Dinbych vs Penrhosgarnedd
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y drydedd rownd o gyfres y Talwrn.
Dinbych

Penrhosgarnedd

Cwpled Caeth yn cynnwys yr enw Ogwen
Mwy enwog yw John Ogwen
Er ei oed na Peter Hên
John Glyn Jones
9 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys yr enw Ogwen:
Mae Ogwen ar ei hennill
a hyd ei thaith ond saith sill.
John Ogwen
8 pwynt
Pennill Ymson mewn addoldy
Dwi yma'n clywed geiria',
ond ddim yn gwrando, 'chwaith;
dwi'n canu'r hen emyna',
fel 'gwnes i, lawer gwaith;
dwi 'mond yn hel meddylia'
wrth blygu pen cyhyd;
dwi'n cynnig fy ngheinioga';
dwi'n iawn; i'r diawl â'r byd.
Eifion Lloyd Jones
9 pwynt
Pennill ymson mewn addoldy:
"Un fendith dyro im...."
Oh...organyddes handi!
Yn pwmio'r pedals a'i choesa cry,
A gwneud pob sant yn randi.
Di ddim yn canlyn - am wn i..
"Ac nid o hirbell mwyach....."
Oh...gallwn ganu i'w sol-ffa
Hen nodiant godidocach.
Llwyth o gusanau ara deg
"A gwledd dy addewidion.."
Wrth sibrwd cariad yn ei chlust
Ac agor iddi nghalon.
Rhamantus fyddwn bob un nos,
Fi'n Ddafydd a hi'n Ddyddgu
Oh...organyddes, hyfryd, dlws
"Fy nigon fydd dy garu..."
Ahhhhhh-men!
John Ogwen
9 pwynt
Cywydd: Cysur
Yn ddiwyd yn ei byd bach
ei hun, a dim amgenach
i'w wneud yn sôn teledu
na chreu tôr a chwarae t?,
siarad lol efo'r ddoli,
yna'n swil hanwesu hi.
Wedi hwyl a chyffro'r dydd
mae hi'n flin ac aflonydd
eisiau anwes tra'n swnian;
ail-wynt, cyn ail-flino'n lân.
Sipian hen wlanen denau
wna i ddrws cwsg o'r diwedd gau.
John Glyn Jones
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cysur
(er cof am Gwyn Erfyl)
Ni wn i mwy lle mae o,
ond gwn, un adeg, yno,
fod 'na un wrtho'i hunan,
un go wir yn llunio'i gân,
rhyw fardd rhy dyner ei fyd,
un ifanc ei gof hefyd,
ar y ffin â'r gorffennol
a'i holl fordeithiau o'i ôl:
eto, ac un llymeityn
yn y gwyll yn waddod gwyn,
mae un nos o'i gwmni o
yn wynias ynof heno.
Iwan Llwyd
9 pwynt
Cân(heb fod dros 20 llinell) Gwahoddiad
'Rwyf yn Henadur ar y Cyngor Sir;
Yn weithgar ar gynghorau mawr a mân;
A phob mis Awst mewn gwenwisg nefol, hir,
Caf gwmni hufen gorau Gwlad y Gân.
A daw rhyw "dyner lais" i'm cymell 'nawr,
Mae'n "galw arnaf fi" i wella'm byd
A bod yn gennad triw dros Brydain Fawr.
Duw gadwo'r grasol deyrn a'i theulu'i gyd !
Bendithion dirifedi ddaeth i mi
Wrth gael cymysgu'n glos â'r uchel dras;
A gwn fod f'enw i lawr i gwrdd â hi,
Ac ysgwyd llaw ar un o lawntiau'r plas.
Ond daeth oddi wrth y Brenin Mawr ei Hun
Y di-anrhydedd alwad olaf un.
Elwyn Wilson Jones
9 pwynt
** Cenir "Mi glywaf dyner lais" ar y dôn 'GWAHODDIAD"
Cân(heb fod yn fwy na 20 llinell): Y Gwahoddiad
Mae syniad ar led fod pob Cymro yn meddu ar lais fel Carwso,
Wel, eithriad i hynny oedd Iolo a ganai fel hen frân yn crawcio;
Ni chafodd un cyfle i leisio mewn côr nac i ganu 'run solo,
Yn wir yr oedd hyn yn ei flino ac yntau mor hoff o berfformio.
Ond yna daeth cyfle i'w ran o, oherwydd fel llywydd clwb bowlio
Bu raid i'r hen gono drafaelio i Lundain - cynhadledd oedd yno.
A dyna'i chi sioc gafodd Iolo o ddeall 'rôl cyrraedd fan honno
Mai efo oedd yr unig un Cymro ynghanol y Saeson digroeso.
Roedd dau gant o ddynion yn gryno yn eistedd o gylch y bwrdd cinio,
Bu gwledda ac wedi'r areithio a chyfle i bob un ymlacio
Gwahoddwyd pwy bynnag oedd yno i ganu neu adrodd neu action,
Ond ofer fu ceisio perswadio y Saeson i gynnig perfformio
Nes trodd yr arweinydd at Iolo, "You're Welsh why don't you give a solo?"
Ar hyn dyma'r dynion yn clapio a gweiddi am solo gan Iolo,
Wel wir roedd 'rhen Iolo 'di blesio a cherddodd yn syth ar y piano,
Ac yno y bu ef yn morio caneuon prudd glwyfus y Cymro,
Deallodd 'run enaid ei iaith o, byddarodd pob un oedd yn gwrando,
Gorffennodd ar wich o gresiendo gan syrffedu pawb oedd yn gwylio,
Ond gwelodd un dyn bach yn crio, aeth ato yn syth, "Rych chi'n Gymro?"
"No, no" meddai'r dyn "I'm no Welshman, I'm crying 'cos I'm a musician!"
Morien Phillips
8 ½ pwynt
Englyn Cywaith:Pysgotwr
Anelais am lafn o olau - a dal
y dydd yn ei liwiau,
ond gwelais yn ei gleisiau
ei nos wrth i'r lein dynhau.
Berwyn Roberts
9 pwynt
Englyn Cywaith: Pysgotwr
Aros, ar lein yn cosi. Am heno
Amynedd amdani!
Mae yna wefr rhyngom ni,
Ti ?yr - mae'r lein 'di torri
Iwan Llwyd
8 ½ pwynt
Limrig yn ymwneud â thyfu
"Bill Baldy" oedd foel, heb 'r un blewyn,
Felly rhwbiodd "Grow More" ar ei goryn;
Sbrowtiodd tyfiant mor dda
Nes i'r driniaeth droi'n bla !
"Bill Gorila" fu'i enw byth wedyn.
Elwyn Wilson Jones
8 ½ pwynt
Limrig yn ymwneud â thyfu
I ddangos fy serch tyfais rosyn
A'i roddi i'm cariad 'mhen tipyn,
Ca'dd ei phigo drwy'i phais
A daeth dicter i'w llais
A welais i mo'ni byth wedyn.
Lynn Davies
9 pwynt
Llinell yn cynnwys yr enw Bethesda
Beth yw ystyr Bethesda?
½ pwynt
Llinell yn cynnwys enw Bethesda:
Aeth y wast i Fethesda
½ pwynt
Pennill Mawl / Dychan:Asbo
Mae un gwrth-gymdeithasol yn ein mysg
sy'n sathru ar ein rhyddid ni bob dydd
i fynd fel cath i gythraul yn ein brys
gan ffonio hefyd, os oes llaw yn rhydd;
ac mae'r prif gop am gyfreithloni rhoi
cyffuria' i'r rhai sydd wedi'u dal yn gaeth
yn lle eu cosbi, neu'n well fyth eu cloi
rhag tarfu arnom ni; ond llawer gwaeth...
mae rwan wedi datgan mai'r Gymraeg
a ddylai gael blaenoriaeth yn ein gwlad,
fod Bwrdd yr Iaith mor wan, ac mai'n y Bae
gwleidyddion gwellt sy'n sgorio pwyntiau rhad...
Mae'r Sais yn haeddu Asbo, a chael 'ban',
am godi c'wilydd arnom, Gymry gwan.
Eifion Lloyd Jones
9 ½ pwynt
Pennill Mawl/Dychan: Asbo
Ar Ebrill yr Ail mi ges ASBO
Fel eraill o'r un brid a mi,
Allan Smociwr Budr Ofnadwy
Ni chei gymdeithasu â ni!
Dan fargod, mewn porticos rhynllyd,
Rwyf bellach fel adyn ar ffo,
Tra bo'r ASBOS sy'n boen i gymdeithas
Yn cadw eu reiat dan do.
John Ogwen
9
Telyneg:Cyffro
(Gwyn Erfyl)
Rhwng gwawr Aberdeunant
a gwyll Gerddi Menai,
gwnaeth Gymru'n fwy...
O'r Llan a anfarwolodd
"rhwng Birmingham a'r Bermo",
aeth â gair ei dad
a chân ei fam
i ysgwyd
sawl byd.
O gaer Y Dydd
i garidyms Soweto,
agor llygad y meddwl;
o bulpud y Traws
i balas y Fatican,
agor clust y galon.
Camu'n ysgafndroed,
ond sefyll yn gadarn;
canu'n floesg-dyner,
ond pregethu'n ysgytwol;
credu'n ofalus,
ond caru'n angerddol.
A bellach,
fel y proffwydodd,
"dim ond y llwch sydd yma";
tra pery'r llais
i gyffroi
llygad a chlust
i ddeall a charu
mwy.
Eifion Lloyd Jones
10 pwynt
Telyneg: Cyffro
Cerdd am W.R. Davies, un wylwyr selog Clwb Pêl-droed Bangor, a ddaeth i fyw yng nghyfnod olaf ei fywyd yn fflatiau'r Gorlan uwchlaw'r cae ar Stryd Fawr Bangor.
Fe'i gwelid, i'w le'n y gorlan,
drwy wynt Sadyrnau'n dod,
ei galon fu'n carlamu
dros borfa Farrar Road,
fe deimlai naid y floedd o'i ôl
a'r gyddfau'n gafael yn y gôl.
Cafodd ei Gorlan arall
a ffenestr lawn ei phaen
lle gwelai'r gêm o'i glydwch
yn blaenach nag o'r blaen;
ond rhwystr nes na'r gwydrau bras
a gadwai 'r berw i gyd tu fas.
John Gwilym Jones
10 pwynt
Englyn ar y pryd: Perthnasau
Nhw yw'r di-enw, pob un - ohonynt
Ac onid y dychryn
Yw gall to 'fory ofyn
Pwy wyf fi yn llwydni'r llun.
Berwyn Roberts
9 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 83
Englyn ar y pryd: Perthnasau
'Rôl araith y cyfreithiwr - i ni oll
Yn haid yn y parlwr.
I lawr aeth pob galarwr
I'r strach sy'n dewach na d?r.
8 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 80
Cynigion ychwanegol
Cwpled Caeth yn cynnwys yr enw Ogwen
To yn herio oedd stori
Gwneud ein Dyffryn Ogwen ni.
Caradog, brenin Ogwen
Yn llanc ysgwydodd ein llên
Bro odidog yw Ogwen
Lle oedd pencampwyr ein llên
Mae y sôn ei fod o'n hen
Yn annheg ar John Ogwen
Egwyl yn Nyffryn Ogwen
A fynnaf pan fyddaf hen
Ogwen sydd yn ei enaid
Daw o had ei dad a'i daid.
Y byd enwog John Ogwen
I mi y fo yw'r Amen
Pennill Ymson mewn addoldy
Mae hi'n denau yma heno
Neb ond fi a'r Parch 'di mentro
Ond bydd priodas Sadwrn nesa'
Ac ni fydd lle i bobol ista.
Englyn Cywaith:Pysgotwr
Â'r lli'n denu, bwria bluen - dy her
i'r dwfn ac yn heulwen
yr Wyl fe ddaw plwc rhyw hen
wewyr ym mhwll yr awen.
Alaw yw chwip gwialen - gwe y lein
sy'n glynnu'n yr heulwen,
yna anelu pluen
yn 'strywgar tua'r ddart wen.
Limrig yn ymwneud â thyfu
Roedd y 'sgwennu'n fân ar y labeli
Ac mae'r gorau'n gwneud smonach yn tydi.
Fe gawsom ni wylnos
Pan fu farw'r tomatos
Ond gallwch gerdded dan y chwyn wchi.
Cynigion ychwanegol:
Englyn Cywaith: PysgotwrTynni dy brae o'r tonnau ar y bach drwy boen ei arteithiau i wingo ar lan angau a'r fferen front drwy'i ffroen frau.Dewin lein y chwip heini, a'i bleth o blu'n ysgafn gosi; â'i hudlath tynn o'r ffrydli arian braith llaith y lli.
Limrig yn ymwneud â thyfuMae tyfu'n ddigwyddiad rhyfeddol,Ei wanwyn a'i haf mor ddiddorol,Profiadau'n llawn cyffroO chwerthin a chrioOnd mae'r gwywo yn deimlad difrifol!
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

