefel ei bogel
ac os cwyd 'na awel
datgelir yr hyn sydd o dani.

Mae'n rhaid i mi ganmol y Musus -
er mai fi sydd yn dweud, mae hi'n siapus,
ond ar rodfa'r gath
maen nhw i gyd yr un fath
ac yn gulach na lastig fy mresus.

Am nicyrs a bra gan Armani
y gobeithai y wraig 'cw, sef Siani;
'rôl gweled eu pris
fe wna ei strip tease
gan dynnu hen grys oddi amdani.

Pennill ymson mewn carnifal

Mae'r gwirion a'r call ar bob ochor,
y doniol a'r doeth fesul un,
yn gwneud i mi feddwl yn sobor
fod Jekyll a Hyde ym mhob dyn.

Dim taflu dwr, dim hufen iâ,
dim miwsig, dim gwisg ffansi,
dim hwyl a sbri yng nghanol ha' -
Cynulliad ar gefn lori.

Brenhines sydd yn eistedd
lle bu y sachaid glo,
bu ffraeo dros y dewis
(fe ddigwydd hyn bob tro);
Sno Wheit sydd gyda'i gosgordd
a Mici'n derbyn clôd,
a phawb yn brysio adre
a'r dilyw wedi dod.

Telyneg - 'Geiriau'

Ni welwn batrwm amlwg
na threfn i'r wyddor chwaith,
ond, rywsut, â blaen bysedd,
fe wnes gynhyrchu iaith.

Mi fûm yn teipio'n ddyfal
a chamsillafu'n flin,
ond, gyda'r gofal mwyaf,
fe'u cedwais ar y sgrin.

Trwy ddifaterwch, gallwn
eu clirio oll o'r llun,
ond gallwn hefyd adfer
y mawr a'r bach, bob un.

Mae'r geiriau a fu'n siarad
mor fyw rhy hwyr -
ni allaf wasgu botwm
rhag ofn eu colli'n llwyr.

Telyneg - 'Geiriau'

A nawr, wedi chwilio'n hir,
dod o hyd
ddoe i'r ddau
yno yn naear Pennant;
y 'sgrifen ar lechen las
yn nodi eu dyddiadau
yn fyr, gair o gyfeiriad
a gweddi, heb argyhoeddiad,
am i'w hun fod yn felys mwy.

Un saith wyth saith
yw'r geiriau ar y garreg -
dwy ganrif wedi llifo
fel Dwyfor i'r môr, a mynd
y ddau i dawelwch llwch y llan
heb ran yn y llyfrau hanes.

Ac eto, tuag ataf
tros gyfrif y canrifoedd,
i'm clyw daw idiomau clir
hen acenion Eifionydd
a geiriau tlws eu gwerin;
a gwn i mi gael
o win ddoe gan y ddau
yr un gwin o'r hen ffraethineb
yn firi yn iaith fy wyrion.

Cynigion ychwanegol:

CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'PEN'

Heb Aeaf i'w ffurfafen
Y daw ein byd ni i ben.

Daw o hyd bob gweithiwr da
Â'i rym at y pen tryma'.

PENNILL DYCHAN: CEFFYLAU BLAEN

Troi a throi mae rhain mewn cylch
A phawb wrth gwt yn canlyn;
Ond petai'r cylch ei hun yn troi
Wynebai pawb i'w herbyn.

Ar hytir galed
Ac yn sioe y dre'
Mae'r hen geffylau
Yn gwybod eu lle,
Ac fel mewn talwrn
Byddai'n weithred ffôl
I roi ni'n y blaen
A'r Meuryn tu ôl.

ENGLYN CYWAITH: GWYBODAETH

A hithau'n dymor nythu, - fry gwibiai'r
Gobaith sy'n gwarantu
Arwain y ddwy adain ddu
Ar draws byd i'r drws beudy.

( am arfau honedig Irac)

Ffeithiau moel, hawdd eu coelio - a sbiniwyd
Yn esboniad cryno ;
Wedi'i gael, nid â o go'
'Wirionedd' yr awr honno.

LIMRIG YN YMWNEUD Â FFASIWN

Mae'n ffasiwn 'da Siors dros y ffin
I glochdar yn uchel a blin,
A dyna 'chi'r trwbwl
Mae e'n gw'bod y cwbwl
Ond gan amla' yn siaard trwy'i dîn.

Ffasiwn fenyw o bentre Resolfen
O'dd ca'l 'facelift' bob mis yn ddiangen,
A nawr bod hi'n hen
Uwch ei thrwyn mae dwy ên
Ac ma' cro'n ei thîn ar ei thalcen.

Rhyw wisgwr trwsiadus oedd Ianto,
Dwy hosan wahanol yn matsho,
Un faneg fach bert,
A throwser dan sgert
A hat am bob pen a oedd gando

'Rwyf yn byw yn awr gyda'm mhartner
A honno sy'n fenyw a hanner,
Ac felly rwy'n gwneud
Beth bynnag mae'n ddweud
Gan mai hi sydd yn gwisgo y trowser..

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.