Crannog vs Ffostrasol.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y drydedd rownd o gyfres y Talwrn.

CWPLED CAETH AR YR ODL 'AM':

Agor yn igam-ogam
A bydd pob cwys yn gwys gam.

Owen James
9 Pwynt

CWPLED CAETH AR YR ODL 'AM':

Pan fyddo'r hiraeth waetha'
Mi af â blodyn ar Mam.

Dai Rees Davies
9 Pwynt

PENNILL YMSON MEWN BATH

'Rôl tynnu nglasis wedi'r gêm
Dau ddrws 'rown yn ei weled,
Ac os dw i yn teimlo'n iawn
'Rwy'n bath 'da tîm y merched.

Dai Jones
9 Pwynt

PENNILL YMSON MEWN BATH:

Mae'r d?r yn oeri, ac mae nawr
I'w weld yn llawn bacteria,
Rhaid fydd ymdrechu i gael bath
Ynghynt y flwyddyn nesa'.

Dai Rees Davies
9 Pwynt

CYWYDD COFFA (HEB FOD DROS 12 LLINELL):

Pa ddiben canu pennill
Gorau'r iaith bob yn saith sill
I yrfa wedi darfod?
Erioed yn fyw nid yw'n dod
O geuffos y nos â neb
I wrando'i holl gywreindeb.

Pa fudd fyddai cywydd cain
O hiraeth yn fy arwain
I ofera llafariaid
A tharo odl fel wrth raid ?
Onibai y gallai'r gân
Fendio f'enaid fy hunan.

Dic Jones
10 Pwynt

CYWYDD COFFA (heb fod dros 12 llinell)

I'm hen gyfaill y Parch Gareth Maelor Jones

Mi wylais, Gareth Maelor-
Angau ddaeth drwy gyfyng ddôr.
Colli ffrind, colli "y ffraeth",
A'm lloria â'm holl hiraeth.
Ti yn artist o Gristion-
Hud a lliw'n dy fywyd llon.
I'r amddifad yn dad doeth-
Yn eu gofid yn gyfoeth.
Cylchgrawn plant oedd dy "Antur"-
Hwyl a dawn miniog fel dur.
Telyneg oedd dy bregeth
I Dduw hael mewn dydd o heth.

John Pinion Jones
10 Pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL) : FFRINDIAU DA

Roedd Dai a Meri'n ffrindie bach nêt,
Fe'n un garw a hithe'n sidêt,
Yn caru ei gilydd ac angerdd llawn
Ond a diddordebe gwahanol iawn.
I'r capel ar y Sul bob tro âi Meri,
Dydd Llun am beint yr âi Dai i'r Deri.
Dydd Mawrth i'r bingo yr âi hi,
Trannoeth odd e'n y clwb golff am sbri,
Merched y Wawr i Meri dydd Iau,
Lan i'r Clwb Criced bob Gwener a'th Dai.
Pan o'dd un tu fas o'dd y llall tu fiwn
Ond y ddau bob tro yn canu'r un tiwn.
Ond un dydd Sadwrn fe glywodd y stryd
Danchwa anferth a newidodd eu byd,
Y cwcyr gas wedi ffrwydro'n grac
A'u 'hwthu'n nhw mas drw' ffenest y bac.
Yno gorweddai y ddau wedi'r drwg
Yng nghanol y llwch a'r huddug a'r m?g,
A gwenodd Mrs. Jones drws nesa'n ddigwilydd
'Na neis gweld nhw mas am change gyda'i gilydd'.

Dewi Morris
8 ½ Pwynt

CÂN (heb fod dros 20 llinell): FFRINDIAU DA

'Roedd angen diaconiaid ers tro'n ein capel ni
Meddyliais yn y gwely, 'na job a switiai fi.
Mae gennyf lu o ffrindiau o Plwmp i Wlad yr Iâ
A gwyddwn cawn fy ethol, 'na werth yw ffrindiau da.
Bum wrthi yn canfasio trwy alw'n ambell le
Rhoi peint i fois y local a gwahodd rhai i de.
A mynd a grêps a fale i bobol oedd yn dost
Gan fydden nhw mae'n debyg yn fotio drwy y post.
Fe roes fy llun yn Golwg, y Greyhound Times a'r Tyst
Posteri ffliworesent a sticiais ar y pyst.
Fy ffrindiau fu yn canmol fy rhagoriaethau lu
Addewais ar ôl ennill cael parti'n y Llew Du.
Cyrhaeddodd Sul y Cyfrif a'r Parch a roes y sgôr
Un fôt 'da fi fy hunan a'r llall 'da gwraig 'next door'.
Rhoes fiffti pi i'r casgliad ond 'roedd yn weithred ffôl
'Rol bygwth y trysorydd fe ges fy arian nôl.
A gwerthais fy siwt pin streip i grwc ar bwys Caerdydd
A hanner ola'r gyfrol o fy nghaneuon ffydd.
Fe'm pwyswyd yn y glorian a chael fy mod yn brin
A'r ffrindiau da sydd gennyf i gyd yn gwybod hyn.

Emyr Davies
9 Pwynt

ENGLYN CYWAITH: TELEDU

Â'r dydd yn hir ar dyddyn iau - ni fu
Arnaf fawr o'i heisiau ;
Nawr â'r nos yn agosau
Y mae yno i minnau.

Dai Jones
9 Pwynt

ENGLYN CYWAITH: TELEDU

Weithiau rwy'n anesmwytho - oherwydd
Daw twrw ohono,
Ond yffarn mae'r switsh arno
Yn dda iawn i'w ddiffodd o.

James Morris James
8 Pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â PHRIODI :

Rwy'n briod â royalist keen
Ar ei chest mae tat? mawr o'r Cwin,
Ich dien ar ei bol
Ac i orffen y lol
Mae clustie Prins Charles ar ei thîn.

Dewi Morris
9 Pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â PHRIODI

Er fod tyrfa yng nghapel Blaencefen
A gwledd yn y 'Bull' yn Llangathen,
Nid yw John a Meri
Erioed wedi priodi
Waeth 'roedd y gweinidog yn dablen.

James Morris Jones
8 ½ Pwynt

Llunio llinell yn cynnwys enw unrhyw ynys:

Lle arall yw Afallon.
1 Pwynt

Llunio llinell yn cynnwys enw unrhyw ynys:

Naws y môr yn Ynys Môn

PENNILL MAWL/DYCHAN: CRICED

Yn Lords, fel yn San Steffan,
Pan dry y gêm yn gas
A'r bat ddim digon llydan
Y sbin sy'n cael nhw mas.

Idris Reynolds
9 Pwynt

PENNILL MAWL/DYCHAN: CRICED:

Maent fel haid o ddynion meddal,
Yn gwisgo sbats a sbectol sbâr,
Tra cawod law a'i gyr i gwato
Fel y cywion dan yr iâr.

James Morris James
8 ½ Pwynt

PENNILL MAWL/DYCHAN: CRICED:

Maent fel haid o ddynion meddal,
Yn gwisgo sbats a sbectol sbâr,
Tra cawod law a'i gyr i gwato
Fel y cywion dan yr iâr.

James Morris James
8 ½ Pwynt

TELYNEG: CADW

Rôl torri cydyn cyrliog
Ei hepil dengmis hi
Fe gadwodd mewn rhyw amlen
Ran fach o'r "dyddiau fu",
Ond am nad oes yfory
I'w weld tu ôl i'r clwy'
Fe geidw bron y cyfan
Tu fewn yr amlen mwy.

Emyr Davies
8 ½ Pwynt

Englyn ar y pryd: Gorchymyn

O'i ddeutu rhag gweld ymddatod - o'i rym
Erioed mae awdurdod
Yn dal nad yw trefn yn dod
O wirfodd ond o orfod.

Hywel Rees
9 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 82 ½

Englyn ar y pryd: GorchymynYn hael iawn gorchmynion lu - a roddirHeddiw i'n gor-lethu.Yn syml un gorchymyn sy'-Fe'i ceir mewn gair sef 'caru'.

John Pinion Jones
9 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 79 ½

Cynigion ychwanegol:

CWPLED CAETH AR YR ODL 'AM':

Hen gob sy'n araf ei gam,
O'i erlid, aiff ar garlam.

Daw o ugain nod Ogam
Hen ieitheg mewn carreg gam.

PENNILL YMSON MEWN BATH

Yng nghanol fy nhrafferthion
Mae nefoedd fach fan hyn.
Caf olchi fy nghydwybod
A'm corff yn 'hyfryd wyn',
Ac yma caf anghofio
Fod llefydd ar y map
Heb siop i werthu Radox
Na d?r i ddod o'r tap.

ENGLYN CYWAITH: TELEDU

Daeth fel lodjar i aros yn y t?,
Mae fel tad i'r plantos
A'm mhartner yn nyfnder nos
Am ryw hyd ger marwydos.

Y gwn yw ei ogoniant - yn rhy aml,
A chreu o ddiwylliant
Y gwter bleser i blant -
Diawlineb yw'n hadloniant.

LIMRIG YN YMWNEUD Â PHRIODI :

Ys gwn i oes rhywun yn gwybod
A oedd Adda ac Efa yn briod,
Ac os nad oedden nhw
Wedi cymryd y llw
A oedd Duw yn ei gyfrif yn bechod?

Fe briododd Wil Tomos o'r Sblott
Ei gariad, a'i henw o'dd Dot;
Dim plant am ddeg mlynedd
Ond yna o'r diwedd
Daeth dau bâr o twins ar y trot.

Roedd bachan yn byw'n Abererch
Yn ysu cael dangos ei serch,
A'r rheswm paham-
Gorfod byw gyda'r fam
Er mwyn rhannu gwely 'da'r ferch.

PENNILL MAWL/DYCHAN: CRICED

Lluniwyd pêl a bat a wiced
I greu gêm sy'n fwy na chriced.

Yn awr y mae yn amlwg
Paham mae Lloegr cynddrwg,
Fe â nhw'n gyflym i Dre-dîn
Heb un o dîm Morgannwg.

TELYNEG : CADW

Fe gedwais y gyfrinach
Tra buom ar ein taith
Ond mwy ni raid ei chadw-
Ni raid ei rhannu chwaith.

Rhyw frawd a chwaer oedrannus
Oedd rhain i'r Cyngor Sir,
Cymdogaeth o unigedd
Oedd treth eu dyddiau hir.

Ond wrth i'r drysau agor
Ar ôl i'r llenni gau
Fe ddeuai'r holl gymdogaeth
Yn gyson at y ddau.

Cynigion ychwanegol:

CWPLED CAETH AR YR ODL 'AM':

Seren byd y trên a'r tram?
Y dawnus o Landinam.

PENNILL YMSON MEWN BATH:

Dywedir am Cwîn Fictoria
Tairgwaith y flwyddwyn yr ai i'r twba,
Tase pawb yn gwneud r'un fath rwy'n si?r
Arbede hynny lot o dd?r.

'Rwy'n gorwedd yn y baddon
Yn ceisio gwneud fy mhennill ymson
Y d?r yn oer a dim ond bybls
A minnau'n methu'n lân cael odyls.

CYWYDD COFFA (heb fod dros 12 llinell)

Er cof am D.T

Buom ni fel plant amddifad
A'n tîm wedi colli'n 'tad',
O'i fynd, aeth ein seiat fach
Un dalent yn dawelach,
A'n cân yn fudan, ni fu
Anoddach cynganeddu..

Ei wên sy'n dychwel heno
I ennyn cân yn ein co',
A'i awen ddeil yn ddiwyd
I wau drwy'n geiriau i gyd
Yn un profiad canadwy,-
Ynom oll bydd DT mwy.

ENGLYN CYWAITH: TELEDU

Allor heddiw a 'fory - i gymaint
Mae'n gymar mewn gwely,
Bob awr ei s?n a bery,
'Run twt, rheolwr ein t?.

Lleidr o fewn stafell bellach - a'i dafod
Yn difa cyfeillach,
Ninnau'n ethol o sothach
Hanes byd fel plantos bach.

LIMRIG YN YMWNEUD Â PHRIODI

'Roedd lleian ac awydd priodi
 mynach o ardal Cwmtydu
Ond mae rhywun yn dweud
Na cha'n nhw ddim gneud
Sdim ots mae nhw'n byw gyda'i gily'.

'Rôl priodi aeth Idris a'i briod
I Jersey i fwrw eu swildod
'Rôl codi i ginio
Ar y bwrdd nesa' ato
'Roedd 'Oernant' na'r wythfed Rhyfeddod.(hon yn stori wir)

PENNILL MAWL/DYCHAN: CRICED:

Un yn dal y bat 'da'i ddwylo
A'r llall yn rhwbio'r bêl fel yo-yo.
Rhedeg canllath er cael hyrfa
I daflu'r bêl lle y myno.

Pileri gwynion sy'n y cae
O amgylch y wicedi,
Ond os bydd unrhyw sôn am law
Fe giliant i gysgodi,
Mor araf ynt, y mae'r holl beth
Fel gwylio paent yn sychu.

Mae chwarae gêm griced fel dos o gasgara
Mae'n gwneud i chi redeg ac os cewch eich dala
Ewch nôl i'r pafiliwn mae bywyd yn fêl
A gobeithio cyn hir byddant yn colli y bêl
Ac os ddaw i'r glaw o Ddydd Llun i Ddydd Mercher
Y gobaith y bydd yn parhau tan nos Wener.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.