Howgets vs Bro Alaw
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y drydedd rownd o gyfres y Talwrn.
Howgets

Bro Alaw

Cwpled caeth yn enwi pentref yng Ngwynedd
Distaw yw Capel Celyn -
I Sais nid oes llais mewn llyn.
Meirion Jones
9 Pwynt
Cwpleth Caeth yn enwi pentref yng Ngwynedd
O drai'r môr, caed gweundir maeth
Hyd odre Penrhyndeudraeth.
Arwyn Roberts
8 Pwynt
Pennill Ymson: Prawf gyrru
Rwy'n chwysu fel hen garbyretor
A'm calon sy'n mynd fel y 'D',
Gwn mai hwn yw fy mhrawf gyrru cyntaf
Ond diawl! yr arholwr wyf fi.
Meirion Jones
8 Pwynt
PENNILL YMSON MEWN PRAWF GYRRU
Mae'r dwsin o wyau sydd ar ffenest gefn
Yn deud mod i'n yrrwr gofalus
Ac os bydd canlyniad y prawf 'ma yn iawn
Mi wnânt omlet i'r Arholwr a'i fusus,
Ond os ca'i fy methu, caiff gwstard yn syth,
O'i goryn i odra ei drowsus.
John Wyn Jones
8 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Peiriant
Wil Sam
Bardd doniol y ddwy olwyn,
Wil Sam, ddihafal ei swyn
Cymêr a hanner, a'i hwyl
Yn wên sy'n grychau annwyl
Hyd wyneb lôn Eifionydd,
Yn reiat rhwng giât a gw?dd.
Yn ei garej-trin-geiriau
Bu'n asio, mowldio'i ddramâu,
Peirianwaith ei afiaith o
A'n hudodd - Hwnna ydi-o!
Un â sbarc, yn mynd ffwl-sbîd,
Yn ieuanc, ddigyfnewid.
Annes Glynn
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Peiriant
Pan welaf yr haf a'r hin
Ar waith ym mlodau'r eithin,
A phan ddaw'r hen hofrennydd
Ras daer drwy wres y dydd
Yn llawn chwant, yn beiriant byw,
I nôl ei gwaddol heddiw
O weithdai rhad y neithdar
Hyd rosydd a gweunydd gwar;
Taniaf fy mheiriant innau
Ar y ddol, heb weld rhyddhau
'Run ton o nwyon i'r nen
I wenwyno'r wenynen.
(Honnir fod llygru'r amgylchedd yn bygwth y gwenyn ac o'r 12 rhywogaeth a arferai fod yn y gwledydd hyn, dim ond 9 sydd wedi goroesi bellach)
Richard Parry Jones
8 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Cynddaredd Ffordd
Wrth deithio un bore am Fangor, prin ffilltir 'r ôl gadael y t?,
Arafais wrth gyrraedd y gylchfan, roedd c'nebrwn a cheir yn un llu
Yn llusgo o'i chwmpas fel malwod, mi gyfrais, wir yr, gant a deg,
A minnau'n un byr fy amynedd, ebychais - a daeth ambell reg.
Ond yna mi welais fy nghyfle, roedd bwlch wedi agor, un bach,
A lawr aeth fy nhroed ar y sbardun; a dyna oedd cychwyn y strach.
Y car oedd o 'mlaen i wnaeth stopio, 'doedd gen i ddim gobaith yn tôl,
Ei frêc-leits rwy'n si?r yn ddiffygiol, es yn syth ar fy mhen i'w ben ôl.
Yn lle pwyllo dro, yna aros, a syrthio yn llwyr ar fy mai,
Mi ffrwydrais gan yrru fel Jehiw a fflio lawr lôn Llandygai.
Mi weiddais fel ci â chynddaredd, a'r spido yn dweud 'eighty five'
Pan welais wrth giât yr Amlosgfa, siâp hunllef y fan '(A)rrive Alive'.
A phan ddaeth y llythyr rhyw fore fe'i lluchiais ar f'union i'r tân,
Oherwydd cam gwag Cyngor Gwynedd, fy nhrwydded sy'n dal yn un glân,
Rwy'n diolch i Viv 'Hogia'r Wyddfa' a chymorth rhyw dwrnai go braff,
Ac wrth i chi fynd o 'ma heno, dymunaf i chi 'Siwrne Saff'.
Rhys Llwyd
9 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Cynddaredd Ffordd
Yn sydyn clywais regi - rwy'n dal i fod mewn sioc:
Y fan yn lôn, y fi'n y cae ac wrthi'n cyfri'r stoc:
Ni welais i 'rioed ddyn mor fawr
Yn neidio i fyny ac i lawr.
Gafaelodd yn yr erial a'i thynnu'n syth o'r gwraidd
Cicio'r drws a malu'r drych - 'roedd o yn ypset braidd -
Am fod patrymau tonnau'r môr
I'w cael ar hyd ei 'four by four'.
Roeth iaith ac ansoddeiriau ei wraig a'i mam, a'r plant
Y c?n a'r poli parot, yn trethu 'mynadd sant:
A phawb yn 'ngalw'n 'Blydi Ffwl'
Gwaith anodd iawn oedd cadw'n c?l.
Fe es i o'na a'i adael - roedd hynny yn gwneud sens -
Rown i ar y lôn galed, y fo oedd ar y ffens.
A'i mobeil ffôn yng nghanol drain
Ni allai alw 'nine, nine, nine'
Dychwelais ymhen dwyawr i'w dynnu'n ôl i'r lan
Mae darn tu ôl ei gerbyd o gen i yng nghefn y fan..
Help mawr i gadw'r croen yn iach
Yw peidio gwylltio, i ddyn bach.
Geraint Jones
9 ½ pwynt
Englyn Cywaith: Athrylith
Gweld ôl duwdod mewn blodyn - haul lliwgar
ym myw llygad plentyn,
a'i frodio'n un wefr wedyn
yn gain ar ddalennau gwyn.
Elinor Gwynn
8 ½ pwynt
Englyn Cywaith: Athrylith
Nid gwybodaeth helaethach a'i anian
Yw unig gyfrinach
Un a fedd am eiliad fach
Allu i weld yn bellach
Geraint Jones
9 pwynt
Limrig: 'Un noson wrth ymyl Bethesda'
Un noson wrth ymyl Bethesda
Roedd Gerallt yn trio pysgota
A hyn oedd yn od
Be ddaliodd ond cod
'Di dengid o siop chips drws nesa'.
Rhys Llwyd
8 ½ pwynt
Limrig: "Un noson wrth ymyl Bethesda"
Un noson wrth ymyl Bethesda
A finna'n fy nhrôns a fy fest a
Dim byd ond fy ngwên
"Ti'n ffansio fi, Jên?
"Wel diawl" medda'in glên, "Mi dwi jest â"
Sian Owen
9 pwynt
Llinell yn cynnwys enw unrhyw archfarchnad:
Anystwyth yw troli Asda
Llinell yn cynnwys enw unrhyw archfarchnad
Wedi cau ma blydi Kwiks
1 pwynt
Pennill Mawl/Dychan: Y Tîm arall
Lle bu Branwen yn wylo
Wele feirdd i lonni'r fro,
Yn dalp o farddoniaeth bur -
Arwyn a'i griw o glerwyr.
Awduron llinellau cain,
Pwythwyr cwpledi cywrain,
Hiwmor iach y dweud bachog,
Tincial iaith fel clychau'r gog...
Argian! Dwi'n dechrau nogio!
Am gildwrn, wnaiff hyn y tro?
Annes Glynn
8 ½ pwynt
Pennill Mawl/Dychan: Y Tim arall
Mae'r geiriau Howgets a Bethesda'n
Gyfystyr drwy'r gogledd a'r de,
Pam, felly, mai'r rhain o'r tu allan
Yw llais diwylliannol y lle?
Mae talent Howgets yn anhygoel,
Nhw ydyw'r 'topside' a'r crim:
Mae Ieuan a Gwynfor ab Ifor
Ym methu cael lle ar y tîm....
Daw llwyddiant gornestau y Talwrn
Yn hollol naturiol i chi:
Ar ddiwedd y noson, cawn weled
A ydych chi cystal â ni.
Geraint Jones
9 pwynt
Telyneg: Prinder
Darfur*
Pell, pell yw'r pryderon hyn
o gaeau cywain Mehefin,
yn felfaréd dan haul braf,
yn llawnder o gynhaeaf.
Ond draw, draw, clywch sibrwd gwae
ar awel sy'n rhwydo'r ofnau
a'u taflu'n wreichion dros grindir cynnen -
yn gynnud sych o lid a chenfigen.
Rhwng llethrau cras a gwerddon ir
bregus yw hedd
yn hinsawdd ein gormodedd.
A gwyddwn, gwyddwn pan ddaw y dydd
y gwelwn gawodydd bwledi,
mai cnwd afradlon ein dyddiau ni
y mae Darfur yn ei fedi.
* Mae'n debyg mai rhyfel Darfur (rhwng llwythi Arabaidd ac Affricanaidd) fydd yr un cyntaf a achosir gan newid hinsawdd - sydd wedi arwain at brinder tir amaethyddol ar y bryniau.
Elinor Gwynn
9 ½ pwynt
Telyneg: Prinder
Wyt ti'n cofio'r adegau ir,
Pan oedd y dyddiau'n un cowdel
O wres a chawodydd
A'r haul yn dy hwyliau?
Llond gardd o gynllunio
A dau'n addo dyfrio;
Y glaswellt rhwng ein bodiau
A'n bysedd yn cusanu'r pridd.
Ôl ein gwaith yng ngwlith y bore
A glaw tyfiant yn treiglo,
Yn diferu hyd y muriau,
Yn murmur yfory.
Hindda wedyn ac eistedd nôl
A pheidio â thendio'r tir;
Haf hir o hepian
Rhwng blagur a blodau bodloni,
Heb gwestiynnu gorwel di-gwmwl
Na thaflu dagrau at grino'r dail,
Heb weld addewid yn anweddu.
Wyt ti hyd yn oed yn cofio'r adegau ir?
Pryd agorodd ein geiriau graciau
Yn y ddaear grin
A rhoi'r machlud yn dy lygaid?
Sian Owen
10 pwynt
Englyn ar y pryd: Stryd
(Fron Haul - rhes o dai chwarelwyr o Danygrisiau sydd bellach yn rhan o'r Amgueddfa lechi yn Llanberis)
Dan gronglwyd yr aelwydydd - yn y llwch
Holltwyd llechen newydd,
Ond s?n hen gymuned sydd
Yn llenwi'r siambrau newydd.
Llyr Gruffydd
9 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 79 ½
Englyn ar y pryd: Stryd
Er i'r heulwen ein denu - i edliw
Yn wawdlyd a checru;
O dai i dai'r cwmwl du
A'n deil yn stryd o deulu
Richard Parry Jones
9 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 81
Cynigion ychwanegol
Cwpled caeth yn enwi pentref yng Ngwynedd
Aeth afon ein hiaith hefyd
Yn oer a hesb gerllaw Rhyd.
Lôn Traws a'r haul yn trosi'r
Rhos yn aur. Ar ras o'n i.
Yn addas iawn, un Hedd sydd,
Ei enw yw Trawsfynydd.
Ei stori hi ddaeth i'n rhan
O adfyd bro Rhosgadfan.
Tywyn sy'n dal yng Ngwynedd
Ond Deio, fo sy'n ei fedd.
Lle afiach ydy Rachub,
Yn y glaw mae'n lle go wlyb.
Gwawr o liw ac awyr las
Yw'r heulwen draw yn Rhiwlas.
Pennill Ymson: Prawf gyrru
O damia! Dwi'n sownd wrth din Mansel.
Gallwn regi, ond beth fyddai'r iws,
â methiant yr ugain tro olaf
yn hunllef sy'n llwyd ac yn biws.
(yng nghwmni arholwraig)
O! beth pe bawn yn cowlio pan ddwêd y ferch 'Turn right'
A throi i'r chwith a landio yn llidiart nymbar eight.
Oherwydd rhaid cydnabod bod ynof wendid mawr -
Yr wyf yn camddehongli cynghorion lu bob awr.
A phan fydd hi yn mynnu fy mod yn codi gêr
Rhaid bod yn bur ofalus, gall pethau fynd yn flêr!
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Peiriant
Parry-Thomas a Babs
Ar draeth coffadwriaethau
Mae ddoe yn cofio am ddau,
Yr olwyn a'r athrylith
Ar ras mor gyflym â rhith.
Peiriant, a pheiriant ei ffydd,
A dyn yn hel adenydd,
Y gyrrwr am y gorau,
Awr y bri heb ofni'r brau.
Ond un glec yw ei record,
Torri cýt yn torri cord.
A'u her i ni? Ceisio'r nod,
Y diwedd nad yw'n dywod.
Y 'Singer Vogue' (peiriant gwnïo fy mam)
Ag ing rwy'n cofio'r Singer -
un hawdd, yn barod am her.
Difai wrth ddirwyn 'dafedd,
un gwiw oedd, ein ceffyl gwedd.
O bell, clywn ei gnocella
yn daer, yn chwim - y gwas da
a dof. Teiliwr atgofion
ein byw oedd hwn yn y bôn.
Yr oedd, yng nghanol yr hwyl,
Llaw un, â'i llywio annwyl.
Cân (heb fod dros 20 llinell): Cynddaredd ffordd
Ro'n i'n wyllt, yn lloerig - sôn am siwrne'; diolch fyth,
yn wir, am gwmni'r hogie'.
Stiwdents y byd 'di troi allan am wers,
Pob car dwy litr yn llusgo fel hers -
a wedyn, y diawled, yn mynd ati i spîdo
ar bob darn syth lle roedd hi'n bosib pasio!
Ceir yn fy fflachio wrth basio Bae Colwyn
a finne, ar bum deg, yn dilyn gorchymyn!
'Escorts' coch orlawn â'u hegsôsts yn rhechu,
Cyrraedd tre' Dinbych ar afon o slyri.
Roedd un â dawn i dorri rheolau - yn gyson - wrth
gyrraedd y goleuadau.
Rhois gorn, daeth allan, a sefyll yn y bwlch
rhwng bonet a b?t, a rhoi clamp o guwch.
Fe ddaeth at sil y ffenest a chodi'i ffon yn hy,
A throi ei phen yn swta ac edrych arna'i'n ddu.
Hen wreigan digon haerllug, a throdd y cyfan yn gas
Pan rwygodd fy nwy weipar a chrafu'r paent drud glas.
Ond pan fydd f'enaid yn terfysgu, a phethau'n mynd yn drech,
Dwi'n gwybod y caf i gysur wrth droi at drac un deg chwech.
A daw chwa o ganu tawel, i'm suo i o bell.
Hen gr?ners Llanbêr tangnefeddus, yn gwneud i mi deimlo'n well.Elinor Gwynn
Limrig: 'Un noson wrth ymyl Bethesda'
Un noson wrth ymyl Bethesda
Symudwyd siop Spar i Awstralia
Am fod pob potel sôs
Ar bob silff, ddydd a nos,
Yn sefyll â'i phen ucha'n isa'.
Un noson wrth ymyl Bethesda
Gwelais ddyn yn cuddio ei ffrwytha'
Yn graff, â'i benelin,
Fe gelodd ei eirin
Ac â gwên ymguddiodd fanana.
Pennill Mawl/Dychan: Y Tîm arall
Dyma gynnyrch tir Bro Alaw
O'r ardd decaf ger y llyn,
Richard, Geraint ac Arwyn,
Sian, Iwan a John Wyn,
Yn rhesaid o blanhigion
Edmygais hwy yn syn,
Un blodyn telynegol o ddel
A'r lleill yn debyg i chwyn.
Telyneg: Prinder
Mae'r llygaid rhwth yn cymell
Rhyw wyrth o fol y sgrîn,
Ei ddwylo yn ymestyn
A blaenau'i fysedd crin
Yn daer am deimlo'r briwsion mân
Yn mwytho'i groen fel cawod lân.
O flaen ei gyfrifiadur
Mae'n pwyo'r wyddor flin,
Yn blentyn oes Fyd Eang
A'i Gwe heb ffrâm na ffin;
Â'i gol yn llawn o geriach drud
Mae'n dal i grefu mwy o hyd.
Cynigion ychwanegol:
Cwpleth Caeth yn enwi pentref yng NgwyneddCawn, drwy sbectol technoleg,Syllu i'r tyˆ ym Mhrenteg.Y dewin bach gaed yn benAr reithor plwy Llnfrothen.Yn nhir heniaith NanhoronY mae her y Gymru hon.Nid oes yn AberdesachAteb hawdd heb un tyˆ bach.
PENNILL YMSON MEWN PRAWF GYRRU
Dwn i'm pam dwi'n cyboli fo'r gwaith 'ma, wir ddyn,
Mae soldiwrs yn Basra yn saffach.
Dydy'r ddynas 'ma 'im ffit i basio'r un prawf,
Mae'n berig - ond mae'i g?r hi'n beryclach.
Rwy'n ofni y dyn wrth fy ochor;
Fe'i ofnwn petasai yn sobor.
Bu'n gweiddi "Tro i'r chwith - naci aros, i'r dde,"
"Paid a phoeni" meddai wedyn, "Rydw i yn yr A.A.!"
Englyn Cywaith: Athrylith
Gweled yr anweledig a wna hwn
Yn nawn ei ddychymig,
A byw'r purdan diddan, dig
Y boen o greu'r arbennig.
Limrig: "Un noson wrth ymyl Bethesda"
Un noson wrth ymyl Bethesda
Daeth ysbryd John Iorc ar fy ngwarthaf
Fe redais fel melldan
I ganol Maes Geirchan
Wnaiff 'un bwgan fy nilyn i fan'na.
(John Iorc - yr Archesgob John Williams (Penrhyn a Chochwillan)
Un noson wrth ymyl Bethesda
Roedd gleisyn mewn fan gyda chamera:
Dim golwg o Cleif
Yn ei gar lefft-hand-dreif:
Aeth dyn 'Raif-Alaif' yn reit gwla.
Un noson wrth ymyl Bethesda,
Roedd gleisyn mewn fan tynnu llunia,
Er ymdrech y dyn
Ni lwyddodd gael un
A'r golau ar goch ers rhai oria.
Pennill Mawl/Dychan: Y Tim arall
Wrth ei weld o Glwb Criced Bethesda
'Di'r hen leuad 'na ddim ar ei ora'
Ac mae'n gas deud, Caradog
Mae criw digon codog
Yw prydyddion Howgets dyddia' yma.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

