Bro Ddyfi vs Aberhafren

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd or-gyn derfynol o'r Talwrn.

Bro Ddyfi

Bro Ddyfi

Aberhafren

Aberhafren

Cwpled caeth ar yr odl 'ans'

Wyf hoff fardd- y mae fy ffans
Yn nesu at fod yn niwsans!

Gwilym Fychan
8 ½ pwynt

Cwpled Caeth: ar yr odl ANS

(Ymson yr arddegau)

Dwi'n cwffio, dwi'n cicio cans,
dw i'n ysu i fod yn niwsans.

Mari George
8 pwynt

Pennill Mawl/Dychan 'Beirdd'

Rwy'n argyhoeddedig bellach
Fy mod i nawr yn fardd,
Fe gwrddais ag Anne Widdecombe
A'i gweld yn ddynes hardd!

Gwilym Fychan
8 ½ pwynt

Pennill Mawl/Dychan: Beirdd

Ceidwaid ein cof, gwarchodwyr ein gwlad,
Yr eofn â geiriau yn rhuthro i'r gad,
Gywyddwyr llawn angerdd, creawdwyr yr hud,
Uchelwyr y werin, Pencerddi trwy'r byd,
Darostwng a wnaf i'ch gwychder a'ch dawn
Ond pryd ar y ddaear gewch chi jobyn go iawn?

Owain Rhys
9 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) 'Unigrwydd'

Eleni yn niwl Ionawr,
â'r lluwch yn gorchuddio'r llawr,
nid oedd gwair, nid oedd gorwel
yno, er sbïo ers sbel,
y gaenen a'r nen yn un,
yn darfod, ond heb derfyn;
dim llef, dim bref, dim crawc brân
yno, dim ond fi'n hunan;
awel dawel, ond nid oedd
yn ystwrio'r corstiroedd,
o'm cwmpas - dim ond crasod,
heb ôl fod dynion yn bod.

Tegwyn Jones
9 ½ pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Unigrwydd

UNIGRWYDD
(un yn dioddef o HIV)

Mi wyddai'n llais y meddyg
am y loes a oedd ymhlyg
yn y rhwyg o eglurhad,
yn nhwrw'r ymddiheuriad.

Ond ddywedodd o wedyn
'run dim wrth ei ffrindiau'i hun,
a rhywfodd, ni welodd neb
y briw na braw ar wyneb,
na deall tan y diwedd -
a chriw bach ar ochor bedd.

Rhys Iorwerth
10 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell) 'Steddfod y Capel'

Roedd Steddfod yn Bethania, ff?l Ebrill dwy fil a saith,
Bydd digwyddiadau'r noson yn fy nghof am amser maith,
Y Gweinidog oedd yn arwain a hynny'n ymarhous
Pe bai'n arwen Steddfod Wyddgrug byddem yno am ein hoes.

Codwr canu Capel Soar oedd y beirniaid ar y gân,
Rwy'n si?r na chaiff gynnig eto ac ni chad rioed o'r bla'n,
Y Ciwrat feirniadai'r adrodd a'r llenyddiaeth yn ei dro,
Fe symudodd o o Worcester rhyw ddeufis n'ôl i'r fro.

Cafwyd dwsin Iesu Tirion a phymtheg Dau Gi Bach
A'r mamau wedi'r meimio i gyd mewn diawch o strach,
Daeth y piano o d? blaenor Dydd Iau ar lori lo,
Ni fu erioed r'un tiwniwr yn agos ato fo.

Lisa fach T? Capel, yr eneth wylltaf un
Yn llywydd - Ynad Heddwch - gwraig ffarm ym mro Pen Ll?n
Yn sôn am ddigwyddiadau ei bywyd ifanc hi,
Y Band of Hope, yr Aelwyd a'r Ysgol a dyna ni.

Ni soniodd am y noson yn 'Nineteen Ffifty Three,
A'r hwyl yn sgubor T? Isa a gafodd hi a fi;
Es adref yn ben isel o'r Steddfod, ar fy ngair,
Am nad oedd Lisa'n cofio ein noson mewn t? gwair.

Hedd Bleddyn
9 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Steddfod y Capel

Mi glywais sawl hanesyn gan Mam-gu
Am hwyl Eisteddfod Bethel 'slawer dydd,
Y Seddau Teulu'n llawn, a'r dyrfa lu
Yn fwrlwm o ddiwylliant mewn t? ffydd.
Am noson faith, Blaenoriaid y Sedd Fawr
Oedd cystadleuwyr o bob lliw a llun,
Eu canu a'u llefaru, awr am awr
Yn wledd o frethyn cartref i bob un.
Ond edrych wnaf ar Fethel heddiw'n syn
Gan ysu profi hud yr hen fwynhau,
A gwn nad yw'r adeilad erbyn hyn
Ond muriau llwyd yn cynnal drysau cau.
A'r gystadleuaeth olaf yno'n wir
Fydd bwrlwm yr arwerthiant, cyn bo hir...

Aron Pritchard
9 ½ pwynt

Englyn Cywaith ''Dyn'

Troi ei Eden yn Gehena - a fyn
Â'i fynych ryfela,
Herio Duw a gwadu'r da
Yw tueddiad plant Adda.

Dafydd Wyn Jones
9 pwynt

Englyn Cywaith: Dyn

Yn y diwedd, pan ddaw'r düwch, yn nwfn
bod hen ?r, a welwch,
drwy galon y dirgelwch,
enaid llanc neu ddim ond llwch?

Owain Rhys
9 ½ pwynt

Limrig yn ymwneud â ffrae

"Clyw, Gerallt, dywedais o'r blaen
Fod marcio'n y Talwrn ma'n straen,
Mae'r rhain yn cael naw
Am rybish a baw -
Mi dy sortia i di allan, myn dian i!

Hedd Bleddyn
9 pwynt

Limrig yn ymwneud â ffrae:

Un noson, bu dadlau'n y gwely
rhwng William T? Capel a Jini,
wedi oriau o ffraeo,
meddai Wil, wedi myllio,
'O'r argol, ti'n waeth na fy ngwraig i!'

Llion Pryderi Roberts
9 pwynt

Llinell i gynnwys enw unrhyw iaith:

Mae'r gymraeg yma ar waith
½ pwynt

Llinell yn cynnwys unrhyw iaith:

An englyn can be wenglish

½ pwynt

Pennill Ymson wrth barashiwtio'

Mae'r llinyn wedi gwasgu
Ar le nas gallaf ddweud,
Ai gwell yw tragwyddoldeb
Na byw byth mwy heb wneud?

Hedd Bleddyn
9 pwynt

Pennill Ymson wrth Barashiwtio

Gwleidydd wyf, yn un di-sedd,
Am hynny, nid wyf lawen,
Felly dringais uwch y wlad
I hofran mewn awyren.
Ac o'r diwedd, bu fy mhlaid
Yn gymorth im i neidio;
Mewn etholaeth saff islaw
Cyn hir y bydda i'n glanio.

Aron Pritchard
8 ½ pwynt

Telyneg 'Braw'

Byseddais y dalennaubrau,
ac yno eto
ymhlith wynebau cyfarwydd
yr hen deulu,
roedd yr un nad adwaenwn.
Pwy oedd hi, tybed?
Yr un â chynhesrwydd
ei gwên wedi'i ddal
a'i rewi
rhwng cloriau'r albwm
am byth....

Edrychai i fyw
fy llygaid, - ei phryd a'i gwedd
yn mynnu
ei bod yn un ohonom -
yn erfyn arnaf
ei hadnabod....

Ni allwn lai na theimlo
gonestrwydd
y neges yn ei llygaid,
ac mai yno
y byddwn innau
rhyw ddydd,
yn ddim
ond
llun
llonydd....

Ann Fychan
9 pwynt

Telyneg: Braw

Yn y dre
â diwrnod arall dan draed.
Di-ddim yw'r siopau
a'u synau.
Y bysys a'r ceir
sy'n rhuthro
at y penwythnos.

Undonog yw brys ein hesgidiau
ar balmentydd
du a gwyn
yn mynd, mynd,
yn cicio bywyd o'r ffordd
a gollwng
briwsion ein pwysigrwydd
i'r colomennod
eu pigo.

Yna, daw hers
a stopio
ac yn ei gol mae marwolaeth
yn sgleinio

Oedaf
a llyncu'r lliw.

Er y bysys a'u brys
a'r ceir yn brwsio heibio
yn wallgo...
yma nawr
nid oes ond yr hers a fi
'di oedi'n ffôl
ac yn ei ffenest
rwy'n gweld
fy wyneb fy hun
yn syllu nôl.

Â'r hers yn ei flaen
a'm gadael yn sâl
a'm calon yn curo'n galed
yn gwylio hediad
colomen
ac yn ymbil
ar i'm diwrnod
beidio gorffen.

Mari George
9 ½ pwynt

Englyn ar y pryd: Enwogion

Un waith pregethwyr gwâdd Bethel - oeddynt
Yn nydd mynd ar Gapel,
Yn awr rhywfodd criw rhyfel
?nt i gyd, nen byd y bêl.
9 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 81

Englyn ar y pryd: Enwogion - Sêr Gwib

Llosgi'n llachar fel arian - am ennyd
A mynnu eu llwyfan
I'n dallu, cyn mynd allan
Ym marmor tawdd fflamau'r tân.

Rhys Iorwerth
9 ½ pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 83

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth ar yr odl 'ans'

Un sws o'i chael gan Siwsan
Sy' yn well na dwsin Nans.

Pennill Mawl/Dychan 'Beirdd'

Wrth gynllunio cywyddau cain
Lle caiff y rhain eu cysur?
Ai'r dent gwrw yn ein G?yl
Neu hwyl yr Odliadur?

Pennill Ymson wrth barashiwtio'

Mas o'r awyren, wel dyna 'ni thril,
Ond nawr rhaid myned yn drylwyr drwy'r dril,
Chwe mil, pum mil, pedair mil, tsiec,
Tynnu'r gorden, dim parashiwt - o hec!
Mae parashiwt arall gen i fel resyrf,
Rhof blwc i hwnnw, rhaid cadw fy nyrf,
Tair mil, dwy fil, un mil, tsiec,
Dal ddim parashiwt, - o fflipin hec!
Pum cant, pedwar cant, tri chant, nawr dwi'n y baw-
Dau gant, cant, A...a...a...a...aw!

Cynigion ychwanegol:

Cwpled Caeth: ar yr odl ANS

Dawn siarad yw insiwrans
gwryw sy'n byw heb ei ban's.

O ddwyn afal heb falans,
Ymbil wyf am ambiwlans!

Dawn siarad yw insiwrans
Beirdd y Fro, yr 'also-rans'.

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Unigrwydd

Cododd, a rhedodd yn rhwydd
O furiau'i byd cyfarwydd,
Mae'n ffrae, ac mae'n ffoi ar ras
Yn ddienaid am ddinas.

Ond yma, nid oes dime
Yn ei lloft, ac nid yw'r lle
A ddygodd ei harddegau
Yn ddim ond strydoedd o wae.
Yn hagrwch ei hunigrwydd
Oer yw hi, ni chysga'n rhwydd
A'i hedifar yn aros
Hyd eithafion neon nos.

Englyn Cywaith: Dyn

Weithiau, daw'r byd i'w wthio - ar ei din,
ond codi'n ddi-hidio
ar ei draed mewn byr o dro
yw ei natur lawn eto.

Er mawredd ei rinweddau, - er ei ddysg,
er ei ddawn a'i gampau,
a Duw'n was o dan ei iau:
ei dynged ydyw angau.

Limrig yn ymwneud â ffrae:

Doedd Ieuan a Mike ddim yn ffrindia'
Yn cicio a brathu'n lle chwara'
Trodd y ddau yn reit las
Ac aeth pethau yn gas
Nes i Rhodri a'i bêl fynd am adra'.

"Pam briodes i ti dwi'm yn gwbod.
Heb ddime na dant - ti fel wermod."
"Dwyt tithe fawr gwell
Ti'n drewi o bell"
On' dyw cariad yn ddiawl o ryfeddod!

Doedd jobyn gwraig Wil ddim yn plesio
Er bo'r fodrwy yn dal i ddisgleirio.
Doedd heb sylweddoli
Bod galw'm ei chrefft hi
I roi syrfis i glociau y fro!

Telyneg: Braw

Pan setla'r nos dywyllaf
Yn garthen dros ei grud,
Mae siffrwd ei anadlu
Bob tro yn suo 'myd.

Breuddwydio wnaf mewn heddwch
Am ryfeddodau'r wawr
I rhythm ogoneddus
Cerddorfa ddistaw, fawr.

Ond weithiau, â grym hunllef,
A minnau'n clywed dim,
Dychmygaf wewyr colli
Pob peth sydd werthfawr im.

A dyna pryd rwy'n effro
I s?n holl boenau'r byd,
Yn erfyn diniweidrwydd
Y baban yn ei grud.

Telyneg: Braw

Yng ngwefr y sgriniau mawrion
Daw hunllef wneud i'n byd,
Pob gewyn tan ei gynnwrf
A phawb yn ll'gadau i gyd.

Ond o flaen y sgriniau bychain
Sy'n dangos byd o wae,
Ni wnawn ond syllu'n farwaidd,
Â'n llygaid ni ynghau.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.