Bro Ddyfi vs Tanygroes.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y drydedd rownd o gyfres y Talwrn.
Cwpled caeth yn cynnwys enw bardd
Wedi cyfrif pob prifardd
Dei Blaenplwy' sydd fwy o fardd Gwilym Fychan8 Pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys enw bardd
Wedi cyfrif pob prifardd
Dei Blaenplwy' sydd fwy o fardd Gwilym Fychan8 Pwynt
Pennill Ymson ar y lleuad
Naid enfawr i'r ddynoliaeth,
I ddyn, ond bychan gam
Oedd teithio trwy y gofod
I'r lleuad yn ddi-nam;
Ond Houston, mae 'na broblem
I'm poeni ar fy hynt,
Rwy'n mygu'n fy siwt ofod
Ar ôl im ollwng gwynt.
Elwyn Breese
8 Pwynt
Pennill Ymson ar y lleuad
Rwyf yma ers miliynau
Yn casglu'r brigau 'nghyd,
A phan gaf lond fy roced,
Af lawr i losgi'r byd.
Phillipa Gibson
8 ½ Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) 'Dirgelwch'
(o weld y gog yn prinhau'n flynyddol)
Canu wna'r gwanwyn cynnar
yn y pîn, cans mae pob pâr
ar dân, am oleuo'r dydd
a geni Mai'n y gweunydd.
 Mai'n braf mae un yn brin -
y cerddor o Gwm Cerddin;
Ble'r aeth y deunod odiaf
byr ei wynt â'i gw-cw braf?
O fryn i fryn y gân frau
a ddiflannodd o flaenau'r
brigau; deuawdau mud ?nt,
cyfoedion y cof ydynt.
Tegwyn Jones
8 ½ Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell: Dirgelwch'
Yn ddihid difrawder ddaeth
A'i dwymyn i fyd amaeth;
Mae'n gweinyddiaeth amaeth ddur
Yn estyn llaw ddidostur
I fuches, a'r hen fochyn --
Rhydd i hwn ei ffordd ei hun.
A hawdd hynt iddo heintio
Efo'r hwyr fuchesi'r fro.
Nid wyf am weld eu difa'n
Llwyr o hen gyffiniau llan.
Achwyn wnaf am na chawn ni
Yr hawliau i'w rheoli.
Emyr Jones
8 ½ Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell) 'Siopa'
Aeth Arwel yn ei Dihatsw i'r archfarchnad, ar fy llw
I siopa dros ei ewythr a chael bwyd i Cwtsi C,
Y cwrcath oedd anfarwol, etifedd yr holl stad,
Yr un wrthododd farw er ei gwrsio rownd y wlad.
Yn 'r archfarchnad roedd Fferyllfa a Viagra wrth y pwys
A chafodd Arwel syniad 'rôl ystyried hir a dwys,
"Cymysgu hwn â Kiti Kat nes bydd y ddau yn un
Ac wrth gwrcatha bydd 'rhen Gwtsh yn si?r o ladd ei hun!".
Wedi'r bwyd roedd Bwystfil y Bont yn tanio ei obeithion,
Ond lawr am Blwmp aeth Cwtsi C? a stopio'n Aberaeron,
Cadd amser prysur yn y dre tan oriau mân y bore,
A thrannoeth cafodd Arwel ffôn gan Dic sy'n byw'n yr Hendre.
Roedd Cwtsi C? 'di lladd ei hun 'da Persian wen mewn tipi
Cyn cael cyfle i wneud y job 'da cathod Aberteifi,
Aeth Arwel i tsiecio'r 'wyllys gan fod Cwtsi ar ei gefn,
A'i darllen unwaith eto, a'i darllen hi drachefn.
Roedd 'wyllys Yncl Dei yn dweud - Cwtsi C? neu ddisgynyddion!
Bu'r Dihatsw'n teithio ddydd a nos hyd hewlydd Ceredigion,
Ym mhob sir arall moch daear sydd ar y ffyrdd yn fflat -
Ond yn y sir yma rownd bob tro yn fflat mae Pwsi Cat.
Hedd Bleddyn
9 ½ Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): 'Siopa'
Ar ôl y codiad pensiwn, mor hapus nawr yr own:
Hip, Hip, hwre i'm harwr: haelionus Gordon Brown.
A lan mi es i Harrods i siopa bore Llun --
Y perchen gwelais yno, yn ffraeo efo'r Cwin.
Roedd living bra'n ei dwylaw a hwnnw nawr yn drig,
Ei encil wedi 'madael, a'n llipa ei ddau big.
O'r farn ro'dd 'rhen Al Fayed, nad oedd dim garantî --
'Rwyn siwr', medd ef, 'gall Arwel roi 'chydig help i ti.'
Cwpanau fe ymunais, â Leisa yn fy nghôl,
'Da pwt o gorden beinder oedd yn fy mhoced ôl.
Medd hi, 'Ti a wobrwyais, ers tro, â'r 'O.B.E.'
Ond Order of the Garter y rhoddaf nawr i ti.
Ma' un i gael 'rôl Mami, a wisgodd tra ro'dd byw,
Yn Buckingham ma' honno, yn segur mewn bocs sgiw.'
A bant â ni i'r Palas -- dowd iddi yn y man,
Ond rhaid oedd rowndio'i ddwywaith i ddal fy hosan lan.
'Na hidia', medde hithau, 'ma' un ar dop fy nghôs,
Damn thing, nid yw ond poendod, dim help i'r faricôs.'
Am adre es i Gymru, ces reid yn lori Mans.
A'n dwym o hyd y gardis, yn saff tu fewn fy mhans.
Pan ddaw'i blwydd hi eto, mi brynaf neilons du --br>
Hosanna, pêr Hosanna, Hosanna iddi hi.
Arwel Jones
9 Pwynt
Englyn Cywaith 'Cymydog'
(Elfed Cymerau)
Mae'n Samariad bob adeg, - yn helynt
Didoli fy ngwartheg
Boed stormydd boed dywydd teg
Daw i'r adwy ar redeg.
Dafydd Wyn Jones
9 Pwynt
Englyn Cywaith: 'Cymydog'
Cymesur wrth dosturio, - y dewraf
mewn storom, roedd yno;
heb yr aur, cydwybod bro,
a rhoi, heb ei wobrwyo
John Meirion Jones
8 ½ Pwynt
Limrig yn ymwneud â bwyta
"Dwi am Têc Awê" meddai Efa
Yn yr ardd "No Wê", meddai Adda,
"Mi est â'n Spare Rib i
Heb ofyn, a hynny
Y diwrnod gyrhaeddaist ti yma!"
Hedd Bleddyn
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud â 'Bwyta'
Canibaliaeth mae'n fyw eto'n Nghymru;
Tanygroes aeth am wledd i Fro Ddyfi.
Ar y fwydlen: Hedd Bleddyn,
Dafydd Wyn oedd rhy wddyn,
Ann Fychan: fe basiodd da'r cyri.
Arwel Jones
9 Pwynt
Llunio llinell yn cynnwys unrhyw liw:
Yn wyrddach nawr - Iwerddon.
Llunio llinell yn cynnwys unrhyw liw:
Mab i'w dad yw'r ddafad ddu.
1 Pwynt
Pennill Mawl/Dychan 'Y Gwasanaeth Iechyd
Y mae'r Gwasanaeth Iechyd
Yn edrych ddigon gwael,
'Sdim triniaeth wedi gweithio,
'Sdim gwelliant mwy i'w gael;
Ac aros mae'r llywodraeth
I'r diwedd bellach ddod,
Cyn claddu ein gobeithion -
Yn breifat, si?r o fod!
Elwyn Breese
9 Pwynt
Pennill Mawl / Dychan: 'Y Gwasanaeth Iechyd'
Ond i mi groesi'r Hafren,
Caf fwgyn wrth y bar,
Er gwybod bod fy 'sgyfaint
Yn llenwi gyda'r tar.
Ac yna rwy'n dychwelyd
'Rôl orig o fwynhad
I beswch 'nôl yng Nghymru
A chael presgriptiwn rhad.
Wynford Jones
9 Pwynt
Telyneg 'Clo'
Mae'n pendwmpian
yn yr un hen gadair,
wedi'i charcharu
bellach
yng nghrafangau'r blynyddoedd;
ni chymer fawr o sylw
o'r mynd a'r dod o'i chwmpas,
ei llygaid synllyd
yn edrych
ond heb
weld.
Ond, weithiau,
am ennyd,
rhwng cwsg ac effro,
bydd cysgod gwên
yn sleifio'n chwareus
dros ei min,
pan fo llygad y meddwl
yn canfod
delweddau ddoe,
oblegid
mae'r ferch osgeiddig
yma o hyd,
wedi'i chaethiwo oddi mewn
i gragen fregus
henaint.
Ann Fychan
9 Pwynt
Telyneg : 'Clo'
Roedd graen i'r Capel unwaith
A theulu i bob sedd,
Y drws o hyd ar agor
Yn allwedd ato Ef:
A'r ffyddlon fu o Sul i Sul
Yn uno i rodio'r llwybr cul.
Fe saif yn adfael heddiw
Heb lechen ar ei do,
A'r croeso wedi oeri
Am fod y drws ar glo:
Yn oes y fandaleiddio cas
Mae Ef tu mewn a mi'r tu fas.
Ken Griffiths
9 Pwynt
Englyn ar y pryd: Lladrad
Ei grogi am ddwyn grugiar - a gawsai
Y gwas mewn oes anwar,
Dieuog er dwyn daear
O gwm i gwm fu'r meistr gwâr.
CYFANSWM PWYNTIAU: 80 ½
Englyn ar y pryd: Lladrad
Rhieni Maddy McCann
Eu hafan aeth yn hunllefau: o gael
Gwely gwag llawn geiriau
Yn addef bod y dyddiau
O awr i awry n hwyrhau.
9 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 79 ½
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys enw bardd
Bardd Sarnau y gorau g?r
Yw ein Horas a'n harwr.
Chwi oll gwrandewch, y mae chwant
Arnaf am Emyr Oernant!
Pennill Ymson ar y lleuad
Mi deithiais i i'r lleuad
Mewn breuddwyd digon ffôl,
Daeth clips a gwneud im ddeffro
Cyn imi deithio 'nôl.
Yma ar y lleuad porffor
Gwelaf fynydd llwm,
A chlywaf afon Prysor
Yn canu yn y cwm.
Rwyf ar y lleuad porffor
Ar fin y mynydd hwn,
Mae'n anodd sefyll yma
Am fod y diawl yn grwn.
Limrig yn ymwneud â bwyta
Ar ôl bwyta'r holl dwrci a stwffin,
Tatws rhôst, a sbrowts a phlym pwdin,
Yn awr mae mhen ôl
Heb unrhyw gontrol
Yn cyfrannu at 'Global Warming'.
Pennill Mawl/Dychan 'Y Gwasanaeth Iechyd
Moli'r Gwasanaeth Iechyd
Wnaf yma yn fy ngwâl,
Mi es yn iach am M.O.T.
Ac adre'n ôl yn sâl.
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys enw bardd
Gwn, mi garwn weld Gerallt
Yn y bath yn cribo'i wallt.
Hen ddynion sy'n barddoni --
Dic Blaenporth yw'n Wordsworth ni.
Mae hiwmor Tydfor o'n tu,
Yn wenau drwy'r gwahanu.
Daw, fe ddaw, deg Dafydd Wyn
O hen wreiddiau ei briddyn.
Rhoed anobaith ac iaith in,
Yn her, trwy gân Aneirin.
Pennill Ymson ar y lleuad
Efallai bod diffygion
Yn rhywle yn fy mhen,
Ond rwy'n siwr fod yr arwyddion
Yn dwedyd "Gas Mark 10".
(Wrth edrych ar y lleuad)
O'th wylio, rhy hawdd yw dy feio
Am roi gwedd anwadal i mi,
Heb gofio 'mod innau mewn cylchdro,
Ac Un digyfnewid wyt ti.
Rwyf yma ar y lleuad,
Bron sythu ac yn oer;
Gwaeth byth, nid oes 'na doiled
Fan yma ar y lloer.
A gwaeth na dim rhaid troedio
Yn boenus efo'n ffon
Pan ddaw yr alwad natur
I'r hanner dywyll hon.
Rwy'n darllen 'Y Goleuad'
A'r 'Sun' yn 'Dyst' o'r lleuad,
 'Seren Gomer' llawn o hwyl,
Rwy'n disgwyl cael diwygiad.
Cywydd (heb fod dros 12 llinell: Dirgelwch'
Dirgelwch Serch yn Aeddfedu
Buom yn un, yn uniad,
A bu hawdd hynt i'n boddhad,
Fel lindysen yn chwennych
Dim ond ffyrdd yr un gwyrdd gwych.
O gael serch i'n glas archwaeth,
Yn gêl, yn ddirgel, fe ddaeth
Lindysen yn adenydd,
Heb awch inni geisio budd
Y gorffennol yn ôl - nid
Wedi i ni drawsnewid
O'r unlliw i holl liwiau'r
Cymhlethdod o ddod yn ddau.
Englyn Cywaith: 'Cymydog'
Yn gytûn cawn cyd-dynnu, - llawenhau'n
Llawn hwyl, ond er hynny
Ef yw'r sawl fel arfer sy'
Hwyrach yn cydalaru.
Cymydog y gwely nesaf mewn ysbyty
Caf, o rannu cyfrinach - ein dwy wâl,
Mai dolen yw'n grwgnach;
Ac nid gwell gennyf bellach
Wrando hwyl hen ffrindiau iach.
Drwy y muriau daw'r morio - o ganu
I ganol fy huno;
Am rannu'r malu mae o
Yn garedig â'i radio.
Caf dy bwys i droi'r cwysi - wyt gymaint
O gymorth mewn cyni,
Ac yr wyt pan ddelo'r gri
Yn gymydog y medi.
Limrig yn ymwneud â 'Bwyta'
I'm gên aeth ein llên gydol llynedd.
Âi'r englyn yn dynn yn y dannedd.
Ac 'Englyn ac Englyna',
Ie, heb atal y bwyta,
Nes cam-drin fy nhin â chynghanedd.
Gofynnais am saws gyda sawr
I helpu y bwyd i fynd lawr.
A hoffech HP?
'Na, Na', d'wedais i --
'Fe dalaf amdano yn awr'.
Mae 'ngheiliog i'n od ers blynydde,
Yn clochdar a dodwy mewn nythe.
'Pam na alwest ti 'nghynt ?
Cei ei fwyta am bunt.'
'Wel, wel, roedd angen y wye!'
Pennill Mawl / Dychan: 'Y Gwasanaeth Iechyd'
Rwy'n swyddog achwyniadau
Er cadw rhegi draw,
Ond gwên, heb blismon arfog
Na chyffur yn fy llaw.
Mae grwgnach a bytheino
Yn ffobia iechyd mawr,
A threisio ac ymosod
Yw'r norm mewn 'sbyty nawr.
Mae'n faes y gad nos Sadwrn
A phoen im bron yw mwy,
A'r nyrsys a'r meddygon
Yn cario craith a chlwy'.
Yn ôl yr adroddiad, a hwnnw'n un llawn,
Mae'r 'sbyty yn holliach a phopeth yn iawn.
Trwy drin y 'stadegau, daeth gwella yn gloi,
Trosglwyddwyd adnoddau, ar ras diymdroi;
Archwiliwyd cyfrifon a'u cafwyd yn iach,
'Sdim feirws compiwter (a'r nam yn un bach).
Yn ôl y ffurflenni, mae gwyrth wedi'i gwneud
(Mae rhaid bod hi'n wir, gan fod pawb yn ei dweud):
Mae gofal gwaith papur mor gyflawn a braf -
'Sdim ots bod dim amser i sieco y claf.
Telyneg : 'Clo'
Rhoed clo ar ddrws hen wreigen
Gan ryw ymyrrwr craff,
A ddwedai fod ei angen
Er mwyn cael 'teimlo'n saff '.
Pan 'nawr, wna hyder gnocio,
Ni chaiff ddod 'mewn i'r ty,
Ond pan gerdd ofon heibio,
Try i mewn yn ddigon hy.
Mae Salem fel tan warchae
A'r iorwg arno'n drwch;
Yr ysgol heb blant crynion
A'r neuadd goffa'n llwch,
A heidiau brith o gogau ha'
Yn nythu trwy'r gymdogaeth dda.
Anheddau paent a cholur
Arwerthwyr biau'r clo,
Ond heb allweddau ieithoedd
I draddodiadau'r fro.
A bachau'r iaith er menter daer
Yn rhydu'n gorn ar ddrysau'r gaer.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

