Criw'r Ship vs Tir Mawr
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y drydedd rownd o gyfres y Talwrn.
Criw'r ship

Tir Mawr

Cwpled caeth ar yr odl 'ai
Gari Wyn o 'Bangor ai'
Awdurdod y modurdai
Llion Deryshire
8 Pwynt
Cwpled caeth: ar yr odl 'ai':
Ar y trwyn pan lifai'r trai,
Y llanw o bell wenai.
Huw Erith.
9 Pwynt
Pennill Mawl/Dychan: Y Weinyddiaeth Amddiffyn
"Amddiffyn" enw da'r Llywodraeth
Yw prif ddiben y Weinyddiaeth,
A bydd X (croes) ym mlychau'r mama'
Pan ddaw cyrff eu meibion adra.
Menna Medi
8 ½ Pwynt.
Pennill mawl / dychan: Y Weinyddiaeth Amddiffyn:
Maent yn gwarchod buddiannau
Rhag bygythiad pob gelyn,
Yn ein cadw'n ddiogel,
Yn ymateb yn sydyn,
Yn barod am rhywbeth
Cyn y daw o, ond wedyn,
Mae nhw'n dweud mai ymosod
Yw'r ffordd orau i amddiffyn.
Huw Erith.
8 ½ Pwynt
Englyn yn cynnwys enw blodyn
Diwyg
Oni wna dilledyn newydd i ddyn
deimlo'n dda a dedwydd?
Onid yw llygad y dydd
Yn rhoi gwanwyn i'r gweunydd?
Gari Wyn
8 ½ Pwynt.
Englyn yn cynnwys enw blodyn:
Yn Ionawr a'i chyfrinach yn ei ffydd,
Plyg ei phen o'm grwgnach;
Ac os yw'r lili'n brinnach,
Hi ddaw i fyw 'ngweddi fach.
Gareth Williams
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell):Yr Hunllef.
Dyna lle'r o'n i, yng nghapel Engedi
 tshaen am fy mhigwrn yn barod i briodi.
Draw yn y gornel, roedd Nain ar y delyn
Yn swyno y dorf efo 'hits' John ac Alun,
A hogyn fy chwaer - oedd yn gnonyn aflonydd -
Yn bachu y grêps odd'ar het Anti Morfudd.
Reit wrth fy ochr roedd merch mewn ffrog glaerwyn
Yn pigo ei thrwyn ac yn tynnu ar getyn.
Wrth ei hymyl, y forwyn - o eang ddimensiwn -
Drychiolaeth mewn pinc tebyg iawn i bafiliwn,
Heb anghofio y gwas, oedd yn drewi o wisgi,
Pina Colada, Domestos a brandi
Yn chwysu a chrynu a sibrwd yn garbwl
"'Di ddim yn rhy hwyr i ti newid dy feddwl..."
Yn sefyll o 'mlaen i, roedd Huws y gweinidog -
Ei wyneb yn biws fatha bitrwt cynddeiriog,
Safon ei ddarllen fel plentyn tair oed
A'i at-at-at-atal yn waeth nag erioed.
Roedd o'n brofiad ofnadwy, dwi'n fodlon cyfaddef -
A taswn i'n cysgu, mi fysa hi'n hunllef.
Arwel Roberts
9 Pwynt.
Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Hunllef:
"Mae'r cor", medda' Marian, "wir angen gwneud arian" wrth ruthro i siop B&Q
R'ol hudo trigolion yr hen Sir Gaernarfon i'r ardd 'cw i gael barba - ciw
Mewn heidiau fe ddaethant, o Sarn, o Lantrisant mewn faniau a bysus Caelloi
Roedd rhai dros y cloddia' yn rhwbio eu bolia'-Dim golwg o rywbeth i'w gnoi.
Er gwaethaf y pricia', glo golosg a bricia' y tân oedd yn gwrthod a chynna'
A chan fod pawb yno 'di hen anesmwytho fe darodd y cor 'Nol i Walia'
Heb ddim ond plat papur a halen a phupur fe gawsom ni gân ar ol cân
A hyny heb altos na'r mezzo-sopranos a chwythai'n obeithiol i'r tân.
Sbar dydd Sul d'wetha oedd wedi'w ddifetha' a'n drewi o wynt paraffîn
Bodlonwyd ar reis rhwng dwy dafell torth sleis efo mennyn o'r twb marjarin.
Bu'r tân bron a methu ond wedi'r cyd-chwythu y colsus fu'n gwynnu'n y gwres
A'r bwydydd anhysbus yn gwerthu yn ddestlus a'r bwced yn drwm efo pres.
Roedd yna gig carw, cig oen a chig tarw, Dorritos a vol au vants huddug
Ac un neu ddau ffodus yn sglaffio'n drychwantus ar frechdan ciwcymbyr a morgrug.
Roedd y barbi'n un celfydd, yn edrych fel newydd, fe'i prynwyd gan rywun 'on lein',
Ond ta'waeth am hyny, mi chwythodd o'i fyny a ffoniodd rhyw ddyn neineinein.
"Tendiwch!" medd Dewi, (oedd ella 'di meddwi) "Hwn sydd ei angen - dwr glân!"
A gyda arddeliad anelodd ei fwcad ac arian y cor aeth i'r tân.
Roedd gw?r y Frigad mewn cythraul o stad pan adawson yr ardd wedi'r starchA'r dorf oedd dal yna'n cynhyrchu rhyw synna' mewn ciw yr holl ffordd i'r ty bach.
Y criw torcalonnus edrychai'n druenus a'i cegau ar agor fel Penwaig.
Roedd bob un ond Ela 'di dal Salmonela - mae'n lwcus ei bod hi'n llysieuwraig.
Fe aeth pwyllgor y cor i fyw'n Singapor yn lle aros yng Nghymru mewn dylad
Cafodd un anghyfrifol losgiadau difrifol wrth achub dwy geiniog o'r bwcad.
Rwyf i , diolch i'r wledd, o fewn tishad o'm bedd, a'r Bod Mawr yn fy nghymall i ato,
Ond os caf i fyw, rwy'n addo o Dduw, a i fyth i'r un barbaciw eto.
Gareth Jones
9 ½ Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell):Hen Wlad Fy Nhadau.
(Gêm Cymru v Lloegr - Mawrth 2007)
Codwn her ein baneri,
chwifiwn hwy a chofiwn hi
yn ingol. Seinio'r rhengoedd
fel un, rhoddant fôr o floedd.
Eu can hwy sy'n cyniwair,
Stadiwm a'i bwrlwm yn bair.
Galwant am drechu'r gelyn
A rhoi sgwd i'r crysau gwyn.
'Rôl st?r a dwndwr y dydd
A'r drin, yn eu bro drennydd
Clywir tôn dynion dinerth
Yn rhoi'u hiaith a'u tir ar werth.
Gari Wyn
9 Pwynt.
Cywydd: Hen wlad fy nhadau:
(casgliad o luniau William Selwyn)
Yn Nhrwyn Clogwyn, mae'r môr claf
yn gawod wyllt o'r gaeaf;
mae'n wan a llwfr ym Mhen-llyn,
y wawr heb gân aderyn;
mae niwlen ar y Fenai
sy'n gyrru'r rhwyfwyr o'r trai
i'r lan, a daw'r haul o hyd
i farw dros y Foryd.
Ond lle bo'i fyd lliwiau bydd
golau mwyn drwy'r glaw mynydd;
nos olau yw nos Selwyn:
mae ewyn nant yma'n wyn.
Myrddin ap Dafydd
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud â phenderfyniad
Roedd hen wraig yn byw draw'n Mynytho
Methu cofio os oedd hi 'di shafio
Pan ofynnodd i'r g?r
Dwedodd ''Diawl dwi'm yn si?r''
Ond di'r farf 'ne ddim wir yn dy siwtio!!
Llion Derbyshire
8 ½ Pwynt.
Limrig yn ymwneud â phenderfyniad:
P'nawn ddoe penderfynodd y pennaeth
Gyfrannu eich trwyn i wyddoniaeth
Pan oeddech chi Eric
O dan anasthetic
Gobeithio na wneith o wahaniaeth
Gareth Jones
9 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Mae Enid yn blismones
A'i bra sydd yn llawn o bres.
Ateb llinell ar y pryd:
Un hir, ciwt ond ar y cês
Mae Enid yn blismones
1 Pwynt
Englyn Cywaith: Cyfarchiad Priodas.
Yn ei ddydd hen hwrgi oedd o, a dawn
Mwyaf dynion ganddo.
Ond mi wn fod hwn heno
Dan y fawd a dyna fo !!
Gari Wyn
8 ½ Pwynt
Englyn cywaith: Cyfarchiad Priodas.
( Dewi o L?n, Rowena o Brisbane, 30 04 07.)
Dau i'r oed, fel had ar wynt o diroedd
A phellteroedd rhyngddynt;
Dwy wlad ond un anadl ?nt,
A nwyd un galon ydynt.
Gareth Williams
9 Pwynt
Telyneg: CARIAD:
Fe ddaw,
i dorri ar batrymau'n byw
a'n rhythmau gwneud.
Drysu'r cofnodi cyson
dyddiau,
wythnosau,
eiliadau'n tynged.
Creu ystyr dros dro
yn anrhefn bod.
Cyn llithro'n ôl.
Gorwedd
dan ynys
oer
y gynfas,
defodau noswylio
sws a nos da
cyn cefnu ar ein gilydd,
ac arfer yn ein suo'n ôl
i drwmgwsg
rhythmau'n tynged.
Nia Môn
10 Pwynt
Telyneg: Cariad
Mae pennau'n dechrau troi wrth wylio
Yr hen ddyn stalwyn ar y stryd
Yn mynd am wisgi bach cyn cysgu
A'i slipars am ei draed o hyd;
Yno wrth y bar y mae o
Yn brolio'i gaseg ar ei stôl,
Sôn am dorri'r ebol fewn fory
Nes daw Annie draw i'w nôl.
Mae'n hymian hen gân serch 'ffordd adra
A ddysgodd pan oedd hithau'n iau,
Ar ambell lein, ymuna yntau:
Braich ym mraich, cydgama'r ddau;
Ei henw hi yn llenwi'i lygaid,
Ei wên yn fyw, nid gwên y co';
Erstalwm, roedd clec dan ei esgid yntau:
Hi sy'n cofio hynny drosto fo.
Myrddin ap Dafydd
10 Pwynt
Englyn ar y pryd: Cosb
Bydd yn dyner dy gerydd, - meddylia
Am y ddalen newydd;
Weithiau y sen watha' sydd
Yn gwialen o gywilydd.
9 ½ Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 79 ½
Englyn ar y pryd: Cosb
Euogrwydd ynof yn gogrwn, - miniog
O fy mewn yw'r helgwn;
Tra bo'r co' yn hysio'r c?n
Fi fy hun yw fy Annwn.
Huw Erith
8 ½ Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 82 ½
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth ar yr odl 'ai
Wrth weld y celwydd gwyddai
Nad ei waith fu'n galw Dai.
Englyn yn cynnwys enw blodyn
Weithiau yng ngardd y bwthyn - heb ei weld
Y bydd pabi melyn
Yn codi megis cudyn.
Mai hwn caiff fod lle y mynn.
Limrig yn ymwneud â phenderfyniad
I lawr ar ei liniau aeth Wali
Gan ofyn i Martha ei briodi.
"Wel na wnaf yntôl,"
medd hithau yn ôl,
"Gai fwy o bres dôl wrth fyw tali."
Mi ddeuthum i'r casgliad ei bod hi'n hen bryd
I newid y limrig - ei fesur a'i hyd
Un fymryn bach
Yn llai o strach
Sydd heb odl fewnol fan hyn na dim byd.
'Rôl trafod enw'r babi'n o fanwl
Cytunwyd ar Gerallt 'di'r cwbwl
Ond toc medde'r gwr
'Hei Sian, wyt ti'n si?r'?
Di rhan fwyaf o'r rheini mond trwbwl !Englyn Cywaith: Cyfarchiad Priodas.
Creu her a hwyl yw carwriaeth, uno
mewn telyneg odiaeth.
Yna bydd y cywydd caeth
Ynoch yn creu barddoniaeth
Yn y bôn dio ddim yn bad - a heddiw
Ti'n gaddo 'flaen 'ffeiriad
Yn o daer ,i'th siwgwr dad
Ei garu tan ddaw'r 'sgariad.
Telyneg: CARIAD
Dy gariad oedd fy nghyffur.
Gwefusau melys yr haf
oedd bwrlwm ein gwaed -
yn rhuthro'n don o wefr dan wrthban rhamant.
Amsugnais wres dy gorff
â'i lapio'n glyd o gwmpas fy noethni.
Cannwyll dy lygaid
yn tanio'r dychymyg,
a newydd-deb y nwyd
yn chwistrelliad cyffrous
i'm henaid.
Rhy ifanc i wybod yn well.
Surodd y cusanau,
ac oerodd y cnawd
wrth i fflamau'r tân
ddiffodd yr adrenalin
yn rhewynt y gaeaf.
Dinoethwyd hunan-barch
wrth i ni lapio'n hunain
yn grynedig
mewn carpiau hen -
yr hofel yn gywilydd i gymdeithas,
â'r nodwydd yn pigo dim
ar ein cydwybod.
Dy gyffur yw fy nghariad.
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth: ar yr odl 'ai':
Gwêl deiliaid y llygaid llai
Fwy llun na fi efallai.
Yn un sgoth sgin lloeren Skai
Yn y m?n a glan Menai.
Englyn yn cynnwys enw blodyn:
Ar hanner casglu'r grawnwin - a Medi
yn madael, mae'r cwmni'n
gresynu, cyn gwasgu'r gwin:
'Lle'r aeth Ebrill a'r eithin?'
Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Hunllef:
Mi ddeffrais i yn sgrechian
Yn chwysu ac yn cicio
Breuddwydiais 'mod i'n oran
A 'mod i'n cael fy mhlicio
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Hen wlad fy nhadau:
Yn rhemp y mewnlifiad, rhwydd
Yw dagrau'n tawedogrwydd.
Ni'r rhwth, heb gilcyn ar ôl
O'i meysydd, ein grym oesol.
Yr hen wers ym Mhengwern yw,
Nadu mewn'stafell ydyw.
O'r rhith drwy'i hucheldir rhydd,
Plygeiniau y plu gweunydd,
Hyd glywed siffrwd glöyn
O'r d?r, rhwng Llwchwr a Ll?n,
Y wlad piau'n hanadl yw,
Curiadau ein c?yr ydyw.
Limrig yn ymwneud â phenderfyniad:
Mae Dafydd yn chwil wrth yr olwyn
Fe yfodd o leia' dau alwyn
Mae o'n cysgu yn sownd
Ac yn mynd rownd a rownd
Mi ddoi adra 'fo chi Tomos Alwyn
"Rhaid cael lliw!" medd Waldo
"Rwyf wedi laru gwylio
Ryw Helen Wyn
Mewn du a gwyn
Ar Hop y deri dando
Croeso 'nol atom ni Sioni
Fe fuom yn hir yn pendroni
Cyn eich gwared o'ch iau
A cholyddyn neu ddau
Wir yr, doedd dim arall amdani
Ni chafodd eiroed ddim ond cam
Ers y diwrnod y priododd hi Sam
A Sian benderfynodd
Ac yna diflannodd
'nol adre i fyw efo'i mham
Beth gwciaf i heno i Pam?
Un o brydau egsotig Seiam?
Saws mel a chig moch
ar ol cawl llysa' coch?
'ta becbins tatws paced a Spam
Englyn cywaith: Cyfarchiad Priodas.
Dwy wên ac un llawenydd, - dau wanwyn
O dan eich adenydd;
Ym mhelydrau dau, mae dydd
Golau yn nos eich gilydd.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

